The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

018 Cheriton a Burry Pill


Ffoto o Cheriton a Burry Pill

HLCA018 Cheriton a Burry Pill

Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; caeau datblygedig afreolaidd a ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; tirwedd ddiwydiannol amaethyddol yn dyddio/deillio?? o'r cyfnod canoloesol; melinau; ffiniau; adeiladau brodorol rhanbarthol ôl-ganoloesol; rhwydweithiau o gysylltiadau. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cheriton a Burry Pill yn cynnwys dyffryn afon amgaeëdig, sy'n cynnwys anheddiad Cheriton tua'i derfyn gorllewinol. Credir bod yr ardal hon, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol yn dilyn y Goresgyniad Normanaidd, yn gorwedd o fewn terfynau maenor Gymreig helaeth, a gynhwysai derfynau gorllewinol a gogleddol Bro Gwyr. Gorweddai hanner gogleddol yr ardal o fewn maenor ganoloesol Landimôr, tra ymestynnai'r rhan ddeheuol i mewn i is-faenor Burry a elwid hefyd yn Stembridge. Gorweddai'r ardal gyfan o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.

Tybiwyd bod yr ardal, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, yn rhan o faenor lawer helaethach, goroesodd olion yr ystâd fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roi tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig Rhosili, Landimôr a Llanrhidian erbyn y ddeuddegfed ganrif (Draisey 2002). Mae'n bosibl y ffurfiai Cheriton drefgorddau'r gyn-faenor, ar ben hynny, mae'n bosibl bod ffiniau maenor ddiweddarach Landimôr sy'n dyddio o'r cyfnod canoloesol, lle y lleolid Cheriton, yn cynrychioli parhad rhaniad tir eithaf hynafol, yn arbennig o gofio i'r ardal syrthio i ddwylo Eingl-Normanaidd trwy iddynt ymbriodi â deiliaid Cymreig lleol yr ardal, yn hytrach na thrwy oresgyniad. Efallai yr ategir hyn gan y ffaith bod ffiniau'r faenor ddiweddarach a phlwyf Cheriton yn ymestyn yn fwriadol i gynnwys bryngaer y Bulwarks ym mhen dwyreiniol Bryn Llanmadog; yn ddiau rhoddodd yr olaf yr enw Landimôr i'r ardal.

Mae'n bosibl mai Cheriton oedd safle anheddiad gwreiddiol Landimôr. Mae'r eglwys yn Cheriton, gyda'i chysegriad canoloesol cynnar i sant Cadog, yn awgrymu i safle Cheriton gael ei sefydlu yn gynnar cyn y Goresgyniad Normanaidd a byddai'r enw lle Landimôr yn cyfateb i leoliad gerllaw prif gaer yr ardal, sef y Bulwarks. Cyfeirir at eglwys yn Landimôr mewn dogfen a elwir yn 'Confirmation of Bishop Anselm' ddyddiedig 1230 OC, ond nid yn y Valor Ecclesiaticus; tybiwyd bod hyn yn awgrymu i'r eglwys gael ei dinistrio, ond mae'r dystiolaeth yn ddadleuol ar y gorau. Gwyddom i William de Turberville roi eglwys Landimôr, yn ogystal â'r rhai yn Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan yn Slebets yn Sir Benfro rywbryd rhwng 1135 a 1230. Mae'n bosibl i'r anheddiad yn Landimôr gael ei ailenwi yn Cheriton ('church town'), ar ôl i'r eglwys odidog iawn yn yr arddull Seisnig Gynnar gael ei hailadeiladu o dan Farchogion Sant Ioan o'r drydedd ganrif ar ddeg (Evans 2004).

Credir bod Landimôr yn cynnwys ffi marchog o ddechrau'r ddeuddegfed ganrif, a weinyddid yn ôl pob tebyg o gastell cynnar, a leolid rywle yn yr ardal. Gwyddom o'r Liber Niger a'r Liber Rubeus i William Turbeville ddal ffi marchog anhysbys, y nodir ei lleoliad mewn dogfennaeth yn ymwneud â'i rodd o eglwysi yn Landimôr, Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan tua 1165. Nododd y grant hwn ddaliad mawr a ymestynnai ar hyd arfordir gogleddol Bro Gwyr ac a gyfatebai fwy neu lai i blwyfau Cheriton (Landimôr gynt) a phlwyf cyfagos Llanrhidian, ac eiddo ar wahân i'r de yn Rhosili. Mae'r Comisiwn Brenhinol yn awgrymu y gall castell amddiffynfa gylch, sef North Hill Tor (00093w; 305558), a safai ar benrhyn arfordirol i'r gogledd-ddwyrain o Cheriton, fod wedi gwasanaethau fel caput y teulu Turbeville (RCAHMW 2000, 444-448), fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd mai'r amddiffynfa gylch a leolir yng Nghil Ifor, i'r dwyrain gerllaw Llanrhidian yw safle'r caput (RCAHMW 1991, 117-9). Ym 1353 ceir sôn am gastell yn nhreflan Landimôr, fodd bynnag mae'r safle a elwir yn Gastell Landimôr yn cynnwys adfeilion ty cadarn yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif efallai y gellir ei briodoli i Syr Hugh Johnys ac nid oes unrhyw arwydd o wrthgloddiau cynharach ar y safle.

Torrwyd ar draws rheolaeth y teulu Turbeville ar yr ardal pan ailsefydlodd Rhys Gryg reolaeth Gymreig ym Mro Gwyr (1217-1220); nes i Landimôr gael ei dychwelyd i'r teulu Turbeville, daliwyd yr ardal gan Morgan Gam, arglwydd Afan. Ym 1353, nodir bod gan dreflan Landimôr gastell ac un ffi marchog, fodd bynnag ni nodir union leoliad y rhain. Ym 1366 roedd arglwydd y Gororau wedi cymryd meddiant o faenor Landimôr.

Roedd rhan ddeheuol yr ardal yn rhan o faenor Burry (Stembridge) yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol. Ystyrir bod gan yr ardal hon a Landimôr (Cheriton) lawer yn gyffredin, am ei bod mewn gwirionedd yn is-faenor a drosglwyddwyd, a oedd, yn ystod y ddeuddegfed ganrif, yn rhan o diroedd yn gysylltiedig â Llangynydd o dan faenor ganoloesol helaethach Landimôr yng NGwyr Uwch Coed, a olynodd faenor Gymreig helaethach fyth yn dyddio o'r cyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd. Erbyn hyn credir bod yr honiadau bod Burry yn un o dair ar ddeg o 'hen ffioedd marchog' yn dyddio o'r cyfnod cyn 1135, sy'n dod o siarter ddyddiedig 1306 sy'n gysylltiedig â William de Broes VII, yn amheus, a'i bod yn fwy tebyg eu bod yn cynrychioli uchelgeisiau tiriogaethol de Broes, yn hytrach na thystiolaeth ffeithiol (Nicholl 1936, 173; Cooper 1998, 14-17; Draisey 2002, 14-15).

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg ymddengys fod rhan helaeth o'r tir o fewn yr ardal yn eiddo i'r teulu Cradock o Cheriton House a Syr Edward Mansel (Draisey 2002, 109-110). Yn arolwg Gabriel Powell dyddiedig 1764 cofnodir bod yr ardal yn eiddo i'r teulu Lucas a Thomas Mansel Talbot ysw. (Morris gol 2000, 47, 51).

Arferai'r ardal gynnwys plasty pwysig, sef, 'Cheriton House' neu 'Great House' (00095w; 18308), a safai ym mhen deheuol Cheriton, ar ochr ddwyreiniol y ffordd wrth iddi godi o Bont Cheriton. Mae'r ty, a ddymchwelwyd ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac nad oedd yn cael ei ddangos mwyach ar fap degwm 1840, yn cael ei nodi fodd bynnag ar fap dyddiedig 1753: ty deulawr trawiadol a chanddo bortsh talcennog bargodol uchel onglog â ffenestr atig uwchben ffenestr lawr cyntaf uwchben mynedfa fwaog, dau agoriad ffenestr i'r dwyrain ac un i'r gorllewin ar bob llawr ac estyniad unllawr â simnai yn y talcen â dwy ffenestr i'r dwyrain. Cyrhaeddir blaen y ty trwy borthdy canolog ar draws iard hirsgwar, i'r gorllewin saif adeilad â dwy simnai yn y talcenni sy'n gysylltiedig â'r ty ond sydd ar wahân iddo. Mae popeth yn awgrymu bod gan Great House gynllun canoloesol yn cynnwys tair ystafell a chyntedd traws, neu ei fod yn dy yn perthyn i grwp yr aelwyd-gyntedd o dai a chanddo simnai â'i chefn at y fynedfa, Neuadd, ac ystafelloedd allanol a mewnol wedi'u cynhesu. Roedd y ty yn gartref i'r teulu Cradock ac roedd cerflun cerfwedd o garw a'r llythrennau cyntaf MC (sydd yn Stouthall erbyn hyn) wedi'i osod o fewn y portsh, llythrennau cyntaf Morgan Cradock yn ôl pob tebyg, perchennog y ty ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg.

Parhaodd yr anheddiad ôl-ganoloesol yn Cheriton i fod yn anheddiad bach o'r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Dengys map 1753 glwstwr bach o fythynnod i'r de o Bont Burry, gan gynnwys o bosibl tri thyddyn yn ogystal â Great House a'i res o adeiladau allan wedi'u trefnu ar siâp L. I'r gogledd ceir melin (Melin Cheriton, SS 45129313), a'r eglwys o fewn ei mynwent hirsgwar. Gerllaw'r eglwys ac i'r gogledd-ddwyrain ohoni ceir fferm Glebe a'i rhes o adeiladau ar siâp L. Nid yw'r anheddiad wedi newid fawr ddim erbyn canol y 19eg ganrif, a'r brif golled yw Great House, ac mae'r felin a bwthyn i'r gogledd o Great House wedi diflannu hefyd, er bod y safle wedi'i ailfeddiannu erbyn adeg map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878, pan ddangosir bod fferm Glebe hefyd wedi'i ehangu trwy ychwanegu asgell arall i greu cynllun siâp U a rhagor o adeiladau allan ar wahân. Ar wahân i hynny ni fu fawr ddim newid o bwys ers y 1840au, ar wahân i fân ychwanegiadau.

Ceir sôn am weithgarwch melino yn yr ardal hon yn gyntaf yn y cyfnod canoloesol, pan gofnodir Stonemill, neu 'Stomille' (24974, SS 457928), yng Nghyfrifon y Gweinidog dyddiedig 1300-1400, a oedd yn cael ei dal gan John Colyn fel tenant. Mae cryn dipyn o dystiolaeth am y felin rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif ac ymddengys ei bod yn segur erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'i bod yn adfeiliedig erbyn 1879; mae olion sydd wedi goroesi yn cynnwys y felin a maen melin, cored a ffrwd. Parhawyd i ddefnyddio Melin Cheriton (SS 45129313), y cofnodir ei bod yn eiddo i Thomas Aubry ym 1598, tan ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif, a chyfeirir at ffrwd y felin a ddangosir ar fap degwm 1840, fel 'hen' ar argraffiad 1af map 1878. Mae dwy felin yd yn dal i fod yn weithredol yn yr ardal erbyn argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1878: Western Mill (02128w; 24977), melin yn dyddio o'r 17eg ganrif y cyfeirir ati mewn prydles ddyddiedig 1669, sy'n enwi Henrie Else fel y tenant. Rhwng 1719 a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bu Western Mill ynghyd â Melin Henllys, ymhellach i fyny'r nant, ym meddiant Edward Clement a'i deulu. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg bu George Thomas a'r teulu Jenkins yn byw yn y felin nes i weithgarwch melino ddod i ben ar ddiwedd y ganrif. Mae ei hadfeilion sylweddol i'w gweld o hyd. Cyfeiriwyd at y felin yn Stembridge (02123w; 24973), sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg, yn Nhirlyfr Plwyf Cheriton dyddiedig 1720; er iddi roi'r gorau i falu yd tua 1890, adfywiwyd Stembridge tan 1925, fel melin wlân (40904), ar ôl i adeilad ffatri gael ei ychwanegu ym 1899 gan Isaac Tanner o Felin Whitemoor. Cafodd melin wlân ychwanegol, Ffatri Cheriton (40896), y gwyddom fod Thomas Tanner yn byw ynddi ym 1844 (degwm) ei rhedeg fel diwydiant cartref teuluol, a pharhaodd ei fab, William i wehyddu yma nes iddo farw ym 1932 (Taylor 1991, 15-18).