The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

016 Cwm-mawr a Choed-y-Prior


View southeast towards Coed-y-Prior showing fieldscape and woodland

HLCA 016 Cwm-mawr a Choed-y-Prior

Ardal a ddisgrifir fel tirwedd amaethyddol amgaedig sy'n cynnwys ffermdai a bythynnod nodweddiadol a adeiladwyd o gerrig. Mae nodweddion cysylltiadau yn cynnwys Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Coetir hynafol a choetir arall.Nl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Cwm-mawr a Choed-y-Prior gan linell camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i'r dwyrain a'r tir amaethyddol amgaeedig i'r gorllewin. Er bod yr ardal hon wedi'i chynnwys o fewn y dirwedd hanesyddol, nis cynhwysir yn safle treftadaeth y byd. Mae'r ardal yn debyg iawn o ran ei chymeriad i dirwedd amaethyddol amgaeedig ehangach dyffryn Afon Gwy; mae'r prif reswm dros ei chynnwys yn y dirwedd hanesyddol yn seiliedig ar bresenoldeb Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu.

Cynrychiolir gweithgarwch cynnar yn yr ardal hon gan gasgliad o garneddau hir posibl, a leolir i'r gorllewin o Gastell Prydydd. Yn Fferm Ty Aur darganfuwyd un o ddarnau aur yr Ymerawdwr Claudius yn dyddio o 51/52 O.C. sy'n awgrymu presenoldeb Rhufeiniad yn yr ardal. Lleolir rhan helaeth o'r ardal hon y tu mewn i hen faenor Llanelen, yr oedd rhan ohoni'n eiddo i Briordy'r Fenni nes iddo gael ei ddiddymu ym 1546. Mae Cwm Mawr (Rhestredig: Gradd II), y credir mai hwn yw'r ty hynaf yn yr ardal, yn dyddio o'r bymtheg ganrif. Mae'n bosibl i'r safle hwn, yn ogystal ffermydd eraill sy'n dyddio o ddechrau'r cyfnod l-ganoloesol, gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol; mae Castell Prydydd (Rhestredig: Gradd II), Cwm-Celyn (Rhestredig: Gradd II) ac Upper Llwyn-Celyn yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg. Mae ffermydd yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg yn cynnwys Middle Ninfa, a Lower Ninfa ymlith llawer eraill. Buwyd yn llosgi golosg yn yr ardal yn ystod y cyfnod l-ganoloesol a cheir tystiolaeth o'r gweithgarwch hwn yn The Punchbowl.

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr unig newid mawr yn yr ardal oedd adeiladu Camlas Aberhonddu a'r Fenni. Fodd bynnag, ymddengys na chafodd y datblygiad hwn fawr ddim effaith ar batrymau anheddu yn yr ardal. Mae olion rhywfaint o weithgarwch cloddio ar raddfa fach yn gysylltiedig 'r gamlas i'w gweld yn yr ardal.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Cwm-mawr a Choed-y-Prior yn cynnwys tirwedd donnog o ddyffrynnoedd amgaeedig a bryniau a arferai fod yn lled-amgaedig ac a orchuddir bellach gan goetir amgaeedig (Coed-y-Prior). Mae'r ardal hon yn cynrychioli tirwedd dra amaethyddol o gaeau datblygedig, afreolaidd, o faint bach a chanolig. Mae gweithgarwch amgu nodweddiadol yn cynnwys, waliau sych, cloddiau ag wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd, cloddiau pridd, ffosydd, corlannau a ffensys pyst a gwifrau.

Nodweddir yr ardal hefyd gan goetir a gweithgareddau rheoli coedwig. Mae coetir hynafol i'w weld o hyd yn The Punchbowl a Blaen Ochram ac mae coetir Coed-y-Prior wedi'i ailblannu. Mae coetiroedd llydanddail eraill i'w cael yn yr ardal. Ffawydd, ynn, coed cyll a derw yw'r rhywogaethau sydd i'w gweld yn bennaf yn yr ardal, yn enwedig yn The Punchbowl. Bu gweithgarwch llosgi golosg yn y cyfnod l-ganoloesol ac yn fwy diweddar, sefydlwyd planhigfeydd coedwigoedd.

Un o brif nodweddion eraill yr ardal yw patrwm anheddu'r ffermydd gwasgaredig. Newidiwyd y mwyafrif o adeiladau l-ganoloesol yr ardal ar hyd y canrifoedd; disodlwyd toeau gwellt bellach gan lechi. Ailadeiladwyd enghraifft bwysig sydd wedi goroesi, sef Cwm Mawr, tua 1590 yn arddull nodweddiadol y rhanbarth. Mae Cwm Mawr, a gynhwysai'n wreiddiol ddwy ystafell a hanner croglofft, wedi'i adeiladu o gerrig llanw gwyngalchog ac mae ganddo do o deils cerrig a thrawstiau nenfwd pren trwchus ac ychwanegiadau yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg. Mae enghreifftiau eraill mewn arddull debyg yn cynnwys Cwm-Celyn ac Upper Llwyn-Celyn. Mae Castell Prydydd, ffermdy deulawr wedi'i adeiladu o gerrig llanw gwyngalchog a chanddo do llechi wedi'i gynnal gan gynnalbrennau anarferol o enfawr, a all fod wedi cynnal to cerrig yn wreiddiol, o ddiddordeb hefyd. Mae elfennau nodweddiadol eraill yn cynnwys simneiau pen o gerrig chyrn simnai wythonglog nodedig.

Mae elfennau trafnidiaeth./cysylltiadau hefyd yn nodweddiadol o'r ardal, gan gynnwys y gamlas a'r pontydd a dyfrbontydd cysylltiedig (oll yn Rhestredig: Gradd II), ceuffyrdd, llwybrau a lonydd.

Mae'r ardal hon yn un wledig yn bennaf ac mae'r cysylltiadau bro ddiwydiannol tirwedd Blaenafon yn brin ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar yr estyniad o Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu i'r de o Lan-ffwyst.