The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

083 Clogwyni Newton


Ffoto o'r Clogwyni Newton

HLCA083 Clogwyni Newton

Ymyl arfordirol agored: mannau darganfod; a llwybrau troed. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol clogwyni Newton yn cyfateb i ymyl clogwyn agored ar arfordir de-ddwyreiniol Bro Gwyr rhwng Bae Langland a Bae Caswell, y lleolir y rhan fwyaf ohoni o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Caswell a Bae Langland (SODdGA).

Mae rhan ddeheuol Clogwyni Newton yn cynnwys clogwyn calchfaen serth, sy'n disgyn o uchder o 68m DO i'r marc Penllanw Cymedrig i'r de. Mae'n debyg i'r ardal gael ei defnyddio o'r cyfnod cynhanesyddol; cofnodwyd tomen ysbwriel unigol o ddyddiad anhysbys yn yr ardal (00332w) a gellir casglu, ar sail yr hyn a wyddom am yr ardal oddi amgylch, ei fod yn dyddio o'r cyfnod Cynhanesyddol. Mae dwy fwyell Neolithig (00331w a 00468w) a fflint a ddarganfuwyd yn yr ardal yn dystiolaeth o weithgarwch cynnar. Mae'n bosibl felly fod nodweddion neu arteffactau cynhanesyddol eraill wedi goroesi yn yr ardal, tra dengys darn o arian Rhufeinig (03187w) a ddarganfuwyd yn yr ardal i weithgarwch barhau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Ceir nifer o strwythurau ôl-ganoloesol a modern yn y cyffiniau gan gynnwys strwythur concrid o darddiad milwrol yn ôl pob tebyg (03104w). Gall y strwythur hwn fod yn gysylltiedig â strwythurau amddiffynnol eraill yn ardal gyfagos Trwyn y Mwmbwls a Rotherslade (HLCA 042) sy'n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif tan yr Ail Ryfel Byd. Cloddio calchfaen o wynebau clogwyni ac ogofâu er mwyn ei gludo i fannau eraill ar arfordir De Cymru a Dyfnaint oedd un o'r prif weithgareddau mewn ardaloedd o glogwyni. Cynyddodd y gweithgarwch cloddio hwn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol; ac er na nodwyd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o weithgarwch cloddio yn yr ardal hon mae'n bosibl i galchfaen gael ei gloddio o'r clogwyni hyn megis yn Nhrwyn y Mwmbwls a Phwll Du.