The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

084 Dyffryn Llandeilo Ferwallt


Ffoto o Dyffryn Llandeilo Ferwallt

HLCA084 Dyffryn Llandeilo Ferwallt

Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; ogofâu; aneddiadau domestig/amddiffynnol cynhanesyddol; nodweddion diwydiannol; ymelwa ar adnoddau naturiol; llwybrau cysylltu; adeiladau adfeiliedig ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Llandeilo Ferwallt yn cynnwys dyffryn afon coediog amgaeëdig, sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de, fwy neu lai, o fan islaw'r prif anheddiad yn Kittle i Fae Pwll Du. Ffiniai'r ardal hon â hen faenorau Llandeilo Ferwallt i'r dwyrain, Pennard i'r gorllewin a ffi Kittle i'r gogledd-orllewin a gorweddai o fewn plwyfi diweddarach Llandeilo Ferwallt a Phennard.

Gwyddom fod nifer fawr o ogofâu yn yr ardal, gan gynnwys Ogof Clogwyn Dwyreiniol Pennard (05338w), Gut Hole (04427w), Ogof Meander (04428w), Ogof Rising (04429w), Ogof Lower Daw (02290w), a chysgodfa graig (04430w); hyd yma ni ddarparodd yr un ohonynt unrhyw dystiolaeth o anheddu cynhanesyddol, Ogof Dwyreiniol Pennard ac Ogof Lower Daw sydd â'r potensial archeoleogl mwyaf.

Mae caer bentir yn dyddio o'r Oes Haearn (00309w; 3013470; SAM GM126) i'r de-ddwyrain o Widegate, a leolir ar esgair serth tua 30m DO yn edrych dros lawr y dyffryn afon, yn darparu'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch anheddu yn yr ardal. Amddiffynnir y safle gan ddwy ffos ddofn a dorrwyd i mewn i'r graig a amgylchynir i raddau helaeth gan orchudd trwchus o goed. Nododd gwaith cloddio a wnaed gan Aubrey Williams ym 1939 fynedfa i'r gogledd a chrochenwaith yn dyddio o'r Oes Haearn yn ogystal â modrwy a chrochenwaith yn dyddio o'r ganrif 1af a'r 2il ganrif OC sy'n awgrymu i weithgarwch anheddu yn yr ardal barhau i mewn i'r cyfnod Rhufeinig. Ceir tystiolaeth o bresenoldeb Rhufeinig yn yr ardaloedd oddi amgylch hefyd, yn arbennig o amgylch Tir Comin Barland a Llandeilo Ferwallt ei hun.

Mae'r eglwys a gysegrwyd i Teilo Sant, safle un o'r aneddiadau Cristnogol cynharaf yng Nghymru (Orrin 1979, 27) y cyfeirir ato yn llyfr Llandaf yn y chweched ganrif yn dystiolaeth o weithgarwch anheddu yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Felly mae'n debyg i'r ardal hon gael ei defnyddio o'r Oes Haearn (os nad ynghynt) drwodd i ddechrau'r cyfnod canoloesol fel adnodd pwysig ynghyd â Chwm Ilston a Dyffryn Clyne am ei bod yn ddyffryn afon pwysig yn nwyrain Bro Gwyr, a ddarparai ddwr ac adnoddau eraill ac a weithredai fel ffin diriogaethol hirsefydlog.

O'r cyfnod canoloesol ymlaen buwyd yn defnyddio tir llawr y dyffryn fel doldir yn bennaf, ac mae ffiniau caeau (02293w) i'w gweld o hyd heddiw, fodd bynnag, nis defnyddir bellach ac ar y cyfan maent wedi'u gorchuddio â thyfiant. Mae arolygon a wnaed yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg yn cyfeirio at ddoldir ym mhlwyf Llandeilo Ferwallt. Dengys mapiau degwm Llandeilo Ferwallt a Phennard 1844-46 nifer o gaeau y nodir eu bod yn cynnwys tir pori, tir âr a doldir (Poucher 2002/2003) ar hyd llawr gwastad y dyffryn ym mhen deheuol y dyffryn ac o amgylch y gaer bentir. Dangosir y rhain hefyd ar argraffiad cyntaf, ail argraffiad a thrydydd argraffiad mapiau'r AO. Mae'n bosibl i lawr ffrwythlon y dyffryn gael ei ddefnyddio yn ystod yr Oes Haearn hefyd.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol cynyddodd gweithgarwch diwydiannol yn yr ardal, yn arbennig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac i'r ganrif honno y mae'r mwyafrif o'r olion yn perthyn. Buwyd yn gweithio ogofâu wedi'u dymchwel megis Pwll Lower Daw (02289w) ar gyfer cerrig a lleolid chwareli ar wahanol frigiadau eraill. Yn gysylltiedig â'r chwareli hyn ceir nifer fawr o odynau calch y mae'r mwyafrif ohonynt yn dyddio o hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan fu'r diwydiant calchfaen yn ei anterth. Ceir mwynglawdd plwm yn Long Ash yn yr ardal hefyd (02291w), yr ymddengys iddo gael ei weithio ynghyd â mwynglawdd All-Slade, mwynglawdd mwy llwyddiannus gerllaw Brandy Cove. Arweiniodd galw cynyddol am blwm yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg at fwynglawdd plwm Long Ash yn cael ei agor ym 1852 ond ymddengys na chafodd ei weithio ar raddfa fawr (Poucher 2002/2003). Gall adeiladau adfeiliedig yn yr ardal yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fod yn gysylltiedig â'r gweithgareddau hyn. Ymddengys fod adeilad a leolir gerllaw mynedfa'r mwynglawdd plwm (02292w) yn gysgodfan neu'n ysgubor a ddefnyddid yn ddiweddarach fel un o adeiladau'r mwynglawdd. Efallai bod ail adeilad (02296w) sydd mewn cyflwr tra adfeiliedig yn dafarn bach a wasanaethai chwarelwyr yr ardal. Lleolir ty a gardd yn yr ardal hefyd a oedd yn eiddo i rywun o'r enw John Griffin Hancoin; dangosir pob un o'r adeiladau hyn ar y map degwm (Poucher 2002/2003).

Erbyn hyn mae'r ardal hon yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ardal dwristaidd/hamdden ydyw yn bennaf lle y ceir rhodfeydd trwy'r dyffryn coediog a llwybr ceffylau.