Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


065 Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr


065 Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr Anheddiad diwydiannol: patrwm gwasgaredig dwys yn nodweddiadol o anheddiad "sgwatwyr"; nodweddion tirwedd gloddiol ddiwydiannol; mân nodweddion trafnidiaeth.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 065)

Ardal gymeriad Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr: anheddiad sgwatwyr diwydiannol bach.

Crynodeb

Anheddiad diwydiannol bach o resi a bythynnod unigol, a leolir ar gwr y tir amgaeëdig fel sy'n nodweddiadol o aneddiadau sgwatwyr.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Ochr-y-Mynydd, Winch Fawr yn anheddiad diwydiannol bach ar wahân â chaeau cysylltiedig, a sefydlwyd erbyn y 1820au ar gwr y mynydd agored islaw Carn-y-frwydr gerllaw gweithfeydd cloddio haearnfaen a glo lleol, yn arbennig yr Upper Black Pins Levels a Phwll Glo Winch Fawr. Mae'r anheddiad yn cynnwys gwasgariad dwys o fythynnod a rhes(i) unigol a adeiladwyd yn ddiweddarach sy'n ffurfio anheddiad o fath sy'n nodweddiadol o aneddiadau 'sgwatwyr' ar y mynydd agored. Nodwyd patrwm digynllun yr anheddiad yn glir ar fap degwm 1850, a chynhwysai glwstwr o ddaliadau hirsgwar a lled hirsgwar bach a bythynnod cysylltiedig; adeiladwyd yr anheddiad ar fynydd-dir (Y Mynydd), rhan o Ystâd Dynevor a phrydleswyd ei dyddynnod i wahanol denantiaid, gweithwyr chwarel a mwyngloddwyr a weithiai ym Mwyngloddiau lleol Cyfarthfa. Roedd yr anheddiad fwy neu lai yn gyflawn erbyn canol y 19eg ganrif a nodwyd ei ffiniau gan argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1875, ac erbyn hynny roedd gan yr anheddiad efail gof. Mae argraffiad cyntaf map yr AO yn darparu mwy o fanylion am y gweithfeydd cloddio, y lefelydd, y tomenni sbwriel a'r seilwaith trafnidiaeth cysylltiedig gan gynnwys inclein Winch Fawr a gwahanol dramffyrdd a ffyrdd halio eraill oddi amgylch. Mae argraffiadau diweddarach yn mapio dirywiad diwydiannau cloddiol a rhwydweithiau trafnidiaeth cysylltiedig yr ardal.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk