The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

018 Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon


Aerial photograph over Cwmavon showing main road A4043 (middle), courtesy of RCAHMW.

HLCA 018 Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon

Coridor trafnidiaeth pwysig, a ddisgrifir hefyd fel enghraifft brin sydd wedi goroesi o dirwedd amaethyddol ganoloesol ac ôl-ganoloesol yn cynnwys coetir, ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig, a gweithgarwch prosesu diwydiannol yng ngefail Cwmafon â thai diwydiannol cysylltiedig.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon yn cynnwys y tir amgaeedig rhwng Mynydd y Garn-fawr a Mynydd Farteg Fawr o Flaenafon i Gwmafon.

Ddiwedd y cyfnod canoloesol roedd yr ardal agosaf at dref Blaenafon yn rhan o'r anheddiad craidd y codid rhent ychwanegol arno a chredir bod hyn yn enghraifft a oedd wedi goroesi o rent gwestfa yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol. Mewn mannau eraill roedd y tir yn eiddo i rydd-ddaliadau eraill. Cynhwysai aneddiadau amaethyddol yn yr ardal nifer o ffermydd gwasgaredig (yn debyg i heddiw) ar diroedd maenoraidd. Dymchwelwyd Capel Newydd, a adeiladwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol (SAM: MM212) ym 1863. Mae llawer o ffermydd yr ardal bellach yn adfeilion ac maent mewn ardaloedd lle y plannwyd coedwigoedd yn ystod yr ugeinfed ganrif; mae fferm Dan y Capel, y gwyddom ei bod yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, yn enghraifft.

Mae Coed Afon Farm a New Road Farm yn ffermydd sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif; newidiwyd pob un ohonynt ar raddfa fawr. Addaswyd y gyntaf yn bedair annedd ar wahân, tra bod yr ail yn adeilad unllawr a hanner yn wreiddiol. Mae'r ffermdy, er iddo gael ei newid, wedi cadw ysgubor ddiddorol yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif yr oedd ganddi do gwellt yn wreiddiol yn ôl pob tebyg.

Ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (tua 1804) adeiladwyd gefail yng Nghwmafon a gynhwysai ffwrneisi pwdlo, a oedd wedi'i chysylltu'n wreiddiol â gwaith haearn Blaenafon. Yn y 1820au cysylltwyd yr efail â gwaith haearn y Farteg i'r gorllewin. Yn gysylltiedig â'r efail mae'r teras eithriadol o dai gweithwyr (rhifau 1-12 Forge Row, Rhestredig: Gradd II*) a adeiladwyd rhwng 1804-06 ond a ailadeiladwyd yn y 1820au pan ddaeth yr efail yn gysylltiedig â gwaith haearn y Farteg. Adeiladwyd Cwmavon House (Rhestredig: Gradd II) ar gyfer y meistr haearn yr adeg honno hefyd. Lleolid chwareli yn yr ardal gerllaw'r efail a thai teras eraill a oedd yn gysylltiedig â'r rhain ac adeiladwyd y rheilffyrdd. Gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Adeiladau Hanesyddol waith atgyweirio ar Forge Row ar ddiwedd y 1980au.

Mae'r ardal yn cynnwys cysylltiadau trafnidiaeth pwysig: rhedai tramffordd, a adeiladwyd gan Thomas Dadford ym 1796, yn agos at Afon Lwyd o waith haearn Blaenafon gan derfynu ym Mhontnewynydd, a darparai fynediad i Gamlas Sir Fynwy. Disodlwyd y llwybr hwn ar ôl adeiladu Rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy (MR), ym 1854. Daethpwyd i sôn am yr olaf fel y 'rheilffordd lefel isel' i wahaniaethu rhyngddi a Changen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr, a agorodd ym 1868 ymhellach i fyny'r bryn ar ochr orllewinol y dyffryn. Ym 1877 cwblhawyd estyniad Abersychan o linell Reilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr; goroesodd y llinell hon nes iddi gau tua 1953, tra caeodd llinell Rheilffordd Sir Fynwy ym 1962.

Gwasanaethai rhai incleins tramffordd yn dyddio o'r cyfnod rhwng dechrau a chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg chwareli bach yn yr ardal a darparent gysylltiadau â thramffordd gwaith haearn Blaenafon, er enghraifft y rhai yn chwareli Gallows Green a Graig; y mae rhai olion yn gysylltiedig â'r rhain wedi goroesi. Cysylltai inclein tramffordd sylweddol Waith Glo Bryn y Farteg â llinell rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy yng ngorsaf Cwmafon; disodlwyd yr inclein yn ddiweddarach (tua 1878) gan un o linellau rheilffordd y LNWR, a gysylltai'r gwaith glo â Changen Leol Rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr.

Adeiladwyd ffordd dyrpeg ym 1847 o Bont-y-pwl i Flaenafon, dros Fryn y Farteg; dyma ffordd bresennol y B4246 a elwir hefyd yn Farteg Road. Cwmavon Road yw'r prif lwybr ffordd arall o'r de (A4043); ymddengys fod y llwybr hwn, a oedd wedi hen ymsefydlu erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn dilyn llwybr y dramffordd gynnar rhwng Blaenafon a Phontnewynydd, a gysylltai â Chamlas Sir Fynwy.

Ym 1900 adeiladwyd Bragdy Westlake (Rhestredig: Gradd II) gan y penseiri bragdai blaenllaw George Adlam and Sons ar gyfer Charles Westlake; disodlodd y bragdy hwn yr un a agorodd ym Mlaenafon yn y 1880au. Erbyn 1907 roedd gan y bragdy gadwyn o dafarndai ac roedd ei gwrw yn ennill medalau, fodd bynnag, yn y 1920au dirywodd y busnes a daeth y gweithgarwch bragu i ben ym 1928. Ym 1936 cymerwyd yr adeiladau drosodd gan The Eastern Valley Subsistence Production Company gyda'r bwriad o helpu i fynd i'r afael â phroblem diweithdra torfol yn yr ardal hon. Erbyn hyn addaswyd yr hen fragdy yn ffatri blastigau.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon yn bennaf gan nodweddion trafnidiaeth a chyfathrebu, gan gynnwys rhwydweithiau tramffyrdd, rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus, ffyrdd, llwybrau a lonydd. Ceir nifer o bontydd hefyd yn yr ardal.

Ar ben hynny mae'r patrwm o gaeau datblygedig/afreolaidd sydd wedi goroesi, sy'n cynnwys ffiniau caeau traddodiadol ar ffurf waliau sych a gwrychoedd wedi'u hategu gan ffensys pyst a gwifrau, hefyd yn nodwedd amlwg iawn o'r ardal. Mae nodweddion eraill yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth yn cynnwys er enghraifft adeiladau amaethyddol, corlannau, chwarelau ac odynau calch. Mae coetir/coedwigoedd a geir yn yr ardal, sy'n cynnwys cymysgedd o goetir hynafol a ailblannwyd, coetir llydanddail arall a choedwigoedd a blannwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn nodwedd dra amlwg.

Nodweddid prif batrwm anheddu'r ardal gynt gan ffermydd gwasgaredig, fodd bynnag, er bod rhai ffermdai o ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi goroesi, mae'r mwyafrif o'r enghreifftiau cynnar yn adfeiliedig. Roedd Dan y Capel yn fwthyn un llawr a hanner, wedi'i adeiladu o gerrig llanw, a chanddo ddwy ffenestr. Mae tai diwydiannol yr ardal yn cynnwys yn bennaf fythynnod deulawr, wedi'u rendro, ac arnynt doeau llechi, sydd fel arfer yn ffurfio pâr ag un ffrynt.

Mae Cwmavon House a'r bythynnod cyfagos yn Forge Row yn grwp hanesyddol pwysig; mae Forge Row yn cynnwys deuddeg ty ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig llanw mewn parau adlewyrchedig a chanddynt agorfeydd pen-gylchrannol, drysau estyllog a ffenestri adeiniog â deuddeg cwarel. Fe'i haddaswyd bellach yn chwe thy. Ar y to ceir teils cerrig yn bennaf, a rhai llechi a osodwyd yn lle'r teils cerrig, a chyrn simnai o gerrig. Mae Cwmavon House yn dy deulawr siâp U â phedwar bae yn arddull diwedd y cyfnod Sioraidd. Mae ganddo ffrynt wedi'i blastro â rendr rhiciedig, to llechi talcennog, cyrn simnai wedi'u gorchuddio â phlastr garw a ffenestri codi corniog ag un cwarel ar bymtheg a phedwar cwarel.

Mae adeilad Bragdy Westlake yn nodwedd drawiadol yn y dirwedd ac fe'i canmolwyd gan Gylchgrawn y Bragwyr a nododd fod 'adeiladwaith yr adeilad yn dra chadarn ym mhob ffordd' a 'bydd y gwaith yn un tra modern, yn wyddonol ac yn ymarferol.' Mae'n fragdy twr, pum llawr, uchel â swyddfeydd is a rhesi atodol o bob tu iddo. Fe'i hadeiladwyd o gerrig lleol gyda mân addurniadau o frics coch gan gynnwys conglfeini, haenau cylch a chilbyst; to llechi a chlaeruchdwr talcennog ychydig i un ochr. Mae gan y trydydd a'r pedwerydd llawr ffenestri â phennau cylchrannol a chonglfeini ac mae gan y llawr uchaf gylch o wyth ffenestr â phennau sgwâr. Mae gan y talcenni ffenestri pen-gylchrannol tebyg; yn y pen gogleddol ceir ffenestr o fath Diocletaidd wedi'i chreu gan fwa cylchrannol canolog ac mae'r pen deheuol wedi'i rendro. Mae'r mwyafrif o'r ffenestri o fath a nodweddir gan fframiau metel a chwarelau bach. Yn disgyn mewn grisiau yn y pen gogleddol ceir y bloc swyddfeydd deulawr sydd â tho talcennog; gwahaniaethir rhwng y bloc swyddfeydd hwn a'r prif fragdy gan y defnydd a wnaed o gerrig rhywiog yn hytrach na thriniaethau brics. Dengys hen luniau o'r bragdy a thystiolaeth yn y gwaith cerrig i'r to talcennog presennol uwchben y portsh gymryd lle'r nodwedd Jacobeaidd wreiddiol a gynhwysai ganllaw wedi'i sgubo at i fyny a drws pedimentog. Dengys y lluniau hefyd fod y simnai a arferai fod ym mhen deuol yr adeilad a simnai wedi'i mowldio lai o faint arall yn nhalcen gogleddol yr adeilad wedi'u colli.

Fel arall, safle Gefail Cwmafon sy'n dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a leolir ar draws y ffordd o Forge Row, yw'r arwydd amlycaf o weithgarwch prosesu diwydiannol yn yr ardal, er bod nifer o odynau calch a chwareli llai pwysig wedi goroesi hefyd.