The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

055 Coedwig Nicholaston


Ffoto o Goedwig Nicholaston

HLCA055 Coedwig Nicholaston

Tirwedd clogwyn coediog: coetir hynafol; anheddiad amddiffynnol domestig cynhanesyddol; gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol; cysylltiadau canoloesol posibl; a llwybrau/llwybrau troed. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Nicholaston yn cyfateb i'r ardal goediog a leolir ar ymyl clogwyn serth sy'n wynebu'r de ac sy'n edrych allan dros fae Oxwich islaw pentref Nicholaston ac esgair Cefn Bryn. Mae'r ardal hon wedi goroesi fel un o'r ychydig ddarnau o goetir hynafol sydd wedi goroesi mewn lleoliad ar ben clogwyn.

Mae caer bentir (00280w; 54485) a leolir mewn lleoliad amddiffynnnol wrth natur yn darparu'r dystiolaeth gynharaf ar gyfer yr ardal. Mae'n debyg i'r safle hwn, a ddyddiwyd i'r Oes Haearn gan ddarn bach o grochenwaith cyn-Rufeinig a ddarganfuwyd gan Rutter ym 1949, barhau i gael ei ddefnyddio hefyd yn ystod y cyfnod canoloesol; mae RCAHMW yn awgrymu bod y safle yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Mae darganfyddiadau eraill o'r safle yn cynnwys naddyn fflint a phot boeler. Mae cyfeiriad dogfennol at gastell yn Nicholaston (03212w), fodd bynnag, nid yw ffynhonnell y cyfeiriad hwn yn hysbys ac mae'r lleoliad braidd yn amheus. Roedd eglwys yn yr ardal hon hefyd yn ôl pob sôn, yr honnir mai hi oedd eglwys wreiddiol Nicholaston. Dywedir bod olion i'w gweld yn yr ardal hon cyn yr Ail Ryfel Byd.

Mae nodweddion eraill a gofnodwyd yn yr ardal yn ymwneud â gweithgarwch cloddio a chynhyrchu calch yn y cyfnod ôl-ganoloesol, yn debyg i ardaloedd coetirol eraill ym Mro Gwyr, mae'n debyg bod y cyfryw weithgareddau yn gyffredin hefyd yn ystod y cyfnod canoloesol er na cheir unrhyw dystiolaeth uniongyrchol yn yr ardal gymeriad hon. Cloddiwyd ceudwll Crawley Rocks (01423w), a ddarganfuwyd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn gyfan gwbl yn y pen draw. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed yn yr ogof yn ystod y 1830au olion anifeiliaid, gan gynnwys rhinoseros, eliffant, hiena, carw coch ac ych. Dangosir odynau calch cysylltiedig ar argraffiad cyntaf map yr AO. Rheolid y coetir hefyd trwy brysgoedio yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol at ddibenion llosgi golosg yn ôl pob tebyg.