The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Ceunant Clydach

009 Llethr Cwm Amgaeëdig Maesygwartha a Rhonos-uchaf


Tirwedd amaethyddol amrywiol a ad-drefnwyd.

HLCA009 Llethr Cwm Amgaeëdig Maesygwartha a Rhonos-uchaf

tirwedd amaethyddol amrywiol a ad-drefnwyd; ffermydd ac adeiladau fferm diwydiannol; fila fonedd â gerddi cysylltiedig; capel anghydffurfiol a mans. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llethr Cwm Amgaeëdig Maesygwartha a Rhonos-uchaf yn cynnwys clostir ôl-ganoloesol, a ddatblygwyd ac a ad-drefnwyd ar ôl i'r ardal gael ei diwydianeiddio. Mae newidiadau ym mhatrwm caeau'r ardal yn amlwg rhwng Map Degwm 1840 ac argraffiad 1af map AO a disodlwyd caelun afreolaidd o gaeau bach gan glostiroedd rheolaidd o faint canolig i fawr. Roedd yr ardal yn eiddo i nifer o berchenogion erbyn canol y 19eg ganrif, er bod y rhan fwyaf o'r tir yn yr ardal yn cael ei ddal gan Clydach Iron Company. Nodir darn o glostir diweddar gerllaw Craig-y-gaer, a draeniwyd a gwellwyd mynydd-dir agored garw yn ystod ail hanner y 19eg ganrif.

Mae'r ardal yn cynnwys fila Pant-y-Beiliau yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif (Rhestredig Gradd II); mae ganddi dri bae a dau lawr a phortsh ar golofnau Ionig a gerddi o bobtu iddi. Mae Capel y Bedyddwyr Bethlehem, Maesygwartha (dyddiedig 1830; Rhestredig Gradd II), hefyd yn nodedig; saif y capel hwn, nad yw ei du mewn wedi newid fawr ddim ers ei adeiladu, ar ei ben ei hun gyda'i Fans a bwthyn y gofalwr. Mae wyneb blaen y capel a adeiladwyd o gerrig llanw haearnfaen yn cynnwys mynedfa ardderchog a chanddi ddau lawr a cheir ffenestri pengrwn uwchben ar bob ochr i ffenestr hirgron, a ffenestri â phennau cylchrannol islaw ar bob ochr i ddrws pengrwn.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Llethr Cwm Amgaeëdig Maesygwartha a Rhonos-uchaf yn bennaf gan glostir amaethyddol a fu'n destun ad-drefnu drwy gydol y 19eg ganrif ac a nodweddir gan batrwm amgáu o wrychoedd a gwrychgloddiau sy'n amrywiol ond sydd at ei gilydd yn rheolaidd heddiw. Mae adeiladau'r ardal yn cynnwys ffermydd a ehangwyd yn ystod y 19eg ganrif mewn ymateb i alwadau lleol cynyddol o du poblogaeth ddiwydiannol gynyddol. Ehangwyd rhai ffermydd, megis Maesygwartha, o dan nawdd Clydach Iron Company ei hun. Darperir y brif nodwedd arall gan ffermdai a foneddigeiddiwyd, megis y Fila ym Mhant-y-Beiliau y ceir gerddi o bobtu iddi.