The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

068 Mynydd-bach-y-cocs


Ffoto o Mynydd-bach-y-cocs

HLCA068 Mynydd-bach-y-Cocs

Tir comin agored: ymelwa ar adnoddau naturiol; nodweddion diwydiannol; llwybrau cysylltu; a nodweddion dwr. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Mynydd-bach-y-cocs yn cyfateb i'r tir comin ym mhlwyf Llanrhidian Uchaf i'r gorllewin o Three Crosses rhwng Wernbwll a Wimblewood.

Mae Tir Comin Mynydd-Bach-y-Cocs yn ddarn afreolaidd ei siâp o dir comin sy'n cynrychioli'r hyn sy'n weddill o dir comin y buwyd yn tresmasu arno ar raddfa helaeth yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'n debyg bod yr ardal hon yn rhan o ardal helaethach Mynydd Llwynteg (HLCA 074) i'r de-ddwyrain. Mae darnau eraill o dir comin sy'n weddill yn ardal Penclawdd yn cynnwys yr un yn Wern Fabian a Chefn-bychan.

Yn gorwedd o dan Ogledd Bro Gwyr ceir gwythiennau glo yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ac mae'r ardal hon ychydig yn wahanol o ran cymeriad i ardaloedd yn ne-orllewin Bro Gwyr. Gwyddom fod glo yn cael ei weithio yn ardal Penclawdd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg o leiaf. Cynyddodd gweithgarwch cloddio glo yn sylweddol yn ystod y ddeunawfed ganrif, a châi ei allforio allan o Benclawdd. Buwyd yn gweithio glo ar y darn hwn o dir comin o ganol y ddeunawfed ganrif o leiaf, hefyd adeiladwyd ffordd wagenni ar draws Mynydd-bach (Cooper 1998). Dirywiodd y diwydiant ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg pan ddechreuwyd mewnforio glo i mewn i Benclawdd yn hytrach na'i allforio (Cooper 1986); dim ond i ddiwallu anghenion lleol yr oedd angen glo bellach. Newidiodd ffawd y diwydiant unwaith eto erbyn y 1850au, agorodd nifer o weithfeydd glo hirsefydlog o amgylch Penclawdd a Llanmorlais yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a buont yn ffynnu tan ganol yr ugeinfed ganrif. Sefydlwyd gwaith glo Whitewalls (80416) yn yr ardal hon ym 1940 a bu'n gweithredu tan 1948 pan y'i caewyd yn dilyn llifogydd (Cooper 1998). Nid oes gennym unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd am Waith Glo Whitewalls. Mae argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO hefyd yn dangos rhai chwareli ar gwr yr ardal. Mae'n dra thebyg i'r ardal gael ei defnyddio ar gyfer pori anifeiliaid o'r cyfnod canoloesol ac mae'n debyg bod hynny yn dal i ddigwydd heddiw.