Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


Prosesau, themâu a chefndir hanesyddol
Merthyr Tudful


  • Y dirwedd naturiol a'r cefndir daearegol

    Lleolir ardal dirwedd hanesyddol Merthyr Tudful o fewn llwyfandir dyranedig rhanbarth ucheldirol Morgannwg, sef Blaenau Morgannwg. Mae Merthyr Tudful a'r dirwedd hanesyddol yn llenwi'r basn naturiol ym mlaen dyffryn Afon Taf, yng nghymer afonydd Taf Fawr a Thaf Fechan ac yn ymestyn tua'r de o fewn cyffiniau rhan uchaf dyffryn Afon Taf cyn belled i'r de â Throed-y-rhiw.

    Mae ffin ogleddol tirwedd hanesyddol Merthyr Tudful at ei gilydd yn dilyn dyffryn Afon Taf Fechan sy'n cynnwys lleiniau mawr o Goetir Hynafol; ac sydd bellach yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (ardal 027). Mae ffin yr ardal yn dilyn ffin terfynau gogleddol y Fwrdeistref Sirol, gan wyro ychydig i'r gogledd o Afon Taf Fechan i gynnwys Chwarel Vaynor a Chefncoedycymer yng nghymer Afon Taf Fawr ac Afon Taf Fechan ac ymestyn ar hyd Nant Ffrwd.

    I'r gorllewin ceir llethrau agored Mynydd Aberdâr (457m), gan gynnwys Bryn-y-Badell ar ei gwr gogleddol a newidiwyd gryn dipyn gan weithgarwch cloddio yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae Mynydd Aberdâr yn ffurfio esgair Mynydd Merthyr â chopaon Twyn Gwersyllfa (420m) a Thwyn Ddisgwylfa Fawr (471) y mae rhannau helaeth ohonynt bellach wedi'u gorchuddio â choedwigoedd a Mynydd Gethin (491m), sy'n cynnwys esgair Bryn Pen-y-lan. Gorchuddir y copaon a'r llethrau uwch yn y fan hon â choedwigoedd a blannwyd, tra bod pocedi o Goetir Hynafol a lleiniau eang o aildyfiant naturiol i'w cael o hyd ar y llethrau canol a'r llethrau is; mae'r ardal bellach yn ffurfio Parc Coetir Gethin.

    Mae ochr ddwyreiniol y dirwedd hanesyddol yn cynnwys mynydd agored ac esgair weundirol Tir Comin Merthyr, a newidiwyd gryn dipyn unwaith eto gan weithgarwch cloddio, gan gynnwys gweithgarwch mwyngloddio brig a mewnlenwi. Yn y gogledd ceir llethrau adferedig Twyn-y-Waun a Threcati, sy'n codi i tua 450m, lle y buwyd yn gweithio glo brig. Mae'r ardal hon yn cynnwys rhan fechan o Gomin Gelli-gaer, i'r gorllewin o Flaen-carno. Mae esgair Tir Comin Merthyr yn parhau i'r de ar uchderau o dros 376m a chan godi i 445m ar Fynydd Cilfach-yr-encil lle y mae ar ei huchaf. Mae terfynau dwyreiniol go iawn y dirwedd hanesyddol yn cynnwys Cwm Golau a Chwm Bargod i'r dwyrain, blaen dyffryn Afon Bargod Taf, lle y mae olion Coetir Hynafol i'w gweld o hyd. Mae Afon Bargod Taf yn llifo i'r de i ymuno yn y pen draw ag Afon Taf i'r de o Dreharris.

    Lleolir tarddleoedd Afon Taf Fawr ac Afon Taf Fechan i'r gogledd o'r dirwedd hanesyddol o fewn llethrau Bannau Brycheiniog sy'n wynebu'r de. Mae Afon Taf Fawr yn ymdarddu islaw Corn-du, i'r de-orllewin o Ben-y-Fan, tra bod tarddle Afon Taf Fechan islaw wyneb de-ddwyreiniol Pen-y-Fan. Mae'r ddwy afon bellach wedi'u harneisio gan gronfeydd dwr, i'r gogledd o ffin y dirwedd hanesyddol: sef cronfeydd dwr y Bannau Brycheiniog, Cantref a Llwyn-on ar Afon Taf Fawr a chronfeydd dwr Neuadd Uchaf, Pentwyn a Phontsticill ar Afon Taf Fechan.

    Wrth gyrraedd y tirweddau hanesyddol, mae tirwedd dyffryn Afon Taf Fechan yn llawer mwy rhychog nag un Afon Taf Fawr. I'r de o'r cymer yng Nghefncoedycymer, mae tirwedd dyffryn Afon Taf yn mynd yn lletach gan ffurfio basn â chymer isafon Nant Morlais; i'r de o Abercanaid Uchaf mae'r dyffryn yn mynd yn gulach unwaith eto.

    Newidiwyd tirwedd yr ardal yn ystod y cyfnod Pleistosenaidd, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl, gan rewlifo i greu'r dirwedd sydd gennym heddiw. Y prif fan casglu rhewlifol yn Ne Cymru oedd Bannau Sir Gaerfyrddin a Bannau Brycheiniog, y deilliodd nifer fawr o rewlifau peiran o'u hwyneb gogleddol.

    Mae daeareg yr ardal astudiaeth yn cynnwys dyddodion y Cystradau Glo Uchaf (Pennant), Isaf a Chanol, sy'n cynnwys Cerrig clai, Tywodfaen a chronfeydd glo a haearnfaen; sydd wedi'u rhannol orchuddio mewn mannau gan ddyddodion Clai Clogfaen. Uwchben y ddaeareg soled ceir "priddoedd llwyd" a thrwch o fawn sydd at ei gilydd yn wael, yn fas ac yn asidig, sy'n creu amgylchiadau gweundir sydd wedi'i ddraenio'n wael (Gillham 1981). Roedd dyddodion y Cystradau Glo Isaf yn arbennig o bwysig i ddatblygiad diwydiannol yr ardal, ac maent yn cynnwys cerrig llaid siltiog llwyd a rhai tywodfeini yn bennaf (Barclay 1988). Ar ben hynny ceir dyddodion haearnfaen yn cynnwys bandiau o nodylau haearnfaen yn y Cystradau Glo Isaf (Blandford 1981).

    Er bod rhywfaint o waith dadansoddi paill wedi'i wneud ar safleoedd archeolegol yn yr ardal, mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar ddadansoddi deunydd yn gysylltiedig â'r Oes Efydd, a chyfnodau diweddarach. O ganlyniad, mae tystiolaeth leol o amgylchiadau amgylcheddol cynharach ac yn wir yn ystod y cyfnod yn syth wedi Oes yr Iâ yn gyfyngedig. Cymerir yn ganiataol, wrth i'r hinsawdd wella'n raddol yn dilyn y rhewlifiant olaf, i goetir brodorol trwchus raddol ymestyn ar draws yr ardal, a gynhwysai rywogaethau megis y gollen-cafwyd cnau barfog o gyd-destunau Neolithig ym Mynydd Cil-Sanws. Mae dynol ryw wedi cael effaith aruthrol ar y coetir hwn; ac awgrymir bod pobl wedi bod yn graddol gymynu'r coed ers y cyfnod Neolithig o leiaf, rhywbeth a ategir gan ddarganfyddiadau ar ffurf bwyeill yn dyddio o'r cyfnod ac yn deillio o'r ardal. Dengys gwaith dadansoddi paill o safleoedd yn dyddio o'r Oes Efydd i'r gorllewin o'r dirwedd hanesyddol fod yr ardal ar y pryd yn cynnwys rhostir wedi'i orchuddio â choed, coed derw yn bennaf. Mae tystiolaeth yn awgrymu erbyn diwedd yr Oes Efydd, fod ardaloedd ucheldirol Merthyr Tudful at ei gilydd wedi'u gorchuddio â mawnogydd helaeth (Casledine 1990).

    Mae'n amlwg, er gwaethaf effeithiau dyn, fod yr ardal wedi cadw ei chymeriad tra choediog trwy gydol y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, tan ddechrau'r 18fed ganrif o leiaf. Dengys mapiau'r Arolwg Ordnans dyddiedig 1812 a map Colby dyddiedig 1833, ardal Merthyr Tudful bryd hynny a nodweddir gan goedwigoedd toreithiog, ac ategir hyn gan ddisgrifiadau cyfoes ymwelwyr Seisnig â'r ardal, o John Leland i Thomas Roscoe. Mae tystiolaeth bellach o olwg coediog yr ardal wedi goroesi yn ei henwau lleoedd; ceir llawer o enwau yn cynnwys yr elfen coed, megis Coed Meurig, a Chefncoedycymer, enwau yn cynnwys yr elfen coedcae, megis Pen-coedcae, Coedcae ynghyd â nifer fawr o enwau yn cynnwys y geiriau coed cae, yn ffinio ag ucheldiroedd agored a thiroedd comin yr ardal.

    Fodd bynnag, pan agorwyd yr ardal i'r diwydiant haearn yn ystod y 18fed ganrif, newidiwyd cymeriad coediog Merthyr Tudful. Dinoethwyd llawr a llethrau'r dyffryn yn gyflym o'u coedwigoedd i gynhyrchu golosg at ddibenion toddi ac i gynhyrchu pyst pwll, gan adael dim ond y llecynnau bach o goetir y gellir eu gweld heddiw, sydd bellach wedi'u hehangu gan blanhigfeydd sylweddol a blannwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod yr 20fed ganrif.

  • Y dirwedd amaethyddol

    Crëwyd y dirwedd bresennol i raddau helaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif. Nid yw effaith uniongyrchol diwydiannu cyflym yn ystod y cyfnod, a amlygir gan dirweddau wedi'u nodweddu gan weithgarwch cloddio ac anheddu trefol ar raddfa fawr, ond yn rhan o'r broses o weithgarwch ffurfio tirwedd. Ffactor pwysig arall oedd amaethyddiaeth neu'n fwy penodol gwelliannau cysylltiedig mewn amaethyddiaeth a symbylwyd yn aml gan brif ddiwydianwyr yr ardal megis y teulu Crawshay ac Ieirll Plymouth; y bu'n rhaid wrth yr olaf oherwydd y galw uwch o drefi diwydiannol yr ardal.

    Mae olion y dirwedd amaethyddol wedi goroesi rywsut-rywsut mewn ardaloedd i ffwrdd o lawr y dyffryn, ar y llethrau mwy serth yn bennaf, a welodd lai o ddatblygiadau diwydiannol. Er bod amaethyddiaeth draddodiadol ardal Merthyr Tudful yn seiliedig ar system o ffermio cymysg, yr elfen fugeiliol, sef magu da byw, a fu'n bennaf ac mae'r cofnod archeolegol yn adlewyrchu hynny.

    Mae'r dystiolaeth uniongyrchol gynharaf o sylfaen amaethyddol gynddiwydiannol yr ardal yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac mae'n cynnwys nodweddion anheddu a nodweddion amaethyddol cysylltiedig. Mae enghreifftiau yn cynnwys bryngaer Gwersyll, ychydig y tu hwnt i derfynau'r dirwedd hanesyddol, safle bryngaer bosibl ar Fryn Morlais (a guddir gan y castell canoloesol), a'i system gaeau greiriol helaeth gysylltiedig, a'r caeau a'r cylchoedd cytiau ar Garn Ddu. Mae'n debygol iawn bod aneddiadau ucheldirol a chaeau amaethyddol cysylltiedig ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol yn llawer mwy cyffredin yn yr ardal nag y byddai dosbarthiad y safleoedd sydd wedi goroesi y gwyddom amdanynt yn awgrymu, a chafodd rhan helaeth o'r dirwedd ei chuddio a'i newid yn ddiwrthdro yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol a'r cyfnod modern. Roedd y mwyafrif o'r aneddiadau yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol yn yr ardal yn gysylltiedig ag economi bugeiliol yn seiliedig ar wartheg. Mae safle anheddiad Garth Fawr (PRN 043 1 3m) yn darparu enghraifft ddiddorol o anheddiad amaethyddol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol. Mae'r safle yn cynnwys ar wyneb y ddaear olion tri chylch cytiau o leiaf, nifer o gafnau, llwyfannau, ceuffordd, caeau cysylltiedig a waliau crwydrol.

    Prin yw'r dystiolaeth gynharach o amaethyddiaeth ar gyfer yr ardal ac mae'n seiliedig yn bennaf ar ddarganfyddiadau sy'n amlygu gweithgarwch dynol cyffredinol. Mae'r rhain yn cynnwys gwasgariad o fflintiau (PRN 00880m), yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig a ddarganfuwyd i'r de o Abercanaid, a 'phen bwyell fonfain wedi'i wneud o onnen helygaidd' (PRN 00478m; GCH 1984 438) a ddarganfuwyd ger Twynyrodyn, Merthyr Tudful, sy'n arwydd o weithgarwch parhaol i mewn i'r cyfnod Neolithig.

    Er bod cyrion a therfynau'r rhostir agored (h.y. rhan ogleddol Tir Comin Merthyr), sy'n codi o 320m i 430m, wedi symud i ryw raddau dros amser, ymddengys fod cymeriad cyffredinol yr ardal yn deillio o ddiwedd y Cyfnod Neolithig (2,500 CC). Yn ystod y cyfnod hwn y dechreuwyd manteisio ar y coedwigoedd helaeth a orchuddiai'r ardal, ac, erbyn diwedd yr Oes Efydd Ddiweddar (1,300 CC),byddai tirwedd agored y tir comin neu'r mynydd agored â'i briddoedd sydd ar y cyfan yn ddiraddiedig ac yn wael, sydd bellach yn gyfarwydd, wedi'i sefydlu. Mae cymeriad y rhostir hwn yn hawdd ei adnabod o hyd er iddo gael ei drawsnewid ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod diwydiannol.

    Dengys gwaith dadansoddi paill a wnaed yn yr ardal yn glir yr effaith y mae gweithgarwch dynol wedi'i chael ar lystyfiant naturiol yr ardal; mae'r gweithgarwch hwn yn ei anterth ar ddiwedd yr Oes Efydd. Nid yw'n syndod bod yr effaith gyntaf o bwys a gafodd gweithgarwch anheddu gan bobl ar amgylchedd ffisegol yr ardal yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol.

    Unwaith eto ychydig o dystiolaeth sydd o weithgarwch amaethyddol Rhufeinig yn yr ardal. Mae'r dystiolaeth i gyd bron yn ymwneud â gweithgarwch milwrol (y gaer ym Mhenydarren) neu waith cysylltiedig (y ffordd o Gelligaer i Aberhonddu), er bod anheddu a gweithgarwch amaethu cysylltiedig wedi parhau, yn ôl pob tebyg, gan rychwantu'r Oes Haearn a'r cyfnod Rhufeinig. Ystyrir bod economi bugeiliol yn seiliedig ar wartheg, a fynnai yn ôl pob tebyg batrwm anheddu gwasgaredig a symudol, trwy gydweddiad, yn nodweddiadol o'r cyfnod.

    Nid yw lefel y gweithgarwch anheddu ar ddechrau'r cyfnod canoloesol yn hysbys; fodd bynnag, mae'n debyg bod anheddu gan y brodorion wedi parhau i ryw raddau drosodd o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol/Rhufeinig. Daw'r unig arwydd pendant bod pobl yn byw yn yr ardal ar ddechrau'r cyfnod canoloesol o'r ffaith i eglwys Sant Tudful ym Merthyr Tudful gael ei chysegru ar ddechrau'r cyfnod canoloesol ac o dystiolaeth enwau lleoedd sy'n nodi eglwys/anheddiad mynachaidd Cristnogol cynnar (Cil neu Eglwys Sanos, chwaer Sant Tudful), yn ardal Cil Sanws. Mae'n debyg bod natur ddiwydiannol a threfol llawr y dyffryn ledled yr ardal dirwedd hanesyddol eithriadol wedi arwain at golli cryn dipyn o nodweddion aneddiadau cynharach.

    Mae'n debyg y byddai parhad yn hytrach na newid wedi nodweddu amaethyddiaeth yn ystod y cyfnod cynhanesyddol-canoloesol. Byddai rhostir agored yr ardal, megis Tir Comin Merthyr (sydd ar gyfartaledd rhwng 340 OD a 450 OD) wedi darparu tir pori ucheldirol, lle mai gwartheg, yn hytrach na defaid, oedd y sylfaen economaidd bennaf.

    Erbyn y cyfnod canoloesol, roedd y patrwm hwn wedi dechrau newid, ac amgaewyd llawr a llethrau is y dyffryn i ffurfio caeau amgaeëdig o amgylch ffermydd anghysbell; fodd bynnag, parhaodd yr ardaloedd ucheldirol i fod yn adnodd pwysig, i'w defnyddio fel porfeydd haf ar gyfer y da byw, yn seiliedig ar y system 'hendre-hafod' o drawstrefa amaethyddol. Wedi'u gwasgaru yma ac acw yn yr ardaloedd o dir comin ceir Aneddiadau Gwledig Anghyfannedd (tai llwyfan), y mae'n debyg y byddai pobl yn byw ynddynt yn dymhorol ar y cyfan, fel rhan o'r patrwm trawstrefa hwn.

    Mae'r cofnod cartograffig a thystiolaeth enwau lleoedd yn rhoi rhyw syniad o ran lleoliad aneddiadau canoloesol ar hyd llawr y dyffryn, hy enwau lleoedd yn cynnwys yr elfennau hendre a hafod, ee Hendre-Fawr. Mae'r holl nodweddion anheddu yn dyddio o'r cyfnod hwn sydd wedi goroesi i'w cael yn yr ardaloedd ucheldirol uwch. Byddai'r nodweddion anheddu wedi cynnwys yn bennaf dai llwyfan, cytiau hir, fel arfer wedi'u gosod mewn parau; ymddengys y byddai pobl yn byw yn yr anheddau ucheldirol neu'r hafodau hyn yn dymhorol ac roeddynt yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth fugeiliol, a oedd yn seiliedig yn bennaf ar fagu gwartheg. Lleolir safleoedd y tai llwyfan fel arfer yn nhoriad uchaf y llethr ar hyd cyrion y tir pori ucheldirol eang, ac mae'r lleoliad yn aml yn adlewyrchu'r lefel uchaf o weithgarwch amgáu a thresmasu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Drwy astudio'r dystiolaeth gartograffig ymhellach efallai y bydd modd cyfateb dosbarthiad yr aneddiadau ucheldirol y gwyddom amdanynt â dosbarthiad aneddiadau llawr y dyffryn. Credir bod y 'twmpath clustog' ym Mryn-y-Gwyddel, sy'n gwningar artiffisial, yn dyddio o'r cyfnod hwn hefyd.

    Ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, credir i system y 'hendre-hafod-' gael ei graddol ddisodli trwy newid mewn arfer bugeiliol. Y brif agwedd ar hyn yw'r newid i ffwrdd o'r arfer lle y byddai grwpiau carennydd yn symud gyda'r gwartheg yn dymhorol i fugeiliaid unigol wedi'u trefnu gan y gymuned. Ystyrir bod safleoedd lluestai yn perthyn i'r system olaf (Locock 2000). Parhaodd system llwythau Cymru a'i harferion penodol, ei system gyfreithiol, a'i systemau deiliadaeth ac etifeddiaeth tir yn hwy yn Uwch Caeach, na'r ardaloedd ymhellach i'r de, a oedd wedi dod o dan reolaeth y Normaniaid yn gynnar; mae'r effaith a gafodd hyn ar ddatblygiad amaethyddiaeth a'r daliadau amaethyddol eu hunain yn y cyfnod ôl-ganoloesol yn ddiddorol. Roedd y mwyafrif o'r ffermydd rhydd-ddaliadol yn ardal Merthyr Tudful wedi'u sefydlu erbyn yr 16eg ganrif; er nad ydym yn llawn ddeall eto y prosesau y tu ôl i'w datblygiad a'r dyddiad pryd y digwyddodd hynny, ac mae angen gwneud rhagor o ymchwil fanwl iddynt.

    Anheddiad Garth Fawr (ardal 043) oedd safle Castell Madoc, maenor gaerog y gwyddom ei bod yn anghyfannedd erbyn y 14eg ganrif; mae'r safle yn gysylltiedig ag olion llain-gaeau canoloesol posibl, neu ddrylliau, sydd wedi'u ffosileiddio o fewn y dirwedd amgaeëdig ddiweddarach. Mae maenor fynachaidd heb ei lleoli sy'n gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Margam, sef Gardino, neu'r Garth wedi'i lleoli yn betrus yn Nhrelales ger Pen-y-bont ar Ogwr (Williams 1990); fodd bynnag mae tystiolaeth enwau lleoedd (Garth, Pant Cerddinen), yn golygu bod yr anheddiad yn y Garth yn lleoliad posibl ar gyfer y faenor ymhlith nifer o leoliadau posibl eraill.

    Ni ellir dyddio'r mwyafrif o gaeau'r ardal yn fanwl, ond mae'n debyg eu bod wedi'u sefydlu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol/dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'n debyg i batrymau datblygedig, afreolaidd o gaeau amgaeëdig, cloddiau o gerrig sych yn bennaf, a gwrychoedd ar gloddiau, megis y rhai sydd wedi goroesi yn rhannau uchaf Afon Taf, Cwm Golau a Nant Gyrawd ac ar ochr ogleddol rhannau uchaf Afon Bargod Taf, uwchlaw Fferm Cwm Bargod, gael eu rhannol sefydlu yn ystod y cyfnod.

    Mae rhannau o'r prif glawdd terfyn allanol, y ffin rhwng y rhostir ucheldirol, neu'r tir comin, a'r tir pori amgaeëdig is (darnodir y terfynau uchaf gan yr elfen Coedcae mewn enwau lleoedd), sy'n diffinio'r haen allanol o gaeau, wedi goroesi. Ni ellir dyddio'r caeau hyn yn fanwl, ond mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; mae'r elfen Coedcae yn ymddangos mewn mannau eraill yn enwau caeau ymylol yn dyddio o'r 15fed ganrif i'r 16eg ganrif. Credir bod y clawdd allanol hwn yn adlewyrchu trefniadau amaethyddol (bugeiliol) cynharach a oedd ychydig yn llai caeth rhwng porfeydd gaeaf is a phorfeydd haf uwch a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol os nad ynghynt. Mae ffiniau, sy'n nodi lefel y gweithgarwch tresmasu ac amgáu ar y llethrau ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, wedi'u hadeiladu o gerrig sych yn bennaf, er bod cloddiau a chloddiau ac arnynt wrychoedd i'w gweld hefyd.

    Gwyddom fod y ffin rhwng y rhostir agored ucheldirol neu'r tir comin a thir amgaeëdig llawr y dyffryn yn nodwedd a geir mewn mannau eraill sy'n gysylltiedig â'r newid i ffermio defaid, a gysylltir yn aml â'r broses o sefydlu ystadau yn ystod y cyfnod o'r 15fed ganrif i'r 17eg ganrif. Ymddengys i'r olaf aros yn ddigyfnewid ar ôl hynny, er gwaethaf mân dresmasiadau gan sgwatwyr yn ystod y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif, megis yn Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr, Heolgerrig a Ffos-y-frân. Parhaodd amaethyddiaeth fel y prif ddiwydiant ym mhlwyf Merthyr Tudful yn ystod yr 16eg ganrif yn seiliedig yn bennaf ar ffermio defaid a gwartheg. Deilliodd dros hanner y degwm ar gyfer Plwyf Merthyr Tudful ym 1535 o dda byw, gyda llai na chwarter o'r degwm yn dod o þd (GCH 1974. 3); mae'r ffaith bod melin bannu i'w chael yn yr ardal, sef Melin-ganaid, yn arwydd unwaith eto o ba mor bwysig oedd y diwydiant gwlân i'r ardal. Ymhlith y nodweddion ffisegol sy'n dwyn i gof amaethyddiaeth ôl-ganoloesol mae corlannau, llochesau defaid, tai anifeiliaid a safleoedd lluestai. Llochesi ucheldirol oedd yr olaf a ddefnyddid yn ôl pob tebyg gan fugeiliaid unigol yn dymhorol; ac yn wir mae traddodiad yn bodoli sy'n ategu hynny. Er i weithgarwch cynhyrchu gwartheg barhau yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, daeth ffermio defaid yn brif elfen mewn amaethyddiaeth, ym Merthyr Tudful fel mewn mannau eraill yn ardal y Blaenau.

    Mae ehangu diwydiannol a threfol wedi dileu llawer o gyn-aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol yr ardal. Un eithriad yw'r ffermdy yn y Garth yn dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif, sy'n perthyn i grwp yr aelwyd-gyntedd o dai lled ganoloesol, ac yn enghraifft o'r math o ffermdy a nodweddir gan simnai dair uned â'i chefn at y fynedfa a chyntedd rhwng ystafelloedd allanol wedi'u cynhesu ac ystafelloedd mewnol cul, sy'n nodweddiadol o'r Blaenau. Ar ben hynny mae'r adeilad yn dal i gynnwys grisiau cerrig ochrol nodweddiadol sydd wedi'u hadeiladu y tu mewn i benty. Mae ffermydd ôl-ganoloesol cynnar eraill, a arferai fod yn fwy nodweddiadol o'r ardal, sy'n arddangos nodweddion brodorol yn cynnwys Graweth, ty hir o'r math a nodweddir gan simnai â'i chefn at y fynedfa, y mae ganddo dramwyfa groes allanol a grisiau yn y lle tân, a Fferm Blaencanaid.

    Disgrifiwyd yr arddull frodorol ym 1848 (Clarke 1894. 16) fel: "Yr arfer o wyngalchu bythynnod, pentrefi, a ffermydd, gan gynnwys hyd yn oed stablau, ysguboriau, a waliau iardiau a gerddi, a fu ar waith yma ers yr hen amser gynt". Mae'n drawiadol mai ychydig iawn iawn o dystiolaeth sydd heddiw bod yr adeiladau hyn wedi'u gwyngalchu; mae'r mwyafrif o'r ffermdai wedi'u hadeiladu o gerrig, ac yn aml mae ganddynt estyniad ar ffurf sleid cathod yn y cefn, sy'n dyddio o'r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg, er y ceir rhai tai hir.

    Cyn dyfodiad y meistri haearn pwerus, y mudodd nifer ohonynt o Sussex mor gynnar â'r 17eg ganrif (Thomas 1981, 275), roedd cysylltiad agos rhwng pob un o brif ddiwydiannau eraill yr ardal, megis llosgi calch, malu yd a barcio lledr, ac amaethyddiaeth. Parhawyd i ddibynnu ar ffermio llaeth i mewn i'r 17eg ganrif a'r 18fed ganrif; gwyddom er enghraifft yn ystod y cyfnod 1688-1725 fod pob ffermwr yn ardal Merthyr Tudful ar gyfartaledd yn berchen ar 15 buwch (GCH 1974, 323). Ym 1696, disgrifir Merthyr Tudful fel 'pentref o tua 40 ty' a bwriwyd amcan bod ganddo boblogaeth o 110 o drigolion; erbyn 1801, roedd poblogaeth Merthyr Tudful wedi codi i 7,700, a olygai mai hi oedd y dref fwyaf yng Nghymru ar y pryd.

    Parhaodd ffermio ôl-ganoloesol i ddefnyddio'r amrywiaeth o adnoddau, gan gynnwys coetir, tir âr a thir pori amgaeëdig, ond daethpwyd i gydnabod y posibiliadau diwydiannol, yn wreiddiol trwy gyfuno grym dwr, mwyn haearn a choed er mwyn toddi haearn gan ddefnyddio tanau golosg ar y llethrau yn yr 16eg ganrif a'r 17eg ganrif. Ar ddiwedd y 18fed ganrif, oherwydd y newid o ddefnyddio golosg i ddefnyddio glo gwelwyd dosbarthiad gwahanol o weithfeydd haearn, ymhellach i fyny'r dyffryn i Ferthyr Tudful ei hun, lle y gellid cael y calchfaen, yr haearnfaen a'r glo o ddatguddiadau ar wyneb y ddaear neu'n agos ato.

    O chwarter olaf y 18fed ganrif, dylanwadwyd yn fawr ar amaethyddiaeth ei hun gan y datblygiadau diwydiannol a threfol a oedd yn effeithio ar ardal Merthyr Tudful. Amlygir hyn gan y gwaith ad-drefnu diwydiannol amaethyddol a wnaed gan y perchenogion tir diwydiannol mwyaf blaenllaw, hy y teulu Crawshay, ac Ystâd Plymouth. Ailwampiwyd Fferm y Gurnos, er enghraifft, rhwng 1814 a 1826 i ffurfio tirwedd ddiwydiannol amaethyddol o gaeau rheolaidd mawr a chlystyrau o goed yn gysylltiedig â fferm 'fodel'; fel rhan o'r broses ailwampio symudwyd cyn-anheddiad Pantton (sydd wedi goroesi fel tirwedd amaethyddol greiriol). Datblygwyd ffurf fferm ddiwydiannol ddiweddarach Castle Farm (Ystâd Plymouth) hefyd yn ystod yr un cyfnod.

  • Tirweddau milwrol ac amddiffynnol

    Mae cadarnle canoloesol Castell Morlais (SAM Gm 28) a leolir o fewn ardal dirwedd hanesyddol Bryn a Chastell Morlais (ardal 045), yn darparu'r elfen filwrol ac amddiffynnol fwyaf trawiadol sy'n weladwy yn Nhirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful. Roedd safle tra amlwg Castell Morlais ar ben bryn yn ddewis naturiol oherwydd ei safle cryf yn edrych i lawr ar ddyffrynnoedd Afon Taf Fechan ac Afon Taf Fawr, ac am ei fod yn rheoli llwybrau cyfathrebu traddodiadol yn rhedeg o'r gogledd i'r de ac o'r dwyrain i'r gorllewin. Un o gadarnleoedd arglwyddi brodorol Senghennydd ydoedd yn wreiddiol, ac fe'i hailadeiladwyd yn ddiweddarach gan Gilbert de Clare tua 1270. Er nad oes fawr ddim ond rwbel i'w weld erbyn hyn mae'r safle o gryn bwys archeolegol, pensaernïol a hanesyddol ac mae'r olion yn cynnwys dau feili â llenfur â phump neu chwech o dyrau crwn (y mae eu gwaelodion wedi goroesi) o bob tu iddynt, y cyfan wedi'i osod o fewn clawdd a ffos (LM 10 RCAHMW 2000). Rheolai'r pennaeth Cymreig, Ifor ap Meurig, sy'n enwog yn anad dim am ddal William Fitzcount, Iarll Caerloyw a'i deulu yn wystlon oherwydd anghydfod ynghylch tir, Senghennydd yng nghanol y 12fed ganrif. Daliodd disgynyddion Ifor ap Meurig eu gafael ar rym yn yr ardal tan chwarter olaf y 13eg ganrif. Ar ôl hynny daeth yr ardal yn rhan o diroedd demen Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg (Watkins 1981, 172-7).

    Mae'r safle amddiffynnol gweladwy arall o bwys sydd i'w gael yn ardal 045, hy Castell Morlais, yn fryngaer unclawdd yn dyddio o'r Oes Haearn, sy'n cynnwys clostir hirsgwar bron yn mesur tua 1.6 ha, sydd wedi'i rannol guddio gan y castell canoloesol diweddarach. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys system gaeau greiriol gysylltiedig, a chaeau cynhanesyddol.

    Sefydlwyd y gaer Rufeinig, a leolir yng nghyffiniau maes pêl-droed Penydarren (ardal 003) tua 75 OC ac fe'i gadawyd yn wag yn ystod yr 2il ganrif OC. Darganfuwyd anheddiad sifil y tu allan i'r muriau neu vicus gan waith cloddio a dadorchuddiwyd olion mynwent yn ymestyn i'r gogledd-ddwyrain. Darparai'r gaer gysylltiad rhwng y gaer yng Nghaerdydd a'r un yn y Gaer, Aberhonddu (GCH 1984, 438; Jarrett 1969, 106; RCAHMW 1976, 84-86; Haywood 1991). Fodd bynnag, am eu bod wedi'u claddu nid yw'r gaer a'i vicus a'i mynwent gysylltiedig yn cael unrhyw ddylanwad amlwg ar gymeriad y dirwedd bresennol.

    Mae safleoedd amddiffynnol/milwrol eraill yn cynnwys meysydd saethu yn dyddio o'r 19eg ganrif ym Mhenygarnddu a Mynydd Cilsanws a safle Barics Dowlais, lle y saif Barrack Row heddiw.

  • Tirweddau angladdol a defodol

    Darperir y brif elfen dirwedd angladdol a defodol o fewn y dirwedd hanesyddol gan garneddau neu domenni claddu yn dyddio o'r Oes Efydd; mae'r rhain yn ymestyn ar hyd y tir uchel i'r gorllewin, i'r gogledd ac i'r dwyrain o fasn Afon Taf ym Merthyr Tudful, ac maent yn arwydd o ba mor bwysig oedd yr ardal fel man anheddu yn ystod yr Oes Efydd. Mae ardal 077, ar hyd ochr ddwyreiniol dyffryn Afon Taf, yn cynnwys y crynhoad mwyaf o'r nodweddion hyn ac fe'i disgrifir felly fel tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol greiriol bwysig. Lleolir dros ddeg carnedd neu domen gladdu (carneddau cylch a chrugiau crwn yn bennaf), y mae chwech ohonynt yn Henebion Cofrestredig (SAM Gm222), yn ardal 077. Gallai'r nifer fawr o garneddau ar hyd esgeiriau Mynydd Cilfach-yr-encil a Chefn Merthyr yn arbennig hefyd nodi rhyw hawliad i dir a gliriwyd, efallai wedi'i ganoli ar anheddiad yng Nghwmcothi i'r dwyrain yn ystod yr Oes Efydd.

    Ceir y crynhoad nodedig arall ar hyd esgair Mynydd Aberdâr-Mynydd Merthyr (ardal 073 ac ardal 074) i'r gorllewin; yn y fan hon mae henebion yn ymestyn ar hyd copa'r tir uchel ar hyd ffin orllewinol yr ardal dirwedd hanesyddol, gan ddynodi efallai ffin draddodiadol dra hynafol. Mae safleoedd yn y fan hon yn cynnwys carnedd gylch gofrestredig Cam Tyle Hir yn dyddio o'r Oes Efydd (SAM 402b; ardal 073), a safle cofrestredig Gain Las (SAM Gm236) ar Dwyn Gwersyllfa, a leolir ar hyn o bryd o fewn planhigfa o goed trwchus a Cham Castellymeibion (SAM Gm586) i'r de, enghraifft dda o garnedd gylch.

    I'r gogledd o'r ardal dirwedd hanesyddol ym mlaen basn Afon Taf lle y mae'n cau'r bwlch rhwng y grwpiau gorllewinol a'r grwpiau dwyreiniol ceir Carnedd Gylch Castell Morlais; clawdd crwn o rwbel calchfaen â mynedfa bosibl i'r de (SAM Gm563; ardal 045).

  • Tirweddau Parcdir a Thirweddau Pictiwrésg

    Y prif enghreifftiau sydd wedi goroesi o dirwedd parcdir neu dirwedd bictiwrésg yn nhirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful yw'r rhai sy'n gysylltiedig â chartrefi meistri haearn lleol yn dyddio o'r 19eg ganrif. Cynhwysai'r rhain: Penydarren House (ardal 003) a adeiladwyd gan Samuel Homfray ym 1786, a fu'n gartref yn ddiweddarach i Ysgol Berchenogol (1876-1888), ac a ddymchwelwyd ym 1966; Gwaelod-y-Garth gerllaw, sydd wedi goroesi, a ddefnyddiwyd dros dro gan y teulu Crawshay cyn adeiladu Castell Cyfarthfa; Dowlais House (ardal 008) a ailadeiladwyd ym 1818 ar gyfer J Guest (1785-1852), a ddymchwelwyd tua 1960; Pentrebach House (sy'n rhestredig gradd II; ardal 020) a Lodge, a adeiladwyd ar gyfer Anthony Hill perchennog Gwaith Haearn Plymouth; a Chastell Cyfarthfa.

    Mae ardal dirwedd hanesyddol Castell a Pharc Cyfarthfa (ardal 013) yn barc a gardd hanesyddol yn dyddio o'r 19eg ganrif sydd o bwys cenedlaethol, sy'n cynrychioli tirwedd aeddfed a gynlluniwyd, sydd wedi'i graddio fel II* (Cadw/ICOMOS y DU 1999, 95). Mae'r castell yn enghraifft bwysig o blasty meistr haearn (Adeilad Rhestredig Gradd I) wedi'i osod o fewn parcdir, a chanddo gysylltiadau hanesyddol a chelfyddydol pwysig. Comisiynwyd y ty gan William Crawshay ym 1825, ac fe'i cynlluniwyd gan Robert Lugar fel ffug gastell.

    Nodweddir yr ardal hefyd gan ei chysylltedd hanesyddol â Gwaith Haearn Cyfarthfa gerllaw a'r tirweddau cloddiol ehangach y tu hwnt, a ddangosir yn glir gan baentiadau Penry Williams a ffotograffau yn dyddio o ganol y 19eg ganrif. Mae'r ty yn edrych i lawr ar erddi sy'n disgyn i'r de-orllewin a cheir golygfeydd dros Gronfa Ddwr y Pwll Pysgod, a Gwaith Haearn Cyfarthfa ar yr ochr arall i Afon Taf.

    Yn wreiddiol, roedd y parcdir oddi amgylch yn yr arddull Ramantus ac roedd yn anffurfiol, ond erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd cynllun mwy ffurfiol fel parc tirlun wedi datblygu. Roedd dwy fynedfa, roedd gan fynedfa'r de-orllewin borthordai yn wreiddiol ond roedd y rhain wedi diflannu erbyn 1873. Roedd yr ardaloedd y tu ôl i'r ty, i'r dwyrain ac i'r gogledd, wedi datblygu fel coetir cymysg. Nodai map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875 Rewdy gerllaw wal derfyn Castle Wood, i'r gogledd o'r ty.

    Yn fwy diweddar, ar ôl gwerthu'r parc i Gyngor Merthyr Tudful ym 1910, datblygwyd yr ardal i'w defnyddio at amrywiaeth o ddibenion adloniadol ac addysgol diweddarach; gan gynnwys cyrtiau tennis, a lawnt fowlio; tra trowyd rhan ddwyreiniol y parc yn feysydd chwarae ysgol. Erbyn hyn mae Castell Cyfarthfa yn gweithredu fel ysgol ac amgueddfa.

  • Tirweddau diwydiannol

    Y Diwydiant Haearn Cyffredinol

    Mae golwg bresennol y dirwedd o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol yn deillio yn bennaf o dwf cyflym y diwydiannau haearn a glo yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif. Mae'r mwyafrif o'r safleoedd yn uniongyrchol gysylltiedig â gweithgarwch cloddio glo a haearnfaen a'r system drafnidiaeth a ddatblygodd ochr yn ochr ag ef. Er bod cryn dipyn o dystiolaeth o weithgarwch diwydiannol cynharach o'r ardal oddi amgylch yn dyddio o'r Oesoedd Canol, ymddengys i'r cyfryw dystiolaeth gael ei dileu neu ei chuddio i raddau helaeth gan y defnydd helaeth a wnaed o'r tir ar ôl hynny at ddibenion diwydiannol. Fel y dengys cyfrifon maenorau mewn mannau eraill, nid oedd hawliau i gloddio mwynau ar y tiroedd comin yn rhai cyffredinol ar ddiwedd y cyfnod canoloesol, ond eiddo gwerthfawr y faenor oeddynt, y byddai Arglwydd Senghennydd yn disgwyl gwneud elw ohonynt. Erbyn yr 17eg ganrif, mae'n bosibl bod rhannau o'r brigiad yn ardal Merthyr Tudful wedi'u gosod ar brydles, am flwyddyn neu am dymor hwy. Yn ddiau, erbyn diwedd y 18fed ganrif, pan ddechreuwyd cloddio haearnfaen ar raddfa fwy ar gyfer ffwrneisi Dowlais, Cyfarthfa, Penydarren a Plymouth, mae'n rhaid bod lleoliadau'r rhannau mwyaf hygyrch o'r gwythiennau brig yn weddol sefydledig, a'u bod wedi'u cynrychioli yn y dirwedd gan fandiau o weithfeydd cloddio cynnar.

    Roedd economi'r ardal astudiaeth, er ei bod yn un wledig yn ei hanfod tan ganol y 18fed ganrif, eisoes yn rhannol seiliedig ar ddiwydiannau cloddio glo a haearnfaen ac mae'n debyg bod gweithgarwch cloddio glo a haearnfaen yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif ar raddfa lawer mwy ar hyd rhannau uchaf Afon Taf nag yr ystyrid hyd yma. Gwyddom i'r diwydiant haearn cynnar ffynnu ar ochr orllewinol Afon Taf yn ystod yr 17eg ganrif; tra rhoddwyd i ryw Phillip Williams, ym 1619, 'yr hawl i gloddio glo a cherrig ym mhob un o diroedd comin neu goedwigoedd Senghennydd Supra…' (Richards 1981, 218-9). Mae prydles ddyddiedig 1696 a roddodd i William Edwards o Eglwysilan "bob gwythïen lo" ym mhlwyfi Merthyr Tudful a Gelligaer o "Ddowlais i Nantybwch a Marchnad-y-Waun i bentref Kelligare (Gelligaer)", yn awgrymu bod gweithfeydd cloddio ar raddfa fach yn gyffredin bryd hynny. Trosglwyddwyd y brydles olaf, a gynhwysai dy a elwid yn Farchnad-y-Waun, ym 1748 i Thomas Morgan o Ruperra.

    Mae datblygiad gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen o fewn y dirwedd hanesyddol yn gysylltiedig ag adfywiad y diwydiant haearn a welwyd yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, adfywiad a ddeilliodd yn uniongyrchol o broses bwdlo Cort, datblygiad technegol arloesol a'i gwnaeth yn bosibl i ddefnyddio cols ar gyfer toddi haearn, yn lle'r golosg traddodiadol.

    Dowlais (PRN 1615m, ardal 008) oedd y gwaith haearn cyntaf yn defnyddio'r broses bwdlo newydd i gael ei sefydlu yn ardal Merthyr Tudful; fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ar ôl 1757, pan gaffaelodd Thomas Lewis yr hawliau cloddio yn Nowlais. Ym 1759 daeth John Guest, meistr haearn o Swydd Stafford, yn gyfrifol am reoli Gwaith Dowlais (a elwid yr Old Works yn ddiweddarach). Cynyddodd cynhyrchiant haearn o dan y teulu Guest a pharhaodd Dowlais i arwain y ffordd o ran datblygiadau technegol arloesol yn y diwydiant. Gwaith Haearn Dowlais oedd y cyntaf i fabwysiadu proses Bessemer a dechreuwyd gwneud dur yn Nowlais ym 1865. Tyfai Dowlais i fod y gwaith haearn mwyaf yn y byd ac ar ei anterth cyflogai 9,000 o bobl. Dechreuodd Gwaith Haearn Ivor (ardal 029) ym 1839 fel estyniad i Waith Haearn Dowlais; yn wreiddiol roedd ganddo bedair ffwrnais chwyth, ac roedd yn gweithredu hyd ei eithaf erbyn 1842 (Thomas 1981, 284). Parhaodd y gwaith hwn i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif fel ffwndri o dan reolaeth Dur Prydain; pan gaeodd ym 1987 daeth cysylltiad Merthyr Tudful â'r diwydiant haearn i ben; cysylltiad a oedd wedi para am fwy na 200 o flynyddoedd. Ym 1901, cyfunodd y cwmni â'r Patent Nut and Bolt Company o Birmingham, ac ym 1902 fe'i hailenwyd yn Guest, Keen a Nettleford (GKN yn ddiweddarach).

    Yr ail waith haearn i gael ei sefydlu yn yr ardal oedd yr un yng Nghyfarthfa (PRN 01 169m ardal 012), a adeiladwyd gan Anthony Bacon ym 1765. Yn draddodiadol câi'r gwaith yng Nghyfarthfa ei ddeunyddiau crai o weithfeydd cloddio glo a haearnfaen ar dir a gymerwyd ar brydles o ystâd Dynevor. Yn perthyn i gyfnod cynnar Cyfarthfa mae Camlas Cyfarthfa, y mae rhai olion ohoni wedi goroesi (PRN 02412m/02413m, ardal 014), a adeiladwyd ar ddiwedd y 1770au i gludo glo yn syth o'r lefelydd i'r gwaith haearn. Dechreuodd y gwaith haearn yng Nghyfarthfa, ynghyd â'r gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen, ar gyfnod o ehangu cyflym o dan Richard Crawshay, a gymerodd y gwaith ar brydles ym 1786; roedd y llwyddiant cynnar hwn yn rhannol i'w briodoli i adeiladu Camlas Sir Forgannwg ym 1794 (ardal 014) Agorodd Gwaith Haearn Ynys Fach (ardal 010) fel estyniad i waith Crawshay yng Nghyfarthfa ym 1801 ac er mai ef oedd yr ail yn yr ardal i ddefnyddio peiriannau chwythu ager, ar ôl Dowlais, at ei gilydd chwaraeai rôl lai pwysig na Chyfarthfa. Pan ddechreuwyd cynhyrchu dur yng Nghyfarthfa gerllaw ym 1884, ail-leiniwyd y pedair ffwrnais chwyth yn Ynys Fach a'u cadw wrth gefn, er na chawsant eu hailgynnau erioed yn ôl pob tebyg.

    Sefydlwyd Gwaith Haearn Plymouth (o fewn ardal 019 ac ardal 15) ym 1763 gan Isaac Wilkinson a John Guest ar dir a gymerwyd ar brydles gan Iarll Plymouth a dwy flynedd yn ddiweddarach fe'i gwerthwyd i Anthony Bacon ar ôl methu â gwneud unrhyw gynnydd i ddechrau. Daeth y gwaith o dan reolaeth Richard Hill (bu farw ym 1806) ar ôl i Bacon ymddeol ym 1783. Arhosodd y gwaith yn nwylo'r teulu Hill nes i Anthony Hill farw ym 1862, pan y'i prynwyd gan y Mri Fothergill, Hankey a Bateman. Dibynnai Gwaith Plymouth ar rym dwr, ymhell ar ôl iddo ddiflannu o ddefnydd mewn mannau eraill, ac er mwyn ailddefnyddio'r cyflenwad dwr bu'n rhaid i'r gwaith ehangu i greu tri gwaith ar wahân, ac ychwanegwyd Gefail Pentrebach a ffwrneisi Dyffryn (gweler 015A). Cyflwynwyd grym ager o'r diwedd, gan arwain at gynnydd dramatig mewn cynhyrchiant, yn dilyn hafau sych 1843 a 1844. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, cyfunodd technoleg ddarfodedig ac economeg er anfantais i Waith Haearn Plymouth. Am nad oedd unrhyw gyfalaf i'w newid o gynhyrchu haearn i gynhyrchu dur caeodd y gwaith yn y diwedd ym 1880; er i'r cwmni barhau i gloddio ei gronfeydd glo helaeth.

    Y gwaith haearn arall o bwys o fewn y dirwedd hanesyddol oedd Gwaith Haearn Penydarren a sefydlwyd ar lannau Nant Morlais. Sefydlwyd y gwaith hwn, sy'n gymharol ddiweddar yn achos yr ardal hon, gan Francis Homfray a'i dri mab, Jeremiah, Thomas a Samuel o 1784. Roedd y lleoliad ymhell o fod yn ddelfrydol ac ar ben hynny cafodd y gwaith anawsterau a oedd yn gysylltiedig â'r cyflenwad dwr, ac a ddeilliodd yn uniongyrchol o'r ffaith bod Gwaith Haearn Dowlais eisoes yn rheoli crynhoad dwr yr ardal; yn wir, er mwyn datrys y broblem, bu'n rhaid i Homfray a John Guest ddod i gytundeb, a ganiataodd newid dyfrffordd. Yn yr un modd, daliai Dowlais yr hawliau cloddio glo ar gyfer ardal Pwll-yr-Hwyaid a gorfodwyd i Homfray drafod gyda John Guest er mwyn cael hawliau cloddio glo ganddo. Er gwaethaf yr anawsterau hyn, roedd dylanwad y cwmni yn bellgyrhaeddol a llwyddodd i sicrhau contractau mawr a phroffidiol; erbyn 1796, roedd y gwaith yn cynhyrchu 2,000 yn fwy o dunelli o haearn na Dowlais. Caeodd y gwaith haearn ym Mhenydarren ym 1859, ar ôl y blynyddoedd o ffyniant a methiant a welwyd yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif a marwolaeth William Thompson, sef partner mwyaf dylanwadol y cwmni. Prynwyd gwaith a daliadau mwynau'r cwmni gan waith cyfagos Dowlais.

    Gweithfeydd haearn-cloddio mwynau penodol

    Cyn ail hanner y 18fed ganrif ystyrir y byddai mwynau wedi cael eu cloddio gan ddefnyddio lefelydd a gweithfeydd stripio lleiniau ar raddfa fach; fodd bynnag, nid yw'n debyg y bydd y nodweddion hyn wedi goroesi mewn ffurf hawdd ei hadnabod, o gofio'r gweithgarwch cloddio mawr a gafwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae ewyllys ddyddiedig 1697 yn cyfeirio at fodolaeth 'gweithfeydd glo, pyllau glo, a gwythiennau glo, ynghyd ag odynau calch a chwareli cerrig wedi'u lleoli o fewn lle a elwid yn Tule Dowlais'; ail-weithiwyd yr ardal, i'r de o Ben-y-waun Fawr, ar raddfa fawr ar ôl hynny ac arllwyswyd cryn dipyn o wastraff yno. Mannau posibl eraill a fu'n ganolbwynt i weithgarwch cloddio cynnar yw'r cwm bach yn Ffos-y-Frân ar lethrau gorllewinol Tir Comin Merthyr a Nant Ffrwd y tu hwnt i fferm Ty'n-y-Coedcae; lle y croesai cyrsiau nentydd naturiol y brigiad. Byddai'r cyfryw frigiadau glo a mwyn haearn wedi bod yn y golwg ac yn hawdd eu cyrraedd; mae'n bosibl i'r mwynau dadorchuddiedig gael eu prosesu gan ddefnyddio math o broses sgwrio led-naturiol.

    Daeth gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen yn yr ardal o ail hanner y 18fed ganrif o dan reolaeth uniongyrchol prif gwmnïau cynhyrchu haearn yr ardal; gyda'r perchenogion yn dal y prydlesi cloddio. Mae prydlesi cloddio'r gwaith haearn, tystiolaeth gartograffig, a thystiolaeth ddogfennol arall, yn galluogi nodi'r daliadau mwynau unigol yn gysylltiedig â'r gwahanol weithfeydd haearn.

    Lleolid daliadau mwynau Cwmni Haearn Dowlais ar hyd llethrau Tir Comin Merthyr sy'n wynebu'r gorllewin i'r gogledd ac i'r dwyrain o ddau waith haearn Dowlais. At ei gilydd lleolid y daliadau mwynau hyn o fewn yr ardaloedd cymeriad tirwedd presennol, ardal 039 a rhan adferedig ardal 078 a gynhwysai Domen Fawr Dowlais, a'r gweithfeydd cloddio helaeth o amgylch Pwll-yr-hwyaid, Trecati, Trehir a Thwyn-y-Waun. Mae'r ardaloedd tirwedd hanesyddol canlynol yn cwmpasu gweddill gweithfeydd cloddio Dowlais: ardal 031; ardal 032; ardal 035; ac ardal 041. Cyflenwid calchfaen ar gyfer y gwaith yn Nowlais yn bennaf o dair chwarel gysylltiedig i'r gogledd ac i'r gogledd-ddwyrain yn Nhwynau Gwynion (ardal 042), Castell Morlais (ardal 044), a Bryniau (ardal 046).

    Roedd Cyfarthfa yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen, sef 'mwyngloddiau Cyfarthfa', ar dir a gymerwyd ar brydles gan ystâd Dynevor, a oedd wedi'u lleoli ar hyd ochr orllewinol yr ardal dirwedd hanesyddol ar hyd llethrau dwyreiniol Mynydd Aberdâr. Mae'r gweithfeydd cloddio hyn yn darparu nodweddion tra amlwg ar gyfer nifer o ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol, gan gynnwys: ardal 064 Gweithfeydd Cloddio Winch Fawr, Pen-yr-Heolgerrig, Cwm Du, a Chwm Glo Uchaf; ardal 066 Tomenni Waun-y-Nant Goy; ardal 067 Pencoedcae a Brynteg; ardal 070 Cwm Glo: Coridor Tramffyrdd, Platffyrdd ac Incleins ac i raddau llai ardal 069 Cwm Glo, Gogledd. Ar ben hynny ymestynnai gweithfeydd cloddio is Cyfarthfa i ardal 014 Camlas a Choridor Rheilffordd Afon Taf, i gynnwys y gweithfeydd cloddio yng Ngethin, ac ardal 011 Llwyncelyn ac Ynys Fach, a gweithfeydd cloddio gerllaw Gwaith Haearn Ynys Fach. Darparwyd calchfaen ar gyfer y gwaith yng Nghyfarthfa yn wreiddiol gan Chwarel y Gurnos (ardal 012 Gwaith Haearn Cyfarthfa) ac ar ôl hynny yn ystod y 1870au o Chwarel Vaynor (ardal 051).

    Roedd daliadau mwynau Cwmni Haearn Penydarren yn fach mewn cymhariaeth ac fe'i lleolid gerllaw'r gwaith (ardal 004 Ardal Gwaith Haearn Penydarren) yn Incline Top a Phenyard (HCLA 040 a 036 yn y drefn honno). Deuai calchfaen ar gyfer y gwaith o'r chwarel orllewinol yng Nghastell Morlais (ardal 044).

    Câi Gwaith Haearn Plymouth (ardal 019 ac ardal 015) ei ddeunydd crai o weithfeydd cloddio haearnfaen a glo a oedd wedi'u lleoli ar hyd llethrau Mynydd Cilfach-yr-encil sy'n wynebu'r dwyrain o Gwm Blacks tua'r de gan gynnwys Clyn-Mil, Pencoedcae a Threbeddau a gweithfeydd cloddio yn y Bwllfa, tra roedd y gweithfeydd cloddio yng Ngethin a'r Graig, a leolid o bob tu i ddyffryn Afon Taf hefyd yn rhan o ddaliadau mwynau Plymouth.

    Er mai prin yw'r dystiolaeth ddogfennol ar gyfer cyfnod cynnar y diwydiant mwyngloddio (hy cyn 1850) yn yr ardal, dibynnai technegau cloddio'r cyfnod hwnnw i raddau helaeth ar weithfeydd cloddio ar yr wyneb a ddefnyddiai gymysgedd o weithgarwch stripio lleiniau (proses sy'n sgwrio'r tir o'i uwchbridd), cloddfeydd bach, gan gynnwys pyllau cloch, a lle y caniatâi'r topograffi i lefelydd gael eu gyrru i mewn i'r llethrau (Osborne 1976, 41). Er bod pyllau dyfnach wedi'u cloddio yn ystod y 1820au a'r 1830au ym Mwyngloddiau Cyfarthfa (ee Pwll Robbins, Pwll Glyndyrys, a Phwll Colliers' Row) parhaodd lefelydd i ddarparu'r prif ddull cloddio glo a haearnfaen ym Merthyr Tudful tan tua 1850. Yng ngweithfeydd cloddio Dowlais, er enghraifft, rhoddai lefelydd gyfrif am 75 y cant o'r glo a gynhyrchid; er i Gwmni Haearn Dowlais gloddio 19 o byllau rhwng 1837 a 1857, gan gynnwys Pwll Glo Cwmbargoed a Phwll Newydd Penydarren. Cynhwysai byllau haearnfaen a glo eraill o fewn maes mwynau Dowlais a gloddiwyd cyn 1860 Bwll Buxton, Pyllau Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Pyllau Rhif 6, a Rhif 7, Hen Bwll Penydarren, Pwll Pen-y-Waun Fawr, y Soap Pit, a Phwll Tyle Dowlais, ymhlith llawer o byllau eraill. Mae pob un yn tystio i'r ffaith i gronfeydd mwynau barhau i gael eu gweithio i ddiwallu galw'r gwaith haearn gerllaw.

    Y prif ddull halio o fewn y siafftiau oedd y system cydbwyso dwr, a ddibynnai ar gyflenwad digonol a chyson o ddwr (Thomas 1981, 306-308); mae'n debyg bod nifer o'r cronfeydd dwr yn yr ardal yn nodweddion creiriol sy'n gysylltiedig â'r system hon.

    Mae datblygiad tirweddau'r daliadau mwynau yn gymhleth ac yn hir, ac mae'n amrywio ychydig rhwng y gwahanol weithfeydd haearn, fodd bynnag gellir adnabod dilyniant cyffredinol ac o ganlyniad nodwyd cyfnodau o ddatblygiad y dirwedd ddiwydiannol. Y pedwar prif gyfnod a nodwyd yw:

    Cyfnod 1: cyfnod cynnar: diwedd y 18fed ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif
    Cyfnod 2: canol y 19eg ganrif: 1820au hyd 1880au
    Cyfnod 3: diwedd y 19eg ganrif hyd ddechrau'r 20fed ganrif
    Cyfnod 4: canol yr 20fed ganrif hyd heddiw

    Mae'r model a gynigir ar gyfer datblygiad y dirwedd ddiwydiannol yn seiliedig ar gynllun a morffoleg yr olion sydd wedi goroesi ar yr wyneb, ynghyd â thystiolaeth mapiau yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif; ni cheisir yma astudio datblygiad cyfochrog y gweithfeydd cloddio tanddaearol helaeth, er eu bod o ddiddordeb cymharol.

    Cyfnod 1: y cyfnod cynnar: diwedd yr 18fed ganrif hyd ddechrau'r 19eg ganrif

    O gofio pa mor hygyrch oedd y brigiad, yn arbennig yr haearnfaen, mae'n debyg bod rhywfaint o weithgarwch mwyngloddio wedi'i gyflawni yn ystod y cyfnod hwn. Bryd hynny roedd y rhan fwyaf o'r gweithgarwch mwyngloddio yn dal i gael ei gyflawni ar sail contractau (yn wir, trwy ran helaeth o'r 19eg ganrif), a byddai mwyngloddwyr unigol yn cymryd is-brydles ar ran o'r wythïen, gan drefnu'r holl waith a oedd ynghlwm a thalu amdano a gwerthu'r glo neu'r haearnfaen i'r Cwmni. Mae'r broses hon yn amlwg iawn yn enwau'r lefelydd unigol yn y cofnodion mwyngloddio archifol (Lefel William Morgan; Lefel J Morgan; Level JL Jones; Lefel Baynon; Lefel Jenkin a Lefel D Rees), sy'n adlewyrchu'r mwyngloddwyr dan sylw (GCRO DD/HSE 1/1 1). Mae'r hyn a welwn heddiw yn gyfres o fentrau teuluol lle byddai bechgyn (a merched weithiau) mor ifanc â saith neu wyth yn gweithio wrth ochr eu tadau a'u brodyr hyn yn hytrach na chasgliadau o lefelydd a thomenni ystrydebol a sefydlwyd gan y Cwmnïau Haearn yn unig.

    Ymddengys i'r diwydiant cloddio cynnar ddibynnu ar weithgarwch chwarela neu stripio lleiniau o'r uwchbridd, lefelydd a phyllau bach, a greodd yn Nowlais er enghraifft wyneb llethrog ar hyd copa'r llethrau sy'n wynebu'r gogledd-orllewin-orllewin i'r gogledd o Ffos-y-frân, efallai ar linell mainc erydu a fodolai eisoes. Cafwyd rhagor o weithgarwch stripio lleiniau neu gloddio mwyn agored tuag anheddiad y mwyngloddwyr mwyn haearn yn Ffos-y-frân; mae'r ardal hon hefyd yn cynnwys enghreifftiau sydd wedi goroesi o 'weithfeydd sy'n nodweddiadol o byllau'r goron' yn dyddio o'r un cyfnod (ardal 039). Arferai fod llawer mwy o weithfeydd o'r math hwn, a chollwyd llawer i waith adfer a wnaed ar ddiwedd yr 20fed ganrif gan gynnwys gweithfeydd stripio lleiniau llinellol yn yr ardal rhwng Bythynnod Longtown (Tre-hir), a Thwyn-y-Waun; (argraffiad 1af map yr AO 1879; ardal 078). Roedd y gweithfeydd haearnfaen helaeth yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif/dechrau'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig ag Anthony Hill a Chwmni Haearn Plymouth a leolid yng Nghwmblacks a Phencoedcae (llun tirfesurwr yr AO 1813) hefyd i raddau helaeth o fath a oedd yn nodweddiadol o 'byllau coron'.

    Mae'n bosibl i broses a elwir yn sgwrio gael ei defnyddio i gael gwared â gorlwyth ar gyfer y gweithfeydd stripio lleiniau er bod y dystiolaeth sydd wedi goroesi yn yr ardal bellach yn amhendant. Nid ymddengys i weithgarwch sgwrio ar y maes glo, er bod cryn dystiolaeth ddogfennol amdano yn y 18fed ganrif, bara'n hir iawn ar ôl dechrau'r 19eg ganrif. Mae llai o sicrwydd ynghylch y modd y gweithiai'r system, ac ymddengys fod nifer o ffyrdd o ddefnyddio dŵr. Y syniad sylfaenol yw y rhyddheir corff sylweddol o ddŵr a argaewyd a chaniatáu iddo lifo dros ran o'r brigiad noeth, gan stripio'r gorlwyth clai/siâl a datguddio'r mwyn neu'r wythïen. Mewn rhai achosion, ymddengys i hyn gael ei wneud yn rhannol trwy weithgarwch chwarela (h.y. gweithgarwch stripio lleiniau), fel byddai'r effaith hydrolig yn sgwrio'r wyneb noeth a chael gwared â'r gwastraff. Mewn mannau eraill, cafwyd y mwyn yn gyntaf o ffynonellau cyfagos (lefelydd neu leiniau agored), fe'i dyddodwyd o fewn y cwrs sgwrio, ac wedyn golchwyd y sialau a'r cleiau ysgafnach i ffwrdd o'r mwyn (Osborne 1976).

    Nodweddir gweithfeydd yn dyddio o'r cyfnod hwn gan dystiolaeth mewn ardaloedd dethol lle y buwyd yn gwneud gwaith sgwrio, (b) gan dystiolaeth o weithgarwch cloddio cynnar yn seiliedig ar stripio lleiniau bas (cloddio ar yr wyneb) ac (c) gan glystyrau o domenni conigol bach nodedig yn syth i lawr y llethr o'r llain. Yn ymarferol, mae'n debyg i'r gweithfeydd stripio lleiniau a sgwrio cynnar a'r lefelydd cynnar gael eu gweithio ar yr un pryd, ond mae'n anodd nodi nodweddion cysylltiedig cyfoes. Ceir tystiolaeth o'r holl weithrediadau hyn ymhlith y nodweddion cloddiol sydd wedi goroesi a gysylltir â Chyfarthfa, lle y câi gweithrediadau sgwrio eu cyfeirio at haearnfeini'r gwythiennau Glo Isaf, rhwng gwythiennau glo Garw a Five Foot (y ceir y mwyafrif ohonynt yn ardal 064). Mae enghreifftiau eraill o weithgarwch stripio lleiniau a phyllau bas yn nodweddiadol o byllau coron i'w cael o hyd yn Ffos-y-frân (ardal 039) lle y maent yn gysylltiedig â Dowlais, ac yng Nghlyn-Mil yn ardal 023 lle y maent yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Plymouth.

    Ceir nodweddion tebyg iawn mewn lleoliadau eraill ar frigiad y maes glo (Bick 1994), gan gynnwys grŵp helaeth i'r gogledd o Flaenafon, lle y mae sianeli llinellol dwfn yn gysylltiedig â phyllau a ffrydiau (Wakelin 1996). Ym Mlaenafon ac Abersychan/Pont-y-pwl, nid oedd y system yn cael ei defnyddio erbyn tua 1814, ac, yn gyffredinol, nid ymddengys i weithgarwch sgwrio ar y maes glo, er bod cryn dystiolaeth ddogfennol ohono yn y 18fed ganrif, bara'n hir iawn ar ôl dechrau'r 19eg ganrif. Mae llai o sicrwydd ynghylch y modd y gweithiai'r system, ac ymddengys fod nifer o ffyrdd o ddefnyddio dŵr. Y syniad sylfaenol yw y rhyddheir corff sylweddol o ddŵr a argaewyd a chaniatáu iddo lifo dros ran o'r brigiad noeth, gan stripio'r gorlwyth clai/siâl a datguddio'r mwyn neu'r wythïen. Mewn rhai achosion, ymddengys i hyn gael ei wneud yn rhannol trwy weithgarwch chwarela (h.y. gweithgarwch stripio lleiniau), fel byddai'r effaith hydrolig yn sgwrio'r wyneb noeth a chael gwared â'r gwastraff. Mewn mannau eraill, cafwyd y mwyn yn gyntaf o ffynonellau cyfagos (lefelydd neu leiniau agored), fe'i dyddodwyd o fewn y cwrs sgwrio, ac wedyn golchwyd y sialau a'r cleiau ysgafnach i ffwrdd o'r mwyn (Osborne 1976).

    Nid yw pob un o'r nodweddion hyn yn unigryw i ddechrau'r 19eg ganrif; parhaodd y gweithgarwch stripio lleiniau, ar raddfa ychydig yn fwy, i mewn i'r cyfnod Fictoraidd. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth pendant rhwng yr olion sy'n gysylltiedig â'r ffordd hon o weithio'r brigiad bas a'r lefelydd haearnfaen helaeth yn dyddio o ganol y 19eg ganrif gyda'u tomenni dramio clustog pendant, a gynrychiolai'r prif ddull cloddio yn yr ardal lle y'i defnyddid, erbyn y 1820au yn ôl pob tebyg.

    Cyfnod 2: canol y 19eg ganrif, 1820au hyd 1870au

    Mae datblygiad gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen yr ardal yn cyd-fynd yn agos â'r ffyniant a'r datblygiadau a effeithiodd ar y gweithfeydd haearn a gyflenwyd ganddynt. Er enghraifft, yn ystod y 1830au, dechreuodd Cwmni Haearn Dowlais fanteisio ar dwf y rheilffyrdd; dan reolaeth Josiah John Guest agorwyd y Felin Fawr ym 1830 ac ym 1839, dechreuwyd gwaith newydd, sef Gwaith Ivor, ac fe'i rhoddwyd ar waith yn cynhyrchu haearn. Ym 1842 roedd y ddau waith yn gweithredu hyd eu heithaf ac erbyn 1845 gallai Dowlais â gweithlu o dros 7,000 a chynhyrchiant blynyddol o 88,400 o dunelli o haearn crai honni mai hwn oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd. Mae'r mwyafrif o'r gweithfeydd cloddio yn perthyn i'r cyfnod hwn.

    Unwaith eto, i ddechrau parhaodd y diwydiant cloddio i ddibynnu ar weithgarwch cloddio mwyn agored neu stripio lleiniau, lefelydd a phyllau bach, a lefelydd ychwanegol wedi'u gyrru i mewn i'r wynebau a weithiwyd. Prif nodwedd y cyfnod canol o weithio'r brigiad oedd y cynnydd sylweddol mewn gweithgarwch yn gysylltiedig â lefelydd a siafftiau, a ddisodlodd y dulliau hþn a oedd yn gysylltiedig â gweithfeydd bas ar yr wyneb, ac a ddatblygodd ar gyflymderau ychydig yn wahanol.

    Yng ngweithfeydd cloddio haearnfaen Cyfarthfa ar yr Wythïen Upper Yard a'r Upper Black Pins (ardal 064) parhaodd gweithgarwch cloddio ar yr wyneb yn ddiweddarach nag mewn mannau eraill, ac fe'i dilynwyd yn y pen draw gan lefelydd wedi'u gyrru i mewn i'r wyneb a weithiwyd. Cafwyd y prif gyfnod ehangu o ran gweithfeydd cloddio haearnfaen Cyfarthfa rhwng tua 1806, pan mai Cyfarthfa â'i chwe ffwrnais chwyth oedd y gwaith haearn mwyaf yn y byd, a'r 1850au, pan oedd y gwaith haearn, a oedd yn dirywio, yn mewnforio mwyn haearn o wledydd eraill.

    Yn Nowlais, yn ogystal â nifer fawr o lefelydd, yn ddiweddarach, ymddengys fod gweithgarwch cloddio wedi canolbwyntio ar nifer o byllau (siafftiau) a oedd wedi'u lleoli ar y llethrau is i'r gorllewin o ardal y brigiad, megis Pyllau 1, 2, 4, 6, a 7 Dowlais, a Phyllau Pen-y-Waun Fawr a Thyle Dowlais (ardal 039 ac ardal 079 gynt), tra âi Tramffordd halio (Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais) heibio i linell y brigiad, gan gysylltu'r gwahanol lefeydd a phyllau (siafftiau) â'r prif lwybrau i'r iardiau gwartheg trwy system o incleins.

    Mae enghreifftiau cymharol gynnar o domenni clustog wedi goroesi yng Nghwm-glo a Bryn-y-gwyddel o fewn ardal 064 a hefyd i'r de-ddwyrain o Bwll Tre-hir o fewn ardal 041 sy'n gysylltiedig â gweithfeydd cloddio haearnfaen, yn benodol siafft 85558 a Lefel Haearnfaen 85985 y Soap Pit. Roedd fersiynau mwy helaeth o 'flaenau bysedd' neu 'flaenau ffan' yn aml yn gysylltiedig â gweithfeydd â siafftiau, yn Nowlais mae enghreifftiau o'r nodweddion tra amlwg hyn wedi goroesi o fewn ardal 039 ac maent yn cynnwys Pwll Rhif 1, Pwll Rhif 2, Pwll Rhif 4, a Phwll Rhif 6, Dowlais.

    Datblygodd y gweithfeydd cloddio a oedd yn gysylltiedig â gwaith haearn Plymouth, yn benodol y rhai yn yr ardal rhwng Cwmblacks a Chlyn-Mil (HCLA 021, 022, 023, a 048), hefyd yn yr un modd gan ddatblygu o weithgarwch stripio lleiniau yn bennaf i lefelydd a phyllau. Erbyn 1826 roedd rhwydwaith o dramffyrdd ac incleins, gan gynnwys prif Inclein Coedcae, wedi'i sefydlu ledled yr ardal a chysylltai Waith Haearn Plymouth â gwahanol weithfeydd cloddio; cynhwysai'r rhain lefelydd haearnfaen a gweithfeydd stripio lleiniau ledled yr ardal o amgylch Cwmblacks (ardal 021, ardal 022 ac 023 ac ardal 048). Roedd Pwll Clyn Mil, a wasanaethai'r Gwaith Haearn hefyd yn un o nodweddion y cyfnod.

    Dangosai'r dystiolaeth gartograffig fod adfywiad wedi bod mewn gweithgarwch cloddio erbyn y cyfnod 1850-1875, os nad ynghynt ar ddaliadau mwynau Plymouth. Yn y fan hon (hy ardal 021), fel mewn mannau eraill, roedd y pyllau ar waith cyn 1860 a chynhwysent Bwll Clyn-Mil (Rhif 1; glo a haearnfaen), ei gronfa ddŵr cydbwyso dŵr gysylltiedig, Pwll Graig (Wern-las Rhif 1), Pwll Wern-las, Pwll Ellis, Pwll Clyn Mil (Rhif 2). Roedd yr ardal wedi'i chloddio ar raddfa fawr erbyn cyhoeddi map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, a nodai lefelydd haearnfaen a glo, siafftiau, gwahanol domenni 'clustog' a llinellol bach a gweithfeydd cloddio eraill ar yr wyneb, megis chwareli, neu 'weithfeydd stripio lleiniau', a chronfeydd dŵr a ffrydiau wedi'u trefnu ar hyd glan ddwyreiniol Nant Cwmblacks. Mae gweithfeydd cloddio Plymouth ar Fynydd Cilfach-yr-encil, gyda'u hincleins trawiadol i ffwrnais Dyffryn yn dyddio o'r cyfnod (1850-1875), yn ogystal â Lefelydd Bwllfa.

    Erbyn 1879, roedd tramleiniau mewn blociau agos at ei gilydd yn cael eu defnyddio at ddibenion arllwys gwastraff, ac effaith hynny fu creu wynebau llyfn, gwastad; dangosir y gwrthgyferbyniad rhwng yr hen ddull a'r dull newydd o arllwys gwastraff yn glir ar wyneb y domen. Dengys argraffiad cyntaf map yr AO y dull hwn ar waith yn yr ardal i'r gogledd ac i'r de o Bwll Rhif 1 ac ym mhyllau Pen-y-Waun Fawr a Thyle Dowlais yn Nowlais (ardal 039); ailwampiwyd tomenni'r ddau olaf ar raddfa fawr yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif.

    Er bod arolygon AO 1873 a 1879 yn dal i roi enwau ar lawer o'r lefelydd a'r pyllau sy'n gysylltiedig â Dowlais (gan gynnwys cyn-weithfeydd cloddio Penydarren) a Chyfarthfa, ymddengys i'r mwyafrif llethol ohonynt fynd yn segur yn fuan ar ôl hynny.

    Mae'n debyg bod glo yn cael ei gloddio o wythiennau Garw a'r Upper Yard, o gyfnod cymharol gynnar. Cloddiwyd pwll Pwll-y-mynydd yn Winch Fawr, un o fwyngloddiau siafft cynharaf Cwmni Cyfarthfa ar hyd cwr gogleddol y brydles fwynau, at ddibenion cloddio glo ym 1828 (Thomas 1981). Pan roddwyd y gorau yn gyffredinol i weithio gweithfeydd cloddio haearnfaen yn ystod y 1870au, parhawyd i gloddio glo, yn arbennig o ddaliadau mwynau helaeth Plymouth ar gyfer y machnadoedd glo ager proffidiol domestig (gweler isod).

    Roedd halio yn ystyriaeth ganolog ar gyfer y gwaith ymarferol yn gysylltiedig â chloddio lefelydd ar y raddfa hon, yn arbennig o gofio pa mor anghysbell oedd y gwaith haearn o'r gweithfeydd cloddio mwynau. Daeth pellteroedd cynyddol y gweithfeydd tanddaearol yn faich/dreth?? anochel ar lafur pobl ac anifeiliaid (ac yng nghanol y 19eg ganrif, roedd y lefelydd i bob pwrpas yn fentrau preifat). Er i'r rhan fwyaf o'r deunydd gwastraff aros o dan y ddaear, mae'r tomenni sylweddol ar yr wyneb yn cynrychioli cyfran sylweddol o ymdrech ddi-dâl wrth yrru hedins newydd; roedd ffurf y tomenni, a chanddynt glustiau unigol yn nodi llinell pob tomen, yn dod mor effeithlon â phosibl. Roedd y prif dramffyrdd halio a dynnid gan geffylau, a oedd wedi dod yn un o nodweddion cyffredin tirwedd brigiad Merthyr Tudful erbyn dechrau'r 19eg ganrif, yn elfen bwysig yn y gweithfeydd, a chaniataent i feintiau cynyddol o haearnfaen a glo gael eu symud i iardiau stoc Cyfarthfa, Dowlais, Penydarren (rhan o fusnes Dowlais o 1859), a gwaith haearn Plymouth.

    Cyfnod 3: diwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif

    Erbyn diwedd y 19eg ganrif, mae'n amlwg bod y gweithfeydd cloddio brig ledled ardal Merthyr Tudful yn dirywio. Canlyniad uniongyrchol y newid o gynhyrchu haearn i gynhyrchu dur yn y prif weithfeydd haearn cysylltiedig yn Nowlais, a Chyfarthfa oedd hyn. Ar ben hynny roedd llawer iawn mwy o lo yn cael ei gloddio mewn mannau eraill o fwyngloddiau siafft dwfn yn dyddio o ganol y 19eg ganrif ac o gyfnodau diweddarach.

    O dan reolaeth William Menelaus yn ystod y 1850au, ailadeiladwyd Gwaith Dowlais (HLCA 008 ac 039) a'i newid i gynhyrchu dur. Rholiwyd dur wedi'i gynhyrchu gan ddefnyddio proses Bessemer yn gyntaf yn y gwaith ym mis Mehefin 1865 ac erbyn 1880 roedd y gwaith wedi newid yn gyfan gwbl i gynhyrchu dur gan ddefnyddio cyfuniad o drawsnewidyddion asid Bessemer a ffwrneisi aelwyd agored Siemens-Martin. Yn yr un modd, newidiodd Cyfarthfa i gynhyrchu dur ym 1884. Roedd mwyn haearn yn cael ei fewnforio fwyfwy o ogledd Sbaen yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, am nad oedd y mwyn lleol, a oedd yn llawn ffosfforws a sylffwr, bellach yn addas ar gyfer y prosesau newydd a gyflwynwyd. O ganlyniad, gostyngodd cynhyrchiant mwyn lleol yn gyflym i'r fath raddau iddo ddod i ben yn gyfan gwbl erbyn dechrau'r 1870au. Roedd y mwyafrif o'r pyllau a'r lefelydd o fewn yr ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol a gynhwysai weithfeydd cloddio yn gysylltiedig â Dowlais a Chyfarthfa, yn arbennig, os nad pob un ohonynt, eisoes yn segur (argraffiad cyntaf map 25" yr AO, a fapiwyd ym 1879). Fodd bynnag, mae rhywfaint o weithgarwch cloddio lefelydd yr ymddengys nad oedd wedi para'n hir iawn yn nodweddu diwedd y 19eg ganrif/dechrau'r 20fed ganrif er enghraifft yng Nghyfarthfa ar wythiennau'r Five Foot a'r Seven Foot a'r Nine Foot. Serch hynny ymddengys mai ychydig o lefelydd a weithiwyd ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod (2il a 3ydd argraffiad map 25" yr AO, a gyhoeddwyd ym 1905 a 1918).

    Yn Nowlais, mae darlun tebyg yn ymddangos ac mae'r mwyafrif o'r gweithfeydd cloddio glo a mwyn haearn yn segur erbyn y dyddiad hwn (ee Pyllau 1, 2, 4, 6, a 7, Dowlais); mae'n bosibl bod rhywfaint o weithgarwch gweithio lefelydd wedi parhau ym mhyllau Pen-y-Waun Fawr a Thyle Dowlais (ardal 039).

    Dengys y dystiolaeth gartograffig i'r gweithgarwch cloddio yng Nghwmblacks a Chlyn-Mil, yr ardal cloddio mwynau eang a oedd yn eiddo i Waith Haearn Plymouth, newid gryn dipyn yn yr ardal rhwng 1875 a 1905, o ganlyniad i Waith Haearn Plymouth yn cau ym 1880 yn ôl pob tebyg. Erbyn 1901 roedd lefelydd yr ardal yn segur a disgrifir yr incleins cysylltiedig fel 'hen': adeiladwyd inclein newydd, a wasanaethai Byllau South Dyffryn yn uniongyrchol. Y brif agwedd ar y cyfnod hyd at 1915 oedd adfywiad yn y diwydiant cloddio glo a symbylwyd gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Cynhwysai'r adfywiad hwn adeiladu inclein newydd rhwng un o lefelydd Bwllfa a'r rheilffordd fwynau a wasanaethai'r Graig (Rhif 2) a Phyllau South Dyffryn. Ar wahân i weithgarwch ailgloddio diweddarach, parhaodd gweithgarwch cloddio glo mewn mannau eraill ar ddaliadau mwynau helaeth Plymouth, hy yn y Graig ac yn Lefelydd Bwllfa lle y buwyd yn cloddio glo, ar gyfer y fasnach mewn glo ager yn bennaf. Yn ystod y cyfnod canlynol ehangwyd lefelydd Bwllfa a chrëwyd tomenni sylweddol, nodweddion tra amlwg uwchlaw Pentrebach. Dangosai lefel lo i'r de o Droed-y-rhiw, a gloddiwyd yn rheolaidd o ganol y 1870au o leiaf, dystiolaeth iddi gael ei hailgloddio yn ystod y cyfnod; unwaith eto wedi'i chysylltu gan inclein â llinell fwynau Pyllau South Dyffryn.

    Adlewyrchir dirywiad gweithfeydd cloddio'r ardal yng nghyflwr system halio diwydiannol yr ardal. Erbyn 1906, roedd y mwyafrif o'r Tramffyrdd halio eilradd a oedd yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio Dowlais eisoes wedi'u clirio. Arhosodd prif Dramffordd Cwmni Haearn Dowlais a gysylltai'r gwaith yn Nowlais â Phyllau Cwm Bargoed a'r inclein i Byllau Pen-y-darren yn gyfan tan ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914; bu'r olaf yn rhannol ar waith fel rheilffordd fwynau rhwng Inclein Pen-y-Darren a Phwll Cwm Bargod tan y 1920au (argraffiad dros dro'r AO, 19 14-15). Mewn mannau eraill, megis yng Nghyfarthfa roedd y mwyafrif o'r tramffyrdd halio eisoes wedi'u clirio erbyn y dyddiad hwn.

    Parhaodd datblygiadau diweddarach mewn ambell safle pwll glo dethol megis safle Pyllau Cwm Bargod (ardal 032), a gaeodd ym 1923/24. Erbyn diwedd y 1920au, roedd gweithfeydd cloddio ardal Merthyr Tudful at ei gilydd yn adfeiliedig (Thomas 1981, 330), er yr ymddengys fod cyfnod byr o weithgarwch cloddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

    Cyfnod 4: canol yr 20fed ganrif hyd heddiw

    Rhwng dechrau'r 1950au a'r 1980au, newidiodd gweithrediadau mwyngloddio brig a chynlluniau adfer tir rannau mawr o dirwedd ddiwydiannol Merthyr Tudful. Ymhlith y dirwedd a effeithiwyd roedd yr ardal eang yn cwmpasu Longtown, a Threcatti (ardal 078) a fu'n destun gweithrediadau mwyngloddio brig a gwaith adfer tir, tra cliriwyd Tomen Fawr Dowlais (ardal 078) cyn adeiladu ffordd osgoi'r A4060(C). Unwaith eto newidiodd gweithgarwch mewnlenwi ac arllwys gwastraff domestig gymeriad y dirwedd, yn arbennig o fewn y rhan orllewinol i'r gogledd o Dir Comin Merthyr (ardal 078 ac ardaloedd bach o fewn ardal 039). Er bod y gweithfeydd cloddio helaeth sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Plymouth yn destun cynlluniau mwyngloddio brig ac adfer tir yn ystod y 1970au (ardal 015, ardal 019, ardal 021), mae'r gweithfeydd cloddio sy'n gysyllteidig â Chyfarthfa wedi goroesi'n well nag mewn mannau eraill, er gwaethaf ychydig bach o weithgarwch mwyngloddio brig ym Mryn-y-Gwyddel (dechrau'r 1950au), a gwaith adeiladu ffyrdd (ardal 079), a ddileodd safleoedd y gwaith glo is sy'n gysylltiedig â Chyfarthfa (Pwll Rhif 2 Gethin, a safle Castle Pit).

    Mae gweithgareddau golchi glo wedi claddu neu ddileu olion gweithgarwch mwyngloddio neu drafnidiaeth yn dyddio o'r cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg sy'n gysylltiedig â Phwll Cwm Bargod (ardal 032).

    Gweithgarwch cloddio nad yw'n ymwneud yn benodol â gweithfeydd haearn

    Dechreuodd datblygiad cynnar y fasnach mewn 'glo ager', sef glo a ddiwallai anghenion y cwmnïau agerlongau a'r cwmnïau mordwyo yn benodol, yn ardal Merthyr Tudful ym 1828 pan gloddiwyd lefel Robert Thomas yn Waunwyllt (ardal 072), ac ar ôl hynny gweithfeydd cloddio Lucy Thomas ym mhwll Graig gerllaw (ardal 017). Buwyd yn gweithio'r rhain i gael 'glo ager' y wythïen Bedair Troedfedd. Manteisiodd y prif weithfeydd haearn ar y farchnad broffidiol hon hefyd gan gloddio eu gweithfeydd i'r de o ardal Abercanaid. Roedd gan Gyfarthfa weithfeydd cloddio yng Ngethin a agorwyd yn y 1850au, a Castle Pit, Troed-y-rhiw, a agorwyd ym 1866-1869 (ardal 079 ac ardal 014). Ehangodd Cwmni Haearn Plymouth ar ôl hynny y gweithfeydd cloddio yn y Graig, a datblygodd Cyfarthfa'r gweithfeydd cloddio yng Ngethin yn ystod y 1860au i fanteisio ar y galw cynyddol am lo ager. Ymddengys fod gwaith ehangu pellach yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif pan ddatblygwyd gweithfeydd cloddio ar hyd Nant Graig i'r De o Ben-y-lan a Gwaith Glo Waunwyllt (ardal 072) ymhellach. Mae gweithgarwch cloddio glo yn yr ardal i'r de o Ferthyr Tudful yn para'n hwy yn y fan hon nag ar y meysydd mwynau i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r gorllewin; gwelodd pyllau glo Gethin a Castle Pit ragor o weithgarwch yn ystod yr Ail Ryfel Byd, er iddynt gael eu cau o'r diwedd ym 1947, y flwyddyn y gwladolwyd y diwydiant.

    Cyflenwad Dwr

    Roedd cyflenwad dwr yn hollbwysig i'r prosesau diwydiannol a gyflawnid yn y gweithfeydd haearn a'u gweithfeydd cloddio cysylltiedig, er enghraifft ar gyfer systemau halio cydbwyso dwr o fewn y pyllau ac ar gyfer gyrru incleins. Roedd gan Ferthyr Tudful nifer o systemau diwydiannol a yrrid gan ddwr a oedd yn gysylltiedig â gweithfeydd haearn yr ardal, ac a weithredai fel arfer yn ôl egwyddor system draenio rhydd wedi'i chyflenwi trwy ddisgyrchiant; mae cyflwr y systemau a'u helfennau unigol sydd wedi goroesi yn amrywio gryn dipyn. Mae gryn dystiolaeth o'r problemau yn gysylltiedig â chyflenwi dwr a effeithiodd ar y gweithfeydd haearn, er enghraifft yn Nowlais "Roedd anawsterau yn gysylltiedig â sefydlu cyflenwad dwr cyson i yrru'r 'peiriannau aer' … a ddatryswyd ym 1798 pan osododd Dowlais beiriant ager gweithredol dwbl wedi'i wneud gan gwmni Boulton a Watt i gyflenwi aer ar gyfer y ffwrneisi, y gwaith cyntaf yng Nghymru i wneud hynny" (Thomas 1981, 282-3). "Cafodd gwaith haearn Penydarren broblemau gyda'i gyflenwad dwr. Deilliodd hynny o'r ffaith bod gwaith Dowlais wedi'i leoli gerllaw ar dir uwch ac y gallai reoli llawer o nentydd lleol fel y mynnai" (Thomas 1981, 295). Gorfodwyd i Waith Haearn Plymouth, a ddibynnai ar rym dwr, ymhell ar ôl iddo ddiflannu o ddefnydd mewn mannau eraill, ehangu i greu tri gwaith ar wahân, sef Plymouth (ardal 019), Gefail Pentrebach a Ffwrneisi Dyffryn (015A) i sicrhau bod ei gyflenwad dwr mor effeithlon â phosibl. Cyflwynwyd grym ager o'r diwedd yn dilyn hafau sych 1843 a 1844.

    Efallai mai'r system ddraenio ddiwydiannol helaethach yn yr ardal a'r un sydd yn y cyflwr gorau yw'r un a gysylltir â Dowlais, er i rannau mawr ohoni gael eu dileu gan weithgarwch mwyngloddio brig ac adfer tir yn yr 20fed ganrif. Adeiladwyd 'System Draenio Rhydd Dowlais', sy'n dyddio yn rhannol o tua 1818, ac ychwanegwyd ati dros gyfnod o amser i gyflenwi dwr i waith haearn Dowlais, ac ymddengys hefyd iddi gyflenwi'r gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen cysylltiedig. Cyflenwid dwr i waith haearn Dowlais trwy rwydwaith cymhleth o gronfeydd dwr, pyllau, ffrydiau a ffosydd; ymestynnai'r 'system draenio rhydd' hon (a ddibynnai ar ddisgyrchiant yn hytrach na phwmpio) ymhell i'r gogledd, i'r de ac i'r dwyrain o'r gwaith haearn. Mae nodweddion draenio sydd wedi goroesi yn arbennig o nodweddiadol o ardal 031 Tir Comin Merthyr, Canolog, gan gynnwys Pwll a Dyfrffordd Sam Howell sy'n gofrestredig (SAM Gm494); ardal 035 Pengarnddu; ardal 039 Ffos-y-Frân; ac ardal 041 Tir Comin Merthyr, Gogledd; tra gwyddom fod ffosydd claddedig wedi goroesi o fewn ardal 008 Ardal Gwaith Haearn Dowlais. Nodwyd system Dowlais yn gyntaf fel endid gan John A Owen yn ei lyfr The History of the Dowlais Iron Works, 1759-1970 (tudalennau 67-68) a gyhoeddwyd ym 1973 (argraffiad cyntaf; 2il argraffiad 1977). Ni fu unrhyw ddisgrifiad manwl, er i rywfaint o waith arolygu yn y maes gael ei wneud gan y RCAHMW ym 1993, a nododd lawer o nodweddion draenio sydd wedi goroesi, gan gynnwys y rhai sy'n cyflenwi'r gwaith haearn a'r rhai sy'n draenio i'r de (Malaws a Wakelin, nas cyhoeddwyd).

    Nid oedd y dechnoleg dan sylw yn arbennig o gymhleth na radical: roedd pyllau, llifddorau a ffrydiau wedi'u meistroli at ddibenion malu yn y cyfnod canoloesol, a gwneid defnydd helaeth ohonynt mewn mannau eraill at ddibenion diwydiannol tebyg. Fodd bynnag, mae graddfa'r fenter yn eithriadol. Adeiladwaith y ffosydd yw'r nodwedd fwyaf trawiadol un efallai, er bod adeiladwaith cywrain y dyfrbontydd i sicrhau llif y dwr trwy'r system ffrydiau wrth i ffyrdd, tramffyrdd a rheilffyrdd newydd gael eu hadeiladu hefyd yn adlewyrchu gwaith cynllunio craff. Defnyddiai'r system, a gyflenwid trwy ddisgyrchiant, rwydwaith helaeth o ffrydiau a chronfeydd dwr ar wyneb y ddaear a sianeli tanddaearol ar ffurf U, a adeiladwyd yn ôl 'patrwm Dowlais' o fewn gwahanol lefelydd, megis y Brew House Level, a Buxton's neu'r Purple Level. Roedd yr olaf yn dal i fodoli ac roedd yn dal i fod mewn cyflwr da mor ddiweddar â'r 1960au. Draeniai'r system amrywiaeth o lefelydd glo gan gynnwys gwythiennau Pedair Troedfedd Isaf ardal Cwm-Bargod, Trecati a Threhir a'r Gwythiennau Pedair Troedfedd Uchaf ac Isaf, Big Coal, Red, Blue a Spotted yn ardaloedd Pantywaun, Rhaslas, a South Tunnel. Draeniai yn y pen draw i bwll dwr ym Mhwll Glo Tyle Dowlais, lle y gellid pwmpio'r dwr yn ôl i'r system ar yr wyneb neu ganiatáu iddo ddraenio i lefelau llenwi ffwrneisi Penydarren (Owen 1977, 67-8). Mae'r rhestrau o brif bibellau dwr a ffosydd Gwaith Dowlais (1920) yn rhoi syniad o hyd a lled y fenter a gwnâi gyfanswm o 12.7 cilomedr o brif bibellau dwr (Prif bibell Rhaslas, sydd ychydig dros 2 gilomedr o hyd, yw'r hwyaf), tra deuai cyfanswm hyd y ffosydd i 11.3 cilomedr. Mae'r rhestr o 'Gronfeydd Dwr a Dyfrffosydd yng Ngwaith Dowlais' yn sôn am tua 28 o filltiroedd o ddyfrffosydd (42 o gilomedrau), cyfeiriad yn ôl pob tebyg at y ffrydiau agored a gysylltai'r gwahanol byllau.

    Er bod Owen yn disgrifio 'system draenio "Rhydd" Dowlais' fel un system, un a oedd "wedi'i pherffeithio" erbyn y flwyddyn 1868" (Owen 1977, 67), ar ôl astudio'r dystiolaeth ddogfennol a chartograffig ymhellach bwriwyd amheuaeth ar yr honiad hwn. Nid yw'n glir o'r dogfennau p'un a luniwyd nodweddion draenio'r ardal fel un system, neu a ystyrid eu bod yn grwp o nodweddion cysylltiedig. Mae'n amwys hefyd a fwriedid iddi ddarparu dwr ar gyfer y gwaith haearn yn unig, neu a oedd cael gwared â dwr nad oedd ei eisiau a chyflenwi dwr i fwyngloddiau ar gyfer pyllau cydbwyso yn rhan o'i swyddogaeth (Malaws a Wakelin, nas cyhoeddwyd). Roedd cyflenwad dwr yn hollbwysig wrth redeg gwaith haearn: esbonnir goruchafiaeth Dowlais a gwaith Cyfarthfa (ar safle glan afon) ar gyfadeilau cystadleuol Plymouth a Phenydarren i raddau helaeth gan y ffactor hwn. Mae astudiaeth a wnaed yn ddiweddar o ffynonellau dogfennol a chartograffig yn dod i'r casgliad bod y dystiolaeth ddogfennol o weithgareddau draenio Cwmni Haearn Dowlais yn adlewyrchu gwaith addasu parhaus; o ychydig o byllau unigol ym 1847, i gyfadail integredig ym 1868, gyda rhagor o ychwanegiadau ym 1870, a nifer fawr o newidiadau ar ôl hynny, dros gyfnod o fwy na 70 o flynyddoedd (Locock, sylw. Pers.). Mae'r astudiaeth a wnaed ar gyfer yr astudiaeth bresennol o ffynonellau cartograffig a gwaith atchwelyd mapiau yn ategu'r dadansoddiad hwn.

    Mae gweithgarwch rheoli dwr yn gysylltiedig â Chyfarthfa (ardal 012) hefyd yn ddiddorol iawn; tynnai'r gwaith yng Nghyfarthfa ei gyflenwad dwr yn syth o Afon Taf Fechan trwy ffrwd a gyflenwid o gored (yr un a adeiladwyd ym 1766-77 efallai). Mae nodweddion sydd wedi goroesi yn cynnwys Pont Haearn Pont-y-Cafnau a adeiladwyd tua 1793, a gludai ddwr i'r gwaith ar draws Afon Taf trwy ffos a sianel (launder) lefel uchel (a ddarlunnir mewn darlun yn dyddio o tua 1819/20 gan Penry Williams) o Gamlas Gyflenwi Cyfarthfa sydd wedi goroesi a Chronfa Ddwr y Pwll Pysgod yng ngerddi Castell Cyfarthfa (ardal 013). Oherwydd yr angen am ddwr a chalchfaen yng Ngwaith Haearn Cyfarthfa bu'n rhaid adeiladu pont a dyfrbont ceffylau pwn neu blatffordd gyfunedig, sef Pont-y-Cafnau. Yn ystod y 1770au, byddai'r strwythur hwn wedi'i wneud o bren; dengys brasluniau gan JMW Turner ym 1797 y ddyfrbont bren uchel, a arferai gyflenwi dwr i olwyn ddwr Aeolus enfawr (1793-96) a yrrai'r llif aer ar gyfer Ffwrneisi Cyfarthfa. Ailadeiladwyd y bont bresennol ym Mhont-y-Cafnau (Pont Haearn Pont-y-Cafnau SAM Gm 424) o haearn bwrw tua 1793 ac mae bron yn sicr iddi gael ei hadeiladu yn ôl cynlluniau'r athrylith peirianyddol lleol Watkin George i gario Tramffordd y Gurnos a oedd newydd ei hadeiladu. Mae'r strwythur yn bwysig fel y Bont Reilffordd a'r ddyfrbont haearn gyntaf ar gofnod (Hughes 1990).

    Roedd rhwydwaith helaeth o ffrydiau a chronfeydd dwr cysylltiedig i'w gael yn ardal y gweithfeydd cloddio, sef 'Mwyngloddiau Cyfarthfa' i'r gorllewin ac i'r de o'r gwaith haearn, (hy HLCA 014, 064, 066, 067, 069, a 070). Yn yr ardal hon, cyflenwai'r nodweddion rheoli dwr systemau camlesi Cyfarthfa a Morgannwg (ee Pwll Glyndyrys) hefyd, a systemau cydbwyso dwr pyllau niferus yr ardal.

    Ymddengys nad oes fawr ddim wedi goroesi o'r nodweddion rheoli dwr a oedd yn gysylltiedig â gweithfeydd haearn Plymouth a Phenydarren, heblaw am Gamlesi Cyflenwi Plymouth (HCLA 006, 015 a 020).

  • Trafnidiaeth a chysylltiadau

    Cymharol brin yw'r dystiolaeth o lwybrau trafnidiaeth cyn y cyfnod ôl-ganoloesol. Gwyddom fod y ffordd Rufeinig rhwng y gaer Rufeinig yn y Gaer, Aberhonddu a'r un ym Mhenydarren yn mynd trwy'r ardal; credir ei bod yn debyg ei bod yn croesi Afon Taf Fechan ym Mhontsarn (ardal 027) ac yn mynd yn ei blaen i'r de i Benydarren ar hyd un o ddau lwybr posibl. Un posibilrwydd yw ei bod yn dilyn llwybr a ddefnyddir heddiw gan y lôn i Waelod-y-garth, y posibilrwydd arall yw ei bod yn dilyn llwybr trwy Bantton (anheddiad gwledig anghyfannedd), a fferm y Gurnos i fynd heibio i'r llethrau sy'n wynebu'r de islaw Castell Cyfarthfa. Credir bod y ffordd Rufeinig rhwng ceyrydd Gelligaer a Phenydarren yn mynd ar hyd cwr gorllewinol yr ardal dirwedd hanesyddol, ar linell isffordd sy'n bodoli (NL152 a PRN A62: Wilkins 1900, 70-73; Margary 1965; RCAHMW 1982, 152).

    Dengys mapiau yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif nifer o lwybrau hynafol trwy'r ardal (map John Ogilby dyddiedig 1675 a map Emanuel Bowen o Dde Cymru, 1729). Cynhwysai'r rhain lwybr y gefnffordd a redai ar hyd glan orllewinol Afon Taf Fechan, gan groesi ym Mhont Stickel (Pontsticill), i basio i'r dwyrain o Gastell Morlais a Fferm y Garth. Dilynai'r llwybr hwn esgair Tir Comin Merthyr ar ôl hynny, gan fynd yn ei flaen trwy groesffordd â'r lôn i safle ffair ganoloesol Marchnad-y-Waun, a chan ddilyn y copa lle y ceir nifer fawr o garneddau yn dyddio o'r Oes Efydd (ardal 077) i'r de tua Llancaeach. Dilynai llwybr dyffryn isel yn rhedeg o'r gogledd i'r de lannau dwyreiniol Afon Taf Fawr ac Afon Taf i'r de o Bont-y-Capel (Cefncoedycymer) i flaenau Cwm Rhymni, a'r hen ffordd o Ferthyr Tudful i Aberdâr trwy bentref Pen yr heol (Penyrheolgerrig).

    Prin yw'r pontydd ffordd yn dyddio o'r cyfnod cyn y 19eg ganrif o gofio'r llifogydd rheolaidd a gafwyd, a ddangosir gan Bont-y-Capel, Cefncoedycymer, a adeiladwyd o bren ym 1650, a ailadeiladwyd o gerrig rhwng 1775-1780, ac a ailadeiladwyd unwaith eto ym 1858, ar ôl iddi gael ei dinistrio yn llifogydd 1853 (Davies 1992). Mae Pont-y-Cafn sy'n dyddio o'r 18fed ganrif (1775-1781; yn rhestredig gradd II, ardal 055), a ddisodlodd bont bren gynharach unwaith eto, wedi goroesi er iddi gael ei disodli ym 1909 gan y bont bresennol o goncrid dur, a atgyweiriwyd ym 1949 a 1989.

    Dengys ffynonellau cartograffig yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif i rwydwaith trafnidiaeth yr ardal gael ei newid a'i wella yn aruthrol. Ymhlith yr ychwanegiadau roedd Camlas Cyfarthfa (diwedd y 1770au) a Chamlas Morgannwg (neu Gaerdydd) (tua 1794), tra ymddengys Tramffordd Dowlais i ben Camlas Morgannwg, a'r Ffordd Dyrpeg o Aberhonddu, trwy Ferthyr Tudful hefyd ar fapiau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (map Dadford o Gamlas Morgannwg, 1790; a Map Yates o Sir Forgannwg, 1799).

    Cafodd ffyrdd eu gwella yn sgîl Deddfau Tyrpeg 1767 a 1787, yn gyntaf y Ffordd Dyrpeg o Gefn i Gwm Taf tua 1802 (HCLA 055 a 061), a Thollffordd Plymouth (ee ardal 006) a grëwyd o dan nawdd Deddf Tyrpeg Sir Forgannwg ddyddiedig 1771 ac a gychwynnwyd gan Anthony Bacon. Yn ddiweddarach, ym 1831, adeiladwyd y Ffordd Dyrpeg o Ferthyr Tudful i Aberhonddu; a wellhaodd gysylltiadau trafnidiaeth gryn dipyn (Lewis 1958; Bowen 1992).

    Mae Camlas Cyfarthfa a Chamlas Sir Forgannwg yn ddwy gamlas o bwys cenedlaethol a rhyngwladol; mae olion yn cynnwys argloddiau, cloddiadau, pontydd a nodweddion eraill. Mae'r nodweddion hyn wedi goroesi yn ardal 014 ac maent yn cynrychioli'r dirwedd drafnidiaeth ddiwydiannol gynharaf o fewn Tirwedd Hanesyddol Merthyr Tudful. Caniatâi'r gamlas gynharaf, sef Camlas Cyfarthfa (SAM Gm467), a adeiladwyd ar ddiwedd y 1770au, gludo glo yn syth o'r lefelydd i waith haearn Cyfarthfa gan ddefnyddio cychod haearn bach neu 'fwcedi' a âi i mewn i geg y fynedfa. Y prif hwb ar gyfer twf diwydiannol yr ardal oedd adeiladu Camlas Sir Forgannwg ym 1794, a'i gwnaeth yn bosibl i waith haearn Cyfarthfa a'i weithfeydd cloddio glo a haearnfaen cysylltiedig o dan Richard Crawshay, a gymerodd Gyfarthfa ar brydles ym 1786, ehangu'n gyflym. Mae pen y gamlas yn Chapel Row (rhestredig gradd II; man geni Dr. Joseph Parry; ardal 014), George Town a safle'r bont gamlas haearn a ailgodwyd o Rydycar (Gm486) yn ddarn da o Gamlas Sir Forgannwg sydd wedi goroesi.

    Efallai mai'r un mwyaf cyfarwydd o dramffyrdd cynnar Merthyr Tudful a'r un y cenir ei chlodydd fwyaf yw Tramffordd Penydarren (Merthyr Tudful) (ardal 019); a adeiladwyd ym 1799-1802 rhwng Penydarren ac Abercynon gan y peiriannydd rheilffyrdd a mwyngloddio cynnar enwog George Overton, a fu'n gyfrifol hefyd am yr arolwg cyntaf o Reilffordd Stockton a Darlington. Ysgogwyd y dramffordd gan anghytuno ynghylch y tollau uchel a godid ar Gamlas Sir Forgannwg rhwng Richard Crawshay o Gyfarthfa, a meistri haearn eraill yr ardal. Mae Tramffordd Penydarren o bwys cenedlaethol fel safle'r daith gyntaf ar gledrau gan locomotif ager a gofnodwyd erioed (un o beiriannau ager Richard Trevithick), a gyflawnwyd ym mis Chwefror 1804.

    Mae Twnnel Gwaith Plymouth (neu Dwnnel Trevithick) wedi goroesi o dan safle banc llenwi Ffwrneisi Gwaith Haearn Plymouth; yn yr un modd dyma oedd y twnnel rheilffordd cofnodedig cyntaf a ddefnyddiwyd gan locomotif.

    Erbyn tua 1800 roedd y gwaith o ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth cymhleth yn mynd rhagddo'n dda; roedd cerbydau a dynnid gan geffylau yn cael eu defnyddio at ddibenion halio erbyn diwedd y 18fed ganrif, ac mae tystiolaeth gartograffig (Yates 1799) o "ffyrdd wagenni" megis yr un yn ardal 039 (ardal 004, a 039). Mae tramffyrdd cynnar nodedig eraill yn cynnwys Tramffordd y Gurnos (SAM Gm478; ardal 012C), a adeiladwyd ym 1793 ac sydd wedi cadw blociau sliper cerrig; croesai Tramffordd y Gurnos Afon Taf i waith Cyfarthfa ar draws Pont-y-Cafnau (SAM Gm 424) sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

    Adeiladwyd Tramffordd Morlais o eiddo Gwaith Haearn Penydarren, Dowlais a Plymouth ym 1793 i wasanaethu Chwareli Calchfaen Castell Morlais (ardal 044) ac âi Tramffordd a adeiladwyd tua 1805 ac a gysylltai Dowlais â Chwareli Twynau Gwynion (ardal 042) trwy ardal 035. Disodlodd Rheilffordd Fwynau Rhymni (Calchfaen) yr olaf tua 1864, pan ddaeth y chwarel yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Guest yn Rhymni.

    Sefydlwyd rhwydwaith trafnidiaeth diwydiannol ardal Merthyr Tudful i raddau helaeth erbyn chwarter cyntaf y 19eg ganrif, fel y gellir gweld ar luniau tirfesurwr dyddiedig 1814, a 1826. Un enghraifft yw rhwydwaith tramffyrdd diwydiannol Cyfarthfa (ardaloedd 063, 064, 066, 067, 068, 070), a wasanaethai'r gweithfeydd cloddio helaeth ar hyd llethrau Mynydd Aberdâr sy'n wynebu'r dwyrain. Rhedai prif Dramffordd Cyfarthfa o'r gogledd i'r de o Waith Haearn Cyfarthfa trwy byllau Coedcae a Chwm-glo i'r chwareli a'r lefel yn Upper Black Pins Level (de), ac i'r Inclein o Gwm-glo i Upper Wern yn ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin i Reilffordd Pwll Glo Cwm. Mae tramffyrdd eraill yn yr ardal yn cynnwys y Dramffordd o Fynydd Aberdâr i Gyfarthfa, darn cofrestredig (SAM Gm 495, ardal 067), a'r Dramffordd o Gwm-glo i Gyfarthfa, Tramffordd Pen-yr-heolgerrig a'r Dramffordd o Gyfarthfa i Glwyd-y-Fagwyr. Ceir sefyllfa debyg yn Nowlais, Plymouth a Phenydarren lle'r oedd rhagor o dramffyrdd diwydiannol i'w cael erbyn yr un cyfnod, megis Rheilffordd Cwmni Haearn Dowlais, a gysylltai wahanol lefelydd a phyllau (siafftiau) â'r prif lwybrau i'r iardiau stoc trwy system o incleins.

    Ym 1821 cynhyrchwyd y cledrau ar gyfer Rheilffordd Stockton a Darlington yng ngwaith Dowlais gan osod y patrwm a oedd i ddod yn ystod blynyddoedd ffyniannus y rheilffyrdd. O tua 1840 datblygwyd rhwydwaith cymhleth o reilffyrdd, a gludai yn gyntaf lo a mwyn haearn ac a wasanaethai ar ôl hynny farchnadoedd ehangach; mae olion rheilffyrdd diwydiannol yn cynnwys Rheilffyrdd Gethin (Rheilffordd Pwll Castle; 1850au), Pwll Cwm, ac Ynys-fach, y mae darnau ohonynt wedi goroesi o fewn Ardal Cymeriad Tiwedd Hanesyddol 014, ac inclein Rheilffordd Dowlais (1851; ardal 040).

    Cafwyd y datblygiad rheilffordd cyntaf o bwys o fewn ardal Merthyr Tudful ym 1841 pan agorwyd cangen leol o Reilffordd Dyffryn Taf (ardal 028); a gynlluniwyd gan IK Brunel; Rheilffordd Dyffryn Taf oedd y rheilffordd locomotifau gyhoeddus gyntaf i wasanaethu Merthyr Tudful. Roedd yr elw uwch y gellid ei gael o gludo glo a haearn wedi ennyn mwy o ddiddordeb yn yr ardal ymhlith nifer o gwmnïau rheilffyrdd. Rhwng 1853 a 1886 roedd y pedwar prif gwmni rheilffordd wedi adeiladu llinellau i ardal Merthyr Tudful: Cwm Nedd 1853 (gweler ardal 028), Aberhonddu a Merthyr Tudful (Dowlais 1863, Merthyr Tudful 1868), LNWR (Dowlais 1873, Merthyr Tudful 1879), a Chyd-linell y Great Western a Rhymni (Dowlais 1876, Merthyr Tudful 1886). O ganlyniad i Reilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful yn cael ei hymestyn o Ddowlais i Fargod tua 1860 roedd modd datblygu ac ehangu mwyngloddiau ardal Fochriw. Cynlluniwyd Rheilffordd Cyd-linell Taf Bargod Rheilffyrdd y Great Western a Rhymni, un o nodweddion amlwg ardaloedd 031, 039, fel ei bod yn bargodi tua'r dwyrain (tua 1876), i gilffyrdd yng Nghyffordd Fochriw a thua'r gorllewin i Gyffordd Llinellau Igam-ogam Dowlais. Ymrannai wedyn, âi un llinell yn ei blaen i Waith Ivor, âi'r llall trwy ddwy gyffordd facio (Furnace Tops a Ffos-y-frân; ardal 039) i Waith Dowlais. Ym 1877, agorodd Rheilffordd y Great Western y gangen leol a elwid y 'Merthyr Curve' mewn cydweithrediad â Rheilffordd Dyffryn Taf, gan roi i'r GWR fynediad i Orsaf Derfynol Rheilffordd Dyffryn Taf ym Merthyr Tudful. Cynhwysai datblygiadau diweddarach gangen fwynau Rheilffordd y LNWR i Byllau Cwmbargod (a agorwyd ym 1881, a gaewyd ym 1937) o Gyffordd Cwmbargod, tra adeiladwyd Cyd-linell y GWR a Rhymni (Cangen Merthyr a Mynwent y Crynwyr) ym 1884/85 ar hyd ochr orllewinol Dyffryn Afon Taf (a ddilëwyd i raddau helaeth pan adeiladwyd yr A470(C).

    Mae nodweddion tirwedd pwysig yn gysylltiedig â'r rheilffyrdd cyhoeddus diweddarach megis y traphontydd trawiadol o bwys cenedlaethol sy'n cario Cyd-linell Rheilffyrdd y B&M a'r L&NWR: Traphont Cefncoedycymer (sy'n rhestredig gradd II; ardal 055); a Thraphont y Glais ym Mhontsarn (ardal 027), yr adeiladwyd y ddwy ohonynt gan Savin a Ward 1866. Mae nodweddion nodedig eraill yn cynnwys tyrau awyru Twnnel Morlais. Ymhellach i'r gogledd, i'r gogledd-ddwyrain o Gyffordd y Pant, mae llinell Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr Tudful yn cael ei rhannol ailddefnyddio gan Reilffordd Mynydd Aberhonddu ar hyn o bryd.

    Yr unig brif linell reilffordd weithredol sydd wedi goroesi i Ferthyr Tudful yw cyn-linell Dyffryn Taf; erbyn hyn mae'r llinell hon yn terfynu yng nghyn-Orsaf Derfynol Rheilfford Cwm Nedd.

    Nodweddion trafnidiaeth eraill â chryn dystiolaeth ddogfennol iddynt, nad ydynt i'w gweld bellach yn y dirwedd, oedd tramffyrdd trydan yr ardal, megis tram trydan Rheilffordd Ysgafn Merthyr Tudful, a redai ar hyd High Street, Cefncoedycymer (ardal 055, ardal 002, ac ati); fe'i hadeiladwyd ym 1899 ac fe'i hagorwyd ym 1901.

    Mae datblygiadau trafnidiaeth mwy diweddar yn cynnwys adeiladu'r A465(C) Ffordd Blaenau'r Cymoedd (ardal 056), y cysylltiad ffordd o'r dwyrain i'r gorllewin a adeiladwyd ym 1964. Mae nodweddion pwysig yn cynnwys y tair pont ffordd gyfoes, y newidiwyd un ohonynt ers hynny. Adeiladwyd y pontydd hyn gan Rendel, Palmer a Tritton (penseiri ymgynghorol Alex Gordon a'i Bartneriaid), o goncrid dur yn ôl cynlluniau gwahanol, dwy â phâr o asennau bwaog parabolig ac un â thri bwa ar gantilifrau o ddau biler. Enillodd y pontydd hyn wobrau dinesig ym 1968. Parhawyd i wella'r rhwydwaith ffyrdd ac adeiladwyd yr A470(C), ardal 079, a gwnaed Ffordd yr A4060(C) yn ffordd ddeuol (gweler ardal 079).

  • Tirweddau trefol diwydiannol

    Cefndir a datblygiad

    Mae twf diwydiannol a threfol Merthyr Tudful, ar lawer ystyr, yn unigryw; ac o gofio pa mor gyflym y datblygodd, efallai nad oes ei debyg i'w gael yn unman arall. Mae'r twf aruthrol hwn ar ei amlycaf yn y ffigurau poblogaeth ar gyfer plwyf Merthyr Tudful. Ar ôl y chwyldro diwydiannol, tua 1765, roedd y ffigurau poblogaeth wedi cynyddu'n aruthrol, gan gyrraedd 7,700 ym 1801, ac erbyn 1851 roedd y boblogaeth wedi tyfu i 46,000. Yn ystod y cyfnod cyfatebol, yn y cyfamser, roedd nifer yr anheddau yn yr ardal wedi codi o 1404 i 8354. Roedd elfen drefol ddiwydiannol Merthyr Tudful wedi'i chwblhau fwy neu lai erbyn 1860 (Gross 1989; Bowen 1992).

    Cyn y Chwyldro Diwydiannol cynhwysai Merthyr Tudful gnewyllyn bach (ardal 001 A) yn cynnwys eglwys, rhai tafarndai a bythynnod crefftwyr gwledig; gwasanaethai'r anheddiad hwn gefn gwlad amaethyddol Dyffryn Afon Taf (Gross 1989). Y ddau brif dþ yn y pentref yn ystod y cyfnod hwn oedd y Maerdy (cyfeiriadau cartograffig; cartref y maer canoloesol) a'r Llys, neu'r Neuadd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd ysgol wedi cymryd lle'r cyntaf; mae'r safle, a gliriwyd ar ôl hynny, yn cael ei ddefnyddio fel maes parcio ar hyn o bryd. Mae'r Llys ar y llaw arall wedi goroesi. Honnir bod yr olaf yn dyddio yn wreiddiol o 1150, a gwyddom ei fod yn un o'r pethau a oedd yn eiddo i Edward Lewis ym Merthyr Tudful, er bod ei brif gartref yn y Fan, Bedwas, erbyn y dyddiad hwn. Mae'r olion strwythurol cynharaf yn cynnwys uned ogleddol yn perthyn i floc deulawr hirsgwar yn dyddio o'r 16eg ganrif a chanddo simnai ochrol i'r dwyrain a thramwyfa groes bosibl i'r de, o dan do agored yn cynnwys pedair cilfach. Mae trawstiau to yn dyddio o'r 17eg ganrif a ailddefnyddiwyd mewn uned bedair cilfach a ychwanegwyd i'r de yn dynodi gwaith ailadeiladu ar ddechrau'r 18fed ganrif. Cynhwysai ychwanegiadau yn dyddio o oes Fictoria asgell groes (RCAHMW, MH33; Gross 1989).

    Mae'n debyg i anheddu diwydiannol yn yr ardal ddechrau ar raddfa fach o ganol y 18fed ganrif o leiaf. Fe'i cyfyngwyd yn wreiddiol i ardal cyn-bentref Merthyr Tudful ac roedd wedi'i ganoli ar eglwys ganoloesol y plwyf (ardal 001) a phentrefannau 'sgwatwyr' amaethyddol/diwydiannol anghysbell gwasgaredig, er enghraifft yn Gellideg (ardal 063), Cefncoedycymer (ardal 055), Heolgerrig (ardal 068) a hefyd ym Mhencoed Ifor (y Pant; ardal 030). Gwyddom fod yr anheddiad olaf yn gysylltiedig i raddau helaeth â chwareli calchfaen cyfagos. O'i leoliad ar hyd y lôn i'r mynydd, mae'n bosibl y gall yr anheddiad ym Mhentrebach (ardaloedd 015A a 020) fod wedi dechrau fel anheddiad sgwatwyr. Ehangodd yr aneddiadau anghysbell hyn wrth i nifer y gweithwyr a oedd yn dod i mewn, a oedd yn weithwyr ymfudol yn wreiddiol, a'r galw cyfatebol am dai gynyddu.

    Nid damwain yw lleoliad y pentrefannau 'sgwatwyr' cynnar ar hyd y cyrion amaethyddol ymylol. Yn ystod cyfnodau cynnar y twf mewn aneddiadau diwydiannol, byddai tir amaethyddol wedi bod yn gynhyrchiol o hyd a byddai wedi mynd am bris uchel; tra byddai'r boblogaeth o weithwyr a oedd yn datblygu wedi bod yn rhannol ynghlwm wrth amaethyddiaeth yn ogystal â diwydiant. Yn wir buasai perthynas dymhorol draddodiadol rhwng cyflogaeth amaethyddol a diwydiannol, yn arbennig mewn perthynas â gweithgarwch cloddio glo a cherrig cynnar, heb sôn am losgi golosg. Mae'n debyg bod y cyrion ymylol, lle y ceir y mwyafrif o enwau caeau yn cynnwys yr elfen Coedcae, ar y dechrau o leiaf, yn dra choediog, a chyn i'r gweithfeydd haearn gael eu newid i ddefnyddio cols atebai'r ardaloedd hyn lawer o'r galw am danwydd o du'r gweithfeydd hyn. Er enghraifft, credir i'r galw am olosg at ddibenion toddi o du ffwrnais gyntaf Anthony Bacon yng Nghyfarthfa arwain at ddinoethi'r ardal o amgylch Cefncoedycymer (ardal 055) o goed, a datblygodd yr anheddiad sgwatwyr yn wreiddiol yn yr ardal a gliriwyd, fel gwasgariadau o 'dai-un-nos' (Bowen 1992).

    Mae'r prif ddatblygiadau yn digwydd ar ôl i bedwar prif waith haearn yr ardal gael eu sefydlu (Dowlais o 1759, ardal 008; Plymouth o 1763, ardaloedd 015 a 019; Cyfarthfa o 1765, ardal 012; a Phenydarren o 1784, ardal 004) yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Rhwng canol y 18fed ganrif a chanol y 19eg ganrif, datblygodd Merthyr Tudful fel tref haearn gyfansawdd yn cynnwys clystyrau trefol wedi'u lleoli o amgylch ardal y gwaith haearn, a chnewyllyn masnachol a busnes trefol wedi'i ganoli ar y pentref gwreiddiol (ardal 001) ac eglwys y plwyf (Hilling 1973, Gross 1989). Roedd gwaith datblygu pellach at ei gilydd ar ffurf gwaith mewnlenwi rhwng y creiddiau anheddu gwreiddiol hyn. Datblygodd Merthyr Tudful yn ddigynllun at ei gilydd; cyfeiriodd Malkin a ymwelodd â'r dref ym 1803 at 'anhrefn gwasgaredig, heb unrhyw drefn na chynllun' cynllun yr anheddiad yr adeg honno (Malkin 1804).

    Mae cynlluniau di-drefn tebyg i'w gweld o hyd yn rhannol yng Nghefncoedycymer (ardal 055); Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri (ardal 063); Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr (ardal 065) a Heolgerrig a Phen-yr-Heolgerrig (ardal 068), lle y sefydlwyd aneddiadau sgwatwyr yng nghyffordd y mynydd agored â'r tir amaethyddol amgaeedig. Mae rhannau cynnar yr aneddiadau hyn wedi cadw eu cymeriad lled-amaethyddol, yn debyg i'r aneddiadau sgwatwyr hynny a sefydlwyd gan weithwyr fferm y cafwyd gwared â hwy, ac mae'n debyg iddynt gael eu sefydlu mewn ffordd debyg. Datblygodd yr aneddiadau 'pentref' cynnar hyn ar hyd cyrion meysydd mwynau'r cwmnïau haearn; fe'u nodweddid gan gynlluniau di-drefn, ac fel arfer cynhwysent anheddau ar wahân neu anheddau pâr o fewn eu cwrt eu hunain, a ddynodai eu bod yn hunangynhaliol i ryw raddau, sy'n nodweddiadol o aneddiadau diwydiannol cynnar. Dengys tystiolaeth gartograffig i gymeriad gwasgaredig, di-drefn bron, aneddiadau cynnar Cefncoedycymer (ardal 055); Clwyd-y-Fagwyr, Gellideg a Phen-Llwyn-Deri (ardal 063); Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr (ardal 065) a Heolgerrig a Phen-yr-Heolgerrig (ardal 068), a sefydlwyd yn ystod y 18fed ganrif, gael dylanwad mawr ar ddatblygiadau diweddarach yn yr ardaloedd hyn.

    Roedd y mwyafrif o'r tai cynnar yn dai bychan, gan ymdebygu yn ôl pob tebyg i fythynnod gwerin cefn gwlad; fel yr awgrymir gan ddisgrifiad Malkin dyddiedig 1803 'nid oedd y tai cyntaf a adeiladwyd ond yn fythynnod syml a bach iawn ar gyfer dynion ffwrneisi, dynion gefeiliau, mwyngloddwyr a'r cyfryw grefftwyr ag oedd eu hangen i adeiladu'r adeiladau angenrheidiol' (Malkin 1804; Bowen 1992).

    Erbyn 1806 bu gwaith ailddatblygu trefol ar raddfa fawr yn rhan o'r ardal; roedd strydoedd llydan, syth bellach yn nodweddiadol ac roedd cynllun rheolaidd wedi'i osod ar y gwaith o ddatblygu ardal graidd Merthyr Tudful (ardal 001A), yn arbennig ardal Tir y Llan, 'adeiladwyd llawer o strydoedd newydd, sy'n ddigon syth a llydan, a chynlluniwyd rhagor. Mae'r tai newydd at y cyfan yn dda, ac ailadeiladwyd rhai strydoedd hþn yn ôl cynllun gwell. Cynlluniwyd bron y cyfan o Dir y Llan mewn strydoedd rheolaidd ar gyfer adeiladu…' (Malkin 1807). Mae tystiolaeth gartograffig yn ategu'r datblygiad hwn; erbyn 1813-14 cynhwysai'r gwaith o ddatblygu'r ardal graidd (ardal 001A) adeiladau ar bob ochr i High Street, yn arbennig gerllaw Pontmorlais, cynllunio Castle Street, Cross Street, Glebeland Street, Glebeland Place ac Ynysgau Street. Ar ben hynny achosodd y datblygiad hwn i ganolbwynt yr anheddiad symud i ffwrdd o'r eglwys ganoloesol i'r stryd fawr a'r farchnad.

    Er i'r craidd trefol gael ei wella, mae aneddiadau Merthyr Tudful wedi cadw eu ffurf neu eu cynllun trefol afluniaidd cyffredinol, sy'n nodweddiadol o drefi haearn cynnar o fewn ardal blaenau'r cymoedd. Fodd bynnag, mae'r gwahanol aneddiadau dibynnol, a ddatblygodd i wasanaethu gweithfeydd haearn yr ardal, ac yn ddiweddarach ei phyllau glo, yn dra gwahanol i'w gilydd o ran eu cynllun a'u cymeriad cyffredinol.

    Cafodd natur y tir lle yr adeiladwyd yr aneddiadau ddylanwad mawr ar eu cynllun hefyd, roedd Cae-Pant-Tywyll (rhan o ardal 002; a ailddatblygwyd i raddau helaeth bellach) wedi'i gyfyngu gan dir serth ac roedd ganddo gynllun afreolaidd. Datblygodd George Town (ardaloedd 009, 014), a adeiladwyd ar safle mwy agored, gynllun echelinol a chynhwysai strydoedd cymharol lydan, a roddodd golwg 'Glasurol' iddo yn ôl Hilling (Hilling 1973). Ailddatblygwyd yr anheddiad olaf ar raddfa fawr ar ddiwedd yr 20fed ganrif, a chollwyd y mwyafrif llethol o dai diwydiannol cynnar yr ardal; yr unig enghraifft sydd wedi goroesi yw Chapel Row (sy'n rhestredig gradd II) o fewn ardal 014 gerllaw.

    Nid yn unig y chwaraeodd llinellau cyswllt ran allweddol mewn dechrau a hwyluso twf Merthyr Tudful fel tref, ond hefyd mewn dynodi'r ffordd y byddai'r anheddiad yn tyfu ar ôl hynny. Mae'n amlwg bod datblygiadau strimynnog cychwynnol yn aml yn ymestyn ar hyd y ffyrdd cynnar, a thollffyrdd (ee Tollffordd Plymouth tua 1771, ardal 006), ac ar ôl hynny ar hyd y rhwydwaith tramffyrdd a rheilffyrdd. Mae enghreifftiau o'r olaf yn cynnwys datblygiadau ar hyd llwybr Tramffordd Penydarren (Merthyr Tudful) (1802 ardal 019) ac ar hyd Rheilffordd Dyffryn Taf (1841, ardal 028) a Rheilffordd Cwm Nedd (1853, o fewn ardal 028). Mae datblygiadau min ffordd llinellol neu ddatblygiadau 'strimynnog' yn nodweddiadol o brif aneddiadau diwydiannol haearn cynnar Merthyr Tudful; ceir enghreifftiau ar hyd Twyn-yr-Odyn (ardal 001 B), ar hyd Brecon Road (ardal 002), Dowlais a Phenydarren (ardaloedd 007 a 005 yn y drefn honno) ac ar hyd Plymouth Road (ardal 006) tua safle gwaith haearn Plymouth. Dim ond yn ystod y 1820au a'r 1830au o ganlyniad i'r cynnydd yn y boblogaeth y daeth mathau eraill o gynlluniau ar gyfer aneddiadau yn fwy cyffredin. Mae cynllun Dowlais (ardal 007) yn afreolaidd ac yn rheolaidd, ac mae'n cyfateb i berchenogaeth y tir, y ddarpariaeth tai, a'r dyddiad y digwyddodd y datblygiad. Mae'r anheddiad yn datblygu yn ystod ail hanner y 18fed ganrif fel gwasgariad llac o fythynnod, datblygiadau strimynnog yn y bôn ar hyd y ffordd i ffwrneisi Gwaith Haearn Dowlais a chlwstwr craidd yn syth i'r gogledd o'r ffwrneisi, yng nghyffordd y ffordd o Upper Garth â Nantmorlais (ardal Cae-Harris). Dim ond o'r 1820au roedd y system grid nodweddiadol wedi'i gosod ar yr anheddiad, gyda stablau Dowlais (1820) yn ganolbwynt iddo, arwydd gweladwy o ddylanwad y Cwmni Haearn ar weithgarwch cynllunio trefol. Rhwng 1832 a 1850 ehangodd yr anheddiad ar raddfa fawr. Erbyn diwedd y cyfnod, nodweddid rhannau deheuol a dwyreiniol y dref gan gynllun grid ac ychwanegiadau strimynnog. Roedd yr ardal ogledd-orllewinol (hy Cwm-Rhyd-y-Bedd) wedi datblygu yn wahanol, mewn ffordd fwy cyfyngedig ac roedd ganddi batrwm strydoedd grid llai rheolaidd; yn y fan hon yn arbennig nodweddid y cynllun gan wasgariad o resi byr a bythynnod unigol. Nodweddid rhan ogledd-orllewinol Dowlais yng nghanol y 19eg ganrif gan batrwm tameidiog o berchenogaeth tir, ac roedd nifer o berchenogion tir bach, gan gynnwys perchennog-ddeiliaid; efallai i'r ddarpariaeth tai amrywiol hon arwain at amrywio o ran cynlluniau a'r math o dai a adeiladwyd ar draws yr anheddiad yn ardal ddeheuol Dowlais.

    Mae ymgais gynnar i gynllunio datblygiad anheddiad, o leiaf o ran ei gynllun, a darparu strydoedd lletach, i'w weld yn Nowlais. Adeiladau, megis Stablau Dowlais a godwyd ym 1820 gan Syr John Guest ar gyfer ceffylau'r cwmni, y defnyddiwyd y llawr uchaf fel ystafelloedd dysgu ar gyfer ysgol gyntaf Merthyr Tudful. Mae adeiladau cyhoeddus hefyd yn dwyn i gof y modd dyngarol, er yn dadol, y rheolai'r cwmni haearn ddatblygiad Dowlais. Cynhwysai Adeiladau Cyhoeddus amlwg yn Nowlais neuadd y farchnad a adeiladwyd gan Edward Haycock (1844; a ddymchwelwyd), Ysgol Ganolog Dowlais a godwyd ym 1855 ar draul yr Arglwyddes Charlotte Guest fel cofeb i'w diweddar wr Syr John Guest, a Llyfrgell Goffa Guest (Charles Barry, 1863).

    Darparwyd cyfran fawr o dai gan y meistri haearn ar gyfer eu gweithwyr; roedd y tai hyn yn aml o safon uwch na'r mwyafrif o'r tai a adeiladwyd gan adeiladwyr preifat a hapfasnachwyr eiddo (Gross 1989), mae enghreifftiau yn cynnwys Chapel Row, George Town (ardal 014), a Cyfarthfa Row, Brecon Road (ardal 002).

    Roedd pentref Pentrebach (ardal 01 5A; a ddymchwelwyd bellach gwaetha'r modd), yn enghraifft o bentref model, ystad a gynlluniwyd ac a ddatblygwyd ar gyfer gweithwyr haearn lleol gan Gwmni Haearn Plymouth. Cynhwysai Pentrebach Square ('The Triangle') grŵp o bum teras deulawr a adeiladwyd dros gyfnod o 40 mlynedd gan ddechrau ym 1814. Yn y bôn cynhwysai derasau o bob tu i gwrt trionglog, Church Street a Long Row yn eu plith, nid oedd ond rhan o'r olaf yn bodoli erbyn 1814 (Hilling 1973).

    Anheddiad arall a ddatblygwyd gan gwmni yw Abercanaid (ardal 018); yma unwaith eto mae gan yr anheddiad gynllun gradell a cheir pedwar teras cyfochrog rhwng y gamlas a'r afon a thri theras arall ar ongl sgwâr i'r rhain mewn rhes i lawr y llethr. Lle y trefnwyd rhesi o derasau yn gyfochrog â'r llethr, fel yn Abercanaid, a chynt yn George Town (ee Lower Nant-y-Gwenith Street, a ddymchwelwyd), roedd mynediad i gerddwyr rhwng y tai a'u gerddi blaen yn nodwedd gyffredin.

    Roedd tai cwmnïau fel arfer wedi'u graddio i adlewyrchu statws cymdeithasol eu deiliaid. Mae graddio cymdeithasol yn nodweddu'r tai yn Abercanaid; fe'i hadlewyrchir gan deras o dai mwy o faint (i'r gogledd o ystâd Abercanaid), ac, o fewn eu gerddi eu hunain, ddau dy sylweddol ar wahân, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg ar gyfer y fforman a'r rheolwr. Ceir trefniant tebyg yn Abercanaid Uchaf (ardal 016), enghraifft ddiddorol o anheddiad pen pwll glo yn dyddio o'r cyfnod cyn 1814, sydd wedi'i ganoli ar Upper Abercannaid House, cartref i reolwr y pwll glo o bosibl.

    Arddulliau tai a deunyddiau adeiladu

    Erbyn hyn mae gwaith chwalu slymiau wedi cael gwared â chyfran fawr o dai diwydiannol cynnar Merthyr Tudful. Dechreuodd y gwaith hwn yn y 1960au, a chyrhaeddodd benllaw yn y 1970au; dymchwelwyd cyfanswm o 1,650 o dai rhwng 1971-1981. Erbyn 1981, roedd tua 400 o dai wedi'u dymchwel yn Nowlais (ardal 007), 280 ym Mhenydarren (ardal 005), 440 yn George Town (ardal 009), 150 yn Ynys Fach (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 010, 011 a 014), a 140 yng Nghaepantywyll (ardal 002). Oherwydd hynny mae'r olion hanesyddol, archeolegol, pensaernïol a chymdeithasol yn bwysicach byth, er i gymeriad trefol llawer o ardaloedd gael ei newid yn llwyr.

    Mae arddulliau a deunyddiau adeiladu, er nad ydynt o reidrwydd yn darparu'r unig sail ar gyfer gwahaniaethu rhwng y naill ardal cymeriad trefol a'r llall, yn cyfrannu at gymeriad cyffredinol y dirwedd drefol. Drwy gydol hanner cyntaf y 19eg ganrif, adeiladwyd terasau gan amlaf o dywodfaen pennant rwbel a oedd ar gael yn lleol a defnyddiwyd llawrlechi ar gyfer y lloriau a llechi ar gyfer y toeau; felly gellid gweld bod deunyddiau wedi darparu unffurfiaeth cymeriad ar draws y dirwedd drefol a chytgord â'r dirwedd gyffredinol ei hun.

    Adeiladwyd llawer o'r stoc dai gynnar, yn arbennig y rhai a adeiladwyd gan hapfasnachwyr preifat, heb roi unrhyw ystyriaeth i leoliad eiddo cyfagos, heb sôn am ystyried glanweithdra ac iechyd. Er mwyn arbed lle, roedd cyrtiau agos a strydoedd cefn cul yn gyffredin iawn ac adeiladwyd llawer o dai gefn wrth gefn heb unrhyw le rhyngddynt a heb awyru digonol. Bu llawer o bobl yn byw mewn seleri; honnir bod 1,500 yn byw yn y cyfryw anheddau yn Pont Storehouse, Dowlais, yn unig. Mae Lowe yn disgrifio'r cyfryw seleri lle y bu pobl yn byw yn Plymouth Street, Merthyr, lle'r oedd isloriau islaw lefel y stryd a ffurfiai annedd ar wahân, o dan ail annedd yn cynnwys dwy ystafell y naill uwchben y llall (Lowe 1977, Gross 1989).

    Roedd cynllun deulawr, un wyneb a chanddo drawstiau to byr, agoriadau ffenestr cul a ffryntiadau dwbl llydan (dau i fyny, dau i lawr) yn fath cyffredin o dy teras cynnar; mae'r tai cwmni sydd wedi goroesi yn Abercanaid yn cynrychioli grwp pwysig o'r cyfryw dai, y mae ganddynt fel arfer fwâu to eithriadol o fach yn mesur rhwng 4m a 5m. Credir bod bwâu to byr yn arwydd bod y tai wedi'u hadeiladu gan seiri maen yn hytrach na seiri coed, am ei fod yn deillio'n uniongyrchol o gwtogi hyd yr eithaf ar waith pren ac uniadau. Yn wir, roedd y gwaith maen fel arfer o safon uchel (Hilling 1973, Bowen 1992).

    Mae'r terasau cynnar hyn yn aml yn arddangos dylanwadau brodorol cryf; sydd i'w gweld er enghraifft yn nhrefniant anghymesur y drws canolog, sy'n deillio o'r brif frest simnai a oedd yn fwy o faint a'r grisiau cerrig crwn a oedd wedi'u gosod o fewn trwch y gwahanfuriau talcen. Mae enghreifftiau da o dai gweithwyr terasog deulawr â phedair ystafell yn yr arddull frodorol wedi goroesi yn High Street a Holford Street, Cefncoedycymer (ardal 055), a osgôdd i raddau helaeth waith clirio ac ailddatblygu helaeth yr 20fed ganrif sy'n nodweddiadol o Ferthyr Tudful ei hun.

    Tai deulawr â ffrynt dwbl a adeiladwyd o'r Tywodfaen Pennant lleol, megis y rhai sydd wedi goroesi yng Nghefncoedycymer (ardal 055), Cyfarthfa Row ac ar hyd Brecon Road (ardal 002) ac yn Abercanaid (Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 017 a 018), yw'r math mwyaf cyffredin o dy cynnar sydd wedi goroesi ym Merthyr Tudful. Fodd bynnag, yng Nghefncoedycymer (ardal 055) y ceir yr amrywiaeth mwyaf o dai gweithwyr cynnar sydd wedi goroesi yn ardal Merthyr Tudful. Mae'r rhain yn cynnwys tai croes neu dai cefn wrth gefn, megis yr annedd unllawr yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif yn 83 High Street. Roedd bythynnod â dwy ystafell i'w gweld hefyd, megis yr un yn 46 High Street, ty deulawr yn dyddio o'r 19eg ganrif yn cynnwys cegin islaw, lle tân a phopty bara, ac ystafell fach heb ei rhannu â lle tân lan lofft, a gyrhaeddid trwy ddringo ysgol. Roedd annedd debyg i'w chael yn 82 High Street, a gynhwysai le tân a phopty traddodiadol, cwtsh dan staer a grisiau troellog yn rhoi mynediad i ystafell uwch wedi'i chynhesu.

    Arferai bythynnod â thair ystafell fod yn nodwedd gyffredin o Gefncoedycymer, ac roedd enghreifftiau i'w gweld ar High Street, ac mewn mannau eraill ym Merthyr Tudful tan 1935. Arweiniodd ychwanegu ceginau cefn diweddarach, yn aml fel ychwanegiadau ar ffurf sleidiau cathod, at greu bythynnod â thair ystafell. Fodd bynnag cadwyd y trefniant arferol; mae grisiau cerrig wedi'u gosod yn nhrwch y wal wrth ochr y tân yn yr ystafell flaen, sy'n rhoi mynediad i ystafell wely ar y llawr cyntaf (Lowe 1977; Gross 1989; Bowen 1992). Nodweddid math arall o annedd â thair ystafell, a geid yn yr ardal, gan gynllun llawr gwaelod yn cynnwys cegin, pantri ac ystafell wely fach â mynediad i fyny grisiau cerrig wrth ochr y tân i ystafell heb ei rhannu uwchben. Yn debyg i anheddau gwledig, roedd gan lawer o'r adeiladau cynnar hyn doeau derw, a fyddai wedi'u gorchuddio yn wreiddiol â slabiau cerrig. Mae enghreifftiau i'w gweld o hyd yng Ngellideg (ardal 063) ac Upper Collier's Row (ardal 071), a chynt yn Rhydycar (ardal 014). Ceir amrywiad arall ar yr annedd â thair ystafell yn Pond Street, Dowlais (ardal 007), lle y gosodwyd dwy ystafell wely fach dros gegin/lle byw. Roedd tai cornel a chanddynt waliau crwn ar y gornel yn un o nodweddion diddorol Dowlais a Phenydarren (Gross 1989; Bowen 1992).

    Mae gan y mwyafrif o dai â phedair ystafell gynlluniau confensiynol. Roedd dwy ystafell ar bob llawr a chynhwysai'r llawr gwaelod y gegin, y parlwr a'r pantri; yn aml darparai'r gegin yr unig ddull o gynhesu'r ty. Fe'u hadeiladwyd yn yr arddull draddodiadol ac mae ganddynt waliau cerrig, trawstiau derw a pharwydydd. Ar ben hynny mae eu cynlluniau yn parhau i amlygu'r un ffurfiau brodorol traddodiadol ac maent yn debyg i anheddau amaethyddol yr ardal; ceir parwydydd rhwng y tai rhwng pedair a phum troedfedd o drwch i ddarparu ar gyfer y grisiau cerrig a geir ar y naill ochr a'r llall i'r simnai. Arweiniai'r fynedfa flaen i'r gegin fel arfer, ac roedd yr allanfa gefn trwy'r pantri neu trwy'r wal gefn wrth ei ymyl. Mae ychwanegiadau sy'n fwy diweddar yn cynnwys ceginau cefn a adeiladwyd y tu ôl i'r cefn ac ystafell wely fach ag ystafell ymolchi a adeiladwyd uwchben y gegin a ychwanegwyd (Bowen 1992).

    Math arall o dy, a ddatblygodd yn wreiddiol o'r angen i ymdrin â lleoliadau ar lethrau serth, oedd y 'ty ar ben ty' neu'r annedd ar y llawr isaf. Roedd ganddo dri llawr fel arfer ac annedd unllawr is yn wynebu'r ochr i lawr yr allt ac annedd ddeulawr yn wynebu'r ochr i fyny'r allt. Arferai'r cyfryw anheddau fod yn fwy cyffredin; addaswyd y mwyafrif erbyn hyn trwy osod grisiau mewnol. Roedd gan Gefncoedycymer nifer fawr o enghreifftiau o'r math hwn yn Well Street a Lower High Street ac yn Pontycapel Road ond newidiwyd neu y dymchwelwyd llawer ohonynt ers hynny (Bowen 1992). Mae enghraifft dda sydd wedi goroesi i'w chael yn Pond Row, Abercanaid (ardal 017).

    Mae terasau o fythynnod unllawr yn brin; mae enghreifftiau yn cynnwys Alfonso Terrace, Dowlais (ardal 007), a adeiladwyd ar ddiwedd y 19g ganrif i roi llety i weithwyr mewnfudol o Sbaen.

    Mae cyfran fawr o dai Merthyr Tudful yn dyddio o'r cyfnod 1830-1860, pan gynyddodd poblogaeth y dref yn ddirfawr. Yn ystod y cyfnod hwn y sefydlwyd rhai o'r ardaloedd preswyl mwyaf nodedig, yng nghanol y dref gerllaw safle cyn-Neuadd y Farchnad (strwythur Neo-Glasurol ag arcedau gan TH Wyatt, 1838) ac yn yr ardal i'r dwyrain o High Street, sef Thomas Town (ardal 34). Cynhwysai'r ardal yn syth o flaen y farchnad sgwâr agored â thai teras chwaethus o bob tu iddi; dymchwelwyd neuadd y farchnad a chodwyd adeiladau dros y sgwâr ac addaswyd y tai yn siopau neu fe'u hailadeiladwyd. Mae ardal Thomas Town (Church Street, Thomas Street, Union Street a New Castle Street), ar y llaw arall, wedi goroesi fel grwp cyfan o derasau deulawr y mae undod yn perthyn iddynt o ran eu haddurniadau a'u ffryntiadau wedi'u plastro. Nodweddir yr ardal gan gynlluniau pensaernïol yn yr arddull fonheddig a'r ffaith ei bod yn perthyn i'r un cyfnod. Er mwyn sicrhau parhad ffryntiad y stryd, er enghraifft, eir ag addurniadau pensaernïol megis mowldinau ffenestr a phortshys bwaog unigol ar draws wyneb blaen Capel Salem (1855) i New Castle Street, gan ganiatáu parhau â llawr cyntaf ffasâd y stryd ar draws yr adeilad fel rhan o gynllun di-dor (Gross 1989; Hilling 1973; Bowen 1989).

    Mae Gross, Sullivan, Green, ac eraill yn cofnodi'r datblygiadau yn nhai Merthyr Tudful, gan eu gosod yn eu cyd-destun cymdeithasol a hanesyddol. Arweiniodd ymweliad Comisiynydd y Comisiwn Iechyd Trefi, Syr Henry de la Beche â Merthyr Tudful a'r ymchwiliad a'i dilynodd ym 1844, Deddf Iechyd y Cyhoedd 1848, a Bwrdd Iechyd lleol Merthyr Tudful a sefydlwyd ym 1850, yn y pen draw at welliannau mewn glanweithdra. Cafodd Merthyr Tudful gyflenwad dwr dibynadwy o'r diwedd ym 1861, tra roedd system o garthffosydd wedi'i datblygu erbyn 1866. Cyflwynwyd cynlluniau adeiladu am y tro cyntaf i'r Bwrdd Iechyd ym 1860 er mwyn iddo eu cymeradwyo ac ym 1866, cynhaliwyd arolwg tai cyntaf Merthyr Tudful o dan oruchwyliaeth y Swyddog Meddygol Iechyd. Cyflwynwyd rhagor o ddeddfwriaeth gymdeithasol yn ystod y 1870au, yn arbennig Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875, ond roedd yn rhy hwyr yn achos llawer o'r tai ym Merthyr Tudful; fodd bynnag effaith y ddeddfwriaeth fu gosod unffurfiaeth cymeriad gryf, ni waeth beth oedd y ddeiliadaeth neu'r cyfrwng, ar ddatblygiadau trefol diweddarach yn yr ardal.

    Darparwyd tai ym Maes Glo De Cymru trwy gyfrwng y cwmnïau haearn a chwmnïau'r pyllau glo, buddsoddwyr hapfasnachol mewn eiddo, a chlybiau adeiladu a sefydlwyd gan weithwyr yn y diwydiant haearn a'r pyllau glo, ac i raddau llai, berchennog-ddeiliaid, yr ystadau a oedd yn berchen ar dir. Yn ddiweddarach, yn arbennig yn y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf yr Awdurdodau Lleol a ddaeth i fod y prif gyfrwng ar gyfer darparu tai yn yr ardal.

    Mae Gross (Gross 1989) yn nodi cynnydd amlwg yng ngweithgarwch clybiau adeiladu yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Cynhwysai'r clybiau adeiladu hyn Gymdeithas Gydfuddiannol Dowlais, a gynigiodd godi 15 annedd yn Margaret Street Dowlais ym 1867; Cymdeithas Adeiladu Dowlais Rhif 3, a wnaeth gais ym 1874 am i lampau nwy gael eu codi ar gyfer 33 o dai yn Glandover Street; a Chlwb Adeiladu Gellifaelog, a gyflwynodd gynigion ym 1876 ar gyfer adeiladu 18 o dai yn Upper Elim Street. Cynhwysai clybiau adeiladu eraill a nodwyd ym 1895 Tydfils Well, a Chlwb Adeiladu'r Avenue (Gwaelodygarth).

    Parhaodd tai i gael eu hadeiladu yn breifat gan hapfasnachwyr, clybiau adeiladu ac unigolion tan y Rhyfel Byd Cyntaf. Defnyddiwyd rhannau mawr o barc helaeth Penydarren (ardal 003) ar gyfer datblygiadau trefol yn ystod y cyfnod 1870-1905. Erbyn 1919 roedd yr ardal wedi datblygu yn brif faestref ddosbarth canol Merthyr Tudful ac adeiladwyd strydoedd newydd ar batrwm grid i'r gogledd o Brecon Road. Mae'r strydoedd hyn yn amrywio o derasau syml Dane Street a Dane Terrace, Hanover Street a Norman Terrace, i deras trawiadol Park Terrace a'r tai ar wahân a'r tai pâr mwy sylweddol yn y Walk, y Grove a West Grove. Cynhwysai datblygiadau'r cyfnod hwn ysgol ac ysbyty cyffredinol, Eglwys Gatholig St. Mary's (1893-4, JS Hansom, yn yr arddull Seisnig Gynnar) a'r adeiladau cyhoeddus trawiadol o oes Edward megis yr YMCA y dylanwadwyd arno gan yr arddull faróc (1909-1911, Ivor Jones a Percy Thomas) a Theml y Seiri Rhyddion y dylanwadwyd arni gan yr arddull Glasurol (1910, CM. Davies o Ferthyr Tudful).

    Fel y nodwyd uchod effaith deddfwriaeth gymdeithasol fu gosod yn gyffredinol deimlad cryf o unffurfiaeth ar dai a adeiladwyd o chwarter olaf y 19eg ganrif o leiaf. Erbyn y dyddiad hwn roedd arddull tai gweithwyr, a welir ledled Maes Glo De Cymru, wedi ymsefydlu. Mae mathau o dai yn cynnwys eiddo teras deulawr, â ffrynt sengl a dwbl, a'r terasau unllawr llai cyffredin, yn ystod y cyfnod diweddarach a nodweddid gan fân addurniadau brics, ac ar ôl hynny y defnydd a wnaed o frics a choncrid hyd yn oed (cynhwysai enghreifftiau 5 bwthyn concrid yn Rocky Road, a ddymchwelwyd bellach) i adeiladu tai. Ceir enghreifftiau da o dai yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif ledled Merthyr Tudful, yn arbennig ym Mhenydarren (ardal 005), Dowlais (007), Penydarren Park (003), Cae'racca, yn y Pant (ardal 030) a Dyffryn Road, Pentrebach (ardal 020).

    Ym 1895, sefydlwyd Cyngor Dosbarth Merthyr Tudful; roedd Deddf Lletya'r Dosbarthiadau Gweithiol wedi'i phasio cyn hynny ym 1890 ac o ganlyniad ym 1896 ystyriodd y cyngor adeiladu 100 o dai ym Mhenydarren. Roedd y cyngor wedi mabwysiadu mantell y cwmnïau haearn, sef mantell prif ddarparwr tai gweithwyr; ac erbyn 1902, roedd yr enghreifftiau cynharaf o dai cyngor wedi'u hadeiladu yn Urban Street a Council Street, Penydarren (ardal 005).

    Efallai mai adeiladu'r ystadau tai helaeth a gafodd yr effaith bwysicaf ar y dirwedd drefol yn ystod y blynyddoedd diweddar. Mae'r rhain i bob pwrpas yn dechrau gyda thai cyngor ym Mhenydarren, ond efallai mai'r delfrydau cymdeithasol sydd wedi'u corffori yn yr ystadau o dai pâr yn Garden City Village ym Mhenydarren (ardal 050), a adawodd y dreftadaeth bwysicaf. Dechreuwyd ar ddatblygiad dinod o 14 o dai, sef Garden City, ym 1913; torrwyd ar draws y gwaith adeiladu gan y Rhyfel Byd Cyntaf, mabwysiadwyd y datblygiad ar ôl hynny gan y Cyngor, a chwblhawyd yr ystâd ym 1920 yn ôl y cynllun gwreiddiol. Roedd Cymdeithas Gardd-ddinas Merthyr Tudful wedi seilio ei phrosiect ar gysyniadau Ebenezer Howard o'r cartref teuluol delfrydol a chanddo erddi yn y blaen ac yn y cefn. Roedd cynlluniau tebyg eraill wedi'u cyflawni yn Letchworth, Welwyn a Hampstead. Roedd 54 o dai eraill wedi'u hychwanegu erbyn 1923 a dilynodd 36 o dai eraill erbyn 1924, a gynlluniwyd gan Thackeray, Pensaer y Fwrdeistref. Datblygodd y cyngor bum safle newydd o dan nawdd Deddf Tai 1919, yn y Pant (ardal 030), Heolgerrig (ardal 063), Gellifaelog (ardal 007), Pentrebach (ardal 020) ac Aberfan i'r de o'r dirwedd hanesyddol, cyfanswm o ryw 350 o dai. Cynlluniwyd tai cyngor yn Heol-y-Bryniau, Heol-y-Castell a Rhodfa'r ym Mhant (ardal 030), yn y Galon Uchaf (ardal 050), ac ym Mrondeg, Heolygerrig (ardal 063) hefyd gan Thackeray. Erbyn 1939, roedd tua 1,300 o dai cyngor wedi'u hadeiladu ym Merthyr Tudful (Green 1978; Gross 1989 a Sullivan 1984).

    Ar ôl pasio Deddf Tai 1946, cynyddodd lefel y gweithgarwch adeiladu tai cyngor yn raddol i gynnwys yn syth ar ôl y rhyfel estyniad o 44 o dai (Cynllun y Prentisiaid) i safle Galon Uchaf (ardal 050).

    Mae Ystâd Trefechan (ardal 057), a gynlluniwyd ym 1947 gan Arthur J Hayes a Gordon H Griffiths, yn enghraifft bwysig o gynllunio cymdeithasol. Cynlluniwyd yr ystâd cyngor hon fel cymuned annibynnol â'i chanolfan siopa ei hun. Mae'r datblygiad yn arddangos cynllun ffyrdd ffurfiol, ac mae'r tai, er eu bod yn gydryw o ran eu cynllun fel tai pâr ar ongl i'r cyfuchliniau, wedi'u hadeiladu o amrywiaeth o ddeunyddiau: brics moel neu frics â phlastr garw arnynt, slabiau rhag-gastiedig, a chladin pren.

    Ar ôl hynny adeiladwyd Ystad Gellideg a Fflatiau Gregory, Swansea Road (ardal 063); ac yn ystod y 1960au Ystad y Gurnos (ardal 050), yr ystad cyngor fwyaf yn Ewrop ar y pryd, â'i chanolfan siopa a'i heglwys ei hun (cf Trefechan). Nodweddion amlycaf Ystad y Gurnos yw strwythurau modern ffurfiol Ysbyty'r Tywysog Siarl, a adeiladwyd ym 1965-75 gan Syr Percy Thomas a'i Bartneriaid. Adeiladwyd tyrau fflatiau hefyd ar dir a ddarparwyd trwy glirio'r tai 'is-safonol' cynharach yng Nghaedraw, Merthyr Tudful (ardal 001A) ac yn Nowlais (ardal 005), y mae'r olaf dan fygythiad cael ei ddymchwel ei hun bellach.

    Dim ond yn y 1970au y daeth y datblygiadau preifat mwy o faint yn nodweddiadol unwaith eto, a chafwyd datblygiadau yn Shirley Gardens yn Heolgerrig (ardal 068); Brecon Rise yn y Pant (ardal 030); a Castle Park ar Swansea Road (ardal 063). Mae'r ystâd helaeth o filâu mawr, sef Lakeside Gardens, a adeiladwyd yn ystod y 1980au (ardal 054), a'r datblygiad uwchraddol a adeiladwyd yn ddiweddar yn Beacon Heights, Swansea Road (ardal 063), yn ddatblygiadau mwy diweddar byth.

    Yn ogystal ag ystadau tai, effaith darparu priffyrdd a ffyrdd osgoi modern, ac adeiladu ystadau diwydiannol, ffatrïoedd, ysgolion fu addasu cymeriad hanesyddol y dirwedd drefol, fodd bynnag, mae digon ar ôl i wahaniaethu rhwng y gwahanol ardaloedd anheddu a chaniatáu i ni ddeall eu datblygiad.


  • Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk