Addysg
Archaeoleg Allanol
Nod ein rhaglen allanol yw mynd â gwybodaeth am archaeoleg a'r amgylchedd hanesyddol allan at bobl na fyddent fel arall yn dod i gysylltiad â nhw. Mae arddangosfeydd o waith yr Ymddiriedolaeth yn ymddangos mewn amrywiol leoliadau ac ar amrywiol achlysuron trwy gydol y flwyddyn.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio mewn nifer o bartneriaethau gyda'r nod o ddatblygu rhaglenni archaeolegol cymunedol oddi fewn de ddwyrain Cymru. Hefyd rydym yn helpu codi proffil yr amgylchedd hanesyddol trwy gynhyrchu taflenni ar agweddau megis Tirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Neilltuol ac Arbennig. Gweler ein Hadran Tirweddau Hanesyddol.
Gellir cael golwg ar ein gweithgareddau allanol dros y blynyddoedd diwethaf yn ein Hadroddiad Blynyddol neu dudalen Archif ein Cylchlythyr.