The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Ceunant Clydach

005 Gellifelen


Fe'i nodweddir gan lefelydd glo a haearnfaen sydd wedi goroesi.

HLCA005 Gellifelen

Tirwedd gloddiol o lefelydd diwydiannol gan gynnwys tomenni ysbwriel amlwg; aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig a daliadau tir lled-ddiwydiannol; darnau bach o reilffordd ddiwydiannol a gwahanol lonydd a llwybrau a phontydd. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Gellifelen, a Chwm Llam-march yn cynnwys yr ardal fwyaf o lefelydd sydd wedi goroesi yng Nghwm Clydach sy'n gysylltiedig â gweithgarwch cloddio am lo a mwyn haearn. Nodir yr ardal mewn prydlesau yn dyddio o'r 18fed ganrif (Ystad Cendl) fel daliad mwynau sylfaenol yn gysylltiedig â'r Gwaith Haearn yng Nghlydach, ac yn wir y gwaith golosg cynharach i'r gogledd o'r afon. Bu'r lefelydd helaethach ar Fynydd Rheinallt a Thwyn-blaen-nant yn destun gwaith adfer ar raddfa fawr yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Mae llwybrau Rheilffordd Llam-march a gwblhawyd yn 1795 a Thramffordd Bailey a adeiladwyd yn 1821 yn croesi'r ardal, tra bod llinell Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni (1860-2) yn rhedeg o dan ymyl ogleddol yr ardal, drwy dwneli a dorrwyd i mewn i'r llethr rhwng Darrenfelen a Fedw-Ddu.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Gellifelen fel ardal amaethyddol, diwydiannol a phreswyl gymysg a nodweddir yn bennaf gan lefelydd diwydiannol ar hyd ffin tir a fu gynt yn amgaeëdig a mynydd agored Bryn Llanelli. Lleolir y lefelydd yng nghwm bach Llam-march, ardal lle y dechreuwyd cloddio am fwynau yn gynnar yn ôl pob tebyg, a gellir gweld y creigiau yn cynnwys mwynau yng nghwm y nant. Ymddengys fod y tomenni sbwriel yn cyfateb i ffiniau sefydledig y tir amaethyddol amgaeëdig yn yr ardal, fel y nodir ar fapiau ystad.

Nodweddir patrwm anheddu'r ardal gan aneddiadau gwasgaredig a leolir i raddau helaeth o fewn tyddynnod, ac ambell res fer o dai diwydiannol mewn lleoliadau anghysbell ar gyrion gogleddol yr ardal, lle yr ymddengys iddynt gael eu sefydlu ar goetir a fu gynt yn agored. Mae'r stoc adeiladau wedi'i newid gryn dipyn ac mae'n cynnwys bythynnod a ffermydd bach.

Mae nodweddion nodweddiadol eraill yn fwy cyffredin yn yr ardaloedd cyfagos ac maent yn cynnwys llwybrau rhwydweithiau rheilffordd diwydiannol a phontydd gan gynnwys dwy enghraifft restredig: sef Devil's Bridge a Phont Tramffordd Gellifelen (y mae'r ddwy yn rhestredig Gradd II), y cariai'r olaf Dramffordd Bailey.

Mae'r ardal ffin rhwng HLCA 005 a HLCA 006 yn rhan o SoDdGA Cwm Clydach.