Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

032 Pen-y-garn a Thir Comin Church Hill


Aerial photograph of nucleated, planned settlement at Forgeside, courtesy of RCAHMW

HLCA 032 Pen-y-garn a Thir Comin Church Hill

Tirwedd amrywiol o hen glostiroedd datblygedig afreolaidd cyfunol a chlostir ôl-ganoloesol mwy rheolaidd (gwell tir comin); darn bach o dir comin sydd wedi goroesi; clostiroedd canolig rheolaidd a mawr wedi'u cyfuno (caelun afreolaidd blaenorol); ffiniau traddodiadol; coetir llydanddail a phrysgwydd/tir heb ei reoli; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau canoloesol (anheddiad canoloesol segur?); nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-garn a Thir Comin Church Hill yn dirwedd amaethyddol sy'n cynnwys caelun cyfunol a chlostiroedd a enillwyd o'r tir comin. Diffinnir yr ardal gan ardal fach o dir comin sy'n dal i fodoli a'r tir amaethyddol o'i amgylch, ac i'r dwyrain ymyl y coetir hynafol. Lleolir yr ardal ar y llethrau uwchben dyffryn Black Brook sy'n wynebu'r de a'r dwyrain. Yn hanesyddol, roedd yr ardal ym mhlwyf Penallt, a oedd yn rhan o faenor Trelech.

Mae'n bosibl bod clystyrau o waliau cerrig sych isel ar Dir Comin Church Hill yn cynrychioli meddiannaeth ganoloesol; gallai'r rhain fod yn olion anheddiad segur, er bod angen ymchwilio i hyn ymhellach i'w gadarnhau. Mae ffynonellau cartograffaidd hanesyddol yn dangos clostiroedd cromliniol sy'n nodweddiadol o system gaeau agored ganoloesol wedi'i ffosileiddio yn y caelun sydd wedi'i gyfuno bellach i'r gorllewin o Ben-y-garn (map degwm 1847; argraffiadau cynnar mapiau'r AO 1881, 1901, a 1921). Pwysleisir y tebygolrwydd o feddiannaeth ganoloesol gan leoliad agos Hen Eglwys Penallt (ardal â nodweddion gyfagos), sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf.

Roedd plwyf Penallt yn gymharol agored tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan basiwyd Deddf Clostiroedd 1810. Mae union fodolaeth Tir Comin Church Hill yn anodd ei mesur oherwydd ymddengys i'r broses o greu clostiroedd a thresmasu fod yn ddatblygol. Ar fap degwm 1847 gwelir y tir comin rhannol gaeedig, gyda dwy ardal glir o dresmasu ar y naill ochr a'r llall. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg plannwyd coetir coniffer ar y tir comin (Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881, 1887).

I'r de o Dir Comin Church Hill a'r clostiroedd diweddar, ceir ardal sy'n bodoli ar fap y degwm fel caelun datblygedig afreolaidd, a oedd yn eiddo i sawl unigolyn, yn ogystal ag ystad Beaufort, a Llywodraethwyr Cronfa Haelioni'r Frenhines Ann. Mae'r rhan fwyaf o'r tir yn eiddo i Thomas Dixon ac yn cael ei feddiannu ganddo, a thir âr yw'r cyflwr amaethu. Nid yw'r patrwm caeau wedi newid fawr ddim yn ystod chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif; ar Drydydd Argraffiad map yr AO (1921) dangosir nad yw wedi newid braidd o gwbl ers yr 1840au. Fodd bynnag, mae arferion ffermio modern wedi cael effaith fawr ar y dirwedd, ac mae'r ardal, a oedd yn arfer bodoli ar ffurf caeau afreolaidd amrywiol eu maint, bellach yn un cae wedi'i gyfuno sydd tua 42 hectar.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Pen-y-garn a Thir Comin Church Hill fel ardal hen dir comin, sydd wedi dod yn fwyfwy caeedig yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r ardal tir comin sy'n bodoli o hyd, sydd bellach yn goedwig, wedi'i lleoli rhwng dwy ardal o gaeau rheolaidd canolig eu maint i'r dwyrain a'r gorllewin; roedd y rhai i'r dwyrain wedi'u hisrannu ymhellach erbyn yr 1870au, tra bod yr ardal i'r gorllewin wedi aros yn ddigyfnewid o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r drefn bresennol o dir âr a thir pori cymysg hefyd yn adlewyrchu'r defnydd o'r tir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (dyraniad y degwm). Mae ffiniau'r caeau yn y rhan hon o'r ardal yn cynnwys coed gwrych nodedig yn bennaf, sy'n adlewyrchu natur goediog iawn yr ardal.

Ymhellach i'r de, yn yr ardal o amgylch fferm Pen-y-garn, bu newidiadau mawr i'r dirwedd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dengys tystiolaeth gartograffaidd fod yr ardal hon yn gaelun datblygedig afreolaidd, a fferm Pen-y-garn oedd yn ganolbwynt iddo. Er i'r caeau gael eu cyfuno rhywfaint, yn enwedig yn rhan ogleddol yr ardal, ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae patrwm y caeau yn parhau i fod yn gyflawn ar y cyfan hyd at yr ugeinfed ganrif. Mae newidiadau mwy diweddar mewn arferion ffermio wedi arwain at ragor o waith cyfuno yn un ardal; erbyn hyn gellir gweld hen ffiniau'r caeau ar ffurf olion cnydau. Mae'r ffiniau allanol yn cynnwys gwrychoedd a ffensys post a gwifren, gyda rhai coed gwrych nodedig.

Mae fferm Pen-y-garn, fel y caelun o amgylch, wedi newid yn sylweddol ers map degwm 1847; mae map y degwm yn dangos cyfadeilad amaethyddol a drefnwyd o amgylch iard is-hirsgwar yn cynnwys dau brif adeilad sef yr ysgubor a'r annedd (gyda beudy cysylltiedig o bosibl), erbyn arolwg Argaffiad Cyntaf map yr AO (1881) ychwanegwyd tri strwythur arall i amgylchynu tair ochr y fferm, gardd a pherllan i'r de ac adeilad allanol i'r dwyrain a phwll i'r gogledd, tra yn ystod rhan olaf yr ugeinfed ganrif mae'r fferm wedi datblygu ymhellach drwy ychwanegu adeiladau amaeth-ddiwydiannol mwy. Ceir enghraifft dda o ysgubor ddyrnu gynhenid gyda stabl ychydig y tu mewn i'r ardal gyferbyn â'r ffordd. Mae'n anghysbell a chryn bellter o'i fferm gysylltiedig, Fferm Llananant, sydd ei hun y tu allan i'r ardal â nodweddion.

Mae coedwigaeth, coed coniffer o'r ugeinfed ganrif yn bennaf (yn ardal olaf y tir comin caeedig sydd wedi goroesi), yn nodwedd arall. Caiff ffiniau'r ardal goediog iawn eu ffurfio gan waliau cerrig sych mawr a adeiladwyd o flociau chwarts mawr. Mae ychydig o goetir collddail a llydanddail arall hefyd wedi goroesi.

Mae archeoleg greiriol yn nodwedd bwysig arall yn yr ardal. Ymddengys fod y tir comin coediog yn cynnwys sawl clwstwr o waliau cerrig sych, er nad oes unrhyw olion o anheddiad nac adeiladau yn yr ardal hon ar unrhyw fapiau hanesyddol. Ymhlith y nodweddion creiriol eraill mae carreg chwarts gylchol (PRN 01275g), a leolir ar ochr ddeheuol y ffordd sy'n arwain i Benallt; mae'r nodwedd hon, sydd â diamedr o 1.2m a thwll hirsgwar yn y canol, yn cael ei disgrifio yn Bradney (1913, 155) fel gwaelod croes, ac ar Argraffiad Cyntaf mapiau fe'i nodir fel 'Cross Vermond'. Fodd bynnag, mae'n edrych yn debyg i faen melin, y cafodd llawer eu cynhyrchu'n lleol (ee Coedwig Troypark HLCA 036). Enw lleol amgen diddorol ar y garreg yw 'The Coffin Stone', ac yn ôl traddodiad lleol byddai angladdau a oedd yn teithio ar hyd y ffordd i Hen Eglwys Penallt yn aros yn y man hwn ac yn gorffwys yr arch ar y garreg. Gellir dod o hyd i 'faen arch' arall wrth ymyl y ffordd ychydig ymhellach i'r gogledd ar yr un ffordd. Yn ddiddorol roedd Capel Penallt arfer bod yn gapel anwes i Sain Nicolas yn Nhrelech nes i Benallt ddod yn blwyf ar wahân yn 1887.

Mae'r cysylltiadau yn yr ardal yn cynnwys llwybrau troed a lôn fach, sy'n mynd ar hyd ochr ddeheuol y tir comin ar ei ffordd tua'r de i gyfeiriad cyffredinol Trelech. Mae'r llwybr hwn, sef y llwybr angladdol traddodiadol fwy na thebyg sy'n ymwneud â'r meini arch, yn cysylltu'r ardal â Hen Eglwys Penallt, ei chefnwlad amaethyddol ehangach a Threlech y tu hwnt.