Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


067 Pencoedcae a Brynteg


HLCA 067 Pencoedcae a Brynteg Tirwedd ddiwydiannol/amaethyddol gymysg: rhyngwyneb agored rhwng gweithgarwch amaethyddol, diwydiannol ac anheddu; coridor trafnidiaeth ddiwydiannol; nodweddion rheoli dwr/cynhyrchu pwer; tirwedd gloddiol ddiwydiannol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 067)

Ardal gymeriad Pencoedcae a Brynteg: tirwedd gymysg o gaeau amaethyddol a nodweddion diwydiannol.

Crynodeb

Tirwedd gymysg o gaeau amaethyddol a nodweddion diwydiannol, lle y mae nodweddion rheoli dŵr yn amlwg. Mae wedi cadw'r rhyngwyneb agored rhwng amaethyddiaeth, diwydiant ac anheddu, a arferai fod yn nodweddiadol o'r ardal ehangach. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion trafnidiaeth.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Pencoedcae a Brynteg yn cynnwys ardal o gaeau amaethyddol ar gwr anheddiad Heolgerrig a ymestynnwyd, y ceir nodweddion diwydiannol cynnar wedi'u gwasgaru yn eu plith. Mae'r ardal wedi cadw'r rhyngwyneb agored rhwng amaethyddiaeth, diwydiant ac aneddiadau, a arferai fod yn fwy nodweddiadol o'r ardal ehangach. Mae'r ardal yn cynnwys nifer fawr o nodweddion cloddiol diwydiannol, rhan o system helaethach Mwyngloddiau Cyfarthfa, lefelydd mwyn haearn yn bennaf, ond hefyd siafft mwynglawdd, a chwarel. Un o'r prif ddylanwadau ar gymeriad yr ardal yw'r Dramffordd o Fynydd Aberdâr i Gyfarthfa, y lleolir rhan gofrestredig ohoni (SAM Gm 495) y tu mewn i'r ardal. Darlunnir y nodwedd hon ar luniau Tirfesurwr dyddiedig 1814 a 1826 ac fe'i nodir yn fanylach ar fapiau 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875-1915; ymddengys fod ganddi gledrau trwy gydol y cyfnod hwn. Nodwedd dra amlwg arall yw'r gronfa ddŵr gerllaw (sydd hefyd yn gofrestredig), sydd yn ei lle erbyn 1826, a redai system cydbwyso dŵr ym mhwll Rhif 2 (Pen-yr-heolgerrig); roedd yn rhan o system helaethach o nodweddion draenio, a gyflenwai Fwyngloddiau Cyfarthfa ar lethr ddwyreiniol Mynydd Aberdâr.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk