The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

014 Moel Ton Mawr


Moel Ton Mawr.

HLCA 014 Moel Ton Mawr

Planhigfa o goed o'r 20fed ganrif ar fynydd agored gynt; yn debyg i HLCA 010; archeoleg greiriol: angladdol a defodol; nodweddion cysylltiadau; gorfawn yn casglu gydag effaith bosibl ar yr amgylchedd. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Moel Ton Mawr yn cynnwys ardal fach, ar wahân o blanhigfa o'r 20fed ganrif, rhan o ffriddoedd agored helaeth Mynydd Margam gynt a fu unwaith yn debyg o ran cymeriad i HLCA 013. Bu'r ardal ar un adeg yn rhan o eiddo Abaty Sistersaidd Margam ac yn rhan ddiweddarach o Ystad Margam yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Moel Ton Mawr fel ardal o blanhigfa o goed o'r 20fed ganrif ar fynydd a fu'n agored gynt, yn debyg i HLCA010. Er yn wahanol, mae nodweddion sy'n nodweddiadol o dirwedd ucheldir ehangach i'w gweld o hyd yn y goedwig o gonifferau yn yr ardal; creiriol yw'r rhain yn bennaf ar ffurf un nodwedd angladdol a defodol hysbys, carnedd o'r Oes Efydd (PRN 00755w) ac amlglawdd (PRN 03883w), neu geuffordd, yn debyg i'r rhai yn HLCA 013 a HLCA 015, gweddillion hen lwybrau ucheldir. Dylid nodi bod yr ardal yn cynnwys dyddodion mawn ac mae'n bosibl bod dangosyddion amgylcheddol a dangosyddion eraill sy'n gysylltiedig â'r Oes Efydd a thirweddau cynharach wedi goroesi; fodd bynnag, efallai fod coedwigaeth wedi effeithio ar ansawdd y cofnod sydd wedi goroesi.