Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

035 Wyesham


Terraced housing, The Cutting, Llanfoist: view to the north.

HLCA 035 Wyesham

Anheddiad ôl-ganoloesol (clystyrog trefol o'r 19eg ganrif a chnewyllol cynlluniedig o ganol yr 20fed ganrif) a ddominyddir gan drafnidiaeth a chysylltiadau; ystadau tai o'r 20fed ganrif (cymdeithasol a phreifat), cyfleusterau hamdden (Cyrtiau tenis a meysydd chwarae ysgolion, a safle chwaraeon) ac ystadau diwydiannol; nodweddion anheddiad/mathau o adeiladau ôl-ganoloesol ac o'r 20fed ganrif; nodweddion cysylltiadau (priffyrdd; rheilffordd ddiwydiannol a chyhoeddus segur); nodweddion eglwysig: capel canoloesol ac eglwys o'r 19eg ganrif (Iago Sant) a mynwent; safle nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol (19eg ganrif). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Wyesham yn ardal o ddatblygiad trefol preswyl modern, trafnidiaeth a chysylltiadau. Mae'n ffurfio rhan o dwf trefol modern Trefynwy ac fe'i lleolir ar lan ddwyreiniol Afon Gwy, gyferbyn â phrif ganolfan hanesyddol Trefynwy ei hun. Diffinnir ei ffiniau gan raddau'r datblygiad modern. Lleolir pentrefan Wyesham ym mhlwyf Llandidiwg, ac roedd yn nwylo Edward, pedwerydd Iarll Caerwrangon yn 1607. Aeth o genhedlaeth i genhedlaeth drwy ei deulu, a ddaeth yn gyntaf yn Ardalyddion Caerwrangon ac yna'n Ddugiaid Beaufort. Erbyn map degwm 1845 roedd y rhan fwyaf o ardal Wyesham yn eiddo i ystad Beaufort, ac fe'i prydleswyd i ddeiliaid daliadau bach amrywiol.

Mae'n amlwg bod yr ardal yn bwysig yn y cyfnod canoloesol, fel pont bren dros Afon Gwy a oedd yn cysylltu Trefynwy yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r bont bresennol yn dyddio'n ôl i'r adeg y'i hailadeiladwyd yn llwyr yn 1615/1617, a'i lledaenu'n ddiweddarach ar y ddwy ochr yn 1878-80, o dan arweiniad y pensaer Edwin Seward o Gaerdydd, a gaiff ei gofio gan blac yn nodi, ‘This bridge was widened 1879 from designs by the County Surveyor, David Roberts Contractor’.

Yn ystod y cyfnod canoloesol Wyesham oedd safle capel, Eglwys Sant Tomos y Merthyr; crybwyllir y safle gyntaf yn 1186 mewn llythyr gan y pab Urban III, ac fe'i galwyd yn Gapel y Brenin erbyn 1500. Mae ei hanes diweddarach yn eithaf siecrog; parhaodd i fod yn addoldy nes dod yn ficerdy Eglwys Llandidiwg yn 1740, ac erbyn 1815 y Tloty lleol ydoedd. Mae wedi bod yn dy preifat ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y cyfnodau pwysicaf yn natblygiad Wyesham yw'r cyfnod ôl-ganoloesol a'r cyfnod modern. Y prif reswm dros hynny yw adeiladu rheilffyrdd a thramffyrdd drwyddi, ac i'r orsaf yn May Hill, a oedd yn arhosfan ar hyd rhai o'r llinellau, ac yn fan terfyn ar eraill.

Y gyntaf o'r rhain oedd Rheilffordd Trefynwy, tramffordd a awdurdodwyd gan Ddeddf 1810, ac a gwblhawyd yn 1816/17, a oedd yn rhedeg o Howler's Slade yn Fforest y Ddena, drwy Coleford, Newland a Redbrook cyn gorffen yng ngorsaf May Hill. Yn dilyn hyn, awdurdodwyd llinell Coleford, Mynwy, Brynbuga a Phont-y-pwl o dan Ddeddf 1853, gyda changen yn gwasanaethu'r Gweithfeydd Nwy yn Wyesham. Roedd y llinell hon yn rhedeg o Gyffordd Little Mill i orsaf Wyesham, ac agorwyd yr adran i Drefynwy yn 1857. Yn dilyn hynny, adeiladodd Rheilffordd Rhosyn a Threfynwy'r llinell o Drefynwy i Rosyn ar Wy yn yr 1860au; awdurdodwyd y llinell hon gan Ddeddf 1865, ac fe'i hagorwyd yn 1873. Roedd y llinell hon yn gorffen yn May Hill nes i estyniad i orsaf Troy, i'r de o Drefynwy gael ei adeiladu'r flwyddyn ganlynol. Roedd y gwaith o adeiladu Rheilffordd Dyffryn Gwy yn yr 1860au, a awdurdodwyd yn 1866, ac a agorwyd yn 1873, yn cynnwys cangen Coleford o Wyesham, a agorodd yn 1883. Er i gwmnïau bach lleol adeiladu'r llinellau hyn yn wreiddiol, daeth Rheilffordd Great Western yn gyfrifol amdanynt yn ddiweddarach.

Gellir gweld datblygiad Wyesham fel ardal breswyl ar fap degwm 1845, sy'n dangos yr ardal ar ffurf maestref breswyl fach yn Nhrefynwy, gyda sawl clwstwr o fythynnod a filâu. Gellir gweld pwysigrwydd Wyesham fel canolfan gysylltiadau a thrafnidiaeth yn datblygu eisoes ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881, sy'n dangos clwstwr o adeiladau diwydiannol o amgylch gorsaf May Hill. Mae'r ardal hon o anheddiad preswyl maestrefol yn aros yn debyg hyd at Drydydd Argraffiad map yr AO 1921, ac yna mae'n newid yn gyfan gwbl yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'r anheddiad maestrefol eithaf gwasgaredig cynharach o fythynnod a filâu yn dod yn rhan o ardaloedd datblygedig iawn o dai cyngor, a adeiladwyd rhwng yr 1920au a heddiw, gyda chryn ddatblygu yn y 1950au gan John H Evans ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Trefynwy (Newman 2000 605). Gadawodd yr Ail Ryfel Byd ei ôl ar yr ardal hefyd; adeiladwyd blocdy wrth gyffordd yr A4136 a'r A466, i amddiffyn y ffordd ddynesu ddeheuol i Drefynwy i fyny Dyffryn Gwy.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Wyesham yn bennaf fel anheddiad diwydiannol o ddatblygiad maestrefol o dai cymdeithasol o ganol yr ugeinfed ganrif. Mae'r datblygiad hwn wedi'i leoli ar safle maestref gynharach o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif a ddangosir ar Argraffiad 1af map yr AO, gwasgariad o filâu, tai gwledig, ffermdai a bythynnod, gan gynnwys Ysgol (Bechgyn a Merched). Mae'r datblygiad o ganol yr ugeinfed ganrif wedi trawsnewid yr ardal bron yn gyfan gwbl o'r hyn a geir ar fapiau o ddechrau'r 1920au, ac mae'r dirwedd yn boblog iawn. Mae patrwm presennol yr anheddiad yn glystyrog ac wedi'i gynllunio; terasau a geir yn bennaf, gyda rhai tai pâr a byngalos modern. Ystyrir bod tai'r ardal yn deipoleg dda i olrhain datblygiad tai cyngor o'r 1920au, gydag amrywiaeth o arddulliau o bentref gardd, i'r modernaidd. Ceir hefyd ddatblygiadau hapfasnachol mewn arddull neo-Lychlynaidd. Gwelir hefyd rai bythynnod ôl-ganoloesol hyn a filâu ar wahân o'r 19eg ganrif (ee Wyesham House, a Mayhill House, gwesty o'r 20fed ganrif). Brics a ddefnyddiwyd yn bennaf i adeiladu stoc dai canol yr ugeinfed ganrif, gyda rhywfaint o adeiladwaith concrid wedi'i fowldio a chladin pren, gyda thoeon panteil a theils concrid. I'r gwrthwyneb, adeiladwyd yr adeiladau cynharach o gerrig patrymog yn nodweddiadol, wedi'u rendro neu eu gwyngalchu, gyda thoeon llechi.

Mae datblygiadau busnes a diwydiannol, a thrafnidiaeth a chysylltiadau cysylltiedig, yn un o nodweddion yr ardal ac maent yn gosod cynsail yn Wyesham y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dengys Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO rywfaint o waith datblygu diwydiannol, er enghraifft gweithfeydd Brics a Chalch, Gweithfeydd Nwy, Gweithfeydd Dwr Trefynwy a melinau llifio ager i'r gogledd-orllewin o'r ardal, ar hyd glannau Afon Gwy a llinell y rheilffordd. Mae'r rhan hon o'r ardal bellach yn ystad ddiwydiannol fawr a safle ffatri, gyda sawl adeilad masnachol modern mawr iawn, a chanolfan chwaraeon.

Yn ogystal â chwmpasu glannau dwyreiniol Afon Gwy, ceir hefyd nodweddion trafnidiaeth canoloesol, ôl-ganoloesol a modern yn yr ardal. Ymhlith y cysylltiadau mae: prif ffyrdd (A466), rheilffordd ddiwydiannol yn cynnwys hen dramffordd, a ddangosir ar Argraffiad 1af map yr AO, llinell Tramffordd Trefynwy 1812, a rheilffordd gyhoeddus (nas defnyddir mwyach), a safle cysylltiedig Gorsaf Mayhill (Argraffiad 1af map yr AO).

Mae pont wedi cysylltu'r ardal â nodweddion hon â chanol Trefynwy ers y cyfnod canoloesol. Mae Pont Afon Gwy, a ddiogelir gan statws adeiladau rhestredig Gradd II; (PRN 01250g, LB 2220) ar yr un safle â'r bont bren ganoloesol bwysig, a oedd yn bodoli yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Rees 1932, taflen SE). Ailadeiladwyd y bont ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, pan osodwyd waliau paraped wedi'u corbelu hefyd ar gyfer troedffyrdd. Gallai tarian ar y piler canolog fod wedi rhoi dyddiad 1615 neu 1617 yn wreiddiol, er nad oes unrhyw olion ohoni heddiw. Mae plac ar y paraped, dyddiedig 1879, yn cofnodi lledaenu'r bont gan Edwin Seward o Gaerdydd. Adeiladwyd y bont o gerrig nadd tywodfaen coch a llwydfelyn, sydd wedi'u cyweirio'n sylweddol. Yn wreiddiol gallai fod iddi saith bwa (Map yn An Historical Tour in Monmouthshire 1801 gan Coxe) ond dim ond pump a ddangosir ar fap degwm 1843, ac mae gan y strwythur presennol bum bwa, gyda'r bwaon pigfain gwreiddiol i'w gweld oddi tano. Yn ogystal, mae'r llif-fwaon, rhan o strwythur y bont ei hun ar ochr Wyesham o'r bont, hefyd wedi'u diogelu gan statws Gradd II (LB 85195).

Dengys Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO (1881) brif reilffyrdd cyhoeddus yn rhedeg drwy'r ardal, gan gysylltu â'r gogledd-ddwyrain, y gorllewin a'r de. Roedd rhan Pont-y-pwl, Trefynwy a Rhosan o hen Reilffordd Great Western sydd bellach wedi'i dymchwel yn rhedeg o'r dwyrain, drwy'r ardal hon o'r gogledd i'r de, gan droi i'r gorllewin a chroesi Afon Gwy i'r de o'r ardal. Roedd Rheilffordd Dyffryn Gwy sy'n diffinio'r coridor trafnidiaeth i'r de (HLCA0390 hefyd wedi'i chysylltu â Wyesham drwy Orsaf Troy.

Elfen arall, sy'n ychwanegu at gymeriad yr ardal, yw'r nodweddion eglwysig y mae rhai ohonynt yn dyddio'n ôl i'r cyfnod canoloesol. Caiff 'The Cell' (PRN 01264g, LB 17399) ei ffurfio o Gapel canoloesol Tomos Sant; y blaen presennol oedd drychiad ochr y capel. Gan gael ei chrybwyll gyntaf mewn llythyr gan y pab yn 1186, pan y'i rhoddwyd i Abaty Saumur, mae bellach wedi'i throi'n dy; yn y ddeunawfed ganrif, roedd yn gweithredu fel ficerdy Llandidiwg, ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg y tloty ydoedd, ac ar hyn o bryd annedd breifat ydyw o'r enw 'The Cell'.

Darperir y nodweddion eglwysig presennol yn amlwg gan Eglwys Sant Iago (LB 81041 Gradd II), a adeiladwyd yn 1873-75 gan J P Seddon, a chwblhawyd ei thwr yn 1890. Mae'r eglwys wedi'i lleoli yng nghanol y fynwent, sy'n cynnwys y fynwent fodern. Mae pileri'r clwydi a chlwydi'r eglwys wrth y fynedfa ddwyreiniol hefyd wedi'u diogelu gan statws Adeilad Rhestredig Gradd II. Fel yr adeiladau cynharach eraill yn Wyesham, tai modern sy'n amgylchynu'r eglwys erbyn hyn.

Cynrychiolir nodwedd amddiffynnol bach arall gan flocdy o'r Ail Ryfel Byd (PRN 04303g), sydd wrth gyffordd y ddwy brif ffordd, sy'n rhedeg drwy'r ardal; yr A466 a'r A4136, sy'n wynebu i'r de i lawr yr A466. Mae'r blocdy ei hun yn hirsgwar ag wyneb concrid, wedi'i adeiladu o bosibl o frics. Mae bodolaeth y nodwedd amddiffynnol hon yn awgrymu bod Wyesham yn lleoliad amddiffynnol strategol bwysig, wrth gyffordd dwy brif ffordd, ac ar y brif ffordd ddynesu at Drefynwy o'r dwyrain a'r de.