The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

052 Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol Bae Three Cliffs


Ffoto o Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol Bae Three Cliffs

HLCA052 Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol Bae Three Cliffs

Tirwedd rynglanwol: traeth tywodlyd; darganfyddiadau Rhufeinig a chanoloesol; ymelwa ar y môr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol Bae Three Cliffs fel y traeth a leolir rhwng y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll cymedrig fel y dangosir ar fap 1:10000 yr AO.

Mae'r dystiolaeth gynharaf ar gyfer yr ardal yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig ar ffurf darn arian yn dyddio o'r bedwaredd ganrif (03053w). Mae'n debyg i'r bae gael ei ecsbloetio ar gyfer ffynonellau bwyd dros lawer o gyfnodau o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen. Mae'r siambr gladdu gerllaw yn Nhwyni Tywod Penmaen a'r clostiroedd sy'n dyddio o'r Oes Haearn yn Oxwich yn arwydd o weithgarwch anheddu cynnar yn yr ardal oddi amgylch.

Mae'n debyg bod yr ardal yn bwysig ar gyfer pysgota a masnach yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae aneddiadau anghyfannedd Pennard a Phenmaen gerllaw, sydd wedi'u gorchuddio â thywod erbyn hyn, yn cynnwys olion eglwysi a chastell. Darganfuwyd jwg cyfan yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn y tywodydd (03000w; 03054w). Yn debyg i Port Eynon roedd y diwydiant cloddio calchfaen a'i gludo ar longau, ynghyd â masnach pysgota'r glannau, yn bwysig i drigolion yr ardaloedd oddi amgylch a darparai gryn dipyn o swyddi ac incwm, yn arbennig yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Cofnodwyd chwe llongddrylliad yn y bae ei hun a drylliwyd llawer mwy o longau yn Oxwich Point a phenrhyn Pwll Du. Ni chofnodwyd fawr ddim manylion am y digwyddiadau eu hunain, mae enwau'r llongau fel a ganlyn Althea (dyddiad anhysbys), Albermarle 1763 (274304), Perseverance 1884, United Friends 1894, Richard 1889 (273920) a Notre Dame de France 1906.