The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

017 Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm


Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm.

HLCA 017 Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm

Anheddiad/caeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol; patrwm caeau amrywiol a ffiniau caeau pendant; patrwm anheddu: datblygiad gwasgaredig a mân ddatblygiad hirgul; mân gysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm yn cynnwys ardal o dir amaethyddol caeedig ar ochrau gogledd-orllewinol Mynydd Margam, lle na chafodd coed eu plannu. Cafodd yr ardal, a oedd yn rhan o Ystad Abaty Margam yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, ei ffermio yn ystod y cyfnod canoloesol o faenor Abaty Margam yn Hafod-y-porth. Er bod safle maenor fynachaidd arall wedi ei awgrymu hefyd ar safle'r fferm ôl-ganoloesol Gallt-y-cwm (Evans 1982, 21). Ers i Ystad Margam gael ei rhannu ynghanol yr 20fed ganrif ymddengys bod daliadau'r ardal wedi ymrannu, a phobl wedi gadael rhai ffermydd, er enghraifft Llety-piod, ty simnai talcen, mynedfa uniongyrchol gyda tho gwellt o'r cyfnod ôl-ganoloesol.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Cwm Dyffryn: Ochrau Deheuol y Cwm, y rhannau o'r dirwedd amaethyddol gaeedig sydd wedi goroesi , ar hyd ochr ddeheuol Cwm Dyffryn, gan glostir ôl-ganoloesol gyda phatrwm caeau amrywiol, a'r nodwedd amlycaf yw caeau datblygedig/afreolaidd a rheolaidd bach gyda ffiniau caeau penodol ac amrywiol, yn cynnwys cloddiau â wyneb carreg, cloddiau â wyneb carreg gyda gwrychoedd, gwrychoedd, cloddiau pridd a ffensys postyn a weiren. Mae'r anheddu yn yr ardal yn dyddio'n llwyr o'r cyfnod ôl-ganoloesol ac yn nodweddiadol yn cynnwys datblygiad gwasgaredig llac a mân ddatblygiad hirgul o ffermydd a bythynnod; patrwm sy'n nodweddiadol o anheddu ar hyd y godre trefol diwydiannol. Ymddengys mai tyddynnod yw cyfran sylweddol o'r daliadau tir cyffredinol ac mae crynhoad nodedig o adeiladau allan haearn grwymiog. Mân nodweddion cysylltiadau yw nodweddion eraill yr ardal, h.y.: llwybrau troed, llwybrau a lonydd troellog.