The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

057 Penmaen


Ffoto o Benmaen

HLCA057 Penmaen

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf a chanolfan faenoraidd: datblygiadau strimynnog a ffermydd gwasgaredig; safleoedd eglwysig canoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; a phrysgwydd a choetir. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Penmaen yn cynrychioli tirwedd amaethyddol cyn-blwyf Penmaen ac eithrio maenor Pen-y-fai neu Parc le Breos a oedd ar wahân.

Ar hyn o bryd ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth archeolegol ar gyfer yr ardal hon sy'n gynharach na'r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, mae nifer o safleoedd yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol i'w gweld yn ardaloedd cyfagos Cefn Bryn (HLCA 038) a Thwyni Tywod Penmaen (HLCA 058).

Gorweddai'r ardal hon yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, a oedd yn israniad o Gantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o blwyf Penmaen (ynghyd â rhan o ardaloedd HLCA 058 a 064) yng Nghantref Abertawe, o fewn Sir Morgannwg. Rhestrir Penmaen fel 'hen ffiff marchog' o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf. Mae hanes cynnar Penmaen yn aneglur ac mae ei leoliad yn peri cryn ddryswch. Cyfeirir at 'dreflan Penmaen' mewn hysbysiad tir yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg yr awgrymodd Toft (1989) ei bod wedi'i lleoli ar gyrion Parc le Breos yn Church Hill. Mae'r ffaith bod eglwys wedi'i lleoli ar y twyni tywod a'r cyfeiriad at ddwy dreflan yn ffi Penmaen; sef Worlang a Phenmaen mewn dogfen yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (Toft 1989) yn cymhlethu pethau ymhellach. Mae Seyler (1920) yn dadlau mai pentref presennol Penmaen oedd lleoliad treflan Worlang, neu Stedworlango a rhoi ei enw llawn iddi. Felly gellid dweud i'r anheddiad gwreiddiol gael ei symud o Church Hill i'r twyni tywod i sicrhau diogelwch parcdir Parc le Breos (Toft 1989), ar ôl i'r anheddiad ar y twyni tywod gael ei orchuddio â thywod o'r bedwaredd ganrif ar ddeg ymlaen, Stedworlango oedd y prif anheddiad wedyn y daethpwyd i'w alw yn Benmaen. Fodd bynnag, mae hyn yn dal i fod yn fater o ddyfalu ac mae angen gwneud rhagor o ymchwil i'r pwnc. Mae'n debyg y dylid rhoi sylw i darddiad yr enw Penmaen, am yr ymddengys ei fod yn cyd-fynd â lleoliad arfordirol.

Mae'r eglwys (00294w) ym mhentref presennol Penmaen wedi'i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr a chredir iddi gael ei hadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar ddeg pan adawyd yr eglwys ar y twyni tywod. Symudwyd y rhan fwyaf o adeiladwaith gwreiddiol yr eglwys yn ystod gwaith ailadeiladu rhwng 1854-55, yn ystod y gwaith hwn darganfuwyd carreg fedd yn dyddio o 1623 o dan yr allor sy'n manylu ar gysylltiadau teuluol yr ardal â'r teulu David neu Davies disgynyddion Iustin ap Gwrgan cyn-Arglwydd Morgannwg yn yr unfed ganrif ar ddeg (Orrin 1979), cyfeirir at dir Llan sy'n gysylltiedig â'r eglwys o'r ail ganrif ar bymtheg o leiaf.

O'r ail ganrif ar bymtheg, os nad ynghynt, delid Maenor Penmaen gan y teulu Mansel (Morris gol 2000); dechreuwyd cyfuno tir a gâi ei osod ar brydles fel rhandiroedd o'r cyfnod canoloesol o'r cyfnod hwn ymlaen. Ni ddengys map degwm 1844 fawr ddim olion o system o lain-gaeau ac mae'r caelun presennol yn cyfateb fwy neu lai i'r un a ddangosir ar y map degwm er bod rhai ffiniau caeau wedi'u gwaredu. Ceir ardaloedd o goetir a phrysgwydd o hyd. Prin iawn oedd yr aneddiadau yn yr ardal tan yr ugeinfed ganrif. Ni chynhwysai ond clystyrau o fythynnod o amgylch y croesffyrdd a ffermydd wedi'u gwasgaru ar hyd y priffyrdd a chwr y tir comin yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gellir gweld bod yr ardal o amgylch yr eglwys yn wag ar y map degwm. Mae ffermydd sy'n dyddio o'r cyfnod hwn a'r rheiny a sefydlwyd ar ffermydd cynharach yn cynnwys Fferm Northill, ffermdy Penmaen (LB 23549 II), Hillside, Bwthyn Cefn-bryn (02718w; 18268) a Thy Penmaen (02719w; 19655) ymhlith eraill. Ni thyfodd y pentref fawr ddim tan chwarter olaf yr ugeinfed ganrif ar wahân i ddau ychwanegiad, sef ysgol a thloty Undeb Gwyr (96318); adeiladwyd yr olaf ym 1860. Mae argraffiad cyntaf map yr AO hefyd yn dangos nifer o chwareli ac odynau calch. O 1974 cafwyd datblygiadau strimynnog ar hyd y prif lwybrau yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin ac ar hyd cwr y tir comin yng Nghefn Bryn. Cafwyd datblygiadau mwy diweddar i'r de o'r ardal hon yn Stonefield gerllaw safle hen chwarel. Erbyn hyn lleolir parc carafannau yn ardal Northill.