The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

065 Lunnon


Ffoto o Lunnon

HLCA065 Lunnon

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ganoloesol/ôl-ganoloesol a chyn-faenor/canolfan faenoraidd ganoloesol dros ran o'r parc ceirw: caelun rheolaidd yn bennaf; ffiniau traddodiadol; ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg greiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Lunnon yn cynrychioli tir amgaeëdig ffi Lunnon; y rhan honno o gyn-barc ceirw Park le Breos, a beidiodd â bod yn barcdir gyntaf. Gorweddai'r ardal gyfan o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.

Mae darganfyddiadau gwasgaredig yn awgrymu bod pobl yn byw yn yr ardal ac yn ei defnyddio ers y cyfnod cynhanesyddol, tra mai clostir yn dyddio o'r Oes Haearn (00303w) a leolir uwchlaw Parkmill, yn edrych dros Dyffryn Ilston, yw'r nodwedd gynharach y gwyddom amdani yn yr ardal. Mewn gwirionedd nid oes gennym fawr ddim gwybodaeth bendant am ddatblygiad yr ardal cyn iddi gael ei throi'n barc yn y cyfnod canoloesol, a'r unig gyfeiriad uniongyrchol ati yw un at bresenoldeb coetir yn y 1220au.

Disgrifir hanes y parc, y modd y cafodd ei rannu a'i ddatblygu wedyn, yn fanwl gan Leighton (1999). Roedd y parc, a sefydlwyd ym 1221-32, yn un o asedau Arglwyddiaeth y Gororau yng Ngwyr. Mae olion ffens y parc, a oedd yn balis pren yn wreiddiol wedi'i osod ar glawdd â ffos o bobtu iddo, wedi goroesi mewn gwahanol fannau o amgych ei ffin. Ar ôl i'r teulu de Breos ddod i ben yn y 1320au, roedd arglwyddi Gwyr fel arfer yn absennol o'r arglwyddiaeth ac mae'n debyg i weithgarwch ffermio ceirw ddechrau leihau. Yn ddiweddarach hanerwyd maint y parc, fwy neu lai, pan drowyd y rhan ddwyreiniol (HLCA 065) yn fferm faenoraidd neu'n faenor cyn 1337; a ffurfiai safle tebygol y 'Grangia de Lunan' fel y'i gelwir mewn adroddiad ariannol ar gyfer 1337-8.

Parhaodd rhan orllewinol (HLCA 064) y parc llai o faint i weithredu fel parc ceirw tan tua 1400, er ei bod yn cael ei datblygu erbyn 1551, wrth i ddaliadau gael eu cerfio allan, proses a gwblhawyd erbyn 1650.

Gwnaed defnydd dwys o'r tir yn y rhan hon o'r parc mewn cyferbyniad â HLCA 064 a sefydlwyd caeau agored ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg. Trwy ddadansoddi gwrychoedd nodwyd bod y broses amgáu yn dyddio at ei gilydd i'r cyfnod cyn canol yr ail ganrif ar bymtheg. Mae Leighton yn nodi bod y patrwm caeau modern yn Lunnon yn awgrymu i'r system o gaeau agored gael ei chyfuno yn raddol i greu amgaefeydd, proses a oedd yn dal i fynd rhagddi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg roedd y daliadau i'r gogledd o'r ardal, a ffurfiodd y sail ar gyfer ffermydd cyfredol yn ddiweddarach, wrthi'n cael eu sefydlu ac mae tystiolaeth ddogfennol yn nodi bod lleiniau amgaeëdig i'w cael yn Furzehill, Pengwern erbyn 1600, ac yn Willoxton cyn 1650. Byddai gwaith dadansoddi gwrychoedd a wnaed yn yr ardal yn awgrymu bod y caeau o amgylch Lunnon, y pentref, yn gysylltiedig â gweithgarwch amgáu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, tra bod gwrychoedd toreithiog eu rhywogaethau o amgylch Willoxton yn awgrymu proses o glirio coetir, neu asart, i greu mwy o dir âr a gyflawnwyd erbyn y bymthegfed ganrif fan bellaf. Roedd y broses amgáu hon yn gysylltiedig â chynnwrf cymdeithasol ac fe'i gwrthwynebwyd yn aml gan denantiaid yn ôl y ddefod, fel y digwyddodd yn y 1580au, pan geisiodd swyddogion Iarll Caerwrangon amgáu llain o dir pori demên a elwid yn Inlease, y credir ei bod yn cyfateb i Furzeland heddiw (Leighton 1999, 71-79; Leighton 2004, 29-47; Edwards, Leighton, a Llewellyn 2006, 260-269; Kissock 1991, 130-147).