Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

033 Y Garth a Chaelun Wyesham


Enclosed agricultural landscape of small, irregular fields, Cwm Llanwenarth: view to the north

HLCA 033 Y Garth a Chaelun Wyesham

Tirwedd amaethyddol amrywiol: caeau canolig ychydig yn afreolaidd (o ganlyniad i gyfuno caeau) a chaeau rheolaidd); ffiniau traddodiadol; patrwm anheddu: gwasgariad llac o ffermydd a bythynnod, ty gwledig/ficerdy (y Garth); nodweddion cysylltiadau; cysylltiad eglwysig/mynachaidd: y Garth (meudwyfa ganoloesol a thirddaliadaeth eglwysig/mynachaidd wedi'i hadfeddu); archeoleg greiriol/claddedig bosibl: anheddiad/caeau canoloesol; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Y Garth a Chaelun Wyesham yn gaelun amaethyddol a leolir ar lethrau bryn isel Dyffryn Gwy rhwng aneddiadau Wyesham a'r Cymin. Fe'i lleolir ym mhlwyf Llandidiwg ym maenor Hadnock, y prif berchennog tir yn ystod canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Dug Beaufort, a rhannwyd y feddiannaeth rhwng tenantiaid bach.

Mae'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yma yn dyddio o'r cyfnod canoloesol; mae cysylltiad agos rhwng yr ardal â Phriordy Trefynwy a John o Fynwy (1190-1248). Roedd meudwyfa sef 'Y Garth' a roddwyd yn 1229 gan John o Drefynwy i'r ysbyty a sefydlwyd ganddo yn Nhrefynwy (Bradney 1904, 24). Ystyrir ei bod wedi'i lleoli ar safle'r ty presennol o'r un enw (Kissack 1974, 23). Nid yw'n glir at ba ysbyty y mae'r rhodd yn cyfeirio ato, er ei bod yn hysbys i John o Drefynwy fod yn gyfrifol am sefydlu ysbyty Sant Ioan yn 1240, i'r tlawd, yr oedrannus a'r methedig, a roddwyd yn ddiweddarach gan ei fab i Briordy Trefynwy. Yn ôl Rees roedd eglwys o'r enw y Garth a adfeddwyd i Briordy Trefynwy yn bodoli yma yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Rees 1932, taflen SE).

Caiff y feddiannaeth ôl-ganoloesol yn yr ardal ei dominyddu gan y Garth, a adeiladwyd tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar dir yn eiddo i deulu Beaufort, gan Henry Davies ac a feddiannwyd ganddo ef a'i fab, nes i'w les ddod i ben yn 1890, pan gafodd ei werthu (Bradnry 1904, 24).

Dixton Lodge (Adeilad Rhestredig Gradd II) oedd yr hen ficerdy a adeiladwyd yn 1870 fel Rheithordy Sant Pedr, Llandidiwg. Fodd bynnag, mae map degwm 1845 yn dangos ficerdy cynharach ar yr un safle. Priodolir y ty presennol, sydd bellach yn breswylfa breifat, i J P Seddon, pensaer a syrfëwr Archddiaconiaeth Trefynwy a phensaer ymgynghorol Cymdeithas Gorfforedig Adeiladau Eglwysig, a oedd hefyd yn gyfrifol am adfer eglwys blwyfol Llandidiwg.

Er nad yw'r cymysgedd presennol o dir pori, dolydd a thir âr sych wedi newid fawr ddim ers map y degwm, mae'r map hwn a mapiau dilynol yn dangos bod yr ardal wedi gweld cryn dipyn o waith cyfuno caeau yn ystod rhan olaf yr ugeinfed ganrif. Roedd y caelun amrywiol presennol o gaeau canolig eu maint ar y cyfan yn cynnwys caeau bach a chanolig mwy afreolaidd yn wreiddiol, yn enwedig yr ardal i'r de ger Sky Farm. Yn yr un modd, nid yw'r anheddiad yn yr ardal wedi newid fawr ddim ers map y degwm, mewn gwrthgyferbyniad ag ardal gyfagos Wyesham.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir y Garth a Chaelun Wyesham heddiw fel caelun amrywiol wedi'i gyfuno yn cynnwys caeau canolig eu maint ychydig yn afreolaidd. Gwrychoedd sy'n amgylchynu'r caeau yn bennaf, er bod eu ffiniau hefyd yn cynnwys cloddiau daear ag wyneb garreg gyda ffensys post a gwifren. Ar ymylon deheuol a gogleddol yr ardal, mae'r ffiniau yn cynnwys gwrychoedd â choed gwrych nodedig yn bennaf, sydd fwy na thebyg yn adlewyrchu'r broses o glirio coetir.

Mae'r anheddiad o ffermydd a phreswylfeydd anghysbell sydd heb newid fawr ddim o ran cynllun ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn cyfrannu at ei chymeriad. Y breswylfa bwysicaf yn yr ardal yw'r plasdy, ‘Y Garth’ (PRN 02277g, NPRN 36903), a adeiladwyd tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fwy na thebyg ac a ddangoswyd gyntaf ar fap degwm 1845 ar ochr y bryn yn wynebu'r de yn rhan ogleddol yr ardal, gan gefnu ar Goedwig Highmeadow (HLCA019).

Dixton Lodge (NPRN 36811, LB 85193 Gradd II) yw'r hen ficerdy a adeiladwyd yn 1870 fel Rheithordy Sant Pedr, Llandidiwg. Mae'r ty presennol ar ddau lawr â mynedfa tri bae yn y pen gorllewinol yn arddull Gothig y Tuduriaid ac fe'i hadeiladwyd o rwbel tywodfaen coch patrymog â rhwymau cerrig nadd, a tho llechi.

Mae'r anheddiad ychwanegol yn yr ardal yn cynnwys un bwthyn anghysbell yn rhan ddeheuol yr ardal, sef 'Woodbine Cottage' ar Argraffiad Cyntaf map yr AO (1890) ond a elwir bellach yn 'Woodside Cottage', a fferm gerllaw, sef 'Sky Farm' erbyn hyn. Roedd y ddau adeilad hyn yn bodoli erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (map degwm 1845).

Mae'r cysylltiadau hanesyddol ac eglwysig yn y dirwedd hefyd yn darparu nodwedd arall; ystyrir bod preswylfa ddiweddarach 'Y Garth' yn lleoliad safle eglwysig canoloesol pwysig. Cyfeirir at y Garth gyntaf yn Calendar of Documents Preserved in France yn 1186 (Brook 1988, 78), tra cyfeirir hefyd at feudwyfa'r Garth mewn rhodd yn 1229 yn gysylltiedig â John o Drefynwy (Bradney 1904, 24). Fodd bynnag, ni wnaeth gwaith a wnaed gan yr Arolwg Ordnans ddod o hyd i unrhyw olion adeiladau canoloesol.