The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

063 Walterston


Ffoto o Walterston

HLCA063 Walterston

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a chyn-faenor ganoloesol: caeau ôl-ganoloesol a llain-gaeau canoloesol gweddilliol; ffermwydd gwasgaredig; anheddiad canoloesol anghyfannedd; prysgwydd a choetir; archeoleg gladdedig Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Walterston yn cyfateb i gyn-faenor Walterston a leolid rhwng Cefn Bryn a Parc le Breos, a gynhwysai gyn-faenor ganoloesol Walterston.

Ar hyn o bryd ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal hon cyn cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, mae gan ardal gyfagos Cefn Bryn (HLCA038) gyfoeth o dystiolaeth yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig hyd yr Oes Haearn.

Yn ystod y ddeuddegfed ganrif delid maenor Walterston gan William de Barri, fodd bynnag, roedd William Turberville eisoes wedi rhoi'r capel (05266w) yn Walterston ynghyd ag eglwys Llanrhidian i Farchogion Sant Ioan (Rees 1984) er hynny hawliai'r teulu de Barri nawdd y capel iddynt eu hunain (Toft 1996). Dyfelir y gall ei chysylltiad â Llanrhidian olygu i'r capel yn Walterston gael ei sefydlu cyn y Normaniaid (Toft 1996). Mae dogfen yn dyddio o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif a luniwyd gan Esgob Peter de Leia yn cadarnhau i William de Barri roi deg erw ar hugain o dir ym maenor Walterston i'r Urdd Sistersaidd yn Abaty Nedd (Toft 1989) am rent blynyddol o bedwar cnu dafad. Cyn 1250, cyfnewidiodd yr Abaty rywfaint o dir yng Ngwlad yr Haf am y Faenor gyfan (Toft 1996). Roedd cysylltiad agos rhwng y faenor hon â Maenor Cillibion gerllaw (HLCA 070), a berthynai i'r Urdd Sistersaidd yn Abaty Nedd hefyd ac a ddelid fel un ffi marchog. Gwyddom fod dau anheddiad i'w cael o fewn y faenor; sef anheddiad y faenor (05201w; 00902w; 27970) a hefyd anheddiad lleyg Villa Walteri, mae union leoliad y pentref canoloesol yn anhysbys, fodd bynnag, nododd y RCAHMW gornel dde-orllewinol yr ardal fel safle pentref anghyfannedd (00882w).

O dystiolaeth ddogfennol gellir casglu bod y deg ar hugain o erwau gwreiddiol a ddelid gan Abaty Nedd yn cyfateb i'r darn de-ddwyreiniol o dir a elwid yn 'the sleng' yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Cymerwyd y dystiolaeth hon o'r map degwm yn bennaf am fod tir a berthynai i'r faenor yn rhydd o'r degwm eglwysig a pharhaodd felly tan ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Toft 1996). Roedd tir a gafwyd ar ôl 1215 yn rhydd o'r degwm dim ond os nad oedd wedi cael ei amaethu erioed o'r blaen. Mae'n bosibl o'r bedwaredd ganrif ar ddeg i'r tir gael ei osod ar brydles yn hytrach na chael ei weithio'n uniongyrchol gan y mynachod. Arweiniodd diddymu Abaty Nedd ym 1539 at yr ardal yn cael ei gosod ar brydles i Syr Richard Cromwell; yn ddiweddarach prynwyd maenorau Walterston a Cillibion gan David Jenkins a John a William Price (Rees 1984).

Cofnododd arolwg o'r faenor a awdurdodwyd gan John Price ym 1689 fod y rhan fwyaf o'r tir demên yn cael ei dal gan denantiaid ar brydles yr oedd ganddynt yr hawl i dorri eithin a rhedyn a phori gwartheg ar y tir comin. Mae'r arolwg hwn hefyd yn rhoi syniad o'r amrywiaeth o gynnyrch amaethyddol yn Walterston, gan gynnwys yd, gwair, cywarch, llin, hopys, mêl ac afalau (Rees 1984). Erbyn 1723 roedd maenor Walterston wedi cael ei gwahanu oddi wrth Cillibion trwy ei gwerthu i Thomas Mansel, y trosglwyddwyd ei hetifeddiaeth i'r teulu Talbot ym 1750 (Rees 1984). Dengys arolwg o ystâd Pen-rhys ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fod y cyfan o'r gyn-faenor ar wahân i'r rhan fwyaf gogleddol ohoni ym meddiant ystâd Pen-rhys (ac felly bryd hynny i Thomas Mansel Talbot), a bod y gweddill yn perthyn i Ystâd Gellihir a oedd yn eiddo i'r teulu Price ac wedyn y teulu Vivian yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Roedd yr ardal yn dal i fod yn gysylltiedig â Llanrhidian ac fe'i hymgorfforwyd yn ei blwyf ac adeg y map degwm (1846) roedd ystâd Pen-rhys yn eiddo i Christopher Rice Mansel Talbot. Arweiniodd y penderfyniad i werthu ystâd Pen-rhys yng nghanol yr ugeinfed ganrif at yr ardal yn cael ei phrynu gan nifer o ffermwyr, yr oedd llawer ohonynt yn dal y tir fel tenantiaid bryd hynny.

Mae Toft (1996) yn awgrymu bod yr anheddiad i'r de o'r ardal yn gysylltiedig â'r faenor a bod Villa Walteri â chapel wedi'u lleoli yn y cyfnod canoloesol gerllaw canolbwynt y tiroedd gerllaw cae a elwir yn Cross lands, fodd bynnag, ni nodwyd unrhyw olion eto yn yr ardal hon. O'r cyfnod ôl-ganoloesol, roedd aneddiadau wedi'u cyfyngu i raddau helaeth i ffiniau'r ardal â Chefn Bryn. Dengys map John Williams dyddiedig 1785 nifer o fythynnod a chrofftydd yn arbennig ar hyd y ffin ddeheuol, sy'n cyfateb i ardal y pentref anghyfannedd a nodwyd gan y RCAHMW. Mae'r map hefyd yn dangos rhai safleoedd adfeiliedig, gan gynnwys safle Wayn Leverieth, safle cae yn ddiweddarach a elwir yn Leverieth Croft ar y map degwm. Mae'n bosibl bod yr anheddau hyn yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg o leiaf ac maent i'w gweld o hyd ar fap degwm 1846 ynghyd â rhai ffermdai newydd. Ymddengys mai Little a Great Walterston (02142w) oedd y ffermydd mwyaf dylanwadol bryd hynny, y mae'r ddwy ohonynt i'w gweld o hyd ynghyd â Bryngwyn sy'n ffurfio bron y cyfan o'r anheddiad heddiw. Dyma'r sefyllfa ers dechrau'r ugeinfed ganrif, fodd bynnag, dinistriwyd y fferm gynharach yn Little Walterston (300039) gan dân ym 1974 ac ni chofnodwyd a yw olion cynharach wedi goroesi.

Buwyd yn cyfuno'r daliadau amaethyddol o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen a phrin yw'r olion o system o lain-gaeau heddiw. Yn ddiau mae'r system gaeau bresennol yn un greiriol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol er bod mwy o gaeau wedi'u cyfuno o gymharu â map ystâd 1785 ac mae'n dra thebyg i fap degwm 1846. Fodd bynnag, mae'n debyg bod i ffiniau'r caeau a welir heddiw gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol.