Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Merthyr Tudful


055 Cefncoedycymer


HLCA 055 Cefncoedycymer Anheddiad sgwatwyr diwydiannol cynnar: cynllun gwasgaredig afreolaidd â chraidd strimynnog llinellol canolog, strydoedd lletach gerllaw Pont-y-Cefn (a gysylltir â'r teulu Crawshay), tai diwydiannol cynnar; swyddogaeth fasnachol; crefyddol, angladdol a defodol: eglwysi a chapeli, coridor trafnidiaeth, ffyrdd, rheilffyrdd, a thram trydan a phontydd cysylltiedig.

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

(Foto : GGAT Merthyr 055)

Ardal gymeriad Cefncoedycymer: anheddiad gweithwyr diwydiannol pwysig a ddechreuodd fel anheddiad sgwatwyr.

Crynodeb

Anheddiad sgwatwyr diwydiannol pwysig sydd wedi goroesi, a nodweddir gan ei batrwm digynllun, tai cynnar ac arnynt ddylanwad brodorol cryf a chapeli anghydffurfiol o fath gwledig a threfol. Cynrychiolir nodwedd coridor trafnidiaeth pwysig gan elfennau megis y ffordd dyrpeg o Gefn i Gwm Taf, y ffordd o Aberhonddu i Ferthyr Tudful, traphont rheilffordd Cefncoedycymer.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal dirwedd hanesyddol Cefncoedycymer wedi cadw ei hunaniaeth ar wahân er gwaethaf twf datblygiadau'r 20fed ganrif o'i amgylch. O'i gymharu â llawer o'r aneddiadau ym Merthyr Tudful mae Cefncoedycymer wedi cadw llawer o'i gymeriad sy'n perthyn i'r 19eg ganrif; mae hyn yn bennaf oherwydd ei fod wedi'i leoli y tu allan i'r fwrdeistref tan yn ddiweddar. Dengys tystiolaeth ddogfennol yn dyddio o ddechrau'r 19eg ganrif i Gefncoedycymer ddechrau fel anheddiad sgwatwyr. Nododd Theopholus Jones ym 1809: 'Mae'r pentref, a godwyd o ganlyniad i'r gwaith haearn cyfagos ym Merthyr Tudful wedi'i adeiladu ar y gwastraff a gwelir tai yn ymddangos heb i neb roi unrhyw sylw o gwbl i reoleidd-dra na threfniant, cyfleuster y naill a'r llall na diogelu iechyd" (a ddyfynnir yn Bowen 1992, 15). Felly mae'n adlewyrchu cyfnod pan nad oedd y meistri haearn eto yn rheoli pob agwedd ar fywydau eu gweithlu. Mae'r patrwm strydoedd afreolaidd yn adlewyrchu'r twf digynllun hwn, er bod llawer o'r adeiladau yn dyddio o'r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Oherwydd y twf yn y boblogaeth adeiladwyd capel anwes ym 1833, a ddisodlodd gapel canoloesol adfeiliedig (Bowen 1992, 243).

Mae'r ardal yn cynnwys olion Cyd-linell Rheilffordd B&M a LNWR, a gludir dros Afon Taf Fechan gan strwythur trawiadol Traphont Cefncoedycymer a adeiladwyd gan Savin a Ward ym 1866 (sy'n rhestredig gradd II).

Erbyn 1894, nododd Clarke fod Cefncoedycymer "wedi'i leoli ddwy filltir o Ferthyr Tudful, a'i fod yn cynnwys 2,500 o drigolion" (1894, 35). Erbyn hynny, roedd yr anheddiad wedi ymestyn i'r gogledd ar hyd Upper High Street (i'r gogledd o'r A465). Roedd tramffordd gyhoeddus ar hyd High Street ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Yn gymysg â'r tai mae'r anheddiad wedi cadw cysylltiadau trafnidiaeth â'r gweithfeydd haearn, y mwyngloddiau a'r chwareli, ac o'r rhain yr enghraifft fwyaf nodedig sydd wedi goroesi yw'r draphont reilffordd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwelwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk