The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

014 Gofilon


Govilon Canal: view to the west.

HLCA 014 Gofilon

Anheddiad glan camlas bach a nodweddir gan dai domestig, yn amrywio o ran dyddiad o'r ail ganrif ar bymtheg i'r ugeinfed ganrif, adeiladau brodorol, tai diwydiannol a chymdeithasol. Trafnidiaeth/cyfathrebu diwydiannol: yn gysylltiedig â'r gamlas a'r lanfa. Mae nodweddion eraill yn cynnwys nodweddion prosesu diwydiannol ac amaethyddol hy melino.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Gofilon yn seiliedig ar ardal yr anheddiad craidd presennol. Yma parhaodd gweithgarwch anheddu i fod ar raddfa fach wedi'i reoli gan ei dirwedd amaethyddol ddatblygedig o gaeau afreolaidd bach tan yr ugeinfed ganrif. Mae'n debyg bod rhyw fath o anheddiad wedi'i sefydlu yng Ngofilon erbyn y cyfnod canoloesol; ategir hyn gan leoliad ffynnon gysegredig, sef ffynnon Padrig Sant, a chan gyfeiriadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg at weithgarwch melino yn yr ardal.

Mae nodweddion anheddu sydd wedi goroesi yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol, a'r cynharaf yw Govilon House (Rhestredig: Gradd II) yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg/ail ganrif ar bymtheg sy'n cynnwys newidiadau a wnaed ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (CADW, Newman 2000), ac a adeiladwyd gan y teulu Morgan. Ym 1695, adeiladwyd capel cyntaf y Bedyddwyr yng Nghymru (Rhestredig: Gradd II*) lle y lleolir Station Road heddiw ar ôl sefydlu achos y Bedyddwyr yn y Fenni ym 1652. Ailfodelwyd y capel hwn i raddau helaeth yn ddiweddarach yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae i Ofilon, sy'n cymryd ei enw o bosibl o'r gair Gwenhwyseg am efeiliau, sef gefailion, hanes o weithgarwch diwydiannol, sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif o leiaf, er efallai ei fod yn dyddio o gyfnod cynharaf. Roedd y gweithgarwch diwydiannol hwn, a gynhwysai weithgarwch melino amaethyddol, cynhyrchu calch a phrosesau metel, yn seiliedig ar argaeledd grym dwr, ar ffurf Nant Cwm Siencyn (Nant Llanwenarth), a deunyddiau crai megis calchfaen, mwyn haearn a glo o'r ardal oddi amgylch. Efallai i felinau ôl-ganoloesol, melin bannu yn Upper Mill a melin yd yn Old Mill gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol (Rees 1938). Mae'n debyg bod adeilad glan nant sydd ynghlwm wrth Mill Cottage yn cynrychioli melin arall.

Ceir sôn am y gwaith haearn yng Ngofilon erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif ar bymtheg pan oedd yn eiddo i'r teulu Harris. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gyrrid yr efail gan ddwr o gronfa ddwr fawr. Ehangodd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac o ganlyniad sianelwyd y nant ac ychwanegwyd nifer o adeiladau gan gynnwys odyn frics. Bryd hynny fe'i gelwid yn Wilden Wireworks ac felly efallai ei fod yn gysylltiedig â'r gwaith gwifrau o'r un enw yn Nyffryn Stour, Swydd Gaerwrangon. Caeodd y gwaith erbyn chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mewn cymhariaeth â graddfa gweithgarwch anheddu blaenorol, tyfodd Gofilon gryn dipyn ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae llawer o'r twf hwn i'w briodoli i ddatblygiad Camlas Aberhonddu a'r Fenni a'r datblygiad diwydiannol yng Ngheunant Clydach a'r ardaloedd o'i hamgylch. Adeiladwyd y lanfa yng Ngofilon ym 1805, er na chysylltwyd y gamlas â Llan-ffwyst tan 1812. Ym 1821 daeth glanfa Gofilon yn derfynfa i Dramffordd Bailey, (a redai o waith haearn Nant-y-glo) ymhlith llwybrau trafnidiaeth eraill ac felly roedd yn lleoliad allweddol ar gyfer masnachu mewn haearn, glo a chalch. Adeiladwyd cefnen ac arni dair odyn yr adeg honno hefyd, y defnyddiai un ohonynt y gamlas at ddibenion llenwi uniongyrchol, a warws ar y lanfa i storio haearn a gludid ar hyd Tramffordd Bailey (y ddau yn Rhestredig: Gradd II). Mae strwythurau eraill o amgylch y gamlas sydd hefyd yn Rhestredig Gradd II yn cynnwys doc sych a draen camlas, ynghyd â dyfrbont argloddiedig, sy'n cario'r gamlas dros y nant a phontydd wedi'u rhifo 96-98.

Rhedai Rheilffordd Llanfihangel, a agorwyd ym 1814, rhwng y lanfa yng Ngofilon a man ychydig i'r gogledd o'r ffordd i Landdewi Nant Honddu yn Llanfihangel Crucornau. Ym 1862 agorodd llinell Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni, a adeiladwyd yn bennaf i ddarparu rheilffordd rhwng Merthyr Tudful a'r Fenni ac a redai trwy Ofilon gerllaw'r gamlas. Disodlodd Dramffordd Bailey a'r gamlas yn y diwedd fel y prif ddull cludo deunydd a nwyddau i'r ardal ac oddi yno. Mae traphont y rheilffordd a adeiladwyd i gario llinell rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a'r Fenni, dros y gamlas bellach yn strwythur rhestredig Gradd II.

Mae aneddiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n ymwneud â'r datblygiadau hyn yn cynnwys Gwesty'r Lion, swyddfa bost, gof a thai yn y Graig, Forge Row, Holybush Cottage, The Cottage, Tan y Bryn, Chapel/Alma Cottages (Rhestredig: Gradd II), Wilden Cottage (cyn -dy rheolwr Gwaith Gwifrau Wilden), Station House, Crossing Cottage, Greenfield Cottages, Troedyrhiw Cottages a Rose Cottage. Adeiladwyd Christ Church ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chodwyd ysgol ym 1861.

Er gwaethaf datblygiad diwydiannol yr ardal, gan gynnwys adeiladu'r gamlas a'r rheilffordd, at ei gilydd arhosodd yn anheddiad bach a gwledig o ran cymeriad tan ail hanner yr ugeinfed ganrif pan gollwyd caeau a chlostiroedd i ddatblygiadau tai.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Gofilon fel anheddiad glan camlas a chanddo gysylltiadau trafnidiaeth pwysig a diwydiannau haearn o bob tu iddo yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fodd bynnag, fe'i nodweddir bellach gan ystadau tai cymdeithasol yn dyddio o'r ugeinfed ganrif; y mae gan rai ohonynt doeau Mansard trawiadol (Dragon Lane).

Efallai mai'r gamlas a'r lanfa a llawer o'i nodweddion cysylltiedig gwreiddiol yw nodwedd bwysicaf yr ardal; mae'r warws trillawr (Rhestredig: Gradd II), a adeiladwyd o gerrig llanw ac arno do llechi talcennog, wedi cadw llawer o elfennau nodweddiadol megis ffenestri pengylchrannol o gerrig, ffrâm drionglog fawr o haearn bwrw a arferai gynnal y craen a grisiau allanol i'r drysau llwytho ar y llawr cyntaf. Mae nodweddion trafnidiaeth nodweddiadol eraill sy'n gysylltiedig â'r gamlas yn cynnwys pontydd niferus yr ardal, sy'n cynnwys pontydd camlas ag un bwa a adeiladwyd o gerrig llanw o fath 'newid drosodd' (pontydd 96, 97 a 98), sydd â bwa cylchrannol o gerrig trionglog a chonglfaen a chanllawiau sy'n ymestyn allan yn y ddeupen sy'n nodweddiadol o bontydd 'newid drosodd'. Mae pontydd eraill yn cynnwys traphont y rheilffordd a chanddi un bwa a adeiladwyd o gerrig llanw ag wyneb o feini a dyfrbont, bwa cylchrannol o gerrig trionglog a chanllaw gwastad â stripiau pilastr pen.

Mae gan graidd yr anheddiad gwreiddiol gynllun clwstwr digynllun afreolaidd o amgylch cyffordd Church Lane, y ffordd sirol (B4246) a'r pontydd sy'n croesi Nant Cwm Siencyn, a cheir rhwyfaint o ddatblygiadau strimynnog mewn mannau eraill. Mae'r strwythurau cynharaf sydd wedi goroesi yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, ac maent yn cynnwys Derwen Deg (Rhestredig Gradd II â'i ysgubor gysylltiedig); er iddo gael ei ailadeiladu yn y ddeunawfed ganrif, mae ganddo gymeriad Sioraidd cryf o hyd. Mae gan y ty deulawr hwn waliau wedi'u chwipio â gro a tho llechi a ffenestri to a ychwanegwyd. Mae gan du blaen cymesur yr adeilad dair ffenestr godi ddigorn ag un ar bymtheg o gwarelau o dan bennau â chambr. Mae'r drws canolog o baneli ffildiedig o fewn portico â physt haearn. Ar gyrion y craidd gwreiddiol lleolid Govilon House (Rhestredig: Gradd II), ailfodeliad yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Sioraidd (dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg) o dy a adeiladwyd ar ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Mae gan yr adeilad deulawr hwn dri bae. Fe'i hadeiladwyd o Hen Dywodfaen Coch ac mae ganddo ddrychiadau wedi'u chwipio'n wlyb ac wedi'u paentio, to llechi uchel â chyrn simnai wedi'u rendro â sment ar yr oleddf ôl. Mae'r adeilad wedi cadw llawer o nodweddion gwreiddiol megis bondo cilfwaog, ffenestri codi â chwarelau bach a drys mawr â chwe phanel. Mae ffermydd yn dyddio o'r cyfnod yn cynnwys Upper Mill Farm a Thy-clyd.

Ymddengys i'r clwstwr llai o faint o adeiladau gerllaw Bridgend Inn ddatblygu yn y lle cyntaf o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg, gan fanteisio ar welliannau ym maes amaethyddiaeth a'r rhwydwaith ffyrdd lleol. Mae'r adeiladau yn yr ardal hon ar y cyfan yn arddangos nodweddion sy'n nodweddiadol o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeiladwyd Bethanfedw a Ty Fedw Cottage o gerrig, a chanddynt du blaen wedi'i rendro o dan do panteils. Mae nodweddion sydd wedi goroesi yn cynnwys cyrn simnai o gerrig a brics, ffenestri codi â phedwar cwarel, ac ymyl bondo rhwyllog, addurnedig yn dyddio o oes Fictoria ar y ffenestri dormer. Mae Brook House, adeilad deulawr yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif, sydd â drychiadau wedi'u rendro ac ychwanegiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi cadw corn simnai enfawr yn nhalcen y ty, gyda phâr o ffenestri caeedig ar y naill ochr a'r llall. Mae'r Bridgend Inn, adeilad deulawr a adeiladwyd o gerrig, yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf ond efallai ei fod yn hyn na hynny; mae ganddo ddrychiad wedi'i rendro â ffrynt dwbl a mynedfa ychydig i un ochr yn y traddodiad brodorol, a chyrn simnai o frics yn y ddau dalcen a tho llechi, ac mae wedi cadw ffenestri codi gwreiddiol sydd ag un ar bymtheg o gwarelau ar y llawr isaf a chwe chwarel ar y llawr uchaf.

Mae gan Gapel y Bedyddwyr yn Llanwenarth, a sefydlwyd yn gymharol gynnar ac a ailwampiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, do llechi hanner talcennog nodweddiadol gyda drychiadau wedi'u rendro, ar wahân, i'r ochr orllewinol lle gosodwyd llechi. Mae'n adeilad deulawr ffrynt dwbl ag iddo ffenestri codi, un ar bymtheg o gwarelau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, sydd â phen cambr ar y llawr gwaelod. Mae ganddo fynedfa ychydig i un ochr a drysau cilfachog a adnewyddwyd. Mae'r fynwent gysylltiedig yn dal i gynnwys casgliad da o gerrig bedd Sioraidd a Fictoraidd, tra bod y wal derfyn wedi cadw giât haearn yn arddull Gothig ojî.

Datblygodd yr anheddiad ymhellach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl adeiladu'r gamlas, ei glanfa a rhwydweithiau tramffyrdd. Nodweddir hyn yn bennaf gan ddatblygiadau strimynnog yn yr ardal o amgylch y lanfa, ac ar hyd y ffordd i Gapel y Bedyddwyr yn Llanwenarth (Gradd II*) a Mill Lane. Nodweddir y datblygiadau strimynnog hyn gan fythynnod deulawr a adeiladwyd o gerrig llanw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y gwyngalchwyd llawer ohonynt, a chanddynt doeau llechi a chyrn simnai wedi'u rendro. Ceir bythynnod â ffrynt dwbl ac un ffrynt ac yn y mwyafrif o achosion adnewyddwyd ffenestri a drysau. Ceir enghraifft bwysig yn Chapel Cottages (Alma Cottages), teras o dri bwthyn ar hyd Station Road, gerllaw'r gamlas. Adeiladwyd y bythynnod deulawr, gwyngalchog hyn o gerrig llanw ac mae ganddynt doeau llechi a chyrn simnai o gerrig â choleri o frics coch. Mae gan rifau 1 a 2 ffrynt cymesur â dwy ffenestr ac mae'r corn simnai wedi'i alinio ar hyd y to i wasanaethu'r ddau fwthyn, tra bod gan rif 3 un ffrynt. Maent wedi cadw ffenestri adeiniog nodweddiadol a drysau estyllog.

Mae adeiladau pwysig eraill sy'n edrych fel petaent yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys Gwesty'r Lion ac adeilad â ffrynt dwbl a leolir gyferbyn ag ef. Mae Gwesty'r Lion a adeiladwyd o gerrig patrymog gorchuddiedig heb eu rendro wedi'i foderneiddio ac mae'n cynnwys ychwanegiad diweddarach o gerrig llanw ar yr ochr. Symudwyd y cyrn simnai a rhoddwyd drysau a ffenestri â chaeadau newydd yn lle'r rhai gwreiddiol ond mae wedi cadw portsh nodweddiadol o haearn bwrw â cholofnau Dorig hir. Mae'r adeilad gyferbyn (sydd bellach yn swyddfa bost), wedi'i rendro ac mae ganddo ffenestr siop wreiddiol ar y chwith, to teils a chorn simnai o frics.

Mae melinau hefyd yn nodwedd eithaf amlwg o'r ardal, ac maent yn rhoi rhyw syniad pam y datblygodd yr anheddiad yn wreiddiol. Ailadeiladwyd Upper Mill ac Old Mill yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae un maen melin wedi goroesi o Upper Mill ac mae wedi'i osod yn y wal gerllaw'r ysgubor yn Upper Mill Farm. Mae cyn-efail a leolir wrth gyffordd Church Lane a ffordd y B4246 hefyd yn haeddu sylw. Adeiladwyd yr adeilad hwn sydd â ffrynt dwbl o gerrig bras ac mae ganddo gapanau o frics coch ar y drws a'r ffenestri, a tho teils.

Nodweddir yr ardal gan olion diwydiannol hefyd ac maent yn cynnwys gefail/gwaith haearn (gwaith gwifrau yn ddiweddarach), odynau calch a rhai chwareli bach.