Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


066 Tomenni Waun-y-Nant Goy


HLCA 066 Tomenni Waun-y-Nant Goy Tirwedd gloddiol ddiwydiannol, a nodweddid gan weithgarwch arllwys sbwriel a phrosesu yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa; coridor trafnidiaeth ddiwydiannol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 066)

Ardal gymeriad Waun-y-Nant Goy: tirwedd ddiwydiannol o domenni gwastraff helaeth.

Crynodeb

Tirwedd ddiwydiannol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa, a nodweddir yn bennaf gan weithgarwch arllwys gwastraff ar raddfa fawr.

Cefndir Hanesyddol

Roedd ardal dirwedd hanesyddol Tomenni Waun-y-Nant Goy yn rhan o Ystâd Dynevor, a gymerwyd ar brydles yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif gan William Crawshay at ddibenion arllwys gwastraff. Rhwng 1814 a 1826 roedd tomenni yn cael eu creu uwchlaw Gellideg o linellau arllwys a oedd wedi'u cysylltu â'r Dramffordd o Fynydd Aberdâr i Gyfarthfa o fewn ardal y Waun, darperir mwy o fanylion gan argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875. Yn ogystal â'r tomenni helaeth, cynhwysai'r ardal nifer fawr o nodweddion cloddiol diwydiannol, rhan o system helaethach Mwyngloddiau Cyfarthfa. Lefelydd haearnfaen oeddynt yn bennaf, megis Lefel Gellideg, Lefel Jenkins, Lefel I Jenkins, a Middle Level, er bod o leiaf un lefel lo a ffordd aer i'w cael yn yr ardal hefyd (mapiau 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875, 1905 a 1915). Roedd Chwarel Pen-yr-heolgerrig yn weithredol cyn 1875, ac nid ymddengys fod llawer o ddefnydd wedi'i wneud ohoni ar ôl hynny. Mae'r tramffyrdd diwydiannol a wasanaethai weithfeydd cloddio i'r gorllewin o'r ardal at ei gilydd yn eu lle erbyn 1814, ac fe'u nodir ar lun y tirfesurwr dyddiedig 1826 ac argraffiad 1af map 6 modfedd yr AO dyddiedig 1875. Mae'r rhain yn cynnwys y Dramffordd o Fynydd Aberdâr i Gyfarthfa, y Dramffordd o Gwm-glo i Gyfarthfa, a Thramffordd Pen-yr-heol-gerrig ymhlith eraill, ymddengys fod tramffyrdd yr ardal yn hirhoedlog ac roedd cledrau yn dal i fod yn eu lle ar hyd nifer ohonynt tan ar ôl 1915.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk