The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Blaenafon

013 Cwm Llanwenarth a Chwm Craf


Enclosed agricultural landscape of small, irregular fields, Cwm Llanwenarth: view to the north

HLCA 013 Cwm Llanwenarth a Chwm Craf

Tirwedd amaethyddol amgaeëdig yn cynnwys patrwm caeau datblygedig, afreolaidd a ffiniau caeau traddodiadol ac adeiladau brodorol nodweddiadol: ffermdy a bythynnod wedi'u hadeiladu o gerrig. Lleiniau gwasgaredig o goetir hynafol a rhai coedwigoedd a blannwyd. Mae'r brif nodwedd ddiwydiannol yn ymwneud â rhwydweithiau trafnidiaeth. Cysylltiadau hanesyddol.Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Llanwenarth a Chwm Craf yn cynnwys Cwm Llanwenarth, gan ddilyn yr esgair naturiol i'r gogledd a chan ddefnyddio'r isffordd o Fferm Llwyncelyn i Ofilon fel ffin gyfleus. Nodir y ffiniau deheuol a gorllewinol gan y tir amaethyddol amgaeedig ar gwr yr anheddiad a'r gamlas ar hyd y gogledd a'r dwyrain. Gwahenir HLCA013 a HLCA016 gan ffin sy'n cynrychioli ffin Safle Treftadaeth y Byd.

Lleolir yr ardal ym mhlwyf Llanwenarth ac mae'n rhan o bentrefan Llanwenarth Ultra. Mae Bradney yn nodi bod Llanwenarth Ultra yn eiddo i faenor y Blorens ac nad oedd gan Lanwenarth ei faenor ei hun. Mae i'r ardal hon hanes hir o weithgarwch anheddu amaethyddol a nodir gan y cloddwaith/gwersyll cynhanesyddol yn Sgubor Ddu, tra credir i'r ffermydd sy'n dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol; fodd bynnag, nid oes fawr ddim tystiolaeth gofnodedig wedi goroesi o'r cyfnod cyn yr ail ganrif ar bymtheg. O ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol cynhwysai'r economi amaethyddol weithgarwch plannu coetir at ddibenion cynhyrchu golosg i'w ddefnyddio yn y diwydiant gweithio haearn a ddechreuwyd gan y teulu Hanbury.

Cwm Farm, sy'n dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg/dechrau'r ail ganrif ar bymtheg yw un o'r ffermdai cynharaf yn yr ardal. Mae anheddau cynnar eraill yn cynnwys Ffermdy Bryn y Cwm, Ffermdy Brook a Llanfoist House, sydd i gyd yn dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg; tra credir bod y ffermdai canlynol yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif: Ffermdy Upper Cwm, Ffermdy Garnddyrys, Ysgubor Abbot ac o bosibl Llwyn-y-Fedw a Thy Trawst (sy'n adfeiliedig).

Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg crëwyd cysylltiadau trafnidiaeth pwysig mewn ymateb i'r cynnydd mewn gweithgarwch diwydiannol yn yr ardaloedd oddi amgylch. Roedd Camlas Brycheiniog a'r Fenni (a elwir bellach yn Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu), a gwblhawyd yn Llan-ffwyst ym 1812, yn bwysig i gludo haearn, glo a chalch. Adeiladwyd glanfa yn Llan-ffwyst tua 1812, wedi'i chysylltu â Thramffordd Hill ar y Blorens gan gyfres o incleins (SAM: MM276) i gludo deunyddiau o waith haearn Blaenafon a safleoedd cloddio cysylltiedig i'r gamlas. Mae'r incleins yn disgyn mewn tair rhan o 375 m ar lefel Tramffordd Hill i 120m wrth y lanfa. Mae dwy ffos ddraenio a thair olwyn frecio wedi goroesi ac mae ffurfiant yr inclein i'w weld, ynghyd â darnau o'r wal gynhaliol a rhai bwâu. Ystyrir ei bod yn debyg bod olion claddedig cysylltiedig wedi goroesi yn yr ardal. Gall nifer o chwareli bach, a weithiai galchfaen a thywodfaen yn yr ardal hon, fod yn gysylltiedig â'r gwaith a wnaed i adeiladu'r gamlas a nodweddion cysylltiedig megis yr inclein, yn ogystal â gweithgarwch adeiladu lleol a dibenion amaethyddol.

Croesai Tramffordd Bailey, a agorodd ym 1821, yr ardal hefyd i gyffordd â'r gamlas yng Ngofilon. Rhedai'r dramffordd o'r gwaith haearn yn Nant-y-glo ac yn yr ardal hon dilynai ddolen ar hyd cyfuchlin dyffryn Cwm Llanwenarth. Mae pont dramffordd o waith cerrig (SAM: MM204), a leolir gerllaw traphont ddiweddarach, yn rhychwantu'r ddolen; nis defnyddir y naill na'r llall bellach.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir Cwm Llanwenarth a Chwm Craf fel tirwedd amaethyddol, sydd wedi cadw patrwm caeau datblygedig/afreolaidd nodweddiadol o gaeau bach i ganolig eu maint a ffermydd gwasgaredig wedi'u gosod o fewn eu daliadau. Ceir amrywiaeth o ffiniau caeau amaethyddol, gan gynnwys waliau sych, cloddiau ag wyneb o gerrig, gwrychoedd, corlannau, cloddiau pridd a rhai ffensys pyst a gwifrau modern. Mae'r patrwm caeau presennol yn awgrymu i'r ardal ddatblygu i ddechrau o ganlyniad i ddaliadau ar wahân, megis fferm Bryn-y-Cwm, yn ehangu o fewn tirwedd agored yn bennaf, yr amgaewyd y cyfan ohoni yn ddiweddarach. Ers hynny cynyddodd yr ardal amgaeedig ymhellach trwy'r broses dresmasu ar hyd y ffin rhwng y tir amgaeedig hirsefydlog a'r mynydd agored yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Mae rhywfaint o dystiolaeth hefyd i'r caeau o amgylch Brook Farm a Cwm Farm gael eu hailwampio a'u cyfuno yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Nodweddir yr ardal gan ffermdai yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, y newidiwyd y mwyafrif ohonynt. Mae enghreifftiau yn cynnwys Cwm Farm, (Ty Du), ty uned unllawr a hanner ar ffurf L yn dyddio o ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg i ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg a chanddo ychwanegiadau diweddarach a drychiadau wedi'u rendro o dan do llechi serth â chyrn simnai; Ffermdy Bryn-y-Cwm, adeilad bach hirsgwar a adeiladwyd o gerrig, sydd hefyd yn dy unllawr a hanner, a chanddo do llechi modern ac ychwanegiadau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; a ffermdy Brook (a ailadeiladwyd yn y 1970au), ty mynedfa-cyntedd a chanddo waliau o gerrig llanw a thoeau llechi. Newidiwyd y ffermdai ôl-ganoloesol canlynol, sydd fel arfer yn adeiladau deulawr wedi'u hadeiladu o gerrig llanw a chanddynt doeau llechi, gryn dipyn yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg: sef Upper Cwm, Llwyn-y-Fedw a Garnddyrys.

Mae Llanfoist House (Adeilad Rhestredig: Gradd II) yn arbennig o bwysig i'r ardal. Cafodd yr adeilad hwn, sy'n dyddio o'r ail ganrif ar bymtheg, ei ailwampio a'i ymestyn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac unwaith eto yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan fu'r meistr haearn Crawshay Bailey yn byw ynddo. Mae disgrifiad adeilad rhestredig Cadw yn cofnodi "ty trillawr sylweddol â dwy res o ystafelloedd yn dyddio o ganol y cyfnod Sioraidd. Mae gan y ty gwreiddiol ffrynt cymesur wedi'i rendro sydd â phum ffenestr a chonglfeini cerrig, bandiau plât a chornis bondo cilfwaog a chromfachog o dan do llechi talcennog; dymchwelwyd y simneiau. Ceir ffenestri codi â chwarelau bach a phennau a chonglfeini â chambr graddol ar y llawr cyntaf a'r llawr gwaelod; ffenestri corniog â naw cwarel ar yr ail lawr a ffenestri â deuddeg cwarel oddi tanynt. Ceir mynedfa ganolog â drysau dwbl panelog enfawr; arferai gynnwys portsh llydan. Yn disgyn mewn grisiau i'r chwith mae'r estyniad a adeiladwyd yn y 1920au mewn arddull debyg a chanddo ffrâm ddrws Dorig. Ceir gwahanol estyniadau a newidiadau modern tua'r cefn ond mae wedi cadw ffenestr godi â gwydrau ymylol yn y canol; simneiau o frics. Ychwanegwyd ystafell wydr at yr ochr dde."

Mae bythynnod yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn arddull frodorol yr ardal hefyd yn nodweddiadol, y mae'r mwyafrif ohonynt bellach yn adfeiliedig. Fel arfer roedd y bythynnod hyn wedi'u hadeiladu o gerrig llanw a chanddynt ffrynt dwbl a thoeau llechi; mae enghreifftiau o'r rhain yn cynnwys Bryn y Cwm Cottage, Ty Moses, Little Pen y Graig, Hafod Illtyd, Maes-y-Nant ymhlith eraill yng Nghwm Llanwenarth. Yn perthyn i'r cyfnod hwn mae White Lodge, y credir iddo gael ei adeiladu pan oedd Llanfoist House yn eiddo i Crawshay Bailey. Mae gan yr adeilad unllawr a hanner hwn waliau wedi'u chwipio â gro a llechi to a adnewyddwyd â theils crib yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; mae wedi'i newid ac wedi'i ymestyn gryn dipyn erbyn hyn.

Mae cysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu yn nodwedd amlwg a cheir elfennau yn amrywio o gamlesi a thramffyrdd i lwybrau a lonydd isel niferus yr ardal. Y gamlas a'i nodweddion cysylltiedig yw'r rhai pwysicaf, y mae llawer ohonynt yn strwythurau rhestredig Gradd II. Er enghraifft, ty cwch Glanfa Llan-ffwyst oedd yn un o'r warysau cynharaf a adeiladwyd i storio cynhyrchion haearn o Flaenafon; Boathouse Cottage; twnnel o dan y gamlas a grisiau cysylltiedig, a nifer o bontydd dros y gamlas, y cariai un ohonynt a adeiladwyd o haearn bwrw ar ategion cerrig Dramffordd Hill. Ger Gofilon ceir pont tramffordd Bailey (SAM: MM204) sy'n strwythur syml ag un bwa o waith carreg nadd ardderchog. Mae sbringiau'r bwa wedi'u gosod yn ôl o'r cilbyst, gan adael gris, sy'n nodweddiadol o strwythurau diwydiannol yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Incleins deudrac hunanweithredol Tramffordd Hill (SAM: MM276), gyda strwythurau â waliau o'u hamgylch ar y naill ochr a'r llall i'r trac, hefyd yn nodweddiadol.

Fel arall nodweddir yr ardal gan goetir hynafol ym Mhen-y-Galchen, Maes-y-Felin, Pen-Graig, Coed-y-Person a Glebe Wood, yr ailblannwyd rhai ohonynt. Mae llwyfannau llosgi golosg yn deillio o weithgareddau rheoli coedwig/diwydiannol cynharach i'w cael o hyd yn yr ardal. Mewn mannau eraill, plannwyd coedwigoedd yn yr ugeinfed ganrif. Mae gan yr ardal nifer o gysylltiadau hanesyddol ac o'r rhain y pwysicaf yw'r diwydianwyr a'r peirianwyr Crawshay Bailey, Thomas Hill, John a Thomas Dadford.