The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

020 Weble, Leason a Llwyn-y-bwch


Ffoto o Weble, Leason a Llwyn-y-bwch

HLCA020 Weble, Leason a Llwyn-y-bwch

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a chyn-ganolfan faenoraidd: aneddiadau clystyrog a strimynnog ôl-ganoloesol; nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol; ffiniau caeau traddodiadol; cysylltiadau hanesyddol; diwydiant gwledig ôl-ganoloesol; tystiolaeth o ddefodau ac anheddu cynhanesyddol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Weble, Leason a Llwyn-y-bwch yn cyfateb yn fras i graidd is-faenor ganoloesol ddiweddarach Weble, ac eithrio'r llain arfordirol i'r gogledd a chwr yr ardal (HLCA 028 Hillend) ar hyd Cefn Bryn i'r de, ac ardaloedd eraill a oedd ar wahân yn Crofty, ym Mhenclawdd ac mewn mannau eraill. Lleolid ardal Weble a Leason yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng nghantref Eginog, yn ddiweddarach roedd yr ardal yn rhan o Gwyr Uwch Coed, a ddelid o dan faenor Landimôr ac yn ddiweddarach ffi marchog Leason neu Weble. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe yn Sir Morgannwg.

Tybiwyd bod yr ardal, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, yn rhan o faenor lawer helaethach, goroesodd olion yr ystad fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roi tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig Rhosili, Landimôr a Llanrhidian erbyn y ddeuddegfed ganrif (Draisey 2002). Ymddengys fod ardal Weble a Leason fel endid a ffi marchog ar wahân yn dyddio o 1304, pan roddodd John de Turbeville, arglwydd Landimôr bryd hynny, ran orllewinol is-faenor Llanrhidian i David de la Bere, a'i daliodd ar ôl hynny fel arglwydd y demen (Nicholl 1936, 168, 173; Draisey 2002). Ystyrir bod cyfeiriadau diweddarach sy'n honni bod yr ardal yn un o Ffïoedd Hynafol Gwyr yn annibynadwy (Nicholl 1936, 186).

Sefydlwyd castell Weble (00100w; 27996; SAM GM010; LB 11534 I) yn y 14eg ganrif gan y teulu de la Bere, yr oedd ganddynt gysylltiadau â Weble yn Swydd Henffodd; priodolwyd y ddau gyfnod adeiladu cynharaf i David de la Bere, tua 1304-1327. Mae'r gwaith cynharaf sydd wedi goroesi yn cynnwys y neuadd, rhannau o lenfur y dwyrain, a dau dwr deheuol. O dan y neuadd ceir cegin ac yn ei chornel ogledd-ddwyreiniol ceir tyred grisiau sy'n codi i wylfa. Ar yr ochr ddwyreiniol ceir set o ystafelloedd sydd wedi'u newid gryn dipyn sy'n cynnwys lleoedd tân mawr ar lefel y llawr gwaelod ac ar lefel y llawr cyntaf, ac ar yr ochr orllewinol ceir heulfa uwchben ystafelloedd storio a phorthdy mynedfa. Ystyrir bod y newidiadau sylweddol ar yr ochr orllewinol yn perthyn i ail gyfnod adeiladu cynnar, sy'n awgrymu i benderfyniad gael ei wneud i wneud y cynllun yn llai uchelgeisiol. Yn ôl adroddiad dyddiedig 1410, difrodwyd castell Weble yn ddifrifol yn ystod gwrthryfel Glyn Dwr, fodd bynnag ni wnaed fawr ddim newidiadau pellach tan ddiwedd y bymthegfed ganrif, pan ddaeth Weble i feddiant Syr Rhys ap Thomas o Ddinefwr. Mae gwelliannau pellach a wnaed i'r ty yn ystod y cyfnod yn perthyn i'r trydydd cyfnod adeiladu a'r cyfnod adeiladu olaf; gwellhaodd y fynedfa i'r Neuadd Fawr o'r tu mewn i'r ward trwy ychwanegu bloc portsh deulawr. Priodolir rhan ganolog rhes y de i Syr Rhys hefyd; ymddengys fod hyn yn cynnwys capel ar y llawr cyntaf, ond mae'n adfeiliedig erbyn hyn. Trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i'r Goron o dan Harri VIII ac ar ôl hynny i Syr William Herbert, Iarll Penfro. Yn ddiweddarach daeth yr ystad i feddiant ystad Margam, erbyn y cyfnod hwnnw roedd mewn cyflwr 'dirywiedig', i'r fath raddau erbyn 1665 fel bod William Seys, y tenant bryd hynny yn ffermio tiroedd y demen o ffermdy newydd gerllaw'r castell adfeiliedig (Cooper 1998, 17-18). Fel un o'r anheddau caerog mwy cyflawn yng Nghymru, bu'r castell dan warchodaeth swyddogol ers 1911 (Newman 1995, 394-396; Williams 1998, 13-14, 21, 38-45; RCAHMW 2000, 380-404).

Prin yw'r dystiolaeth ddogfennol am anheddiad cyfagos Leason; yn debyg i Gastell Weble ymddengys fod yr anheddiad yn dyddio o'r cyfnod pan enffeofwyd de la Bere ar ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau'r 14eg ganrif. Mewn rhestr o 25 o ffioedd yn dyddio o 1353 (Cartae, IV, 284) cyfeirir at Leason sy'n ymddangos fel Leiston, Leisanton, neu Leasanton), er nas oes unrhyw sôn am Weble (Nicholl 1936, 168, 173), ystyrir mai'r un oedd ffi Weble a Leason, ac i'r anheddiad canoloesol yn Leason gael ei sefydlu yn ôl pob tebyg i gynnal castell a maenor Weble gerllaw. Efallai fod yr enw lle Leason, Leysanteston 1304, yn fersiwn Saesneg ar enw Cymraeg gwreiddiol, sy'n cynnwys yr enw personol gwrywaidd Lleision, ffurf Gymraeg Treleison a gofnodir ym 1641 (Gwynedd Pierce Enwau Lleoedd yn Huw Owen 1989). Cofnodir Leason fel un o bentrefannau Llanrhidian ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg gan Rice Merrick (James 1983, 119). Mae astudiaeth Cooper o blwyf Llanrhidian yn tybio i effeithiau'r Pla Du ac aflonyddwch y bedwaredd ganrif ar ddeg danseilio'r economi leol i'r fath raddau fel bod y boblogaeth wedi rhoi'r gorau, o leiaf yn rhannol, i'r system gyffredin o gaeau agored, gyda'r canlyniad i ddaliadau unigol ddechrau cael eu cyfuno. Canlyniad hyn oll oedd bod yr anheddiad canoloesol a'r dirwedd amaethyddol wedi newid gryn dipyn erbyn y 1750au. Ymddengys erbyn y dyddiad hwn er nad oedd cynllun seilwaith yr ardal (lonydd) wedi newid fawr ddim yn y bôn, er bod y pwyslais wedi symud i ffwrdd o'r llwybr traddodiadol o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd y darren arfordirol uwchlaw'r morfa yn cysylltu tiroedd demen Castell Weble, anheddiad Leason a Llanrhidian y tu hwnt. Ymddengys i'r llwybr cynharach a redai o'r gorllewin i'r dwyrain gael ei ddisodli gan y lôn i Oldwalls a Phriffordd y Brenin. Parhaodd y llwybrau a arweiniai i'r gogledd i'r tir pori ar y morfa arfordirol i fod yn bwysig, yn arbennig lôn Leason, a âi heibio i Ffynnon Leason ar y ffordd i'r morfa (Cooper 1998, 24-25).

Mae'r newid pwyslais hwn yn adlewyrchu statws llai Castell Weble, ac yn wir y ffaith bod y cysylltiad blaenorol rhyngddo â'i anheddiad ategol Leason wedi'i dorri. Ymddengys fod Weble a Leason yn gweithredu fel daliadau amaethyddol cyfun ac annibynnol, fwy neu lai, erbyn y cyfnod hwn. Dangosodd gwaith dadansoddi gwrychoedd i'r broses o amgáu'r cyn-lain-gaeau cyffredin barhau'n ddi-dor o ddechrau'r cyfnod Tuduraidd, ac mai'r caeau i'r dwyrain o'r lôn i Leason a amgaewyd yn gyntaf. Dengys mapiau ystad fod y rhan fwyaf o'r ardal o amgylch Leason, erbyn 1785, wedi'i chyfuno i greu caeau hirsgwar hir, a dangosir ychydig o leiniau sydd wedi goroesi (Cooper 1998, 26). Mae'r patrwm caeau a sefydlwyd bryd hynny yn goroesi'n ddigyfnewid, fwy neu lai, tan arolwg argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO ac ar ôl hynny hyd heddiw, ar wahân i ychydig iawn o waith a wnaed yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif i gyfuno'r caeau lleiaf.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO gynllun anheddiad yn cynnwys tri chlwstwr ar wahân yn Leason. Mae'r prif anheddiad yn Leason yn cynnwys clwstwr o ryw ddeuddeg o adeiladau fferm a bythynnod, sy'n cynnwys Middle Leason a Fferm Leason, wedi'u trefnu wrth gyffordd y lôn sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin a'r lôn i'r briffordd. Wedi'i lleoli heb fod ymhell i'r dwyrain ceir rhes unigol Lower Leason a'i bwthyn cysylltiedig. I'r gogledd o ardal yr anheddiad ceir nifer o gaeau llai o faint wedi'u lleoli o fewn ffin gromliniol; mae'n debyg bod yr ardal hon yn cynnwys craidd yr anheddiad canoloesol. Dangosir Fferm Leason ychydig o bellter i ffwrdd ar gwr gorllewinol yr anheddiad o fewn ei chyfres ei hun o gaeau, gan gynnwys perllan; ym 1878 cynhwysai'r fferm ffermdy, o gryn statws, yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif yn ôl pob tebyg, a rhes siâp L o adeiladau allan ynghlwm wrtho yn y gorllewin. Ym 1851 roedd y ffermdy hwn yn gartref i John Dunn, ffermwyr â 70 o erwau, a'i deulu. Lleolir rhes arall o adeiladau allan neu fythynnod ar wahân i'r gogledd-orllewin, tra dangosir adfeilion bwthyn i'r gogledd; roedd George Edwards, cigydd, a'i deulu yn byw yn y bwthyn hwn ym 1851.

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO ddarn o dir garw, wedi'i rannol orchuddio â choedwig, sy'n cyfateb i'r darren, ac sy'n croesi'r ardal gyfan o'r dwyrain i'r gorllewin i gynnwys y penrhyn lle y saif Castell Weble. Mae hyn yn cynnwys ardal a elwir yn goedwig Leason, y mae'n debyg yr ymestynnai ar hyd y darren o un pen i'r llall. O fewn yr ardal hon i'r gogledd ac i'r dwyrain o Leason dangosir nifer o chwareli bach ac o leiaf bedair odyn galch; maent i gyd yn segur erbyn yr ail argraffiad. Dengys yr argraffiad cyntaf adfeilion Castell Weble a gerllaw'r castell i'r de fferm hirsgwar Castell Weble (sydd wedi'i rhannol ddymchwel bellach) sydd bron â bod yn gwbl amgaeëdig, i'r gorllewin o fewn coetir islaw'r castell ceir ardal sy'n cynnwys brigiad a gloddiwyd a hen odyn galch. Yn nherfyn dwyreiniol yr ardal ceir anheddiad ôl-ganoloesol Old Walls, y dangosir ei fod yn ymestyn yn strimynnog ar hyd y briffordd yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin (ffordd bresennol y B4295) o gyffordd, gerllaw Tafarn y Grey Hound, â'r lôn yn rhedeg i'r gorllewin i Lanmadog, a lôn werdd yn arwain i'r de i Dir Comin agored Cefn Bryn. Cynhwysai'r anheddiad hwn tua deg adeilad, bythynnod neu dyddynnod yn bennaf, sy'n wynebu'r briffordd, a chynhwysai gapel Methodist Calfinaidd, Ebenezer, a gefail. Dangosir nifer o ffermydd gwasgaredig hefyd, gan gynnwys fferm Windmill â dwy res ar draws iard, Tir-coed sy'n cynnwys cwadrangl o adeiladau ag iard ganolog ac annedd ar wahân, a Mansel's Fold, trefniant afreolaidd helaeth o resi hir wedi'u lleoli ar safle trionglog wrth gyffordd y briffordd (B4295) a'r lôn ddolennog eilradd i Fferm Windmill. Ymddengys fod y mwyafrif o'r ffermydd gwasgaredig wedi'u lleoli gerllaw'r llinellau cyswllt, ar wahân i fferm Tir-coed, yr ymddengys ei fod yn cynrychioli fferm a sefydlwyd yn rhannol ar y coetir, a arferai orchuddio cyrion deheuol Cefn Bryn. Mae'r argraffiad cyntaf hefyd yn dangos amgloddiau'r clostir amddiffynedig (sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol neu ddechrau'r cyfnod canoloesol) a elwir yn Fryngaer Stembridge neu Pencynes, sy'n edrych dros rannau uchaf system dyffryn Burry Pill yn Stembridge.

Ymddengys i dresmasu ar y tir diffaith ar hyd cwr gogleddol Cefn Bryn o gyn-randiroedd Weble ddigwydd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Ymddengys fod y ffin â'r tir comin wedi'i sefydlu erbyn dechrau'r ddeunawfed ganrif o leiaf ac nid yw wedi newid fawr ddim ers hynny. Ar gwr Tir Comin Cefn Bryn, fel y dangosir ar fap ystad dyddiedig 1785, safai Ty Tre Coed (Tre Coyd) a fu'n wag ers amser maith bellach (yr ymddengys iddo gael ei ddisodli gan annedd fwy cyfleus ymhellach i'r gogledd erbyn adeg arolwg map degwm Llanrhidian tua 1840).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO gorlan yn safle Ty Tre Coed sy'n dyddio o'r cyfnod cyn y 19eg ganrif (a oedd mewn bodolaeth ym 1785, ond nas dangosir ar y map degwm dyddiedig tua 1840) lle y mae'n ffinio â Thir Comin Cefn Bryn, tra dangosir adeilad ychwanegol yn ffurfio rhes unigol (a ddangosir hefyd ar fap y degwm) wedi'i leoli i'r gogledd ymhell o fewn y daliad (h.y. o fewn ystad Tre coed), gerllaw'r llwybr sy'n ymestyn i'r gogledd i'r briffordd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin i Langynydd. Unwaith eto, saif yr adeilad hwn mewn lleoliad lle y cyferfydd tir pori garw a thir pori wedi'i wella a rennir gan ffin ddolennog yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain. Er bod tyddyn Trecoed yn gwbl amgaeëdig erbyn hynny, mae lleoliad yr adeilad hwn a'r patrwm caeau i'r de-ddwyrain o'r ardal a nodweddir gan dir pori garw yn cynrychioli cyfnod tresmasu terfynol, sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r ddeunawfed ganrif neu o gyfnod cynharach.

Cynrychiolir gweithgarwch tresmasu ôl-ganoloesol ar y tir diffaith ar hyd cyrion deheuol yr ardal gan ffermdy Llwyn-y-bwch hefyd (02700w; 19235) ty uned sengl o gynllun mynediad uniongyrchol yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol a chanddo simnai yn y talcen a charreg ddyddio sy'n nodi'r flwyddyn 1717 ac yn dwyn y llythrennau cyntaf H G M, nenfwd o drawstiau a chwpwrdd gwely (RCAHMW 1988, 611). Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO y ffermdy a'i rhes siâp L ar wahân o adeiladau allan (37594) i'r gorllewin wedi'u trefnu o amgylch ochr ogleddol ac ochr ddwyreiniol iard hirsgwar, efallai bod y rhes ar hyd yr ochr ddwyreiniol yn cynnwys adeilad hirsgwar cynharach wedi'i alinio o'r gogledd i'r de a ddangosir ar y map degwm dyddiedig tua 1840. Mae Llwyn-y-bwch (a gofnodir fel Llyn-y-bwch, Llyn y bough, a Lan y bough) hefyd yn ddiddorol am y cofnodir ei bod yn faenor, yn ôl pob sôn, erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol, a gynhwysai un daliad o diroedd; ym 1650 roedd y faenor ym meddiant Syr Edward Mansel (Draisey 2002, 109-110), ac erbyn arolwg Gabriel Powell o Arglwyddiaeth Gwyr dyddiedig 1764 roedd ym meddiant rhywun o'r enw Thomas Gorton (Morris gol 2000, 47).