The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Ceunant Clydach

007 Gwaith Calch Clydach a Chwarel Gilwern


Chwareli a gweithfeydd calch yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif.

HLCA 007 Gwaith Calch Clydach a Chwarel Gilwern

Chwarel a gwaith calch yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a nodweddion cysylltiedig; trafnidiaeth ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Gwaith Calch Clydach a Chwarel Gilwern yn cynnwys ardal a ddefnyddiwyd ar gyfer cloddio a phrosesu calchfaen yn unig. Ystyrir i'r odynau calch a'r chwareli yn safle Gwaith Calch Clydach gael eu sefydlu'n wreiddiol i ddarparu calch ar gyfer adeiladu traphont a thwnnel Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni gerllaw. Adeiladwyd y prif fanc o odynau calch (Rhestredig Gradd II) pan gafodd y llinell reilffordd ei dyblu erbyn 1877. Cynyddodd cynhyrchiant yn y chwarel yn gyson rhwng y 1890au a'r 1940au, er bod terfynau'r chwarel wedi'u cyrraedd ar ôl 1947 ac ar ôl hynny ymestynnwyd wyneb y chwarel fesul tipyn.

Gweithiwyd y chwarel gan Clydach and Abergavenny Lime and Stone Co. Ltd; roedd y cwmni yn weithredol yn y cwm mor gynnar â 1871 ac fe'i cymerwyd drosodd yn 1930 a bu'n masnachu fel Clydach - Abergavenny Quarries fel is-gwmni i Laird Quarries ym Malvern.

Y chwareli eraill yn yr ardal yw'r rhai ar Fryn Gilwern. Dechreuodd y chwareli hyn weithredu yn 1885, pan gawsant eu gosod ar brydles i Blaenavon Co. Ltd; yn 1911 trosglwyddwyd y brydles i Gwmni Premier Investment Ltd, ac wedyn yn 1942 fe'i trosglwyddwyd i Blaenavon Co. Ltd unwaith eto, er i'r rhyfel atal gweithrediadau.

Mae enghreifftiau ardderchog o odynau calch i'w gweld o hyd ar Fryn Gilwern (gan gynnwys pâr diweddarach sydd â bwâu tynnu dwbl ar gyfer pob siafft, a phâr cynharach yng Nghwm Nant Dyar sydd â bwâu sengl) a wasanaethid gan gangen o Reilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni. Defnyddid ffrwydron i gloddio'r cerrig, a chaent eu cludo o fewn y gwaith gan geffylau yr oedd eu stablau yn yr adeilad brics coch gerllaw'r odynau diweddarach a'r adeilad a oedd ynghlwm wrth y grwpiau hyn o odynau. Mae nodweddion cysylltiedig eraill sydd wedi goroesi yn cynnwys sylfeini Ty'r Rheolwr, ac olion inclein a phwll olwyn brecio cysylltiedig

Mae cyfnodau diweddarach y chwarel yn cynnwys 'Cwm Quarry', a weithiwyd yn ystod y 1920au ac a wasanaethid gan ei inclein ei hun. Mae rhan isaf y chwarel yn cynnwys calchfaen Dolomit ('Gwelyau Cefn' neu 'Welyau haearn'); fe'i gweithiwyd yn gyntaf ar ddechrau'r 1930au ar gyfer cerrig ffordd ac ar gyfer fflycsio ffwrneisi Glyn Ebwy. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaed newidiadau i'r prif inclein yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae nodweddion eraill sy'n perthyn i'r lefelydd hyn yn cynnwys biniau agregau concrid.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir ardal Gwaith Calch Clydach a Chwarel Gilwern gan chwareli a lefelydd calchfaen yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif, a ffasys dramatig a strwythurau cysylltiedig pwysig sydd wedi goroesi. Mae'r gwaith yn gysylltiedig ag adeiladu Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni gerllaw yr oedd wedi'i gysylltu â hi gynt gan gilffordd ag inclein, a gwblhawyd yn 1864.