The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

019 Ardal Mwyngloddio Brig Mynydd y Farteg


Mynydd Varteg opencast tips: view to the northwest.

HLCA 019 Ardal Mwyngloddio Brig Mynydd y Farteg

Tirwedd gloddiol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd mwyngloddio brig a thomenni gwastraff modern. Arferai nodweddion gwaith cloddio diwydiannol blaenorol yn gysylltiedig â gweithgarwch chwarelu a chloddio fod yn nodweddiadol o'r ardal.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Nodweddir Ardal Mwynglawdd Brig Mynydd y Farteg gan y gweithgarwch cloddio a mwyngloddio brig a gyflawnwyd i raddau helaeth erbyn y 1960au, er bod y gweithgarwch yn parhau.

Ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg cynhwysai'r ardal hon ucheldir agored. Fe'i gweithid ar gyfer haearnfaen, ac roedd nifer o chwareli bach wedi'u gwasgaru ledled yr ardal. Ym 1860 agorodd Gwaith Glo Bryn y Farteg fel mwynglawdd glo a haearn wedi'i gysylltu â Mine Slope a chynhwysai odynau mwynglawdd ac odynau calchynnu. Cysylltai inclein y gwaith glo â rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy yng ngorsaf Cwmafon; disodlwyd yr inclein yn ddiweddarach gan gangen leol rheilffordd y LNWR,a adeiladwyd tua 1878, i gysylltu'r gwaith glo â Changen Leol rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr.

Dinistriwyd y gweithfeydd cloddio cynharach gan weithgarwch mwyngloddio brig, a gyflawnwyd yn Waun Hoscyn yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Cwmpasai'r gwaith mwyngloddio brig ardal ag arwynebedd o tua 1.9km yn ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain wrth 0.6km o Forgeside i Fryn y Farteg. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys Pwll Glo Drifft Cwm Glo, y buwyd yn ei weithio am gyfnod byr yn y 1990au; bryd hynny darparai hen lwybr rheilffordd y LNWR fynediad o ffordd y B4248 i'r pwll.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Mwynglawdd Brig Mynydd y Farteg ar hyn o bryd gan weithfeydd mwyngloddio brig mawr a thomenni gwastraff. O bob tu i'r ardal mae ffosydd draenio a ffensys pyst a gwifrau, tra ceir adeiladau diwydiannol modern cysylltiedig hefyd.