Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


078 Tomen Fawr Dowlais, Trecati, Trehir a Thwyn-y-Waun


HLCA 078 Tomen Fawr Dowlais, Trecati, Trehir a Thwyn-y-Waun Tirwedd ddiwydiannol adferedig; ardal, a arferai fod yn debyg i Ardaloedd Cymeriad Tirwedd Hanesyddol 031 a 039, lle y buwyd yn gwneud gwaith adfer, gwaith mwyngloddio glo brig a gwaith mewnlenwi, neu gyfuniadau ohonynt ers hynny cyn-safle nodweddion cloddiol a draenio amlgyfnod yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais; cyn-safle aneddiadau ucheldirol diwydiannol ac ôl-ganoloesol; cyn-safle Ffair Ganoloesol/marchnad o bwys rhanbarthol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 078)

Ardal gymeriad Tomen Fawr Dowlais, Trecati,Trehir a Thwyn-y-Waun: tirwedd ddiwydiannol a adferwyd.

Crynodeb

Tirwedd ddiwydiannol adferedig a nodweddir gan weithrediadau mwyngloddio brig a mewnlenwi. Nid yw'n cynnwys unrhyw beth o ddiddordeb hanesyddol ar wyneb y ddaear.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tomen Fawr Dowlais, Trecati, Trehir a Thwyn-y-Waun yn cynnwys ardal eang o dir diwydiannol a adferwyd, lle y cafwyd mwyngloddio brig ar ran ohono. Mae'r ardal yn cynnwys safleoedd Longtown (Trehir), Trecati a Thwyn-y-waun. Yr olaf yw cyn-safle marchnad ganoloesol y cyfeirir ati mewn nifer fawr o ffynonellau dogfennol.

Roedd yr ardal yn rhan o weithfeydd cloddio glo a haearnfaen sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Dowlais, y mae rhan ohono wedi goroesi o fewn ardal HLCA 039 gerllaw. Rhychwantai gweithfeydd cloddio'r ardal o ail hanner y 18fed ganrif, trwy oes aur y diwydiant cynhyrchu haearn sy'n gysylltiedig â'r gweithgarwch adeiladu rheilffyrdd a welwyd yn ystod y 1840au, a'r broses o newid Dowlais i gynhyrchu dur yn ystod y 1860au. Yn sgîl newid i gynhyrchu dur dirywiodd gweithfeydd cloddio mwynau'r ardal, ac roedd bron pob un ohonynt yn segur erbyn dechrau'r 1870au; o ganlyniad i fewnforion glo a mwyn haearn o ogledd Sbaen, am fod y mwyn lleol, a oedd yn llawn ffosfforws a sylffwr yn anaddas ar gyfer cynhyrchu dur, Erbyn 1879, mae'n debyg bod y mwyafrif o'r pyllau glo a'r lefelydd yn yr ardal os nad pob un, eisoes yn segur.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk