The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

064 Parc le Breos


Ffoto o Barc le Breos

HLCA064 Parc le Breos

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a chyn-barc ceirw canoloesol: caeau afreolaidd a ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg greiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; canolfan eglwysig/maenoraidd ganoloesol ragdybiedig. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc le Breos yn cynrychioli ardal y parc ceirw erbyn 1650, ar ôl i'r rhan ddwyreiniol gael ei cholli i weithgarwch anheddu ac amaethu.

Gorweddai'r ardal gyfan o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, o fewn Sir Morgannwg.

TBu pobl yn byw yn yr ardal ac yn ei defnyddio ers y cyfnod cynhanesyddol, fel y tystia casgliadau o ddeunydd yn dyddio o'r Cyfnod Paleolithig Uchaf a'r Cyfnod Mesolithig gan gynnwys microlithiau o Ogof Cathole (00231w; 305612; SAM GM349), tra cafwyd darganfyddiadau yn dyddio o'r Oes Efydd, gan gynnwys arfau fflint ac asgwrn ac olion dynol, o Ogof Llethrid Tooth (00230w; 305613; SAM GM284), sydd hefyd yn yr ardal.

Beddrod Siambrog Neolithig Parc Cwm (00251w; 93072; SAM GM122), bedd cyntedd, a gloddiwyd ym 1869 a 1970 ac a ailadeiladwyd ar ôl hynny, yw prif nodwedd yr ardal. Mae'r heneb hon yn cynnwys prif gyntedd sy'n ymestyn o'r Gogledd i'r De a chanddo ddwy siambr ar y naill ochr a'r llall iddo, sydd i gyd wedi'u hadeiladu'n bennaf o orthostatau wedi'u mewnlenwi â cherrig sych patrymog, wedi'u gosod mewn twmpath o gerrig llanw sydd â wal gynhaliol o gerrig sych patrymog, sy'n agor i ffurfio blaengwrt cul ar ffurf cloch wrth y fynedfa i'r cyntedd. Ymhlith y darganfyddiadau a gafwyd ym 1869 o'r beddrod roedd olion dynol yr aseswyd eu bod yn cynrychioli rhwng 20 i 24 o unigolion, pob un ohonynt yn oedolion ar wahân i dri, ac a symudwyd y naill ar ôl y llall gan gladdedigaethau diweddarach. Ar wahân i esgyrn anifeiliaid, roedd darganfyddiadau eraill yn gyfyngedig i ddarnau o 'grochenwaith Neolithig Gorllewinol plaen' (RCAHMW 1976a, (36) 34-35; Evans 2002).

Er bod y celc o ddarnau arian yn arwydd o rywfaint o weithgarwch anheddu yn ystod y cyfnod Rhufeinig, nid oes unrhyw dystiolaeth o anheddu wedyn tan y cyfnod canoloesol. Nodwyd safle cyn-gapel canoloesol, Church Hill (00274w; 300041) a chlostir (00301w; 300040) a leolir yng Nghoedwig Park yn betrus fel cyn-ganolfan faenoraidd/eglwysig bosibl a oedd yn perthyn i Faenor Penmaen, y tybiwyd iddi gael ei symud pan drowyd yr ardal yn barc ceirw yn y drydedd ganrif ar ddeg (Toft 1989). Gall clostir ôl cnwd Willoxton (86927), fod yn gysylltiedig â'r anheddiad a fodolai cyn y parc hefyd, ond ar hyn o bryd ni wyddom a yw'r clostir hwn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol neu o gyfnod cynharach. Mewn gwirionedd ychydig o wybodaeth bendant sydd gennym am ddatblygiad yr ardal cyn iddi gael ei throi'n barc, a'r unig gyfeiriad uniongyrchol ati yw un at bresenoldeb coetir yn y 1220au.

Disgrifir hanes y parc, y modd y cafodd ei rannu a'i ddatblygu wedyn, yn fanwl gan Leighton (1999). Roedd y parc, a sefydlwyd ym 1221-32, yn un o asedau Arglwyddiaeth y Gororau yng Ngwyr. Mae olion ffens y parc (02824w; 300001), a oedd yn balis pren yn wreiddiol wedi'i osod ar glawdd â ffos o bobtu iddo, wedi goroesi mewn gwahanol fannau o amgych ei ffin. Ar ôl i'r teulu de Breos ddod i ben yn y 1320au, roedd arglwyddi Gwyr fel arfer yn absennol o'r arglwyddiaeth ac mae'n debyg i weithgarwch ffermio ceirw ddechrau leihau. Yn ddiweddarach hanerwyd maint y parc, fwy neu lai, pan drowyd y rhan ddwyreiniol (HLCA 065) yn fferm faenoraidd neu'n faenor cyn 1337. Parhaodd rhan orllewinol y parc llai o faint i weithredu fel parc ceirw tan tua 1400, er ei bod yn cael ei datblygu erbyn 1551, fel y noda prydles yn dyddio o'r cyfnod hwn, wrth i ddaliadau gael eu cerfio allan i ffurfio'r patrwm caeau presennol. Erbyn 1650 roedd y parc wedi'i rannu'n dri daliad prydles: sef 'Longe Oaks, Lytherid a Park Price'. Yn ddiweddarach daeth yr arglwyddiaeth i feddiant y teulu Worcester a dugiaid Beaufort, er i ffermio a gweithgarwch rheoli coetir ddisodli gweithgarwch magu ceirw. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg caffaelodd y teulu Vivian ran sylweddol o'r parc gyda'r bwriad o adfywio'r ystâd hela yn Parc le Breos (Leighton 1999, 71-79; Edwards, Leighton, a Llewellyn 2006, 260-269; Kissock 1991, 130-147).