The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

059 Cwrs Golff Bae Langland


Ffoto o'r Cwrs Golff Bae Langland

HLCA059 Cwrs Golff Bae Langland

Cyn-dirwedd amaethyddol a ail-fodelwyd ac a gynlluniwyd: twristiaeth a hamdden; cyn-nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwrs Golff Bae Langland yn cynnwys cwrs Golff Bae Langland a'r parc cabanau gwyliau yn Summercliff.

Arferai'r ardal hon, a leolir ychydig i'r de-orllewin o Newton, gynnwys tir amaethyddol o fewn tirwedd amaethyddol ehangach plwyf Ystumllwynarth a llain o dir heb ei wella ar gyfer pori anifeiliaid ar hyd ymyl y clogwyn. Erbyn hyn Fferm Longland yw safle'r clwb ac ymddengys fod yr adeilad presennol yn estyniad o'r un a ddangosir ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO. Ni wyddom i ba raddau y mae strwythurau gwreiddiol wedi goroesi. Dengys map degwm 1844 yr ardal fwy neu lai fel y'i dangosir ar argraffiad cyntaf map yr AO er bod y map degwm yn dangos mwy o lain-gaeau sydd wedi goroesi o amgylch Longland. Mae'n debyg i'r patrwm caeau gael ei raddol gyfuno o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg. Dangosir Bwthyn Cliff (583) ar y map degwm hefyd ac mae'n dal i sefyll heddiw, nid oes gennym unrhyw wybodaeth bellach. Mae argraffiad cyntaf map yr AO hefyd yn dangos dwy hen odyn galch a chwarel ar gyrion yr ardal.

Parhaodd ffiniau'r caeau yn ddigyfnewid tan 3ydd argraffiad map yr AO o leiaf ac ymddengys na wnaed fawr ddim gwaith pellach i gyfuno caeau erbyn y dyddiad hwnnw er i'r ardal gael ei sefydlu fel cwrs golff ym 1901 ac er gwaethaf cyfeiriadau at golff yn cael ei chwarae yma yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nodir 'Golf Course' ar drydydd argraffiad map yr AO. Ymddengys i glwb gael ei sefydlu ym 1901, ac eto nid agorwyd y cwrs golff yn swyddogol tan 1904; mae cofnodion cyfarfodydd yn cofnodi'r dyddiadau hyn (www.langlandbaygolfclub.com). Aildirluniwyd yr ardal ers hynny, ac adnewyddwyd y clwb yn 2003. Lleolir parc cabanau gwyliau Summercliff yng nghornel ogledd-orllewinol y parc.