Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


077 Tir Comin Merthyr Tudful, De


HLCA 077 Tir Comin Merthyr Tudful, De Tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol greiriol bwysig: Carneddau yn dyddio o'r Oes Efydd; Tir Comin; ffriddoedd agored, fawr ddim arwyddion ar wyneb y ddaear o weithgarwch diwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 077)

Ardal gymeriad Tir Comin Merthyr Tudful, De: ardal ucheldirol helaeth o dir comin a nodweddir gan dirwedd gynhanesyddol sydd wedi goroesi.

Crynodeb

Ardal ucheldirol helaeth o dir comin, nad effeithiwyd arno ryw lawer gan weithgarwch diwydiannu ac sy'n ffurfio tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol greiriol bwysig. Mae hefyd yn cynnwys cwt hir sy'n arwydd o weithgarwch rheoli amaethyddol canoloesol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Tir Comin Merthyr Tudful, De yn cynnwys tirwedd ucheldirol angladdol a defodol gynhanesyddol greiriol bwysig. Mae'r ardal yn cynnwys nifer fawr o garneddau neu domenni claddu (carneddau cylch neu grugiau crwn yn bennaf) yn dyddio o'r Oes Efydd, y mae nifer ohonynt yn Henebion Cofrestredig (SAM Gm222). Mae nifer fawr o Garneddau yn dyddio o'r Oes Efydd i'w cael ar esgeiriau Mynydd Cilfach-yr-encil a Chefn Merthyr yn arbennig: efallai bod y rhain yn nodi ffiniau hynafol hawliadau tiriogaethol i dir a gliriwyd, wedi'u canoli efallai ar anheddiad o fewn Cwmcothi i'r dwyrain.

Yn ystod y cyfnod canoloesol parhaodd y llethrau mwy serth ar bob ochr i'r tir comin i fod yn dra choediog, fel yr adlewyrchir gan yr enwau lleoedd sydd wedi goroesi yn cynnwys yr elfen Coedcae. Mae presenoldeb cwt hir canoloesol, annedd ucheldirol dros dro sy'n gysylltiedig â'r arfer tymhorol lle y byddai pobl a buchesi llaeth yn symud i borfeydd haf ucheldirol, yn awgrymu bod trawstrefa amaethyddol wedi'i arfer yn yr ardal.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk