The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

012 Bryn Llanmadog


Ffoto o Bryn Llanmadog

HLCA012 Bryn Llanmadog

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol; clostir amddiffynedig pwysig; nodweddion yn gysylltiedig â dwr. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Bryn Llanmadog yn cynnwys y tir comin agored i'r de o Lanmadog ac i'r gogledd o Langynydd a elwir yn Fryn Llanmadog, gan gynnwys Rhos Tankeylake.

Mae Bryn Llanmadog yn ddarn o dir uchel sy'n cyrraedd 186m DO lle y mae ar ei uchaf ac sy'n cynnwys esgair ganolog yn ymestyn o'r gogledd-ddwyrain i'r de-orllewin. Dywedir i bedair bwyellforthwyl garreg Neolithig gael eu darganfod yn yr ardal (00039w) yn ogystal â darn o ffiol Rufeinig (00045w), fodd bynnag, daw'r cyfoeth o dystiolaeth o'r Oes Efydd. Ar un adeg gwyddid am 19 o garneddau ar hyd esgair y bryn, y mae 14 ohonynt yn dal i oroesi, er bod llawer wedi'u difrodi gwaetha'r modd. Credir eu bod yn rhan o fynwent wasgaredig yn dyddio o'r Oes Efydd a leolid o fewn tirwedd ehangach yn perthyn i'r Oes Efydd a cheir henebion tebyg ar Dwyni Rhosili yn ogystal â thir uchel arall ym Mro Gwyr; efallai yr ystyrid bod yr ardaloedd ucheldirol hyn yn 'fynyddoedd cysegredig'. Datgelodd gwaith cloddio ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg rai darnau o grochenwaith (00057w), sy'n cynrychioli nifer o yrnau angladdol, fodd bynnag, roedd llawer o'r carneddau wedi'u hysbeilio ar raddfa helaeth cyn y dyddiad hwn.

Parhaodd Bryn Llanmadog yn ganolbwynt pwysig yn ystod yr Oes Haearn fel y tystir gan y fryngaer amlgloddiog fawr a elwir yn 'The Bulwark' (00029w; 301327; SAM GM061) a leolir ym mhen dwyreiniol yr esgair. Mae'r cloddwaith yn cynrychioli sawl cyfnod o weithgarwch adeiladu a datblygu ar y safle hwn. Mae'r rhagfuriau yn cynnwys cloddiau pridd hyd at 3m o uchder a ffosydd cysylltiedig ond nid oes unrhyw arwydd amlwg o unrhyw wal gynnal o gerrig. Ceir cae lled-hirsgwar yn y gornel dde-ddwyreiniol, a rannwyd yn ddwy ran ar ôl hynny gan glawdd isel a ffos ddiweddarach. Lleolir sarn a mynedfa ar y llethr ddwyreiniol.

Yn ystod y cyfnodau Canoloesol ac Ôl-ganoloesol defnyddid y tir comin agored ar gyfer tir pori garw, a cheir tystiolaeth o weithgarwch ar ffurf tomen ysbwriel (00046w) yn Nhwyni Tywod Llanmadog sy'n cynnwys darnau o grochenwaith a thalpiau o Gwyr gwenyn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Bu pobl yn tresmasu ar diroedd comin Bro Gwyr o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, fodd bynnag, ymddengys mai dim ond ychydig iawn o dir a amgaewyd o amgylch Bryn Llanmadog a bod hynny'n cynnwys caeau unigol yn hytrach na darnau mawr o dir. Mae'r ardal yn dal i gael ei defnyddio at ddibenion pori.