The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

015 Parc Uchaf a Thon-y-grugos


Clostir amddiffynedig cynhanesyddol - Caer Cwm Phillip.

HLCA 015 Parc Uchaf a Thon-y-grugos

Tir pori ucheldirol caeedig: clostiroedd rheolaidd mawr; ffiniau caeau pendant; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol; clostiroedd o'r cyfnod cynhanesyddol (nodweddion tirwedd amaethyddol ucheldirol); archeoleg gladdedig: ôl crasu. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc Uchaf a Thon-y-grugos yn cynnwys yr hen Barc Uchaf, rhan o hen barc ceirw ôl-ganoloesol Ystad Margam; nodir yr ardal fel un sy'n wahanol ac ar wahân i weddill Mynydd Margam, a gafodd ei hamgáu erbyn dechrau'r 19eg o leiaf, os nad ynghynt. Ymddengys bod y clostir, sy'n amgylchynu rhan orllewinol Parc Uchaf oddi wrth yr hyn sydd union i'r gogledd o Don mawr, yn parchu llinellau'r amgloddiau neu'r ceuffyrdd cynnar; gellid rhagdybio dyddiad canoloesol neu gynharach ar gyfer y ffiniau a gall y rhain hyd yn oed adlewyrchu llinell rhwystrau rheoli anifeiliaid gynharach sy'n gysylltiedig â chlostiroedd cyfagos o'r cyfnod cynhanesyddol diweddar.

Rhwng 1814 a'r 1870au is-rannwyd rhan orllewinol y parc ymhellach ar hyd llinellau rheolaidd gan gloddiau neu gloddiau â wyneb carreg yn glostiroedd hirsgwar. Mae tystiolaeth enwau lleoedd hefyd yn awgrymu'r defnydd sefydledig o ran o'r ardal fel gwyndwyn (Ton-y-grugos); dangosir yr ardal yn rhannol gaeedig ar adeg arolwg ystad Hall yn 1814, a gadarnhawyd yn llawn gan gyhoeddiad argraffiad cyntaf AO.

Mae'r ardal yn bennaf pwysig, fodd bynnag, am ei harcheoleg greiriol: yn benodol y clostiroedd 'amddiffynedig' cynhanesyddol sy'n bwysig yn genedlaethol, y gwersyll i'r dwyrain o Don Mawr a Chaer Cwm Phillip (y ddau yn gofrestredig) ac amgloddiau neu geuffyrdd niferus eithaf hynafol.

Mae lleoliad bwthyn ôl-ganoloesol Ty'n-y-parc ar ymyl y tir caeedig yn gyfagos i Don mawr ac ar hyd ochr y trac i Langynwyd yn ddiddorol ac yn nodweddiadol o anheddiad sgwatiwr neu weithiwr ystad di-dir.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Parc Uchaf a Thon-y-grugos gan dir pori ucheldirol caeedig a gafodd ei wella a'i led-wella (hen barc ceirw a oedd yn gysylltiedig â Pharc Margam) a gynlluniwyd fel clostiroedd rheolaidd mawr gyda ffiniau caeaeu pendant, yn cynnwys cloddiau a waliau sychion. Mae'r ardal yn dirwedd greiriol bwysig gyda chaeau nodweddiadol ac anheddiad cysylltiedig yn dyddio i'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol. Mae'r elfen anheddiad cynhanesyddol yn cynnwys clostiroedd amddiffynedig yn unig, megis y clostir un clawdd cofrestredig neu'r gwersyll i'r dwyrain o Don Mawr (SAM Gm 090) a chlostir amddiffynedig onglog dau glawdd amlochrog gydag atodiad, sef Caer Cwm Phillip (SAM Gm 057), y mae'r ddau ohonynt yn dyddio o'r Oes Haearn. Mae ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yn awgrymu bod nodweddion cysylltiedig eraill wedi goroesi fel olion crasu. Mae'r ardal yn gysylltiedig iawn ag ardal gyfagos i'r gogledd-ddwyrain, HLCA013, nid yn unig o ran anheddiad cynhanesyddol/defnydd amaethyddol, ond hefyd drwy ddefnydd cyffredin fel coridor cysylltiadau o'r cyfnod cynhanesyddol i'r cyfnod ôl-ganoloesol yn cysylltu Margam â Llangynwyd, canolfannau pwysig o'r cyfnod canoloesol cynnar o leiaf, os nad ynghynt. Elfen arbennig o drawiadol o'r dirwedd yw'r 'amgloddiau' niferus a nodir ar argraffiad 1af y map AO yn ymestyn o'r de-orllewin i'r gogledd-ddwyrain drwy'r ardal; rhagdybiwyd dyddiadau yn amrywio o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol cynnar a chanoloesol ar gyfer y nodweddion hyn sy'n cynrychioli, yn ôl pob tebyg, gymysgedd o geuffyrdd neu lwybrau a rhwystrau rheoli anifeiliaid o bosibl. Mae Tramffordd Moel Ton Mawr (2il argraffiad map AO 1900) yn dangos pwysigrwydd parhaol yr ardal fel coridor cysylltiadau yn ystod yr 20fed ganrif.