Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


072 Waunwyllt, Pen-y-Lan a Graig Gethin


HLCA 072 Waunwyllt, Pen-y-Lan a Graig Gethin Tirwedd amaethyddol o aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig yn gysylltiedig â ffermio defaid ar dir uchel; patrwm caeau datblygedig afreolaidd o gaeau wedi'u rhannu gan waliau sych a guddir i raddau helaeth mewn coedwigoedd; Coetir Hynafol a choedwigoedd yn dyddio o'r 20fed ganrif; tirwedd gloddiol yn gysylltiedig â'r fasnach mewn glo ager.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 072)

Ardal gymeriad Waunwyllt, Pen-y-Lan a Graig Gethin: cyn-dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol y gorchuddir y rhan fwyaf ohoni bellach gan goedwigoedd a blannwyd yn yr 20fed ganrif.

Crynodeb

Cyn-dirwedd amaethyddol o aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig, waliau sych a chorlannau a darnau o Goetir Hynafol (sydd bellach yn cynnwys planhigfeydd coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif yn bennaf), ac elfen gloddiol bwysig sy'n gysylltiedig â gweithgarwch cynhyrchu glo ager.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Waunwyllt, Pen-y-Lan a Graig Gethin yn cynnwys ardal o ddaliadau amaethyddol ôl-ganoloesol a Choetir Hynafol i'r de o Gwm Canaid ac Abercanaid Uchaf, a lyncwyd bellach gan goedwigoedd conifferaidd a blannwyd, rhan o Barc Coetir Gethin. Roedd yr ardal yn gysylltiedig â datblygiad y fasnach mewn 'glo ager' (hy glo a ddiwallai anghenion cwmnïau agerlongau a chwmnïau mordwyo yn benodol. Yn benodol lefel Robert Thomas yn Waunwyllt (1828), ac ar ôl hynny yn yr ardal gyfagos (HLCA 017) lefel Lucy Thomas ym mhwll glo'r Graig, lle y buwyd yn cloddio glo ager yr wythïen Four Foot. Lleolid prif weithfeydd cloddio Gethin yn yr ardal is o fewn coridorau trafnidiaeth cyfagos HLCA 079, a 014. Datblygwyd y gweithfeydd cloddio yn y Graig ymhellach gan Gwmni Haearn Plymouth, tra datblygodd Cyfarthfa weithfeydd cloddio yn Gethin.

Roedd Waunwyllt a Phenylan yn rhan o Ystâd Plymouth neu Ystâd Sain Ffagan (Robert Henry Clive ar fap degwm 1850), tra bod yr ardal hefyd yn cynnwys daliad y Graig, a oedd yn eiddo i ryw Margaret Morgan ym 1850, a rhannau o ddaliadau cyfagos Abernant Gethin, a Phen-rhiw'ronen, a oedd yn eiddo i Ystâd Dynevor yn ystod y 19eg ganrif. Dengys deunydd cartograffig fod daliadau Penylan a'r Graig, yn arbennig, yn ogystal ag Abernant Gethin a Phen-rhiw'ronen wedi'u nodweddu gan batrymau caeau datblygedig afreolaidd eu siâp a oedd yn gysylltiedig â ffermydd ôl-ganoloesol; byddai'r patrwm caeau yn awgrymu mai'r ffermydd hyn oedd daliadau hyn yr ardal. Mae'n debyg i Fferm Waunwyllt, â'i chaeau mwy o faint, gael ei hychwanegu'n ddiweddarach yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol (18fed ganrif?), gan gymryd cyn-weundir a oedd yn gysylltiedig yn wreiddiol â Phenylan. Y map ystâd cynharaf sy'n cynnwys yr ardal yw un dyddiedig 1766 (Cwmni Haearn Plymouth, Ystâd Sain Ffagan), a nodai ddaliadau Penylan a Waunwyllt. Mae mapiau diweddarach dyddiedig 1799-1915 yn caniatáu dilyn datblygiad yr ardal, fodd bynnag, ni nodir fawr ddim newidiadau go iawn nes i ffermydd yr ardal gael eu gadael yn wag a'r coedwigoedd gael eu creu yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif. Newidiwyd cynllun Fferm Waunwyllt ychydig bach ar ôl i Dwnnel Abernant a'r Hafn gael eu hadeiladu gerllaw ar gyfer yr estyniad i Reilffordd Cwm Nedd i Ferthyr Tudful ym 1853.

Mae'r ardal yn cynnwys nifer fawr o nodweddion sy'n gysylltiedig â ffermio defaid (hy corlannau). Mae cysylltiad cryf rhwng Fferm Waunwyllt a datblygiad y fasnach mewn 'glo ager' (hy glo a ddiwallai anghenion cwmnïau agerlongau a chwmnïau mordwyo yn benodol; yn benodol lefel Robert Thomas yn Waunwyllt. Gall nifer o nodweddion yn yr ardal fod yn gysylltiedig â'r gweithfeydd cloddio cynnar hyn, megis y strwythur hirsgwar a nodwyd i'r de o'r fferm ar argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO (1875) a hen lefel a ddangosir ar ddiwygiad 1915 (map AO 1922). Cynhwysai nodweddion cloddiol eraill a gofnodwyd ar fap 6 modfedd yr AO 1875 weithfeydd cloddio ar yr wyneb i'r gorllewin o Aber-canaid Uchaf, a nifer o hen chwareli ar lethrau gogleddol a gorllewinol Bryn Pen-y-lan. Bodolai Webber's Pond erbyn 1875 hefyd, y mae'n debyg ei fod yn gysylltiedig â'r lifft cydbwyso dwr wreiddiol ym Mhwll Rhif 2 Gethin (lleolir y safle o fewn ardal gyfagos HLCA 075) ac o leiaf dwy ffordd aer. Ar ben hynny nododd map 6 modfedd yr AO 1901 hen lefel ychydig i'r gogledd o Fferm Pen-rhiw'ronen, sy'n dyddio yn ôl pob tebyg o'r cyfnod 1875-1898. Ymddengys fod rhagor o weithgarwch ehangu diwydiannol yn yr ardal yn dyddio o rywbryd ar ôl 1898 pan ddatblygwyd gweithfeydd cloddio ar hyd Nant y Graig i'r de o Ben-y-lan. Mae Gwaith Glo Waunwyllt a'i lefel a'r cysylltiad rheilffordd yn nyffryn Nant Graig i Reilffordd Pwll Glo Castle/Cyd-Reilffordd GWR a Rhymni (HLCA 079), a Castle Level (glo), rhan o gyfadail helaeth Pwll Glo Castle â'i rwydwaith rheilffyrdd yn enghreifftiau eraill (3ydd argraffiad map 6 modfedd yr AO, 1922, a ddiwygiwyd ym 1915). Ar ben hynny nododd y map olaf gyfnod cynharach nad oedd yn cael ei ddefnyddio a gynhwysai hen lefel ger Pen-y-lan, rhan uchaf o dramffordd nad oedd yn cael ei defnyddio yn nyffryn Nant y Graig yn arwain i siafft bosibl, a dwy lefel lo arall i'r de o Graig Gethin. Plannwyd rhan helaeth o'r ardal hon, sy'n cynnwys parsel o Goetir Hynafol ar Ochr Ogleddol Nant Graig, â choedwigoedd yn ystod yr 20fed ganrif.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk