Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent

Arddangosfeydd Archeolegol

Members of the public looking at the GGAT display at the Margam Agricultural Show 2007

Os hoffech chi'n archebu arddangosfa, cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda

Addysg

Arddangosfeydd

Yma yn GGAT ein dymuniad yw gwella'r ddealltwriaeth o dreftadaeth gyfoethog de ddwyrain Cymru. Fel rhan o'n hymroddiad i addysgu'r cyhoedd rydym yn cynhyrchu deunydd arddangosfa ar gyfer llawer iawn o'r prosiectau. Ar y dudalen hon gallwch weld y paneli arddangos o rai o'n harddangosfeydd mwyaf diweddar.

Archaeologists excavating the Newport Ship

Badau a Llongau cynnar yn Ne Cymru. Ers yr 1980au mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent wedi bod yn ymwneud â'r gwaith o gloddio pum llong bren o wahanol gyfnodau. Mae'r gwaith gofalus o gloddio'r llongau wedi dangos nid yn unig sut cafodd y llongau eu gwneud ond hefyd y nwyddau yr oeddent yn eu cludo a pha mor bell yr oeddent yn gallu teithio.

Cardiff Castle Excavation

Castell Caerdydd. Gwnaed gwaith cloddio ar safle'r ganolfan ymwelwyr newydd yng Nghastell Caerdydd ar ran Cyngor Dinas Caerdydd. Nid yn unig y mae Castell Caerdydd yn gastell Normanaidd pwysig, a ddefnyddiwyd trwy gydol yr Oesoedd Canol ac yn ddiweddarach, ond roedd hefyd yn safle ar gyfer pedair caer Rufeinig yn olynol, pob un ohonynt ychydig yn wahanol o ran maint a siâp.

 A Roman Kiln from the Excavations at the Celtic Manor Golf Course

Celtic Manor. Gwaith cloddio a hynny cyn gwneud estyniad i Gwrs Golff Wentwood Hills yn y Celtic Manor gan ddarparu gwybodaeth newydd am yr anheddiad Rhufeinig yn Great Bulmore, tua 2km o'r lleng-gaer fawr yng Nghaerleon.

An Archaeologist excavating a section of the boundary ditch around the Lower Welshery. Wind Street, Swansea

Wind Street, Abertawe. Gwnaed gwaith cloddio rhwng Wind Street a York Place, Abertawe, darparwyd gwybodaeth newydd bwysig ar dref ganoloesol Abertawe, ac ar ddatblygiadau cynharach a diweddarach. Y gwrthrych cynharaf a ddarganfyddwyd oedd crochenwaith o'r Oes Efydd, gan fynd â hanes Abertawe yn ôl fwy na 1,000 o flynyddoedd.