The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

067 Llanrhidian Uchaf


Ffoto o Lanrhidian Uchaf

HLCA067 Llanrhidian Uchaf

Tirwedd amaethyddol, tirwedd anheddu a thirwedd ddiwydiannol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol, afreolaidd yn bennaf; gweithgarwch tresmasu yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; coetir hynafol a thiroedd comin gweddilliol bach; ffiniau traddodiadol; aneddiadau gwasgaredig, y saif rhai ohonynt ar aneddiadau canoloesol cynharach; archeoleg greiriol a chladdedig: aneddiadau canoloesol anghyfannedd, safleoedd eglwysig a chlostiroedd cynhanesyddol; archaeoleg ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llanrhidian Uchaf yn cynrychioli darn o dir amgaeëdig, ac eithrio'r darnau helaethach o Diroedd Comin, i'r gogledd o Diroedd Comin Gwyr, sef Fairwood, Pengwern a Welshmoor ond gan gynnwys rhan ddeheuol plwyf Llanrhidian Uchaf, y rhan honno a leolir i'r de o Afon Morlais, sy'n nodi ffin ogleddol yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Lleolid yr ardal i raddau helaeth o fewn Maenor ganoloesol ddiweddarach Landimôr, a ffurfiai rhan ddwyreiniol y faenor honno, a oedd ar wahân, ar ôl i faenor Weble gael ei chreu. Lleolir ardal Llanrhidian Uchaf yng Ngwyr Is Coed (Sub-boscus) ac yn wreiddiol fe'i lleolid o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.

Mae cyfeiriadau at faen hir cynhanesyddol a ddinistriwyd bellach yn Stone Field (05094w) yn awgrymu efallai fod safle defodol yma yn dyddio o'r Oes Efydd, fodd bynnag, dau glostir o gloddwaith a nodwyd yn ardal Cilonnen (00235w; 00946w), y nodwyd yn betrus eu bod yn dyddio o'r Oes Haearn, yw'r nodweddion cynharaf sydd i'w gweld o hyd yn y dirwedd bresennol.

Tybiwyd bod yr ardal yn rhan o faenor lawer helaethach ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, goroesodd olion yr ystâd fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roi tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig, Llanrhidian, Landimôr a Rhosili erbyn y ddeuddegfed ganrif (Draisey 2002). Mae'n bosibl y gall ardal Llanrhidian Uchaf ei hun gynrychioli'r diriogaeth ehangach a oedd yn gysylltiedig ag un o drefgorddau'r gyn-faenor, a oedd wedi'i chanoli ar Lanrhidian yn ôl pob tebyg (HLCA 022), anheddiad hysbys yn dyddio o'r nawfed ganrif neu o gyfnod cynharach, neu Gil Ifor gerllaw (HLCA 066), Bryngaer yn dyddio o'r Oes Haearn, a ailfeddiannwyd yn ystod y cyfnod canoloesol pan adeiladwyd amddiffynfa gylch ar y safle. Ar ben hynny, mae'n bosibl bod ffiniau maenor ganoloesol ddiweddarach Llanrhidian yn cynrychioli parhad rhaniad tir eithaf hynafol, yn arbennig o gofio i'r ardal syrthio i ddwylo Eingl-Normanaidd trwy iddynt ymbriodi â deiliaid Cymreig lleol yr ardal, yn hytrach na thrwy oresgyniad.

Gwyddom o'r Liber Niger a'r Liber Rubeus i William Turbeville ddal ffi marchog anhysbys, y nodir ei lleoliad yn ei rodd o eglwysi yn Landimôr, Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan tua 1165. Nododd y grant hwn ddaliad mawr a ymestynnai ar hyd arfordir gogleddol Bro Gwyr ac a gyfatebai fwy neu lai i blwyfi Llanrhidian a Cheriton (Landimôr gynt), ac eiddo ar wahân i'r de yn Rhosili. Mae'r Comisiwn Brenhinol yn awgrymu y gall castell amddiffynfa gylch, sef North Hill Tor, a leolir ar benrhyn arfordirol i'r gogledd-ddwyrain o Cheriton, fod wedi gwasanaethau fel caput y teulu Turbeville (RCAHMW 2000, 444-448), fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd mai'r amddiffynfa gylch a leolir yng Nghil Ifor, i'r dwyrain gerllaw Llanrhidian yw safle'r caput (RCAHMW 1991, 117-9).

O'r aneddiadau canoloesol o fewn yr ardal, gwyddom fod Llethrid a Llanelen yn bodoli cyn i'r Normaniaid gyrraedd, yr ymddengys iddynt sefydlu cadarnle yn yr ardal erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif. Ystyrir i aneddiadau amaethyddol eraill megis Penrallt, a Llwyn-y-bwch gael eu sefydlu cyn y cyfnod hwn, er na chadarnhawyd hynny. Dengys tystiolaeth ddogfennol, sef cyfres o roddion a wnaed gan William de Breos ym 1315, fod yr ardal yn cynnwys nifer o ffermydd erbyn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Daliai William ap Richard dir âr yng Nghilonnen, hen 'wely' sefydledig efallai, a gerllaw Bryngwas, tra daliai Rees ap Llewellyn dir yn Gellihir ac mewn mannau eraill. Ymddengys y nodweddid y patrwm anheddu cyffredinol gan ddaliadau yn nwylo un grwp teuluol a ffurfiai'r hyn yr ystyrir ei fod yn 'batrwm anheddu Cymreig nodweddiadol', o ffermydd rhydd-ddaliadol wedi'u gwasgaru yn y dirwedd drwyddi draw (Cooper 1998, 16).

Fodd bynnag, mae patrwm y daliadau o amgylch Wernffrwd ar hyd ymyl arfordirol yr ardal yn wahanol i'r un a ddisgrifiwyd uchod; yma, yn debyg i'r hyn a geir yn y prif anheddiad yn Llanrhidian (HLCA 022) i'r gorllewin, lleiniau gwasgaredig bach mewn caeau agored mwy o faint a geid yn bennaf, y mae'n debyg y caent eu gweithio gan y gymuned yn gyffredinol. Dengys y map degwm yn dyddio o ganol y 19eg ganrif olion cyn-gae cyffredin ar ffurf rhandir sydd wedi goroesi i'r dwryain o anheddiad Wernffrwd. Ategir hyn gan dystiolaeth ddogfennol a ddarparwyd gan roddion y teulu de Breos, lle y rhoddwyd lleiniau bach o dir âr a doldir i Robert de Penres, yn gymysg â thiroedd Cymry, gan gynnwys Adam ap Griffith ap Jeruart, Llewellyn ap Cadwgan, Philip ap Griffith ap Jeruart, ac eraill (Cooper 1998, 16). Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynhwysai Wernffrwd bum fferm, ac mae'n debyg i'r rhain gael eu hadeiladu ar safle ffermydd canoloesol cynharach, cyfeirir at un o'r rhain sef Fferm Banc mewn dogfen yn dyddio o 1594 fel eiddo George Lleison (Cooper 1998, 54). Ceir sefyllfa debyg o amgylch yr hyn a ddatblygodd yn fferm Penrallt yn y diwedd; mewn dogfen ddyddiedig 1472 cyfeirir at fesiwais o dir a roddwyd i Hoskin Thomas yn y lleoliad, a all fod yn un o'r ddau lain-gae a enwir ar y map degwm. Mae'r broses gymhleth a arweiniodd at gyfuno ac amgáu daliadau i'w gweld yn glir ym Mhenrallt. Ym 1601 cynhwysai'r fferm ddau ddaliad a oedd yn eiddo i'r teulu Pritchard a Robert Harry, erbyn 1665, delid y ddau gan y teulu Pritchard. Yn ystod y ddeunawfed ganrif roedd y teulu Pritchard yn meddu ar ddaliadau yn y caeau agored cyffredin a oedd wedi goroesi, er i'r fferm gael ei ymestyn yn raddol i'r de o'r ffordd i Abertawe hefyd, proses a gwblhawyd yn ôl pob tebyg erbyn diwedd y ganrif. Unwaith eto ym 1775 isrannwyd y fferm (rhwng John Lucas a Evan Long). Yn ddiweddarach, unwyd y fferm unwaith eto, a throwyd ffermdy Eastern Penrallt yn fwthyn (Cooper 1998, 104-105). Ymdriniwyd â hanes datblygiad amaethyddol yr ardal ynghyd â throsolwg o aneddiadau amaethyddol yr ardal, yn bur fanwl gan Cooper (1986, 78-92).

Mae cryn dipyn o storïau a chwedlau yn gysylltiedig â'r anheddiad yn Llanelen (00234w; 305611; SAM GM376); darperir tystiolaeth gadarn gan ddogfennau cynnar megis y rhai dyddiedig 1318 a 1327 sy'n cofnodi rhoddion tir yn Llanelen i Robert de Penres a Thomas Day. Caniataodd gwaith cloddio a wnaed ym 1975, a 1985, archwilio'r eglwys, sy'n dyddio o'r chweched ganrif neu'r seithfed ganrif ac y rhoddwyd y gorau i'w defnyddio erbyn tua 1210; fe'i trowyd yn ffermdy yn ddiweddarach, a barodd o bosibl rhwng tua 1240 a thua 1350. Darganfuwyd claddedigaethau (05292w), sy'n dyddio o bosibl o ddechrau'r cyfnod canoloesol, mewn cysylltiad â safle'r capel. Awgrymai sorod haearn a ddarganfuwyd, sy'n gysylltiedig â chyfnod y fferm ddiweddarach, efallai fod gweithio mwyn haearn yn elfen bwysig yn economi'r fferm; ymchwiliodd gwaith cloddio pellach a wnaed ym 1997, yn sgîl gwaith arolygu geoffisegol, i natur ddiwydiannol ac amaethyddol y fferm yn Llanelen. Llwyfan golosg oedd y prif ddarganfyddiad, sy'n arwydd o ecsbloetio amgylchedd a gynhwysai goetir yn bennaf, yn benodol ar gyfer gweithgynhyrchu golosg, ond y gellid ei ddefnyddio at nifer fawr o ddibenion cysylltiedig. Rhagdybiwyd y gallai'r tir ffermio mewn rhan helaeth o'r ardal hon fod wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu coed a chynhyrchion cysylltiedig; er enghraifft, ym 1338, gwyddom i Rolias Rivyd, coediwr, ennill £3 10s, am werthu coed. Mae presenoldeb sorod a ddatgelwyd gan y gwaith cloddio cynharach yn Llanelen, yn awgrymu bod rhywfaint o weithgarwch toddi haearn yn digwydd yn yr ardal, tra ei bod yn debyg hefyd bod gweithgarwch prysgoedio a gweithgynhyrchu clwydi ar y safle hefyd yn digwydd yma; ar ben hynny defnyddid y coetir yn dymhorol ar gyfer pori anifeiliaid (yn arbennig moch) a chasglu ffrwythau'r goedwig. Mae economi amrywiol yn seiliedig ar batrwm o ffermio ynghyd â gweithgarwch cynhyrchu diwydiannol gwledig ar raddfa fach yn senario posibl ym mhob rhan o Lanrhidian Uchaf, gan gynnwys ?? a gogledd Bro Gwyr yn gyffredinol (Kissock 1991, 130-147; Schlesinger ac eraill 1995, 58-79; Kissock ac eraill 2002, 39-47; Cooper 1998, 20-22).

Astudiwyd y dirwedd a dadansoddwyd gwrychoedd; o ganlyniad llwyddwyd i lunio cronoleg ar gyfer datblygiad y patrwm caeau o fewn yr ardal. Dangosodd Kissock (1991) i'r broses dresmasu (asartio) ar goetir ddechrau ar hyd y lan ogleddol gerllaw Llanelen a Wernffrwd, ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg neu ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn ôl pob tebyg. Nid oes fawr ddim tystiolaeth bod asartau newydd wedi'u creu rhwng tua 1300 a thua 1550, ac mae hynny yn arwydd o fwlch clir mewn gweithgarwch ac ehangu amaethyddol; ymddengys fod Cilonnen a Wernffrwd wedi'u clirio erbyn tua 1300 a'r ffermydd yn Llanelen, Bryngwas a Llwyn-yr-Awst, ychydig yn ddiweddarach. Ac eithrio Fferm Kyngy (cyn 1400), ni chredir i unrhyw ffermydd newydd gael eu sefydlu cyn fferm Morlais tua 1550. Yn ystod hanner cyntaf yr unfed ganrif ar bymtheg crëwyd ffermydd Rallt (tua 1625), Gelli Groes (tua 1630), Fferm Fairwood Corner (cyn 1650) a Fferm Little Hills (cyn 1650), tra ymddengys fod ffermydd Wimblewood, a Bryncoch wedi hen ymsefydlu erbyn tua 1700. Ar hyd cwr gogleddol Mynydd Llwynteg a Fferm Little Hills, mae siâp hanner-cylchog ffiniau'r fferm, ynghyd â gwaith a wnaed i ddadansoddi rhywogaethau'r gwrychoedd, yn awgrymu i'r daliadau hyn gael eu creu o laswelltir agored y tir comin. Credir i'r rhan fwyaf o'r gweithgarwch asartio yn ne Gwyr Is Coed (Sub-boscus) ddigwydd rhwng y bymthegfed ganrif a'r ail ganrif ar bymtheg; awgrymir i'r ffermydd ar hyd cwr gogleddol Mynydd Llwynteg, neu ran fwyaf deheuol yr ardal, gael eu sefydlu yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg (Kissock 1991, 130-147).

Mae Kissock hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd natur amrywiol economi amaethyddol yr ardal, a châi tir âr a thir nad oedd yn dir âr ei ecsbloetio ynghyd ag adnoddau eraill, megis cerrig, clai, glo, mwyn haearn a choetir. Dangosir hyn gan ddaliadau Cilonnen a Bryngwas, lle y buwyd yn cloddio glo i ychwanegu at incwm o dir amaethyddol gwael; gwyddom fod pyllau glo yn y ddau leoliad hyn erbyn yr ail ganrif ar bymtheg. Adlewyrchir y patrwm o amaethyddiaeth a diwydiant cymysg yn y dystiolaeth ddogfennol o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg, megis dogfennau yn cofnodi proses erlyn Richard Seys ym 1641 am gloddio glo yn anghyfreithlon ar ei fferm ym Mhenllwyn Robert (Kissock 1991, 144).

Mae union leoliad nifer o'r daliadau canoloesol y gwyddom eu bod wedi'u lleoli yn yr ardal, megis daliad o'r enw Llwyn-yr-Awst, bellach yn aneglur, sydd i'w briodoli'n rhannol, mae'n debyg, i ansefydlogrwydd yr economi amaethyddol leol, yn ogystal â newidiadau a achoswyd gan ddiwydiannu datblygol. Cynhwyswyd y tiroedd a oedd yn gysylltiedig â fferm gynharach Kyngy, y gwyddom ei bod yn perthyn i rywun o'r enw David Robert Hopkin, yn ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg, o fewn tiroedd Gelli-on yn ddiweddarach, y ceir sôn amdani yn gyntaf ym 1722 (Cooper 1998, 57).

Lleolid y mwyngloddiau cynharaf yn yr ardal yn yr ardal rhwng Wernffrwd a Chilonnen a chofnodir gweithgarwch cloddio glo afreolaidd yn yr ardal o amgylch Wernffrwd drwy gydol y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, mae arolwg dyddiedig 1665 yn cyfeirio at weithfeydd ar y morfa, tra gwyddom fod Llyson Price yn gweithredu yn yr ardal o amgylch Wernffrwd ym 1668, gan weithio'r Lynch Field yn ôl pob tebyg, sef terfyn gorllewinol y brigiad glo, a'r ardal gerllaw nant Wernffrwd. Roedd gweithfeydd bryd hynny yn seiliedig ar gymysgedd o dyllau cnwd cyntefig bas, pyllau cloch a mwyngloddiau slant. Credir bod y rhain yn cynnwys gweithfeydd yn Cae Inner, a elwir hefyd yn Cae Joiner. Yn ystod y ddeunawfed ganrif cloddiwyd gweithfeydd tyllau dyfnach o amgylch Llanmorlais a Wernffrwd, er bod llifogydd yn broblem fawr, a waethygwyd gan gloddfeydd prawf, ac ym 1795 arweiniodd damwain ddifrifol yn Wernffrwd at farwolaeth pedwar glöwr. Yn raddol daeth cost y systemau pwmpio mecanyddol ym mwyngloddiau Cilonnen wrth iddynt geisio gweithio gwythiennau dyfnach yn aneconomaidd yn wyneb cystâdleuaeth gan Abertawe ac erbyn 1810 roedd gweithgarwch cloddio wedi dod i ben, fwy neu lai, ac roedd yn eratig ar ôl hynny. Parhaodd llifogydd i fod yn broblem fawr yn yr ardal, a achoswyd yn aml trwy dorri i mewn i hen weithfeydd, fel y digwyddodd yn Wernffrwd ym 1861, pan gollodd dau ddyn eu bywydau; roedd nwy hefyd yn berygl cyffredin (Cooper 1998, 54, 72-76, 78-79; Cooper 1986, 36-47).

Adfywiodd dyfodiad y rheilffordd i Lanmorlais ym 1863, weithrediadau glo yn yr ardal, a ymestynnai y tu hwnt i Lanmorlais i mewn i Ddyffryn Morlais a rhwng 1880 a 1914 roedd gweithgarwch cloddio glo unwaith eto yn ffactor allweddol yn economi'r ardal. Lleolid un ar bymtheg o'r 35 o weithfeydd glo y nododd WG Davies a Cooper eu bod yn gweithredu yn Llanrhidian rhwng 1800 a 1950 yn yr ardal; cynhwysai pedwar o'r rhai cynharaf Bwll Glo Llanmorlais (05759w) a fu'n gweithio Gwythiennau Big a Froglane rhwng 1820 a 1881, Pwll Glo Lynch, a fu'n gweithio Gwythïen Lynch rhwng 1850 a 1855, cyn iddi gael ei dihysbyddu, a Phwll Glo Old Llanmorlais, a fu'n gweithredu Gwythiennau Four Feet a Big, rhwng 1880-1885 a 1890-1900, cyn iddo gau oherwydd llifogydd. Mae ty injan adfeiliedig Gwaith Glo Cwm Vale y credir ei fod yn gweithredu tua 1880, ac a fu'n gweithio Gwythiennau Big a Froglane rhwng 1911 a 1918 i'w weld o hyd mewn coetir gerllaw Penllwyn Robert. Roedd gweithfeydd glo Llanmorlais, Old Llanmorlais, a Cwm Vale wedi'u cysylltu gan dramffordd â'r rheilffordd yn Llanmorlais (Cooper 1986, 47-52, 96; Cooper 1998, 78-81).

Ymddengys fod y mwyafrif o'r tai cynnar ar gyfer gweithwyr diwydiannol, megis tai gweithwyr amaethyddol tlawd yr ardal, ar ffurf bythynnod a adeiladwyd ar dir y tresmaswyd arno ar hyd ymylon ffyrdd. Trwy gydol y cyfnod ôl-ganoloesol ymddengys i weithgarwch diwydiannol gynyddu, yn arbennig yn yr ardal o amgylch Wernffrwd a Llanmorlais (yn fwy felly o amgylch Crofty a Phenclawdd i'r dwyrain), ac roedd Thomas Mansel, John Lucas a Gabriel Powell yn gweithio nifer o byllau glo yn Llanmorlais erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif; fodd bynnag ar y dechrau nid adlewyrchwyd cyflymder y twf diwydiannol gan dwf cyfatebol mewn tai ar gyfer gweithwyr yn gweithio yn y pyllau glo, a hyd yn oed mor ddiweddar ag ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cynhwysai'r anheddiad yn Llanmorlais dri bwthyn, tai glowyr a physgotwyr, yn ogystal â Fferm Llanmorlais (Cooper 1998, 57-58). Ymddengys mai dim ond yn dilyn dyfodiad y rheilffordd i Benclawdd ym 1863 y dechreuodd yr anheddiad yn Llanmorlais ehangu ar raddfa fawr; datblygwyd Station Road yn gyntaf, wedyn ehangodd yr anheddiad i gynnwys rhes o siopau ar ôl 1886 a swyddfa bost erbyn 1911. Yn fwy diweddar cafwyd datblygiadau mewnlenwi a datblygwyd ystâdau o amgylch Llanmorlais, a newidiodd gymeriad yr anheddiad ymhellach.