Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


060 Cefn Cil-Sanws


HLCA 060 Cefn Cil-Sanws Ucheldir agored, tirwedd gloddiol ddiwydiannol amaethyddol eilradd; maes saethu nas defnyddir; cysylltiadau ag enwau lleoedd hanesyddol crefyddol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 060)

Ardal gymeriad Cefn Cil-Sanws: tirwedd o ucheldir agored yn bennaf.

Crynodeb

Tirwedd o ucheldir agored yn bennaf a nodweddir gan weithgarwch cloddio amaethyddol/diwydiannol ar raddfa fach.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cefn Cil-Sanws yn cynnwys mynydd agored i'r gogledd o Gefn Coed-y-Cymer. Mae'r ardal yn cynrychioli blaen deheuol ardal lawer ehangach o fynyddoedd, sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau'r dirwedd hanesyddol. O fewn y dirwedd hanesyddol, mae'r ardal yn cynnwys nifer o nodweddion arferol sy'n nodweddiadol o amgylchiadau daearegol penodol yr ardal, hy chwareli calchfaen lleol bach yn dyddio o'r 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif, y mae gan rai ohonynt odynau calch nas defnyddir, sy'n gysylltiedig â'r traddodiad o daenu calch i wella tir amaethyddol. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nodweddion sy'n gysylltiedig â maes saethu nas defnyddir, a fodolai ym 1890, a gwahanol dargedau. Dengys tystiolaeth enwau lleoedd y gall yr ardal fod yn gysylltiedig ag eglwys Gristnogol gynnar/anheddiad mynachaidd (Cil neu Eglwys Sanos, chwaer Sant Tudful).

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk