The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

021 Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon


Light industrial buildings: view to the northeast.

HLCA 021 Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon

Ardal a nodweddir gan ystadau diwydiannol modern. Gweithfeydd glo ac adeiladau cysylltiedig, rhesi teras diwydiannol a chysylltiadau tramffyrdd oedd nodweddion amlycaf yr ardal yn y gorffennol. Olion archeolegol claddedig.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon yn cynnwys ardal a neilltuwyd ar gyfer datblygu ystadau diwydiannol modern.

Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn rhan o'r anheddiad craidd y codid rhent ychwanegol arno a chredir bod hyn yn enghraifft a oedd wedi goroesi o rent gwestfa yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, yn y cyfnod ôl-ganoloesol, defnyddid yr ardal fwyfwy at ddibenion cloddio diwydiannol, ac adeiladwyd tai gweithwyr i ddiwallu anghenion y gwaith haearn a oedd yn datblygu ym Mlaenafon.

Mae'r Old Coal Pits, dwy o'r siafftiau pwll glo hynaf ym maes mwynau Gwaith Haearn Blaenafon, sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r 1790au, yn nodwedd bwysig sydd wedi goroesi yn yr ardal (SAM: MM293). O 1863 darparent aer ar gyfer y gweithfeydd cloddio ym Mhwll Glo Cinder. Ar ddechrau eu hoes weithredol, credir i'r peiriannau dirwyn yn yr Old Coal Pits gael eu gyrru â grym dwr, a lleolir y gronfa ddwr sych gysylltiedig ar yr ochr arall i'r ffordd i'r gogledd-orllewin o'r safle (y tu allan i'r ardal gofrestredig). Mae eu ffurf grwn a'r ffaith eu bod mewn parau yn awgrymu eu bod yn cael eu gyrru gan olwyn ddwr yn hytrach na system cydbwyso dwr. Mae gan y siafftiau leinin o gerrig o fewn ychydig droedfeddi o'r pen, ac uwchben hynny maent wedi'u hadeiladu o frics, a deellir eu bod yn mesur 235 troedfedd (71.53m) o ddyfnder.

Mae Engine Pit, y mwynglawdd siafft cyntaf yn ardal Blaenafon, a gloddiwyd yn ôl pob tebyg tua 1806 ac yn sicr cyn 1812, yn safle cloddio arall o bwys (SAM: MM277). Erbyn 1819 roedd yn bwysig fel y system ddraenio, a ganiatâi ddefnyddio llethrau a siafftiau glo a mwyn haearn a weithid gan systemau cydbwyso dwr ledled yr ardal. Cynhwysai siafft unionsyth ddileinin unigol ac ail un ychydig i un ochr ar y gwaelod fel s?mp draenio. Câi'r siafft hon ei draenio gan olwyn ddwr a rhodiau pwmp ynghlwm wrth drawst o dan y ddaear, a ddangosir ar ddrychiad dyddiedig 1824. Yn ddiweddarach, gosodwyd peiriannau trawst ar wyneb y ddaear ac ym mhen y lifft isaf, y credir bod yr olaf wedi goroesi o dan ddaear. Dengys ffotograffau'r siafft mewn cyflwr da ym 1976. Ar yr wyneb, ceir waliau cynhaliol a sylfeini sy'n sefyll, pibellau pwmp o haearn bwrw, a phlatiau gwely o haearn bwrw ar gyfer peiriant ar gorbelau cerfiedig o dywodfaen. Mae cryn botensial archeolegol i astudio'r olwyn ddwr a threfniadau'r peiriannau. Ceir lefel eithriadol o fawr yn y llethr uwchlaw'r siafft, ac arferai Engine Pit Row sefyll yn union i'r de-ddwyrain. Mae'r safle hwn, sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, yn hanesyddol bwysig fel siafft ddraenio gynnar yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Blaenafon, y mae gennym gryn dystiolaeth ddogfennol amdani ac sydd â chryn botensial archeolegol.

Cynhwysai gweithfeydd cloddio eraill yn yr ardal Forge Level, Old Slopes, lefel Thomas Water a lefel ganol River Row a Lower Brick Works. Rhedai tramffordd trwy'r ardal hon wedi'i chysylltu â'r gwaith haearn cynharach ac yn ddiweddarach â'r gwaith haearn yn Forgeside.

Adeiladwyd rhai o'r tai gweithwyr cynharaf sy'n gysylltiedig â Chwmni Blaenafon yn yr ardal hon. Adeiladwyd tai ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (tua 1810) yn Stable Yard mewn trefniant trapesoidaidd. Mae bythynnod Engine Pit Row, River Row a Lower Bricks Works hefyd yn dyddio o'r cyfnod hwn. Mabwysiadwyd cynllun safonol y cwmni ar gyfer tai o'r 1820au pan adeiladwyd Lower New Rank. Yn ystod y 1930au adeiladwyd rhagor o dai dan reolaeth James Ashwell, a gynhwysai Victoria Row a Chapel Row, Capel Wesley yng nghanol y rhes; adeiladwyd yr olaf gan Thomas Deakin. Mae tai eraill a adeiladwyd yn yr ardal tua'r cyfnod hwn yn cynnwys Pond Houses a Ten Houses. Erbyn diwedd y ganrif dim ond Chapel Row, Victoria Row, Ten Houses, Pond Houses a Lower New Rank oedd wedi goroesi.

Erbyn y 1920au roedd Victoria Row, Chapel Row a Lower New Rank wedi'u rhannol ddymchwel, ac roedd y lleill wedi'u dinistrio'n gyfan gwbl i wneud lle i ymestyn Gwaith Haearn a Dur Blaenafon fel yr oedd yr adeg honno. Roedd yr ardal o amgylch y gweithfeydd a'r tai yn dal i gael ei defnyddio at ddibenion arllwys gwastraff ar raddfa fawr erbyn y 1960au a dymchwelwyd yr adeiladau a oedd yn weddill yn gyfan gwbl yn y 1970au pan gliriwyd y tomenni a datblygwyd ystadau diwydiannol ar ôl hynny.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon gan ystadau diwydiannol modern, gan gynnwys Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas ac Ystâd Ddiwydiannol Kay a Kears. Bu gynt yn ardal o dai'r gweithwyr, rheoli dwr a rhwydweithiau trafnidiaeth yn perthyn i'r gweithfeydd haearn cyfagos. Roedd yno hefyd nifer o lofeydd a phyllau, gan gynnwys Pwll Injan Blaenafon (HC:MM277) a safle'r Lower Brick Yard.