Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


057 Trefechan


HLCA 057 Trefechan Datblygiad tai cymdeithasol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, adeiladau domestig, cyhoeddus a masnachol.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon


(Nôl i'r map)

 

 

(Foto : GGAT Merthyr 057)

Ardal gymeriad Trefechan: cymuned hunangynhwysol fodern a gynlluniwyd gan benseiri.

Crynodeb

Tirwedd drefol yn dyddio o'r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd a ddisgrifir fel cymuned hunangynhwysol a gynlluniwyd gan benseiri, enghraifft o gynllunio cymdeithasol yn dyddio o ganol yr 20fed ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Ardal dirwedd hanesyddol Trefechan a gynlluniwyd ym 1947 (Arthur J Hayes a Gordon H Griffiths). Ystâd gyngor y bwriedid iddi weithredu fel cymuned ar wahân â'i hadeiladau cyhoeddus ei hun; cynllun ffyrdd ffurfiol, mae'r tai i gyd yn dai pâr ar ongl i'r cyfuchliniau, ac maent wedi'u hadeiladu o wahanol ddeunyddiau: brics moel neu â phlastr garw arnynt, slabiau rhag-gastiedig, a chladin pren.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk