Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


064 Gweithfeydd Cloddio Winch Fawr, Pen-yr-Heolgerrig, Cwm Du, a Chwm Glo Uchaf


HLCA 064 Gweithfeydd Cloddio Winch Fawr, Pen-yr-Heolgerrig, Cwm Du, a Chwm Glo Uchaf Tirwedd gloddiol ddiwydiannol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa: lefelydd (Drifft Cwmdu,), pyllau, siafftiau mwyngloddiau, gweithfeydd glo, chwareli, gweithfeydd cloddio brig, ffyrdd aer ac adeiladau diwydiannol (megis y stablau ac adeiladau eraill ym Mhwll Cwmdu); nodweddion rheoli dwr a draenio: ffrydiau, pyllau a chronfeydd dwr; coridor trafnidiaeth: lonydd, incleins a thramffyrdd; amaethyddol: ffiniau creiriol, carneddau clirio, a throchfa defaid; crefyddol, angladdol a defodol; carnedd grwn Bryn-y-Badell yn dyddio o'r Oes Efydd.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 064)

Ardal gymeriad Gweithfeydd cloddio Winch Fawr, Pen-yr-Heolgerrig, Cwm Du, a Chwm Glo Uchaf:

Crynodeb

Tirwedd gloddiol o bwys cenedlaethol a rhyngwladol yn dyddio o'r 18fed ganrif a'r 19eg ganrif. Mae'r olion yn cynnwys cyfres o weithfeydd cloddio haearnfaen a glo yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif hyd yr 20fed ganrif sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa, a lefelydd, pyllau, siafftiau mwyngloddiau, gweithfeydd glo, chwareli, gweithfeydd brig a thomenni sbwriel cysylltiedig, adeiladau diwydiannol, ffyrdd aer, ffrydiau, draeniau, cronfeydd dwr, lonydd, incleins a thramffyrdd.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Winch Fawr, Pen-yr-Heolgerrig, Cwm Du, a Gweithfeydd Cloddio Cwm Glo Uchaf yn cynnwys tirwedd gloddiol ddiwydiannol gymhleth a ddatblygodd dros nifer o gyfnodau sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ac a gysylltir â'r teulu Crawshay o Gyfarthfa. Mae prif nodweddion yr ardal yn cynnwys gweithfeydd cloddio ar hyd brigiad gorllewinol Mynydd Aberdâr sy'n gysylltiedig â Gwaith Haearn Cyfarthfa ar dir a brydleswyd gan Ystâd Dynevor. Buwyd yn cloddio'r gweithfeydd hyn, sydd i'w gweld heddiw fel nifer fawr o olion mwyngloddio a chloddio, i gael haearnfaen a glo'r gwythiennau Glo Is (Gwythiennau Garw a Five Foot; a Gwythiennau Nine Foot, Upper Six Foot: Bute; Upper Yard ac Upper Black Pins ac ar ôl hynny gwythiennau Seven Foot, Nine Foot, Upper Six Foot a Four Foot). Mae olion y gweithgarwch cloddio, sy'n dyddio yn bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif hyd ganol yr 20fed ganrif, yn ffurfio tirwedd gloddiol helaeth a chymhleth, lle y mae tystiolaeth o dechnegau cloddio cynnar megis hysio/sgwrio, gweithfeydd clwt, i'w gweld o hyd. Mae olion eraill yn cynnwys nifer fawr o lefelydd, pyllau cloddio, siafftiau mwyngloddiau, gweithfeydd glo, chwareli, gweithfeydd brig (yn dyddio o'r 1950au) a gwahanol domenni sbwriel cysylltiedig, amrywiaeth o adeiladau diwydiannol, ffyrdd aer, gan gynnwys Ffordd Aer a Gwyntyll Cwm-du sy'n gofrestredig (SAM Gm460), ffrydiau, draeniau, cronfeydd dwr, lonydd, incleins a thramffyrdd.

Sefydlwyd gweithfeydd cloddio glo a haearnfaen yr ardal yn bennaf o ganlyniad i adfywiad y diwydiant haearn a welwyd yn ystod ail hanner y 18fed ganrif, a ddeilliodd yn uniongyrchol o'r datblygiad technegol arloesol a'i gwnaeth yn bosibl i ddefnyddio cols wrth doddi haearn. Mae'r ardal yn uniongyrchol gysylltiedig â'r gwaith haearn yng Nghyfarthfa, a adeiladwyd ym 1765 gan Anthony Bacon ac a ymestynnwyd o dan Richard Crawshay, a gymerodd Gyfarthfa ar brydles ym 1786.

Dibynnai'r diwydiant cloddio cynnar i raddau helaeth ar weithfeydd cloddio ar yr wyneb a ddefnyddiai gymysgedd o weithgarwch stripio lleiniau (proses sy'n sgwrio'r tir o'i uwchbridd), cloddfeydd bach, a lefelydd wedi'u gyrru i mewn i'r llethrau, mae'r olaf yn ffurfio'r mwyafrif o olion cloddiol yr ardal a cheir crynoadau penodol i'r gorllewin o Winch Fawr, yr Upper Black Pins Levels ac i'r gogledd o Flaen-canaid. Cafwyd blynyddoedd ffyniannus go iawn y diwydiant, fodd bynnag, yn ystod y 1820au a'r 1830au a dyma pryd yr agorwyd y pyllau glo dwfn, megis Pwll Glo Cwm-du, Pwll Glo Cornel Waun a Phwll Glo Winch Fawr, yn yr ardal. Y prif ddull halio o fewn y siafftiau oedd y system cydbwyso dwr, a ddibynnai ar gyflenwad digonol a chyson o ddwr (Thomas 1981, 306-308); mae'n debyg bod nifer o'r cronfeydd dwr yn yr ardal astudiaeth yn nodweddion creiriol sy'n gysylltiedig â'r system hon. Parhawyd i gloddio haearnfaen a glo yn arbennig trwy gydol y 19eg ganrif, gyda lefel y gweithgarwch cloddio yn amrywio yn ôl y galw economaidd. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd lefelydd yr ardal at ei gilydd yn segur, ymddengys i fwyngloddiau'r ardal barhau tan y 1920au a chafwyd cyfnod byr o weithgarwch cloddio o'r newydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk