The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

054 Morfa Oxwich


Ffoto o Morfa Oxwich

HLCA054 Morfa Oxwich

Tirwedd cyn-wlyptir adferedig: morfa heli amgaeëdig; nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Oxwich yn cynnwys gwlyptir rhwng Twyni Tywod Oxwich (HLCA 053) a thir uwch Pen-rhys, Parc Pen-rhys i'r gorllewin a Choedwig Nicholaston i'r gogledd. Ymdriniwyd â'r ardal, sy'n rhan o SODdGA Bae Oxwich, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich, ar Lefel 4 yn ystod Astudiaeth Landmap Abertawe, o dan Ardal Agwedd H13 Morfa Oxwich (SWNSHL981, Evans 2003b).

Crëwyd y gwlyptir yn Oxwich (03052w) gan Dwyni Tywod Oxwich a ymffurfiodd ar draws gwaelod y dyffryn islaw Pen-rhys. Mae'r rhain yn atal y gwahanol gyrsiau dwr rhag draenio o'r llethrau sy'n graddol ddisgyn o Ben-rhys a Nicholaston, gan ffurfio lagwn troellog hir y mae'n anodd i ddwr ddraenio i'r môr ohono. O ganlyniad, roedd yr ardal a leolid y tu ôl i'r twyni tywod wedi datblygu'n forfa heli erbyn y ddeunawfed ganrif . Ar ddiwedd y ganrif, adferodd Thomas Mansel Talbot y tir fel tir pori trwy wella Nicholaston Pill a draenio'r tir. Fe'i trowyd wedyn yn gyfres o lifddolydd, y cydnabyddid eu bod yn enghraifft arbennig o ardderchog o'r dechneg; H Portlock o Swydd Gaerloyw, arbenigwr yn y maes, oedd y cynllunydd a'r contractwr (Davies 1815, 199-200; Lucas 1987, tud 21). Am na chawsant eu cynnal a'u cadw'n ddigon da, trodd y llifddolydd yn wlyptir unwaith eto yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac maent yn dal i fod yn wlyptir heddiw.