The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

085 Tir Comin Barland


Ffoto o'r Tir Comin Barland

HLCA085 Tir Comin Barland

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; nodweddion dwr; ac archeoleg gladdedig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Barland yn cyfateb i'r tir comin agored a elwir yn Dir Comin Barland, sydd yn ei hanfod yn ddarn bach ar wahn o dir comin gweddilliol a fyddai wedi bod yn rhan o ardal helaeth o dir comin neu dir diffaith a arferai ymestyn o Welshmoor, Pengwern, a Mynydd Llwynteg tua'r dwyrain i Dir Comin Clyne.

Ychydig a wyddom am archeoleg yr ardal; mae'n gyfyngedig i ddarganfyddiadau megis crochenwaith Samiaidd, potiau coginio a broetsh yn dyddio o'r 2il ganrif yn ystod y cyfnod Rhufeinig sy'n gysylltiedig hoelion a sorod haearn, sy'n arwydd o rywfaint o weithgarwch diwydiannol yn yr ardal gyffredinol (Morris 1962, 66). Er bod darganfyddiadau o'r ardal a'r ardaloedd o'i hamgylch yn arwydd o weithgarwch yn ystod y cyfnod Rhufeinig, ni allwn ond dyfalu pa weithgarwch a oedd yn digwydd yn ystod cyfnodau eraill o dystiolaeth a gafwyd o ardaloedd oddi amgylch. Fodd bynnag, mae'n debyg i'r ardal gael ei defnyddio ar gyfer pori anifeiliaid yn gyffredin ers y cyfnod canoloesol o leiaf.

Ar ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol ymddengys i Dir Comin Barland gael ei leihau fwy neu lai i'w faint presennol, trwy weithgarwch tresmasu, a chafodd yr ardaloedd cyfagos eu graddol amgu a'u gwella ar gyfer amaethyddiaeth yn ystod y bymthegfed ganrif a'r unfed ganrif ar bymtheg. Awgrymir i ardal gaelun Wernllath i'r gogledd ac i'r dwyrain o'r tir comin presennol gael ei chreu trwy i bobl dresmasu ar dir comin a'i amgu yn arbennig yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg fel y nododd Iarll Caerwrangon yn y 1590au (Robinson 1968, 372, 375, 379). I'r de lleihawyd maint y tir comin ymhellach, a chollwyd tir comin o ganlyniad i weithgarwch cloddio calchfaen o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen.