The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Ceunant Clydach

003 De Clydach


Gwaith Haearn Clydach.

HLCA003 De Clydach

Tirwedd ddiwydiannol o bwys cenedlaethol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd haearn (a gloddiwyd) yn dyddio o'r 18fed ganrif ac anheddiad cysylltiedig; patrwm anheddu cnewyllol-organig a hirgul ag anheddau gweithwyr haearn cynnar; Capel anghydffurfiol; anheddau parod yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif; rheilffordd ddiwydiannol; pontydd; a chyflenwad dwr diwydiannol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol De Clydach yn cynnwys Gwaith Haearn Clydach sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a chraidd yr anheddiad diwydiannol cysylltiedig, a ddatblygodd ar hap o ddiwedd y 18fed ganrif. Gosodwyd yr anheddiad i bob pwrpas ar dirwedd amaethyddol canoloesol diweddar/ôl-ganoloesol cynnar a oedd yn cynnwys caeau datblygedig/afreolaidd a chaeau rheolaidd bach ac mae'r cynllun i raddau helaeth yn dilyn y lonydd troellog a'r patrwm caeau cynharach ar ffurf datblygiadau hirgul; Club Row yw'r brif enghraifft o ddatblygiad sydd wedi gwyro oddi wrth y cynllun hwn.

Ar hyn o bryd mae Gwaith Haearn Clydach (SO 229132), a gloddiwyd ac a adferwyd yn rhannol yn ystod y 1980au, yn eiddo i Gyngor y Fwrdeistref. Sefydlwyd y gwaith yma, gerllaw ffynonellau mwyn haearn, glo a chalchfaen, erbyn 1795 a llosgai gôc a oedd newydd gael ei gyflwyno fel tanwydd. Parhaodd y ffwrneisi chwyth yn y safle i weithio am dros 65 o flynyddoedd pan fu'r gwaith yn ganolbwynt i lawr o weithgarwch yn y cwm. Erbyn 1841 roedd Gwaith Haearn Clydach yn cyflogi dros 1,350 o bobl (gan gynnwys 133 o blant o dan 13 oed), yr oedd y mwyafrif ohonynt yn ymwneud â chloddio mwyn haearn a glo o'r ddaear yn uwch i fyny'r cwm. Yn 1813 roedd gan y safle yng Nghlydach ddwy ffwrnais, erbyn 1833 roedd ganddo dair a chyflenwid y llif aer gan un o beiriannau Boulton a Watt a chanddo olwyn 42 droedfedd, tra cofnodwyd pedair ffwrnais am y tro cyntaf yn 1844.

Yn 1793 roedd y ffwrnais gyntaf yn y safle wrthi'n cael ei hadeiladu. Fe'i hagorwyd yn 1796 a dechreuodd yn dda gan gynhyrchu 1,660 o dunelli yn y flwyddyn gyntaf. Er iddo ostwng i gychwyn cynyddodd cynhyrchiant yn gyson ar ôl hynny (2,658 o dunelli yn 1816: 6,771 o dunelli yn 1830; 10,038 o dunelli yn 1840). Rheolwyd y gwaith haearn, a gymerwyd ar brydles gan Ddug Cendl, gan Edward Frere a Thomas Cooke yr oedd cysylltiad bras rhyngddynt a'r teulu Kendall a oedd yn feistri haearn, yr enwyd y gwaith ar eu hôl. Fodd bynnag, ni fu'r busnes erioed yn llwyddiannus mewn gwirionedd, ac roedd y gwaith ar werth yn 1813 ac unwaith eto yn 1833. Rhwng 1841 a 1845 parhaodd y gwaith i golli arian, parhaodd anawsterau ac erbyn y 1850au roedd y gwaith yn dirywio, rhoddodd y ffwrneisi'r gorau i gynhyrchu yn 1861, ac er i'r gwaith gael ei werthu fel 'busnes gweithredol' dair blynedd yn ddiweddarach ac unwaith eto yn 1878, ni chynhyrchwyd unrhyw haearn yno byth wedyn.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae De Clydach yn cynnwys olion trawiadol Gwaith Haearn Clydach sy'n dyddio o'r 18fed ganrif (SAM: BR161(MON)), gyda phorth bwaog ty llenwi yn elfen amlwg, er nad oes fawr ddim o'r ffwrneisi i'w gweld bellach ar wahân i'w sylfeini. Fodd bynnag, mae digon wedi goroesi i gyfleu pwysigrwydd gweithgarwch cynhyrchu haearn i Gwm Clydach. Efallai fod safle'r melinau rholio gerllaw (Dan-y-coed), a nodweddion cyflenwi dwr cysylltiedig yn llai amlwg. Y tu hwnt i'r ty llenwi sydd wedi goroesi roedd yr iard gôc lle y câi glo ei losgi mewn pentyrrau neu ffyrnau i gynhyrchu'r côc a ddefnyddid yn y ffwrneisi.

Dengys ysgythriad dyddiedig 1811 y ddwy ffwrnais gynharaf, ac olwyn ddwr fawr i yrru'r peiriannau chwythu ac mae'n nodi trefniant gwreiddiol cafn golchi pren codedig, a arferai gyflenwi dwr o bwll gerllaw'r melinau rholio.

Yn 1813 cynhyrchodd y melinau rholio tua 60 o dunelli o farrau garw ac 80 o dunelli o haearn gorffenedig yr wythnos. Erbyn 1905 roedd yr eiddo'n cael ei ddefnyddio fel ffatri Wlân.

Mae pont Smart's Bridge, dyddiedig 1824, hefyd o gryn ddiddordeb (SAM: BR161(MON)), y credir bod tramffordd yn ei chroesi gan gysylltu'r gwaith haearn â Rheilffordd Clydach i'r gogledd.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys tomen enfawr o sorod o Waith Haearn Clydach, sef y 'flat', sy'n croesi'r cwm, gyda'r afon yn llifo drwy sianel oddi tani.

Nodweddir yr anheddiad ei hun gan ddatblygiadau hirgul yn bennaf, a ddatblygodd i ffurfio anheddiad cnewyllol digynllun sy'n cynnwys yn bennaf derasau neu resi byr (a newidiwyd i raddau helaeth) o fythynnod deulawr â ffrynt dwbl a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant haearn. Ymddengys fod yr anheddiad 'cnewyllol' yn cynrychioli gwelliannau/ychwanegiadau a wnaed yng nghanol y 19eg ganrif i anheddiad cynharach mwy gwasgaredig yn cynnwys bythynnod/rhesi llai o faint yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif. Mae rhan fawr o'r anheddiad presennol yn cynnwys ystadau tai yn dyddio o'r 20fed ganrif.

Fel arfer mae'r bythynnod wedi'u hadeiladu o dywodfaen pennant, er bod rhywfaint o Hen Dywodfaen Coch i'w weld; ymddengys fod llawer o'r adeiladau wedi'u gwyngalchu yn wreiddiol. Prin yw'r nodweddion gwreiddiol, er bod ffenestri codi cwarelog bach i'w gweld o hyd mewn rhai bythynnod. Mae'r anheddiad hefyd yn cynnwys rhesi o dai nodedig sydd â ffenestri a drysau ar un ochr yn unig. Nodwyd rhai enghreifftiau cynharach (o ddiwedd y 18fed ganrif) o anheddau yn ystod yr ymweliad maes, un yn arbennig ar Station Road lle y mae ffenestri codi bach gwreiddiol a'r gorffeniad gwyngalch gwreiddiol i'w gweld o hyd.