The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

013 Cwm Cynffig Uchaf


Gwersyll Oes Haearn Caer Blaen y Cwm.

HLCA 013 Cwm Cynffig Uchaf

Tirwedd ucheldirol amgyfnod ac amlswyddogaeth gydag archeoleg greiriol bwysig: anheddiad/caeau o'r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol, clostiroedd cynhanesyddol (nodweddion tirwedd amaethyddol ucheldirol); gorfawn yn casglu gydag effaith bosibl ar yr amgylchedd; coridor cysylltiadau pwysig o'r cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod canoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Cynffig Uchaf yn cynnwys olion ardal fwy helaeth o lawer o ucheldir ar gyfer pori, rhan o Ystad Margam yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol a fu gynt ym meddiant Abaty Sistersaidd Margam. Y gweddillion mwyaf gweladwy yn yr ardal yw nodweddion creiriol cynhanesyddol a chanoloesol, megis y Gwersyll trawiadol o'r Oes Haearn neu Fryngaer Caer Blaen y Cwm (SAM Gm 58; CBHC Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 2), sef y nodwedd amlycaf yn rhan uchaf Cwm Cynffig. Mae'r safle'n un o blith nifer yn yr ardal, yr ymddengys ei fod yn rheoli mynediad rhwng y cymoedd, y cefnffyrdd a ffriddoedd Mynydd Margam.

Mae darganfyddiadau o offer fflint (PRNs 05028w; 05029w; a 02102w) yn dyddio o'r Oes Fetholithig i'r Oes Efydd gynnar, a sawl nodwedd angladdol a defodol, yn benodol, tomenni claddu neu garneddau yn dyddio o'r Oes Efydd, megis Twmpath Diwlith (PRN 754w), ymhlith sawl un a gloddiwyd ar ran Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1921 (CBHC. Cofrestr Morgannwg, Cyfrol 1, Rhan 1), yn nodi cyfnod sylweddol o ddefnydd os nad deiliadaeth, cyn sefydlu bryngaeriau'r ardal yn yr Oes Efydd ddiweddar neu'r oes Haearn.

Nodweddion eraill ar y dirwedd yn yr ardal yw'r cefnffyrdd, megis Heol-y-Moch, a Ffordd-y-gyfraith, (a adwaenwyd hefyd fel Cefn Ffordd); mae'r olaf yn rhedeg ar hyd cefnen Mynydd Margam drwy Ryd Blaen-y-Cwm ac i'r de-ddwyrain tuag at Fynydd Baedan (CBHC 1976, Cyf I, II). Croesir yr ardal hefyd gan lwybr hen ffordd y plwyf o Dai-bach i Langynwyd drwy'r 'Cross of the Hand' (Map George Yates o 1799); cafodd hon ei 'dargyfeirio' (h.y. ni châi'r cyhoedd ei defnyddio) yn 1829 i osgoi croesi parc Margam. Gellir dehongli llawer o'r darnau o 'intrenchments' (argraffiad 1af map AO 6 modfedd) a cheuffyrdd yn yr ardal fel olion y ffyrdd pwysig hyn, ac amrywiadau arnynt.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Cwm Cynffig Uchaf gan ei ffriddoedd caeedig a gafodd eu lled-wella'n rhannol. Mae'r ardal yn cynrychioli darn sydd wedi goroesi o ucheldir pori agored helaeth ar un adeg ar Fynydd Margam. Nodwedd bwysicaf yr ardal yw'r dirwedd archeolegol greiriol bwysig sydd wedi goroesi, sydd wedi cael ei defnyddio'n barhaus. Palimpsest ucheldirol amlgyfnod, amlswyddogaeth yw'r ardal, sy'n cynnwys anheddiad/caeau cynhanesyddol a chanoloesol, nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol, yn cynnwys carneddau claddu o'r Oes Efydd, e.e. Twmpath Diwlith a chlostiroedd cynhanesyddol, golygon tirwedd amaethyddol ucheldirol, megis Gwersyll neu Fryngaer Oes Haearn Caer Blaen y Cwm (SAM Gm 58) gyda cheuffordd gysylltiedig a chroesglawdd. Mae nodweddion creiriol eraill yn cynnwys llwybrau cynhanesyddol a chanoloesol, megis Heol y Moch, Ffordd-y-gyfraith, tra bo nodweddion diwydiannol, megis chwareli, llwybrau cysylltiedig a thramffordd (2il argraffiad map AO 6 modfedd) yn tystio i'r camddefnydd nodweddiadol o'r ucheldiroedd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys gweddillion archeolegol claddedig ar ffurf olion crasu a darganfyddiadau gwasgaredig.

Ystyrir bod effaith cliriad a newid yn yr hinsawdd tuag at ddiwedd yr Oes Efydd wedi arwain at amodau amgylcheddol a oedd yn addas ar gyfer ffurfio gorfawn; effeithiodd hyn ar lwyfandiroedd dyranedig Mynydd Margam fel mewn mannau eraill ar ucheldir Morgannwg (Caseldine 1990); mae'n bosibl bod dangosyddion amgylcheddol a dangosyddion eraill sy'n gysylltiedig â'r Oes Efydd a thirwedd gynharach wedi goroesi.