Y Rhufeiniaid yn Ne Cymru

Yr ysbrydol

Roedd crefydd yn rhan hynod bwysig o’r ffordd yr oedd pobl hynafol yn gweld eu byd. Dyma un agwedd ar fywyd yn yr hen fyd sydd fwyaf anodd i bobl fodern ei deall, oherwydd bod y ffordd yr edrychwn ni ar y byd mor wahanol. I’r Silwriaid, roedd yn rhaid bod arwyddocâd crefyddol i lawer o nodweddion eu bywyd a’r dirwedd o’u hamgylch, ond nid yw’n debygol y gallwn ni fyth ddarganfod mwy nag ychydig bach iawn ohonyn nhw.

Roedd llefydd crefyddol Celtaidd yn canolbwyntio ar nodweddion naturiol megis dŵr, fel yn llyn enwog Llyn Fawr, y Rhigos lle cafodd casgliad mawr o waith metel ei adael fel offrwm ar adeg pan oedd yr Oes Haearn yn disodli’r Oes Efydd. Nid yw safleoedd fel hyn yn debygol o adael dim olion ar y dirwedd, yn enwedig os yw’r pwll sanctaidd wedi ei lenwi - dim ond ar ddamwain y cânt eu darganfod fel arfer. Credwn efallai mai nwyddau offrwm i’r duwiau wedi eu gadael yno yw rhai o’r eitemau o’r Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig sydd wedi eu darganfod gan bobl yn defnyddio datgelydd metel mewn gwahanol fannau ym Mro Morgannwg a Sir Fynwy lle mae yna ddŵr.

Dan ddylanwad y Rhufeiniaid, dechreuodd y Prydeinwyr adeiladu temlau cerrig. Ychydig iawn o’r rhain y gwyddom amdanynt yn ein hardal ni, er bod un wedi ei chloddio a’i harddangos yng Nghaer-went, ac mae teml i Diana yn hysbys o arysgrif yng Nghaerllion. Mae’r hyn sy’n ymddangos fel cysegr gwledig wedi’i ddarganfod o’r awyr yng Ngwehelog ychydig y tu allan i Frynbuga er nad yw wedi ei gloddio. Yn y cartref byddai gan bobl allorau bach ar gyfer gwneud offrwm i dduwiau’r cartref, a byddai cerfluniau o’r rheiny wedi’u rhoi mewn creirfa fach gerllaw. Weithiau wrth gloddio darganfyddir darnau o gerfluniau bach i dduwiau poblogaidd, mewn efydd a phibglai. Yn y 3edd a’r 4edd ganrif mae ychydig dystiolaeth o Gristnogaeth, gan gynnwys hanes merthyrdod Sain Silian ac Aaron Sant yng Nghaerllion.

Yn ôl cyfraith a defod Rhufeinig, câi’r meirw eu claddu allan o gyrraedd mannau lle’r oedd pobl yn byw. Lle cyffredin i fynwentydd oedd ar hyd ffyrdd yn arwain i mewn i anheddle. Yn ystod y ganrif 1af a’r ail byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cael eu hamlosgi, gydag eiddo dethol a bwyd a diod yn aml. Byddai’r llwch yn cael ei gladdu mewn llestr, casgen neu fag. Yn ystod y 3edd a’r 4edd ganrif newidiodd y ffasiwn i gladdu mewn arch o bren, carreg neu blwm. Oherwydd bod y rhan fwyaf o’r pridd yn ein hardal yn asidig, mae sgerbydau a gladdwyd yn ddiweddarach yn aml wedi pydru’n llwyr.