The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Ceunant Clydach

002 Gogledd Clydach (Cheltenham)


Anheddiad diwydiannol ar wahân.

HLCA002 Gogledd Clydach (Cheltenham)

Anheddiad diwydiannol ôl-ganoloesol sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu haearn a chalchfaen lleol; tai gweithwyr diwydiannol; Capeli anghydffurfiol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Gogledd Clydach (Cheltenham) yn cynnwys rhan o Ystad Dug Cendl (Beaufort), sy'n gysylltiedig â datblygiad Gwaith Haearn Clydach (HLCA 003) a'r chwareli calchfaen oddi amgylch o ddiwedd y 18fed ganrif. Nodweddir yr anheddiad hwn, a elwir fel arfer yn Glydach heddiw, ond a elwid gynt yn Cheltenham, yn bennaf gan ddatblygiadau hirgul yn cynnwys rhesi byr o dai sy'n dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif. Mae'r rhain yn derasau o dai cerrig yn bennaf sy'n gysylltiedig â Chwmni Glo a Haearn Brynmawr Cyf. Mae'r ardal hefyd yn dal i gynnwys nifer o Gapeli Anghydffurfiol diddorol: sef Capel Siloam a adeiladwyd yn 1829, capel y Wesleaid Saesneg (1829) a Chapel Ebeneser, sef y capel Cymraeg (1828). Lleolir yr anheddiad wrth gyffordd y ffordd dyrpeg o Ferthyr Tudful i Gofilon a Rheilffordd Clydach, a adeiladwyd rhwng 1793-5, a redai o Ryd-y-blew, gan gysylltu â gweithfeydd haearn yng Nghendl, i efail yn Llangrwyne yn nyffryn Wysg (mae blociau sliperi cerrig wedi goroesi ar yr ochr arall i'r ffordd o Gapel Siloam).

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir ardal Gogledd Clydach (Cheltenham) gan ddatblygiadau hirgul ar hyd y ffordd dyrpeg o Ferthyr Tudful i Gofilon o amgylch ei chyffordd â Rheilffordd Clydach sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif. Nodweddir yr ardal yn bennaf gan dai gweithwyr a newidiwyd gryn dipyn sy'n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a'r cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, fel arfer rhesi byr o dai deulawr â ffrynt dwbl a adeiladwyd o garreg leol, naill ai tywodfaen pennant neu Hen Dywodfaen Coch. Ar y llethrau isaf sy'n disgyn yn serth gellir gweld tri llawr ar ochr waered llawer o dai, a dau lawr ar yr ochr uchaf; efallai i'r dull adeiladu ty dros ben ty gael ei ddefnyddio yma, fodd bynnag bydd angen cynnal arolwg maes manwl pellach i gadarnhau hynny'n bendant.

Er bod yr ardal yn cynnwys rhai siopau/eiddo masnachol ac o leiaf un Dafarn sydd wedi goroesi, sef tafarn y Rock and Fountain, darperir prif nodwedd arall yr ardal gan gapeli anghydffurfiol (y mae'r mwyafrif ohonynt yn segur) yr anheddiad.