The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

012 Nant y Gadlys a Nant Bryncynan


Castell Llangynwyd neu Gastell Coch.

HLCA 012 Nant y Gadlys a Nant Bryncynan

Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; anheddiad/caeau amaethyddol o'r cyfnod canoloesol/ôl-ganoloesol; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol; archeoleg diwydiannol (malu). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Nant y gadlys a Nant Bryncynan yn gyfres o gymoedd nentydd coediog sy'n gysylltiedig ag ystad Gadlys. O fewn yr ardal mae Gadlys; ty'r boneddigion ynghanol yr ystad, yn dyddio o rhwng yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif. Mae'r ty yn perthyn i grwp y Dadeni: math o gyntedd grisiau canolog gyda grisiau cerrig â mynediad drwy'r talcen (heb estyniad i'r adeilad croes neu 'outshut'), stopiau broch ar drawstiau nenfwd, to gwellt a phopty. Mae cyfeiriadau dogfennol yn nodi bodolaeth capel ger Fferm Gadlys (a mynwent gysylltiedig) wedi ei gysegru i'r Sant canoloesol cynnar o Gymru, Sant Illtud, a ffynnon sanctaidd yng Ngilfach-isaf yn ystod y cyfnod canoloesol.

Mae Nant y Gadlys yn cynnwys rhwydwaith o gafnau melinau a gweddillion eraill sy'n gysylltiedig â'r gwaith malu a arferai gael ei wneud yn yr ardal, a sonnir am y ffatri a oedd yn hysbys fel y Gadlys yn siarteri Margam fel Tal-y-Fedw; ymddangosodd y felin yd mâl yn Nhal-y-Fedw, Cwmfelin, yn llawysgrifau cynnar Margam. Sonnir am y felin yd mewn sawl arolwg maenoraidd o'r 16eg ganrif a'r 17eg ganrif (yr unig felin a gofnodwyd ar gyfer y faenor tan 1689). Soniodd un arolwg dyddiedig 1666 fod un 'Welsh acre' o isdyfiant a thir pori garw ar gael gyda'r felin. Erbyn y 19eg ganrif roedd y safle'n cael ei ddefnyddio fel melin gwlanen/gwlân, a chafodd ei hesgeuluso a'i dinistrio'n rhannol gan ei pherchennog, John Joseph yn ystod y 1840au, ac wedyn cafodd ei haddasu'n ddiweddarach i'w defnyddio fel bragdy ac wedyn fel gwaith cemegion am beth amser. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd y safle eto i gynhyrchu gwlân pan symudodd John Jones, perchennog ffatri wlân Cwmfelin, ei waith i Dal-y-Fedw, yn dilyn cytundeb gyda Chwmni Tunplat Llwydarth. Ymddengys bod y ffatri wedi cau yn ystod y 1920au ac roedd yn adfail erbyn 1949 (Richards, B 1989).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Nant y Gadlys a Nant Bryncynan fel ardal o Goetir Hynafol sydd wedi goroesi gyda choetir llydanddail arall mewn dyffryn culrych iawn â nentydd. Mae cymeriad yr ardal, sydd wrth wraidd Ystad Gadlys, yn dibynnu i raddau helaeth ar ei chaeau amaethyddol ôl-ganoloesol a'i gwasgariad cysylltiedig o adeiladau cynhenid. Elfen nodweddiadol bwysig o'r dirwedd hon yw'r gweddillion archeolegol diwydiannol sy'n gysylltiedig yn arbennig â malu yd, ac yn ddiweddarach â'r diwydiant gwlân; mae nodweddion yn cynnwys ffrydiau melinau. Mae nodweddion eraill y dirwedd yn cynnwys rhwydwaith yr ardal o lwybrau troed a llwybrau.