The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

020 Mynydd Coety


Coity Mountain (middle and background): view to the west.

HLCA 020 Mynydd Coety

Tirwedd ucheldirol agored yn bennaf a nodweddir gan weithgarwch rheoli stoc amaethyddol, arwyddion terfyn a nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol. Mae gweithgarwch cloddio diwydiannol yn nodwedd bwysig arall o gofio'r nifer fawr o chwareli a gweithfeydd glo a arferai fod yn yr ardal. Digwyddiadau hanesyddol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Coety yn cynnwys Mynydd Coety (i'r gogledd o Wastad), Mynydd James a Mynydd y Farteg Fawr (i'r gorllewin). Mae'n bosibl bod gweithgarwch yn dyddio o'r cyfnod Neolithig, a gynrychiolir gan faen hir ar Fynydd Coety (SO 21401028). Fodd bynnag mae rhagor o weithgarwch yn gysylltiedig â'r Oes Efydd wedi'i gofnodi, a gynrychiolir gan grugiau crwn ar hyd esgair Mynydd Coety a Mynydd James.

Yn ystod y cyfnod canoloesol adeiladwyd twmpathau clustog ar Fynydd Coety gerllaw tir amaethyddol amgaeedig ffermydd Highmeadow a Choety-canol. Mae'n dra thebyg bod twmpathau terfyn yn dyddio o'r cyfnod hwn ar hyd Mynydd Coety yn cynrychioli ffin plwyf Llan-ffwyst ac ymhellach i'r gogledd, mae'r garreg derfyn a elwir yn Garreg Gywir, sy'n dyddio o bosibl o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, yn nodi ffin y plwyf sifil. Mae llwybr canoloesol i'w weld o hyd yn rhedeg ar draws y mynydd.

Ceir nodweddion amaethyddol ucheldirol ôl-ganoloesol, corlannau yn bennaf, uwchlaw Pwll Coety ac ar Dwyn-Carn-canddo (argraffiad 1af map yr AO). Mae nifer o ffynhonnau a ffrydiau wedi'u gwasgaru ar draws yr ardal hefyd; efallai fod y rhain yn nodi ardaloedd a arferai gynnwys aneddiadau amaethyddol tymhorol, er nad oes unrhyw dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd. Ceir darnau o dir ar y mynydd y bu pobl yn tresmasu arnynt ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol a gweithfeydd cloddio mwyn haearn a glo ar raddfa fach yn dyddio o'r cyfnod hwn.

Roedd nifer o chwareli a gweithfeydd glo yn weithredol yn yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Lleolid chwareli yng Nghefn Coch, lle y mae tystiolaeth o weithgarwch hysio wedi goroesi, ac yng Nghoety-mawr. Mae'r olaf yn cynnwys Chwarel Tywodfaen Coety (SAM: MM279) a agorwyd cyn 1844 i gyflenwi tywodfaen Pennant ar gyfer tai Cwmni Gwaith Haearn Blaenafon a gweithfeydd Forgeside. Mae'r safle hwn wedi cadw baril dirwyn hunanweithredol o haearn bwrw. Lleolid gweithfeydd glo yng Nghoety-mawr, Marquess Red Ash a Milfraen ymhlith eraill. Lleolir siafft awyru sydd wedi goroesi, yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio tanddaearol yng nghyffiniau Chwarel Coety Mawr. Roedd Gwaith Glo Milfraen, safle'r ffrwydrad ym 1929 (a gaewyd ym 1930), wedi'i gysylltu gan dramffordd â rheilffordd y LNWR yn Waun-afon.

Prin oedd yr adeiladau domestig a safai ar y mynydd; roedd rhai ffermydd ar hyd y cyrion a thafarn o'r enw y Grouse and Snipe. Ger Coalbrookvale tresmasai rhesi o dai gweithwyr ar ochr y mynydd ac mae Milfraen Cottage a adeiladwyd tua 1865 ar gyfer gweithwyr yng Ngwaith Glo Milfraen bellach yn adfeiliedig.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Mynydd Coety yn dirwedd ucheldirol agored a ddefnyddir heddiw yn bennaf at ddibenion pori anifeiliaid. Fe'i nodweddir gan nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol gan gynnwys meini hirion a chrugiau crwn.

Mae'r esgair ar hyd Mynydd Coety yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ac mae wedi'i defnyddio ers cryn amser i nodi'r ffin rhwng tiriogaethau; mae'r ffin sirol bresennol rhwng Blaenau Gwent a Thor-faen yn parhau'r traddodiad.

Mae gweithgarwch cloddio diwydiannol yn nodweddiadol o'r ardal o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar hyd heddiw; mae elfennau nodweddiadol yn cynnwys gweithfeydd glo, chwareli, creithiau hysio, siafft awyru, baril dirwyn a ffosydd draenio cysylltiedig y mae eu cyflwr yn amrywio. Mae'r nodwedd gloddiol yn parhau hyd at heddiw gerllaw Chwarel Coety nas defnyddir bellach ym Mwynglawdd Drifft Rhif 2 Blaentyleri.